Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

o LLENYDDOL.

---0--BWLCHGWYN A'R CYLCH.

News
Cite
Share

-0-- BWLCHGWYN A'R CYLCH. YR wythnos ddiweddaf, hwyliai bagad o fechgyn Maes Maelor am yr America. Chwith gweled yr hen gartrefi yn gwaghau, a'n bechgyn cryfaf yn gadael eu gwlad i roi ymenydd a nerth yng nghenedl yr Iancwys. Ddydd Sadwrn diweddaf, pereriniai Clwb y Coedwigwyr-y Foresters- o dafarn Ty n y Capel, Mwnglawdd, yn eu diwyg dlos; a diau mai y rheswm eu bod yn marchio mor dda ydoedd fod gwledd cyllell a fforc ddanteithus ymhen y daith. Gan fod yr Hen Gorff wedi rhoi heibio ei wyl bregethu ar y Sulgwyn nesaf, y mae Pwyllgor yr Eisteddfod wedi bachu'r dydd, sef Mai 20, 1908. Hynod amseroi oedd araith y llywydd, Mr. W. Roberts, i'r pwyllgor, wrth adolygu hanes yr Eisteddfod am y flwyddyn flaen- orol, drwy eu hannog a'u symbylu i fwy o weithgarwch a diwydrwydd, a meithrin ffyddlondeb ac ymddiriedaeth y naill yn y llall, Yr oedd gweled rhai o'r hen aelodau yn ail ymaelodi a'r pwyllgor, a dodi eu hysgwyddau dan arch llenyddiaeth mor dyn, yn galonogol iawn i'r ieuanc dibrofiad. v I} Deallaf fod yma bwyllgor yr wythnos hon at hogi arfau i drefnu rhaglen gogyfer a r Eisteddfod ddyfodol, a gwahoddiad cynnes a chroesawus i bawb o chwaeth lenyddol. Gobeithio y gwelir y pwyllgor yn ffyddlon i'w gilydd, yn parchu syniadau eu gilydd, peidio mynwesu rhagfarn at eu gilydd, na bradychu cyfrinach y pwyllgor i'r cyhoedd, bod yn hollol ddiduedd gyda swyddogian a beirniaid Gwyliwch, garedigion yr Eis- teddfod, rhag i'ch gwendid godi o gyfeiriad eich nerth gyda'r man bethau. YR ERYR.

Advertising

---= -me m 0 ) o BS6 Y GTOMEN.…