Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
.Ein Brenin yng Nghymru.
Ein Brenin yng Nghymru. ^°sod Careg sylfaen y Coleg newydd WEDI I y™ Mangor. ftiawr 1 wythnosau ° lafur a phryder °roi S^awriodd y bore i'r seremoni ddy- 1'hYf phwysig hon gymeryd lie. Mae yn %f8d/fysig hon gymeryd lie. Mae yn y (jQj Iod rhai o swyddogioxi ac athrawon bod J|n. fyw' §an mor brysur y maent wedi pWvIl *we(ldar, ddydd a nos. Yroedd tna; >^or cryf wrthi yn ddibaid, a phosibl °edd ^r^sur,af 0i sel oedd Llew Tegid. Yr arsvvZn r^lai<^ iddo ef, druan, fod fel cyf- dorr0rl^Wr Paro<^ i bawb a phopeth. Pan o bp wawr bore heddyw, yr oedd lliaws allan Swylwyr y ddinas, a dieithriaid lawer, yr}, ^an mor bryderus oeddynt. Yr oedd teg^ e(irych yn lied addawol am ddiwrnod Ma^r n cyn amser y seremoni, daeth yn gyrin' a pharhaodd felly am amser. Yn r yfl y bore daeth nnloedd o bobl i'r ajQSer ,° w&hanol rannau y wlad, ac erbyn ych-^n yfodiad y Breniri yr oeddynt wedi Uawer. Dechreuwyd gollwng i sylfae* ~ae Penrallt, lie yr oedd y garreg y l}a fanner awr wedi deg, a buan iawn cael e' ^e> er nad oedd y Brenin yn ddeg odisgwyl hyd hanner awr wedi deu- 0 Wyr mysg y dyrfa fawr gwelais nifer drog Qpwy«ig, amryw o'r Aelodau Seneddol eddU8 p.rnry'' ac, wrtli gwrs, y gwir Anrhyd- a phan avi<^ Lloyd George yn un ohonynt, ely^, • y gwnaeth efe ei ymddanghosiad, %eersf t arnryw yn galw allan, Three (Ida ar v Lloyd George." Yr oedd trefn yr oed(,°Petb> ac er cadw y dyrfa yn ddiddig, aiHryw «findorf Porthaethwy yn chwareu dan ar arnau- Hefyd yr oedd c6r da eerdd0rW?miad Mr- J- Lloyd Williams, athro CYtnrefO Y Brifysgol, yn canu Alawon &rbemii^' ra* oeddynt wedi eu trefnu yn a rhai §arJddo ef ar gyfer yr amgylchiad, Tegjd rJ>ei"au wedi eu cyfansoddi gan Llew o'r ^allaf ddweyd fod y rhan gerddorol Spnae^h wedi ei wneud yn gymeradwy rhoddi fi ■U Williams yn ddoeth iawn yn ^erdvfi1^11' a d^rn gormod. Cafodd clychau ph\varQU'+ trefruant Emlyn Evans, bob iad Jnr gan y cor merched, dan arwein- §yffro v Thomas, A.C. Arhoswch, dyna dyrfa> ac arwyddion fod y cerbyd agoshan ac ar hyn dyna ^^eini-nr Jn ^orri allan yn fonllef gref. ^6riVon n hwy i'r llwyfan gan Arglwydd ^yria ivr' ywydd y Coleg, ac ereill. Ar hyn ^a^d ^abella Gray, R.A.M., yn canu 5^1 llll0 yuw Gadwo'r Brenin," a'r dyrfa brif *^redi i G £ r y Coleg eto ganu, aed coW y dydd, sef eosod cerig sylfaen Viinewydd- f&n Ai«TnWyd anerchiad croesawol i'r Brenin wy<I wydd Kenyon, yr hon a gydnabydd- a ^darli/1 y Brenin, mewn araith foesgar, S^oddiarbapur. Praise ny^' „safai y gynulleidfa oil i gjmu •'Mr t r om whom all blessings flow." a °yd Williams yn arwain. bod ?TS^dwyd y garreg yn ei lie. Deallaf |raig s: edl, ei rhoddi i orffwys ar ddarn o Wh, eirionydd. Pam oddiyno ? Dy- ?dwyd odditanynt botel yn 8^'aha °'r Genedl Qymreig, y Times, u ddarnan o aur, arian, a phres, ^907 arnynt. Yr oedd pawb yn yflawn^ Wr^^1 weled y seremoni yn cael ei hyna bydd adgof hapus gan lawer |r ^arc]| rptll'leri- blynyddau lawer. Darfu v,fidrodc(' Wheldon arwain y gynulleidfa aHg0r i. ^Weddi yr Arglwydd," ac Esgob n CV%vri eddu" !rU Mr j ?nawd Hen Wlad fy Nliadau s yd'vw J1 •0wen Jones, mi o'r myfyrwyr. i Mr. Owen Jones, goruchwyliwr 0 a n Arglwydd Raglaw sir Feirion- c ^ytxodV r diweddar Elis Wyn o Wyrfai. ^lyrxo] Arglwydd Kenyon y personau 8W., j r Brenin :-H. Bulkeley Price, hro -erbert Lewis, Ysw., A.S., Prif- 131ir R. Reichel, Ysw., M.A., Ll.D., T)„Wl-r» Ysw-' Y.H., J. Pritchard Jones, f leldon T?" L1°yd Roberts, Parch. T. J. ^brifau' B-A., J. E. Lloyd, Ysw., M.A., Taylor Jones, Ysw., D.Sc., £ ^avies, Ysw., M.A. n hol?^y?e^u y Pfifathro. j ^eyd v^, anisgwyliadwy i fwyafrif y dorf, cafodd y Prifathro orchymyn Vt y^gafn^ ^an y Brenin, a chyffyrddodd ef yfo S ar ei ysgwydd, gan ddywedyd, yrw yr Henry." Pan ddeallodd y ui yr anrhydedd hwn wedi ei ^.Vd a i eddiasant mewn llawenydd, ac v^laf a w^y. gan y dyrfa. Dyma y ddefod w eri°ed. Ni buasai yn cymer- f!^d Vr rd VII. ond ychydig funudau i ali, oedn pet gyda nifer o rai ereill. K°' rtiaeV I\l disgwyl, ond daw eu cyfle debyg- Cafodd y Brenin a'r lfl;0cUad 8', V' Dywysoges bob croeso, ar eu eiB-^ael l,i)ar0f5'ad yn y ddinas, Rhaid i Oe^ at ,y tro }fwn bopeth ond cyf- ? rhai VJY\ ysgolion y ddinas. Yr cWeHrf oedd ohonynt wedi eu trefnu y /r °eddv«+gyfleVs Mharc yr' Esgob, Yr Ju Wedi cael eu disgyblu i ffurfio ftiy, °6dd v ydeinig, gyda'u baneri bychain, djyw 0> olygfB. yn hardd dros ben. Bu i hyn ^aw°n wrthi yn ddyfal yn eu Vn' p, nasant hefyd Duwgadwo'r ^ai i^r- T ^ra0g a Saesneg, dan arwein- jUjf '8- Williams, prifathro ysgol St. awyd yr olygfa a'r canu y eu, ,awb, ac yr oedd y teulu brenhin- ef feniti M \yr! gymaint felly fel y galwodd driAr atlimJ' Williams ato i'w longyfarch iddv fn ere*M am eu gwaith, ac i Gwnaeth y plant eu rhan neisaf y caf ychwanegu yr 3 ^Qiorth '• BETHMA.
--0-& yn y Senedd.
--0-- & yn y Senedd. SiHson N^'r CyfEredin, bu Syr Stafp ,yr aelod tros ogledd-orllewin {rw'n tr-v oedd ^brerU ,1 wrthi'n siarad. Oedwyd yn ^dd, ar unwaith. Y mae 30 sef er pan fu angau cyffelyb tit,, sef marwolaeth Mr. Wykeham- r aelodau dros Kent.
ER COF.
ER COF. Dyma'r cof-benhillion buddugol yng nghyf- arfod cystadleuol Cerrigydrudion am y di- weddar Mr. W. E. Parry, oedd mor adna- byddus a chymeradwy gan Gymry Bootle :— Uwchben ei weryd, gyfaill pur, Gollynga awen ddeigryn, Ac adgof sylla dros y mur Ar lwybrau 'i fywyd dillyn Mae ei orffennol fel y wawr Ar emrynt y clogwyni, Byw iddo Ef o awr i awr Wnaeth William Evan Parri. Fe deimlodd ef ystormydd byd Yn ieuanc, wrth ymagor, A gwelodd gadair wag 'rim pryd, A'i dad yn fud ar elor Ond uwch ei ben, mewn oed dinam, Bu gweddi mam yn llifo, Ac hyd ei fedd gwynebai'r fflam Cyn y bradychai honno. Yn 61 y golofn teithiodd ef Ymlaen hyd lannau'r Ferswy, Ond anfon wnai, ym merw'r dref, Ei gofion adre i dramwy Daeth heulwen llwyddiant ar ei rawd, I euro tonnau'r afon, Ac er dan wenau duwies ffawd, Ei nod oedd Duw a digon." Yn eglwys Dduw ei ysgwydd gref Fu'n cludo beichiau trymion, Fe wnaeth ei ran er mwyn y nef, A chariad lond ei galon Un gwylaidd oedd, heb rodres ffol, Na gwg yn agos ato"; Mae dagrau'r eglwys ar ei ol "II Yn dweyd y parch oedd iddo. Yng nghanol defnyddioldeb oes (Y nef wyr y gyfrinach), Fe'i galwyd ef i wlad ddi-loes, Ac ni wel hwyrnos mwyach Gwlad bythol ddydd-a dydd di-staen— f- Fu bywyd William Evan Ac nid aeth cwmwl ol a blaen Draws ei ffurfafen lydan. Ffarwel, ffarwel, frawd ieuanc mad, Uwchben dy lwch, 0, dlysed, Bob dydd y gwylia serch dy wlad Dy hun ym mro Uwchaled A:chyda deigryn gwylaidd trof "Oddiwrth ei fedd a'i dlysni, A'r odlau hyn gant fod Er cof Am William Evan Parri." Llawr Bettw8. H. LLOYD HUGHES.
Advertising
The Well=known Remedy from Wales for 0 RHEUMATISM, LUMBAGO, SOIATICA BACK-ACHE, WEAK CHEST, SORE THROAT, BURNS, CUTS, BRUISES, &c., is MORRIS EVANS' HOUSEHOLD OIL. Sold in Bottles, 1/11, & 2/6, by Grocers and Chemists, or from the undermentioned Lancashire. Representative- EDWARD R. HUGHES. 13 St. Michael's Road, Liverpool, S. Agent- LEWIS JOB LEWIS, 20 Verulam St., Lpool. Book of Testimonials, &c., sent. Post Free on Application to the Manufacturers— Morris Evans & Co., FESTINIOG, N. WALES Telephone—157T Birkenhead. Er amlder ei gwsmerisid,-yu siop HUGHES, Pawb gant eu hangenraid Am siwt newydd bydd, heb baid, Frethynwr i Frythoniaid. JOHN HUGHES, Tailor 6 Draper, 24 OXTON ROAD, BIRKENHEAD 'Phone—017 Central. ø W. GRIFFITHS II Tailor, II 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. 'Phone—27x Bootle. Lunt's Boots are VALIUE. FOP. MONEY. T Pair Ladies' and Gent's in great variety. 11 PARADISE STREET, The only address Humphrey Williams, Jjr Tel. 8158 53 SMITHFIELD STREET, TITHEBARN STREET, LIVERPOOL. Manufacturer of SLATE HEADSTONES, and all other STONE MEMORIALS, aaa Enamelled Slate Chimney Pieces, Bangor Roofing Slates, and every description of Slate Slab Work.
[No title]
PRIODI. ROBERTS—ROBERTS—Gorffennaf 3ydd, yng nghapel Booth Street East, Manchester, gan y Parch. M. Llewelyn, Mr. W. H. Roberts, Church Street, Rhos, a Miss Jennie Roberts, 4 High Street, C.-on-M. MARW. HUGHEs-Gorffenuaf 3, yn Isfryn, Stoneby Drive, New Brighton (preswylfod ei rieni), yn 33 oed, Robert Henry (Bob), anwyl briod Jennie Hughes. JONEs-Gorffenuaf 9, yn sydyn, yn 27 Wynnstay Road, Lerpwl, Jane, anwyl briod William Jones, a merch John a Jane Hughes, New Street, Pwllheli. WILLIAMs-Gorffennaf 2, yn 27 Windsor Terrace, Caerlleon, yn 66 mlwydd oed, Lettice (gynt o Cemaes, Mon), anwyljbriod John Williams.
Advertising
Telephone 51 Y Anfield. JOHN JONES, a FUNERAL FURNISHER, 19 Preston Grove, LIVERPOOL. Style, Quality, Economy, Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. Estimates including all chargcs on application. NODER-Nad oes unrhyw gysylltlad rhyngof ag arall o'r un enw. Telephone—261 Bootle. P. LLOYD JONES, Funeral Furnisher, Special attention given to removals to and from Wales YORK BUILDINGS, 362 & 364 Stanley Rd., L'pooi (Near Bankhall). WEDDING EQUIPAGES. 37 Park Rd., < < 6 t:l8 Overton St. Iverpoo 49 651 Edge lane KVVI 111111 REMOVAL CONTRACTORS To or from any distance by ROAD, RAIL, OR SEA. AI Telephones-535 £ > 536 Royal. Telegrams-" Readiness, Liverpool." a FIREPROOF Warehouses For Storage of Furniture and Valuables. H. PROCTER, F.B.P.S. I .i .1 I I IF I. I I n The City Phrenologist, Is a Fellow and Councillor of the British Phrenolog- ical Society (Incor- porated). Holds Six Certificates & Six Gold Medals for Pro- ficiency in Phrenology [and Hand-reading. Mr. Procter has had 35 years' Profession- al Experience in Liverpool,and is now giving Consultations UKALTH, PHRENOLOGY & HANDREADING at 58 Lime St. & 25 Mt. Pleasant t
-0 ^adrH?r Galon.
-0 ^adrH?r Galon. 1 yt». j>„ d ffigyrol mo hwn bob tro ^0rf ^ad a sea> ddydd Mawrth, mewn gwr 57 oed o'r enw fod ^dd edodd y meddyg iddo farw %d ^Wyn. hollti'n weithredol, ac ynddi yn fodfedd a hanner o
CRED A MOES.
CRED A MOES. AaoRIR yr elfen o wirionedd yn y drydedd adnod o'r xv. Salm. Heb absennu a'i dafod, heb wneuthur drwg i'w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymmydog." Absennu a'i dafod. ABSENNU yw (1) Cerdded o fan i fan (2) I geisio cael gafael ar rywbeth. Dyma'r gair arferir am ysplo (3) Ailadrodd yr hyna gaed gafael ynddo a'r tafod. Mae cyflead y geiriau yn groes i briod-ddull yr iaith i ddat- gan fod y dyn yn aros ar y pethau hyn. Ni wel hwn ond brychau ac ni chlyw ond beiau. Pwy sydd mor ffol a beio y dyn ei fod wedi syrthio ganwaith pan yn dysgu cerdded ? Neu edliw i'r rhifyddwr enwog fod adeg wedi bod yn ei hanes pan na wyddai fod dau a dau yn gwneud pedwar ? Neu daflu i wyneb yr ieithyddwr coeth ei fod un adeg heb wybod ond iaith ei fam, a digon ychydig o honno ? Dyna wna y dyn hwn. Dyna rai o'i driciau dweyd mai corff gwan, eiddil, sydd gan y dyn, ac anghofio, wrth gwrs, ddweyd fod yna enaid mawr yn y corff gwan dweyd mai talcen cul sydd gan y mab, a pheidio dweyd fod ei lygaid fel arian byw dweyd mai ymadroddwr tila yw'r aelod seneddol, ac anghofio dweyd fod pob gair yn em brydferth datgan gerbron gwlad mai athronydd gwael yw'r dyn ieuanc, a chuddio peth a wyr ynWa—mai efe yw bardd goreu'r ardal; dweyd mai digon disylw yw'r ferch, a pheidio dweyd fod ei chalon fel y dur. Dywed yr Iddew nas gellir meddwl am un felly yn ddyn da. A thybed ein bod ni am ganmol y dyn y mae Iddew yn ei gondemnio ? 3 Beth yw Absennu ? Cymwta o d^ i dy chwilota'r straeon aflanaf a llygredicaf a geir mewn ardal. Wedi cael sypyn go lew ohon- ynt, eu troi a'u trosi ynddo ei hun am ysbaid hir fel y ceidw dyn ddanteithfwyd blasus yn ei safn cyhyd ag y medr cyn ei lyncu. Yna, wedi eu gwneud fel cleddyf llym daufiniog, cerddetan o fan i fan a'r chwedl faleisus ar ei dafod," gwen dwyllodrus ar ei wyneb, ac amcan cythreulig yn ei galon, gan ymgais a llwyddo ganwaith rhy ami i gyrhaeddyd trwodd hyd wahamad enaid a chorff dyn, y cymalau a'r mer. Nid dychymyg sydd ganddo, ond ffeithiau an- wadadwy wedi eu datgysylltu oddiwrth eu hamgylchiadau, a'u gosod mewn goleimi anffafriol, gan guddio pob eglurhad digonol arnynt. Cyfyd pob camgymeriad a wnaeth y dyn erioed gan ei drawsffurfio yn bechod dieflig; casgla. ynghyd bob bai, gan ei fwyhau ganwaith a chudd bob peth da yn hanes y dyn dan rith dweyd y gwir. Wedi darfod ei restr hirfaith, fe ddywed mewn oslef brudd fod yn ddrwg iawn ganddo, ac mai chwychwi yw'r cyntaf ddyn byw iddo son wrtho am y pethau galarus, ac fe ch rhybudd- ia i gadw'r cwbl yn ddirgel oddiwrth bawb, ac yn neilltuol oddiwrth y dyn y somr am dano. Yna fe a allan, acjmewn un prydnawn mi fydd wedi crwydro drwy hanner tai y gymdogaeth, gan adrodd yr un ston, ac ychwanegu yr un diweddglo. Gwneud drwg i'w gymydog Drwg a geiriau a feddylir. Ymgais at ddinystrio cymeriad .dyn gyda'i gyd-ddyn- ion a welir mewn absennu. Ymgais at ddinystrio cymeriad dyn drwy ymwneud yn uniongyrchol ag ef ei hun dan rith gwneud daioni iddo, a welir yn y frawddeg hon. Gwneud drwg i gymydog dyn yn byw o dan amddiffyniad yr un noddwr, yn ddar- ostyngedig i'r un deddfau, yn rhwymyn yr un eyfaitiod y dyn olaf mewn bod iddo wneud drwg iddo. Dyn yn hytrach y mae 0 dan rwymau, er lies y llwytli ac er anrhyd- edd y pennaeth, ei amddiffyn a rhoddi pob swcr iddo, a rhoddi cyfle iddo ymddatblygu. Gellir gwneud drwg 4. drwy ymwneud yn uniongyrchol a dyn%newn (lwy 01 cydrhwng pa rai y saif pob ffordd arall, sef gweniaith a beiaeth. Gweniaith. Gweniaith yw ceisio perswadio dyn y medd mewn modd arbennig ar rmweddau na cheir ynddo bron eiliw ohonynt. Dwjyd wrth eiddilyn o fardd tybiedig—y rhaid wrth ras arbennig bob dydd i fyw gydag ef funudyn yn barod—fod ei weithiau yn denwng ou gosod ochr yn ochr a gweithiau Ceiriog ac Islwyrt, os nad yn anferthol uwch, ac na ddichon i Eifion Wyn nac ilolo Caernarfon ddal canwyll iddynt am eiliad, pan na fyddai yn gamp yn y byd i blentyn chwe m wydd oed, a anwyd o dylwyth jsaf^eanolbarth yr Affrig, gyfansoddi rhagorach barddon- meDweyd wrth dy gymydog nad oes neb yn y wlad yn fwy teiLwng o urddas nag ef, nan v gwyddost fod yna ugemiau ymhob pentref o'r wlad. Dweyd wrth abwydyn dStadl y bydd yn y man yn lUnw swydd uchel a phwysig, pan y gwyddost o'r goreu na chaiff o byth mo'r swydd, heb son am ei llanw. Dweyd wrth y Cymro sydd yn britho ei araith neu ei bregeth Gymraeg a geiriau hirion Saesneg ei fod yn Sais peni- gamp, pan na fedr swnio yr un ohonynt yn fywir ac na wyr hyd yn hyn ddim am reolau iaith ei fam, heb son am unrhyw ialMaerdyn yn greadur rhyfedd anghyffredin. Pifw"h Sal yr yniytyn dylaf mewn ardal, a dywedwchlwrtho mai ete yw athryhth pennaf byd, a gadewch i bawb arall ddweyd yr un peth wrtho, fe gred y dyn cyn bo hir fod 5 gymdogion yn dweyd y gwir, a mwyaf yn y byd o ynfytyn yw, cyntaf yn y byd gred. Camarwain dymon fel hyn me\Ji rhyw gylch neu gilydd yw hanfod gweniaith, ac nid yw'r dyn a wna hyn yn ddyn da. Beiaeth. Beiaeth yw chwilio am fan feiau a syllu ar wendidau iotaidd mewn cymeriad sydd ar y cyfan yn sanctaidd a chryf canfod brychau ar haul, actio fel carthffosydd cym- deithasol gan gasglu ynghyd bob ysbwriel a budreddi yn bentwr, a'u tywallt am ben y dyn y sonir am dano. Torri calon dyn yw hyn, a Duw a wyr fod yna ddigon o bethau mewn byd i dorri calon dyn heb wrando ar lais eras ac aflafar pob aderyn aflan. Gallech feddwl wrth wrando ar ambeil i ddyn yn siarad mai prif amcan Duw yn ei greu oedd, er iddo fod yn aderyn ysglyfaethus i chwilota a thaenu ar led bob bai a wel yn ei gyd-ddynion. Dyma'r dyn sydd yn mynd at yr areithiwr hyawdl ar ddiwedd ei araith danllyd i ddweyd wrtho ei fod wedi cam- swnio gair neilltuol, neu gamgyfleu brawddeg, pan y gwyddai'r areithiwr o'r goreu iddo wneud camgymeriad brou cyn iddo ei wneud, a gwyddai hefyd ond odidjnad oedd neb ond y wide-awakes, chwedl Wil Bryan, wedi sylwi dim arno, ond pe buasai wedi cywiro ei hun, y gwelsai pob ynfytyn yn y fan. Dyma'r dyn sydd yn darllen y papurau newyddion a'r cylchgronau misol, ac yn casglu ynghyd sothach pob bwystfil aflan, ac yna yn eu hanfon at y dyn y sonir am dano. Dyn gonest a eilw ei hun, ond y rhyfeddod yw ei fod yn ddigon craff i weled bai, ond nad oes ganddo lygad i weled rhagoriaeth. Gellir disgrifio y dyn. hwn mewn ychydig iawn o eiriau os cedwir at bethau daearol, ond gwelir yr un anianawd mewn pethau ysbrydol. Hwn yw'r dyn sy'n chwennych dod gyda chwi i weled eich ty newydd a'ch dodrefn hardd, Nid yw yn gweled na harddwch y naill na phrydferthweh y llall, ond fe wel bob mymryn o baent wedi ei rwbio i ffwrdd oddiar furiau'r ty, a phob briwsionyn fydd wedi ei guro ymaith oddiwrth y dodrefn wrth eu dwyn o'r naill le i'r llall. Aiff drwy y ty yn ddigon tawel a chuchiog, ac fe saif ar ben y grisiau, gan ddweyd Ie, ty digon hardd, ond dyma le cul iawn i fyned a'r arch i lawr." Dyfarniad yr Iddew am y dyn hwn yw na chaiff drigo ym mhabell Duw." Ac nid ydym ni, yn sicr, am gadw oddimewn i'r ty ddyn oedd yr Iddew am ei fwrw yn ddigon diseremoni dros y drws. Heb dderbyn enllib. Hyd yn hyn, y mae'r dyn hwn wedi cadw at y gwir yn llythyrennol. Os oedd yn absennu a'i dafod, yr oedd rhyw ronyn o liw yn yr absen. Os oedd yn gwneud drwg i'w gymydog, yr oedd yna rhyw rithyn o wir yn yr hyn a ddywedai. Yr oedd gan y bachgen dipyn bach o allu a allasai ei wneud yn aelod digon defnyddiol mewn rhyw gylch cyffredin, y drwg ydoedd fod y dyn, wrth fwyhau* y gallu, yn anesmwytho enaid y bachgenyn ac yn rhoddi dymuniad ynddo at gyrraedd y lie blaenaf mewn cymdeithas, pan nad oedd ynddo allu i lanw y chweched lie neu safle is na hynny. Yr oedd gan y dyn ffaeleddau-pwy nad yw yn eu meddu ?—" heb ei fai heb ei eni y gwaethaf ydoedd fod y gwr hwn yn gor- liwio'r ffaeleddau fel ag i beri'r dyn dybio nad oedd na man glan na chyfan arno." Er hyn i gyd, y mae wedi methu dinystrio cymeriad y dyn, wrth ddweyd y gwir yng nghefn y dyn ac wrth ddweyd y gwir yn ei wyneb. Nid yw yn ymorffwys ar hynny, ond y mae yn dyfeisio anwiredd. Mae yn codi neu yn rhoddi enllib. Mae yn creu peth sydd heb fod yn wir. Yn llunio bai lie na bydd. Mae yn lluchio llaid, gan obeithio y glfn peth, ac y camgymerir y llaid gan rywun am gymeriad y dyn. Mae yn dyfeisio ystori anwireddus, gan hyderu y cred rhywun fod y cyfryw yn wir. Ac ni ddyfeisiwyd ystori ynfyd eto na cheid rhywun ynfytach i gredu'r stori. Nid yn unig y mae yn creu, ond y mae yn taenu'r stori a Ilais uchel. Cyfieithir y gair a gyfieithir yma yn dderbyn yn udgenid yn Salm lxxxi. 3. Udgen- wch udgorn yn y lloer newydd Ac os nas gall y dynyn hwn wneud dim arall, fe ocheneidia ac fe duchana gan awgrymu drwy ysgwyd pen neu godi ael llygad fod yna rywbeth allan o'i le. Pan ofynmr iddo beth li wyr er y buasai yn dda ganddo ddweyd felly, yng nghymeriad t^Yn taSoTdylna^ein natur rl.yngom a Duw yn penderfynu peidio llunio lmrhyw gelwydd am ein cyd-ddynion. (2) *Yn ein hymwneud a n cyd-ddyn, wjmib yn wyneb, yn gofalu rh^: « r?11"0] i'w ynfydu mewn balchter na'i orfeio rhag iddo suddo mewn anobaith. (3) Yn cau ein llygad rliag edrycli ar fan frychau ei gymeriad, gan gredu ynddo, nid yn gymaint oherwydd yr hyn yw a r hyn y mae yn bosibl iddo fod.
Wesleaeth GymreigI LerpwI.
Wesleaeth Gymreig LerpwI. 0 Shaw Street i Oakfield Road. Nos Wener, nos Sadwrn, y Saboth, a nos Lun ddiweddaf, cynhelid cyfarfodydd agor- iadol capel newydd y Wesleaid yn Oakfield Road, lie yr ydys wedi symud o'r deml yn Shaw Street, ar ol addoli yno tua deugain mlynedd. Pregethid nos Wener gan y Parch. Robert Lewis (arolygwr y gylchdaith) ac yn yr oedfaon dilynol y Sadwrn, y Saboth, a'r Llun, gan y Parchn. O. Madoc Roberts, Towyn, ac Edward Humphreys, Birkenhead. Caed oedfaon gwlithog iawn, ac yr oedd y cynull- iadau yn lliosog ac yn astud. Nos Saboth, methodd llawer a chael i mewn, a buraid iddynt droi adref yn siomedig, er fod yr aisles, y set fawr, a phob cornel o'r adeilad wedi eu gorlenwi, ac yn dwyn ar got gyfar- fodydd hynod Evan Roberts. Yr oedd y pregethwyr yn amlwg o dan eneiniad dwyfol, a'r canu yn rhagorol, a thorf fawr oddiallan yn gwrando ar yr hen emynau Cymreig yn cael eu canu gyda hwyl a bias neilltuol. Parheir y cyrddau eto nos Sadwrn nesaf, y Saboth, a nos Lun, pryd y pregethir gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas, ac yn Saesneg bore Saboth gan y Parch. A. H. Walker, B.A. Am Shaw Street, 6c. Sefydlwyd Wesleaeth Gymreig yn Lerpwl yn fuan ar ol Pasg, 1801, ond fe ddywed hanes fod amryw bregethau wedi eu traddodi mor bell yn ol a 1791 gan bregethwr cyn- orthwyol gyda'r enwad, o'r enw Evan Roberts, ond ni sefydlwyd achos trwyddynt. Daeth hynny o gwmpas trwy offerynoliaeth dau ddyn yn dwyn yr enwau Richard Davies a William Lewis, a aethant yn un pwrpas yr holl ffordd o Lerpwl i Ruthyn i fod yn bresennol mewn Cariad-wledd yno Llun y Pasg a nodwyd, ac wedi dychwelyd yn ol, yn methu boddloni eu hunain heb ddechreu achos Wesleaidd Cymreig. Mewn ystafell fechan ym Midghall Street, Vauxhall Road, y gwnaed hynny, ond ni fuont yno ond ychydig amser heb symud i Vestry Room capel Leeds Street. Yn y flwyddyn 1803, penodwyd cenhadwr Cymreig i gymeryd gofal yr achos gan y Gynhadledd, o'r enw John Bryan. Ar y pryd rhifai yr eglwys 60, ond ymhen naw wythnos yr oeddynt wedi cynhyddu i 100. Yn y flwyddyn 1804 rhifent ddau gant, a phrynnwyd capel yn eiddo iddynt eu hunain am y tro cyntaf yn Maguire Street, ac yno y buont hyd Awst, 1813, pryd y sicrhawyd hen gapel Benn's Gardens. Yr oedd y capel hwn wedi ei adeiladu mor bell yn ol a 1727 at wasanaeth enwad arall, a chafodd megis ei ail agor Tachwedd 22, 1813, gan y Wesleaid Cymreig. Cynhyddodd yr enwad, ac agorwyd amryw gapeli ereill yma ac acw hyd y dref, ond arhosodd y Fam Eglwys yn Benn's Gardens hyd Awst, 1860, pryd y gwerthwyd y capel, gan ei fod yn myned yn anghyfleus oherwydd pellter ffordd i'r rhai oedd yn addoli ynddo. Cafwyd y swm o f.6,500 am dano. Ar y pryd yr oedd dyled arno o 1:2,000, ac felly yr oedd yng ngweddill £4,500 i brynnu capel newydd. Gan nad oedd hyd yn oed site i adeiladu wedi penderfynu arno, cymerwyd yr Oddfell- ows' Hall yn St. Anne Street i aros am gapel newydd. Dydd Calan, 1866, gosodwyd carreg sylfaen y capel presennol yn Shaw Street gan Mrs. Maurice Williams, Allerton Priory. Agorwyd ef nos Sadwrn, Rhagfyr 29ain, yr un flwyddyn. Dechreuwyd yr oedfa gyntaf gan y Parch. Lot Hughes, a phregethcdd y Parch. R. Pritchard; y Saboth dilynol pregethwyd gan y Parchn. W. Davies, D.D., Richard Pritchard, ac Owen Williams. Parhaodd yr wyl agoriadol y dydd Llun canlynol, ac am 10 o'r gloch y nos cynhaliwyd watchnight. Dydd Calan, 1867, cynhaliwyd tea meeting, ac yn yr hwyr gyfarfod cyhoeddus. Yn ystod yr wyl casglwyd C500. Cynhelir yr wyl yn flynyddol byth er hynny. Costiodd y capel a'r tir £ 7,500. Y Capel Newydd. Y mae'r addoldy newydd yn Oakfield Road o gynlluniad Mri. Richard Owen a'i Feibion, ac wedi ei adeiladu gan Mri. J. a G. Chappell, o arddull Gothig, ac yn addas i eisteddu 600. Talwyd £ 1,500 am y site, a chyrhaeddodd cyfanswm y draul lawn £ 6,000. At hyn, rhwng yr hyn a gaed am y capel yn Shaw Street, o drysorfau cyfun- debol, a'r £ 600 a gasglwyd yn y ddinas, nid oes yn arcs o ddyled ond tua JEJ 000. Ysgrifen- yddion y mudiad ydyw'r Chief-Inspector Jones a Mr. E. D. Williams a'r trysoryddion, Mri. A. R. Price, Ellis Jones, a Thos, Williams, ac ar y gwyr hyn, ynghyda Mr. Edward Wil- liams (a weithredai fel Clerk of Works) a'r Parch. Robt. Lewis (gweinidog yr eglwys), y disgynnodd pwys y gwaith mawr a hir sydd wedi ei goroni a'r fath lwyddiant.