Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XV.(parliad)-CROESAW ADREF. WEDI ymgomio ychydig yn hwy, aeth Mrs. Gwyn tuag adref, ond nid oedd hi nepell oddiwrth y Llys cyn i'r fedlewes Sidi Wood ei chyfarfod a'i chyfarch. Dydd da, Meistres Gwyn, dydd da. Peidiweh gofidio ynghylch eich mab, Meistres Gwyn mae'r llanc ifanc yn hapus iawn, ac yn gneud arian fwy na mwy. Gwneud aur ddylswn i ddeyd, aur sydd yng N ghaliffornia ynte ? Mae o'n well i le nag hefo Sgweiar Gwyn, er i fod o ymhell oddiwrth ei fam." Dydd da, Sidi," atebodd Mrs. Gwyn a synnai glywed yr un geiriau ymron gan yr hen wreigan grwydrol ag oedd ychydig amser cyn hynny wedi eu clywed gan Lewis Pennant, sef fod ei mab yn well ei le ar y Cyfandir draw yn ymladd brwydr bywyd nag yn trigo yng nghanol moethau gyda marchog y sir. t Glywodd Meistres Gwyn y llanc yn son am gyfaill iddo ?" 0, do, Sidi Wood, bydd fy mab yn son ymhob un o'i lythyrau am rywun sydd wedi bod yn garedig iawn wrtho ac yn gofalu amdano." t Gwenodd Sidi yn foddhaus. t Nid yw'r Gwynniaid i gyd yn scoundrels aniolchgar, begio'ch pardwn, Meistres, ond os na wyddoch chi fod Sgweiar Gwyn yn haeddu'r enw yna, wyddoch chi na finna ddim byd. Ac mae o wedi priodi'r ferch. Wel, geneth fach ddigon del, hefyd, ac mae -yma riolti mawr i fod ddyliwn. Roeddwn i wedi meddwl codi'n pinars, ond rydw i'n altro meddwl. Mi leiciwn i weld y croeso mawr fydd yma. Hwyrach bydd yma geiniog i bobol dlodion, pwy wyr ?" Chwarddodd yn ystrywgar, ac ebe hi,— Mae'n siwr bydd Mr. Gwyn yn falch o'n gweld ni." Sidi, mae yna rywbeth yn y gorffennol, onid oes, bar i chwi gashau fy mrawd-yng- nghyfraith. Beth sydd wedi eich gwneud yn elyn mor fawr iddo ?" 0, Meistres Gwyn, mae hynny gyda mi. Mae planed Meistres Gwyn yn dda, yn well na phe bawn ni.n deyd secret wrthi hi. Ond mi fyddwn ni'n arfer talu i bawb, Meistres Gwyn felly daw tro Sgweiar Gwyn yn y man, daw siwr. Ond cofiwch chi fod y llanc ifanc yn gneud ffortiwn a hitiwch chi befo Sgweiar Gwyn. Dydd da i chi, Meistres Gwyn. Newch chi groesi llaw Sidi, tybed ? Rhoddodd Mrs. Gwyn geiniog iddi, gan ddweyd, Yr ydw i yn ddigon-tlawd, Sidi fach. Synnwn i ddim nad ydw i'n dlotach na'r un ohonoch chi." Does dim posib, Meistres Gwyn, fedd Sidi Wood a'i thylwyth ddim, ddim byd, ond y wybren las uwch eu pen. Ambell dro mi fyddwn mewn tipyn o helynt yn cael tipyn o ddaear tan draed; ond mae digon o awyr wrth ben i ni, ac fan honno mae'r planedau i gyd, a feder Sgweiar Gwyn na neb ddwyn y rheiny oddiar Sidi a'i phobl," Y nesaf i gyfarfod Mrs. Gwyn oedd Person y plwyf. Ni fu i'r marchog ei anghofio yntau chwaith. Ymddanghosai fel pe wedi pender- fynu tynnu ymhen pob llinyn modd y gallai sicrhau croeso tra rhagorol i'r par ieuanc W eu dychweliad adref. Tybiai Mr. Lloyd mai y peth goreu oedd iddynt oil fel ardalwyr ymuno i ddathlu'r amgylchiad yn deilwng, a cheisio anghofio gystal ag y medrent holl gamymddygiadau y Sgweiar. Wedi'r ewbl, efe yw marchog y sir, Mrs. Gwyn, a'r gwr ieuanc yma o'r Alban fydd, os bywyd ac iechyd a gaiff, yn etifedd Plas- llwyd. Gwell i ni oil fod ar delerau da a'n gilydd. Nid wyf fi am esgusodi Mr. Gwyn, cofiwch, ond nid oes un diben chwaith i ni hel hen chwedlau i wyneb dyn pan fydd yn ceisio troi dalen newydd yn ei fywyd. Gwn cystal ag undyn mor lym fu y briw a roddodd i chwi, ac ofnaf i ereill hefyd, ond eto mae'n rhaid i mi addef fod y Sgweiar byth er pan ddaeth a'r wraig olaf yma i'r Plasllwyd wedi bod yn lied brysur yn ceisio cau yr hen adwyau, fel byddwn ni'n dweyd. Gwyr pawb nad yw Mrs. Gwyn gymwys i'w lie, ond mae'n fam i etifeddes y Plasllwyd, ac hwyrach yn deall sut'i gael trefn ar Rhydderch Gwyn yn well na phe buasai wedi ei geni yn fonheddig. Mae'n anodd iawn i chwi faddeu, 'rwy'n cydnabod hynny, ond i ba ddiben y gwnawn dynnu'n groes a'r tirfeddiannydd. Ac eithrio Llys Gwenllian, a rhyw ychydig o fan dyddynod ereill, efe bia bron bob liathen o Fro Einion yma. Yn sicr, gwell i ni geisio byw mewn heddwch ag ef yn gystal ag A'n gilydd." Mae'r Brenin wedi marw, Duw gadwo'r Frenhines ydyw hi, onide, Mr. Lloyd ? Derfel fyddai yn arfer derbyn gwarogaeth, ond buan y daeth Alys i deyrnasu yn ei le." Mae'r teimlad yna yn eithaf naturiol, Mrs. Gwyn ond coeliwch fi, nis gall ateb un diben. Gadewch i ni roddi'r cledd yn y wain. Ymddengys y Sgweiar fel pe yn awyddus iawn i dorri tir newydd." Rhyw droedigaeth sydyn iawn ydyw hon iddo, feddyliwn i. Un o'i gynlluniau olaf cyn cychwyn i'r Alban oedd lladrata comin y bobol yma. Ond dyna, Mr. Lloyd, ni ddywedaf fi ddim yn erbyn croesawu'r par priodasol. Bydd eu baich yn sicr o fod yn un digon anodd ei ddwyn heb i mi drym- hau dim arno. Gwn i rywbeth am y Munros yma, a gallwn gymeryd fy llw na fuasai yr un ohonynt byth yn meddwl am briodi geneth oedd heb well achau iddi nag Alys druan, pe yn gwybod yr hanes. Mae arnaf ofn, Mr. Lloyd, fod y dyn ieuanc wedi ei dwyllo gan fy mrawd-yng-nghyfraith, ac os felly, beth fydd y diwedd ?" "Gobeithio eich bod yn camgymeryd. Byddai hynny yn ddifrifol iawn, Mrs. Gwyn. Nis dylasai ar un cyfrif adael Capten Munro yn y tywyllwch." I Cewch chwi weled mai dyna a wnaeth," ebe Mrs. Gwyn, gan estyn ei Haw iddo wrth yinadael. Dechreuodd y preswylwyr ymroi ati o ddifrif i godi pontydd o flodau, a cherfio baneri yn y gwynt erbyn y deuai'r teulu yn ol i Blasllwyd. Disgwylid y Sgweiar Gwyn a'i wraig ychydig ddyddiau ymlaen llaw, fel y byddai iddo ef daflu golwg ar yr oil o'r paratoadau cyn y diwrnod mawr pryd yr oedd gwledd odidog yn cael ei threfnu ar gyfer holl denantiaid y Plasllwyd, o'r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf, a'r cyfan ar gost eu meistr tir. Yn ddiau, ni fu y fath hael- frydedd, yn ol barn y bobl. Heblaw y wledd yn Nhre Einion, am yr hon yr ymddiriedwyd ei pharatoi i wr a gwraig yr Inn, cafodd Betson Morris hefyd ei chyfarwyddo i drefnu ar gyfer ei chyffelyb yn y Ship and Castle." Cofiodd y Sgweiar am wroldeb y pysgotwyr a'r morwyr fu'n foddion i achub bywyd Capten Munro yn anad neb. Nid oedd gwledd y dref i ragori ar wledd Porth Einion, a daeth gair oddiwrtho y deuai y par ieuanc yn eu cerbyd am dro i Borth Einion yn ystod y dydd. Daeth llythyr eilwaith i Lewis Pennant, yn erfyn arno gydweithio a'r Person, fel y byddai yr Anghydffurfwyr a'r Eglwyswyr yn uno yn y croeso. Yr oedd y Sgweiar, meddai, am i Capten Gwyn-Munro deimlo adref ar unwaith ymysg y Cymry. Ac er nad oedd gan deulu'r Llys fawr o galon i ymlawenychu, eto tybiai Margaret Pennant na wnai tipyn o haelioni oddiwrth Rhydderch Gwyn ddrwg yn y byd i'r bobl am unwaith, a'r canlyniad fu iddynt hwythau hefyd gynorthwyo i fesur gyda'r trefniadau. Am Sidi a'i thylwyth, byddent yn ol ac ymlaen o'r dre i'r porth, ac o'r naill fferm i'r llall yn holi ac yn stilio," fel y disgrifiai Sara Ty'r Capel eu symudiadau. Y diwrnod y digwylid y Sgweiar a Mrs. Gwyn, disgynnai y gwlaw yn gawodydd trymion, fflachiai y mellt gyda chyflymder ac agosrwydd ofnadwy, a thaflwyd y bont flodau y bu'r bobl yn cymeryd y fath boen i'w hadeiladu dros ben llidiardau mawr y fynedfa i Blasllwyd. Yng nghanol y dymestl daeth dau gerbyd trwy Dre Einion, a dis- gynnodd un o weision Sgweiar Gwyn o'r olaf yn ymyl y Plasdy i adael cenadwri oddiwrth ei feistr at Mr. Lloyd, yn erfyn arno ddyfod i'r Plasllwyd mor fuan ag oedd modd iddo. Tyngai gwraig yr Inn ei bod hi wedi cael golwg ar y briodasferch yn y cerbyd cyntaf gyda'i thad a'i mam, ond nad oedd y Capten yno. Cyn i'r cerbyd fyned trwy'r llidiardau, clywai y Sgweiar chwerthin gwawdlyd, a rhywun nas gwelai ef na neb arall pwy oedd yno yn llwydni'r cyflychwyr yn gwaeddi,— Croeso adre, croeso adre, Sgweiar. Mae'r blodau o dan draed y ceffylau, biti, biti. Mae Sgweiar Gwyn wrth ei arfer yn sathru blodau. Biti, biti." Yn fore dranoeth gwyddai pawb nad oedd yno yr un Capten Gwyn-Munro i'w groesawu, ond y dymunai y Marchog i'r gwleddoedd gael eu cynnal. Ei esboniad ef yn gyhoeddus i'r bobl trwy gyfrwng Mr. Lloyd y Person oedd fod rhyfel yn sicr o gael ei chyhoeddi yn y dyfodol agos, ac fod ei Frenhines yn hawlio gwasanaeth Capten Gwyn-Munro yn ei byddin. Nid oedd yr un gair o son am yr eneth orweddai yn ei gwely ym Mhlasllwyd,— ei gofid yn ormod iddi allu tywallt dagrau, ac heb neb i'w chysuro. Yn ddeydais i wrthoch chi, tase chi yn y nghoelio i. Fuo rioed son am y goleuni coch heb i ryfel ddwad ar 'yn gwartha ni," ebe Ifan Dafydd yn y Ship." (I barhau). o

COLEG Y BALA.

Colofn y BeirddI

.CYFARCHIAD

Y BERDONEG.

Y BRYTHON.

AFONIG Y NANT.

Advertising

YN AWR YN BAROD.

DEIGRYN HIRAETH AR OL IONAWRYN.