Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

COLEG Y BALA.

News
Cite
Share

COLEG Y BALA. DYDD Iau, Gorffennaf 4, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Coleg, pan y llywyddai Mr. J. R. Davies, Ceris. Dechreuwyd drwy ddar- llen a gweddio gan y Parch. John Roberts, Gwrecsam, ac yna cyflwynodd y Prifathro ei adroddiad blynyddol, a darllennodd hefyd restr o'r ysgoloriaethau a'r gwobrwyon. Safodd saith o'r myfyrwyr arholiadau y B.D., a phasiodd pob un. Mae hyn yn record yn hanes y Coleg. Y saith oeddynt Arholiad Cyntaf am, B.D.-O. H. Davies, B.A., Trefriw; Edward Griffith, B.A., Blaenau Ffestiniog E. Wynne Griffith, B.A., Pare, Mon. Arholiad Terfynnol y B.D.—D. T. Davies, B.A., Llandeilo J. Elias Hughes, B.A., Porth Dinorwig H. C. Lewis, B.A., Beau- maris; D. Francis Roberts, B.A., Bont- newydd. Rhoddwyd tair ysgoloriaeth Pierce o £50 eleni eto, i G. W. Griffith, B.A., (y flwyddyn gyntaf), T. Jones Parry, B.A. (ail flwyddyn), D. Francis Roberts, B.A. (y drydedd flwydd- yn). Darllennodd y Parch. John Owen Jones, B.A., adroddiad yr Ysgol Ragbaratoawl. Yna galwyd ar Dr. Rendel Harris, llywydd Cyngrair yr Eglwysi Rhyddion, i draddodi yr anerchiad blynyddol. Ei destyn ydoedd John Thauler. Friends of God, and Theolo- gica Germanica," a chafwyd anerchiad dyddorol iawn, llawn bywyd a newydd-deb a defosiwn. Diolchwyd iddo ar gynhygiad y Parch. John Hughes, M.A., Lerpwl, yn cael ei eilio gan y Parch. J. O. Thomas. M.A., Porthaethwy. Diweddwyd gan y Parch. John Hughes, M.A. Yn ddilynol, mwynhawyd y cinio blyn- yddol a roddir drwy haelioni Mr. J. R. Davies, ac ar ol hynny cafwyd cyfarfod i anrhegu y Parch. Ellis Edwards, M.A., ar ei ddyrchafiad i fod yn Brifathro y Coleg, wedi gwasanaeth o dros 30 mlynedd. Casgl- wyd dros E25 at y pwrpas, a chyflwynwyd iddo anerchiad hardd o waith Mr. S. Maurice Jones, A.R.C.A., Caernarfon, ynghyda holl weithiau Trenseus, Augustine, Chrysostom, Luther, a Chalfin. Gwnaed y cyflwyniad gan Mr. David Thomas, a dywedodd y dymun- ai iddo amser i'w darllen i gyd. Siaradwyd hefyd gan Mr. D. Francis Roberts, B.A., B.D., D. T. Davies, B.A., B.D., D. R. Jones, y Parch. H. H. Hughes, B.A., B.D., Caer- narfon, a J. Owen, y Wyddgrug-y ddau olaf ar ran yr hen efrydwyr. Diolchwyd yn gynnes gan y Prifathro.

Colofn y BeirddI

.CYFARCHIAD

Y BERDONEG.

Y BRYTHON.

AFONIG Y NANT.

Advertising

YN AWR YN BAROD.

DEIGRYN HIRAETH AR OL IONAWRYN.