Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

o LLENYDDOL.

News
Cite
Share

o LLENYDDOL. LLAWLYFH FFONOGRAFFIA, sef Llawfer Pit- man wedi ei gyfaddasu i'r Gymraeg gan y diweddar Barch. R. H. MORGAN, M.A. MAE O. M. Edwards, M.A., mewn Cyflwyn- air "i'r llyfr hwn, yn adrodd y modd y daeth efe i ddysgu llaw fer, a'r gwerth amhrisiadwy a fu iddo. Yr wyf finnau yn cofio yn dda y noswaith yr aethum i wrando ar Pitman yn y Concert Hall, Liverpool, yn darlithio ar Phonography. Y mae trigain, namyn un, o flynyddau or hynny. Ffurfiodd Henry Pitman ddosbarth, ac ymunais ag ef, a dysg- ais ysgrifennu ei law fer yn weddol dda, ac yr wyf wedi ysgrifenu Phonography fwy neu lai o hynny hyd yn awr. Llawer awr a arbedwyd yn y Police Court trwy i mi wneud defnydd o'r gyfundrefn fanteisiol lion. Yn fuan wedi hynny, cyfaddasais y drefn i'r Gymraeg, ac y mae yr ysgrif yn awr yn fy meddiant. Ond ymhen blynyddau wedi hynny gwnaed y gwaith liwnnw yn llawer gwell a pherffeitliiacli gan y Parch. R. H. Morgan, fel y cyfaddefais wrtho pan ddaeth ei lyfr allan yn 1876. Mae y llyfr hwnnw bellach allan o brint, ond gwnaeth les anrhaethol i liaws a ddysgasant y gyfun- drefn yn yr iaith Gymraeg. Sefydlwyd Cymdeithas Llawfer Gymraeg,"a cliyhoeddir yn awr gylchgrawn llawfer gan Mr. R. P. Griff- iths, Bod Olwen, Bennison Drive, Grassendale, Liverpool. Mae y gymdeithas hon wedi dwyn allan lyfr Mr. R. H. Morgan, gydag ychwanegiadau a chywiriadau gan Mr. D. W. Evans, Llunden, yn llyfr rhad a destlus am ddau swllt. Beth fyddai i fechgyn a rrenetliod Cymru ymroi ati hi o ddifrif ie, o ddifrif, cofier-i astudio y llyfr hwn, a ffurfio dosbarthiadau. Gallaf eu sicrhau oddiar brofiad na bydd yn edifar ganddynt. Gwnaeth Isaac Pitman wasanaeth mawr i'r byd trwy ei gyfundrefn, a chydnabyddodd ei Mawrhydi hynny trwy roddi hawl iddo ddodi Syr o flaen ei enw. Yr oedd yn haeddu y cyfryw barch. Gwnai les mawr i'n bechgyn ddarllen hanes ei fywyd gan Reed. Gwasanaeth mawr eto y mae y Gymdeithas hon wedi ei wneud i Gymru trwy gyhoeddir y Llawlyfr Ffonograffaidd hwn. Carwn glywed fod miloedd ohono yn cael ei werthu.-Eleazar Roberts. YJ|mae Homiliau y diweddar Barch. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) eisoes wedi eu gwerthu allan ac os daw ail-argramad— a diau y daw-mwyn dyn, rhwymer y gyfrol yn well ac yn gryfach. Disgwylir cyfrol arall o waith barddonol Dyfed allan cyn diwedd Awst. Y neb a fynnai gael esboniad ar edifeirwch," ebe rhywun dro yn ol, "cyhoedded lyfr Cymraeg," ond nid dyna brofiad yr Archdderwydd, yn ddiau.

---0--BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Advertising

---= -me m 0 ) o BS6 Y GTOMEN.…