Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

COLEG Y BALA.

Colofn y BeirddI

News
Cite
Share

Colofn y Beirdd I [Y cynhyrchion gogyfer a'r golofn hon, i'w cyf- eirio PEDROG, 30 Stanley Street, Fairfield.] Ymweliad y Gog.-Bu cynnyg cyntaf llawer un yn waelach, ond rhaid dweyd nad oes ond un linell gywir, a honno yn ddigon gwan, yn y pedwar pennill. Y llinell gywir yw hon,—" 0 hyn tan fis Gorffennaf." Mynnwch astudio gramadeg barddoniaeth Gymreig, oblegid amhosibl cyfansoddi englyn heb ddeall y cynghaneddion i ryw fesur. Y Brython.-Dyi-na damaid blasus dros ben ac yr wyf yn ei fwyta gyda mawr foddhad- yn ffigyrol felly, wrth gwrs. Y Fynwent.—Mae -swn englynol yn y pennill hwn, a diau fod y ddawn yn yr awdwr. Er hynny, nid yw y gynghanedd yn gyfan. Mae y cyrch—" Lle'r erys llu'r oesau,"— a'r drydedd linell-" Llu ein Nen uwch ei llenni "—yn wallus. Gwir y gellid cywirdeb cydseiniol yn yr olaf, ond ar draul cam- aceniad. Daliwch ati. Deigryn Hiraeth.-Chwith gennyf feddwl fod Ionawryn yntau wedi- cefnu. Brawd rhagorol oedd efe, a chafodd lawer o fwynhad ym mlynyddoedd olaf einioes wrth gyfansoddi emynau. Ymddengys yr englyn. Afonig y Nant.-Can briodol i'r testyn, ac yn cynnwys llawer o'i swyn. Gyfarchiad, &c.—Llinellau awenyddol a thlysion, a chymeradwy iawn. Y Berdoneg.-Englynion rhagorol, a diolell am danynt.

.CYFARCHIAD

Y BERDONEG.

Y BRYTHON.

AFONIG Y NANT.

Advertising

YN AWR YN BAROD.

DEIGRYN HIRAETH AR OL IONAWRYN.