Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangollen Royal National Eisteddfod, 1908. Price 6d. 0 Post 1 ide 2 EVANS, SONS <5 FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road, Liverpool. CYNRIC, Y TEILIWR 0 CYMREIG. SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASONABLE PRICES ø E. C. KenricK, ø62 RENSHAW STREETS r-awfordp i Cream C r a c k ei7,.
Cymry Lerpwl.
Cymry Lerpwl. MAE arwyddion fod yr ysbryd Cymreig ar gynnydd yn Lerpwl. Buom yn ofni fel arall, a bod yr anfarwol Ddic-Shon- Dafydd yn ennill tir. Hen ffwl o gread- ur yw hwnnw, a phan fydd ef yn sefyll o flaen y Drych, bydd ein calon ninnau y tu yma yn mynd yn fellt o ddigasedd ato. Yr hyn sy'n argoel addawol am y dyfodol yw brwdfrydedd cenedlgarol ymysg y Cymry ieuainc, yn enwedig fel y mae yn ymgorffori mewn cymdeithasau o fath y Cymru Fyddiaid. Ynglyn a'r sefydliadau hyn, ceir lliaws o ddynion ieuainc mwyaf darllengar a llenorol ein cenedl yn y ddinas, ac nid ychydig o raddedigion mewn dysg. Mae eu sel yn un oleuedig. Mae addysg ddiweddar wedi meithrin mewn Cymry ieuainc chwaeth lenyddol, ac mae c ynnydd yr ysbryd cenedlaethol hwn yn peri iddynt astudio hanes a lien eu gwlad, a'r can- lyniad i hynny fu iddynt weled fod yn y cyfeiriad hwnnw drysorau gwerth eu meddu. Yr oedd y Gymdeithas Genedl- aethol Gymreig, efo rhyw lord neu gilydd yn ben arni neu gefn iddi, yn burion'yn ei ffordd, ond nid y peth i gyfarfod a bechgyn cyffredin John Jones. Nid oedd yr awyrgylch yn ddigon gwerinol. Mae plant yr hen John yn mynd yn fwy anibynol eu hysbryd yn barhaus, ac yn hidio llai o hyd am unrhyw gymdeithas fo'n ymgasglu dan ymbrela Nawdd estroniaid a lordiaid. Gwell ganddo, a gwell iddo, gael achos bach syml ei hun. Nid yw Cymdeithasau Cymru Fydd ond Iled ieuainc yn Lerpwl, ac wedi dechreu yn ddigon dinod, ond y maent yn Iliosogi ac ymgryfhau, ac yn edrych i'r dyfodol yn hyderus. Yn perthyn iddynt mae rhai o wyr cyhoeddus parchusaf a mwyaf dylanwadol Lerpwl, y rhai ydynt eu hunain yn Gymry o galon ac iaith, ac yn llosgi o sel dros eu cenedl yn ol y cnawd. Os y cedwir undeb ysbryd ac amcan y cymdeithasau hyn, ac os deffroir yr unrhyw genedlgarwch yng Nghymry y cylch yn gyffredinol, gellir disgwyl dat- blygiadau Cymreig amlycach nag erioed ym mywyd dinesig a chrefyddol y dref ar lan y Ferswy. Y Cyngor Addysg a'r Gymraeg. Y Cynghorwyr Henry Jones a J. Harrison Jones a welsom yn croesi Trem y Drych, a dilynasom hwynt, a gwelsom eu bod yn dwyn gerbron y Cyngor Dinesig gynhygiad i'r amcan fod y Pwyllgor Addysg i ddwyn adroddiad o nifer y plant Cymreig a fynychant ysgolion dyddiol y ddinas, ac y carai eu rhieni iddynt gael y Gymraeg ar raglen eu haddysg. Dyrna brawf arall o gynnydd yr ysbryd Cymreig, ac yn torri allan mewn cylch lie nad oes llawer cyfle iddo. Ond dyma gyfle teg, a go- beithio y bydd i ereill sydd ar y Cyngor, a thu allan iddo, gefnogi y symudiad hwn, Nis gwyddom pa reswm allfod gan yr un Cymro gwladgar yn erbyn. Mae ysgolion dyddiol yn Llunden yn caniatau y peth, a cholegau y Cyfandir yn gosod y Gym- raeg ar eu rhaglenni. Mae'n eglur i unrhyw un a wyr ddim am y mater fod dwy iaith yn well nag un. Ceir engreifft- iau eglur o'r Saesneg yn gymorth i'r Gymraeg, a'r Gymraeg i'r Saesneg. Cymerer y gair "eyfiawnder" yn y Beibl Cymraeg. Y mae y Saesneg yn help i fynegu ei ystyron gwahanol, a chlirio ei amwysedd. Gwyr y darllennydd eyffredin mai yr un gair "cyfiawnder" sydd yn y Beibl Cymraeg fel rheol am y syniadau gwahanol a eglurir mewn dau air Seisnig-justice a righteousness. O'r tu arall, mae y Gymraeg yn dwyn deuair i egluro dau syniad a geuir mewn un yn y Saesneg. ymerer y gair peace." Am- wys yw y gair hwn ynddo ei hun, gan ei fod yn cynnwys mwy nag un syniad, a cheir ef yn y Beibl Seisnig am ystad allanol bywyd, ac hefyd am ystad fewnol y meddwl. Ond mae y Beibl Cymraeg yn well, a dywed ef yn gyffredin heddwch am y naill a thangnefedd am y Hall, yn enwedig yn yr efengylau. Ac hyd yn oed ar dir gwerth masnachol, mae y Gymraeg yn gaffaeliad, ac nid i neb yn fwy na dosbarth o Gymry Lerpwl. Onid oes ohonom amryw yn trafaelio yng Nghymru dros fasnachdai o'r ddinas, ac yn ymweled a chwsmeriaid yng Nghym- ru nas medrant fawr o Saesneg, neu o leiaf y byddai o fantais gallu ymddiddan a hwynt yng Nghymraeg ? Mae'n eglur ddigon y byddai medru Cymraeg yn ychwanegiad o bwys yng nghymhwyster trafaeliwr o Lerjtwl yng Nghymru. Mae y parodrwydd i ymdoddi i iaith ac arferion y Saeson yn bradychu naill ai anwybodaeth neu waseidd-dra an- wladgar. Da gennym ddeall fod yr Henadur Williams yn cyfnerthu y Mri. Henry a Harrison Jones, ac nis gallasai wneud dim roddasai fwy boddhad i'w ddiweddar dad Cymroaidd. Cyngor Tref Aberystwyth. Mae y Drycli wedi bod ar y Cyngor rhyfedd hwn droion, ond nid oeddem yn hoffi galw sylw at y golygfeydd ynddo. Erbyn hyn, waeth gwneud hynny na pheidio, oblegid mae yr holl wlad yn gwybod am y ffolineb a gymer le bob tro y daw y Cynghorwyr at eu gilydd. Mae pob Cyngor Tref yn awr ac yn y man yn colli tymer ac yn cweryla, ond ym- ddengys mai dyna bennaf peth Cyngor Aberystwyth. Etholwyd yr aelodau i gynrychioli y dref, ond gan nad beth a gynrychiola rhai ohonynt, mae'n amlwg mai nid eu boneddigeiddrwydd cyffredin. Darllenna hanes y cyfarfodydd yn debyc- ach i'r hyn a geir mewn gwledydd hanner gwareiddiedig nag o dref yng Nghymru, a chyda hynny un o eisteddleoedd addysg y Brifysgol. Y mae yn ddiraddiad ar breswylwyr parchus y dref fod ei chyng- horwyr, fel tae yn amddifad o elfennau cyntaf boneddigeiddrwydd. Beth yw gwraidd y drwg, nis gwyddom ni; ond nis gallwn gredu mai drwy agor safnau i led-regu, a chau dyrnau i fygwth, y setlir yr anghydwelediad. Dylai y rhai sydd yn y safle o gynghorwyr y dref fod yn sampl mewn moesgarwch. Yn lie hynny, mae yr ystranciau a chwareuir o bryd i bryd yn y Cyngor yn peri i ni gofio am Bont y Gwr Drwg nad yw bell oddiyno, a dychmygu fod yr hen greadur y mae y bont ar ei enw yn ei gadael yn ami am dro i Gyngor Tref Aberystwyth Wrth gwrs, nid yw yr holl aelodau yn euog o'r ynfydrwydd, a gobeithio nad oes fwy nag un penglog yn gyfrifol am yr holl helynt. Huwco Penmaen. Drwg gennym droi y Drych ar y diddan Huwco Penmaen yn ei waeledd unwaith eto. Bu efe am flynyddoedd yn Lerpwl, ac yn un o'r rhai mwyaf selog a gweith- gar ynglyn a dirwest. Bu am amser maith mewn ysbyty y pryd hwnnw hefyd yn dioddef oddiwrth ei lygaid. Gwyr eisteddfodwyr a llenorion Cymreig ei fod wedi ennill llawer gwobr am nofeligau a chyfieithiadau, a'i fod yn gadeirfardd o fri. Y mae yn bregethwr rhagorol gyda'r Anibynwyr, ac yn ddiaeon yn y Rhyl. Clywsom iddo gael ei gyhoeddi dro yn ol fel hyn Bydd y Diwc o' Penmaen yn pregethu yma y Sul nesaf." Cafodd fraint o wylio llawer awr wrth glaf-wely y diweddar Hwfa Mon, a chredwn ei fod gydag ef yn"I>"ei oriau olaf. Mae yn ei feddiant Feibl'perthynol i'r Hwfa enwog, a synnem fel yr oedd wedi marcio yn ofalus a glanwaith y testynau y pregeth- asai arnynt, o ba rai yr oedd lliaws o'r adnodau mwyaf athrawiaethol yn Epistol- au Paul. Un""o'r brodyr mwyaf llengar, car ed ig, "a*di wenwyn, yw Huwco, ac nis gall eijgyfeillion lliosog lai na dymuno iddo adferiad buan a llwyr. Nerth Arferiad. Dyma y Drych yn awr ar wr enwog iawn, ac wrth ei fwrdd-ymborth y mae efe a'ifdeulu. Mor boblogaidd yw, a chymaintjy galw am ei wasanaeth gwerth- fawr drwy yr^holl wlad, fel mai nid hawdd iawn cael golwg gartrefol fel hyn arno. Ac y mae cymaint o'i galon fyw yn yr oil a wna fel mai nid hawdd iddo wneud dim yn ddifeddwl, a mynd ymlaen yn nerth arferiad. Yr oedd ei galon yn ei waith heddyw hefyd, ond daeth pig arferiad i'r golwg i ryw raddau wrth y bwrdd. Yn gofyn y fendith yr oedd, ac fel arfer mewn cartrefi dieithr, deisyfodd y fendith ar gyfrannwyr caredig y rhoddion." Deallodd yn fuan mai wrth ei fwrdd ei hun yr oedd, ond ni fynnai ei briod, mwy nag yntau, o ran hynny, i'r deisyfiad fynd yn ofer, ac ebai hi yn y fan, 'Rwyt ti'n ddigon right, y fi ydi'r caredica gefaist ti 'rioed." Da iawn, yn wir. Pe buasai Wil Bryan fyw, cawsai yma yr hyn y buasai'n sicr o'i alw yn true to nature. Hanesyn arall a glywsom yn ddi- weddar, ar yr awdurdod uchaf, a dymunir gael sylw arbennig y rhai ydynt orhoff o gynnyg cynhygiad ati. Mewn tref yn Lloegr, lie y mae nifer o Gymry,. y rhai yn ddiweddar a ddeuant ynghyd i wasanaeth Cymraeg a gynhelir er eu mwyn gan Gymro rhagorol sydd weinidog ar eglwys Seisnig, anghofiodd brawd defosiynol ei hun gymaint nes yr aeth ar ei weddi i wneud cynhygiad o ddiolch- garwcli 0 ran hynny, byddai yn dda i ychwaneg fod ar eu gliniau, yn hytrach nag ar eu traed, yn gwneud llawer cyn- hygiad o'r eiddynt. Ceid mwy o hedd a llwydd mewn llawer pwyllgor a chynhadl- edd drwy hynny Ap Madoc. Dyma y Drych a'i lygad dros y don," i bellafoedd yr America, a gwelwn yno yr enwog Ap Madoc yn prysur bacio ar gyfer gwibdaitli i'r Hen Wlad unwaith eto. Un o Gymry mwyaf cyhoeddus Gwlad Jonathan yw efe erbyn hyn, a chan amled ei ddoniau gall gynnal cyfarfod amrywiaethol braidd i gyd ei hun. Pan fydd eisieu cor y bydd hi dipyn'yn brin arno heb gymorth. Ond mor bell ag y gall un dyn alw ar y cwbl sydd ynddo" i wasanaeth cwrdd,nid wyf yn meddwl fod nemor neb a chanddo fwy o adnoddau. Y mae yn gerddor ar dant ac ar lafar, ac yn feirniad galluog, yn fardd awenyddol, ac fel adroddwr yn enwog dros ben. Bydd yn crynhoi ei ddoniau amryfal i'r hyn a elwir yn Music-Literary Recital, a mawr y clod a roddir iddo drwy y wasg Americanaidd. Brodor o ardal Porthmadog yw efe, a'i gyflawn enw yn awr yw William Ap Madoc. Erys yn y wlad hon o Gorffennaf 15fed hyd Eisteddfod Abertawe, ac mae y galwadau am ei wasanaeth eisoes yn fwy nag y gall eu derbyn. Rhwydd hynt iddo yng Ngwlad y Gan Dr. Dan Proiheroe. Dacw bwt o ddyn talentog arall, o deulu Zaccheus o ran corff, ond o ben cawr. Yntau yn taflu ei olwg dros y mor, ac ar gychwyn am dro beirniadol drwy Eisteddfodau Cymru. Gwyr pawb am ei alluoedd fel cyfansoddwr. a beirniad cerddorol o'r radd flaenaf, a gwyr ymwelwyr o Gymru ag America yn arbennig am ei galon groesawus a'i gymdeithas ddifyr. Mae ffraethineb Dan" yn ddiderfyn, ei ystorïau digrif yn ddihysbydd, a'i fedr i groesawu cymrawd yn ddi-ail. Ac y mae mor syml a diymhongar a phe buasai dim yn y byd mwy na'r cyffredin ynddo. Ond peth llecl anghyffredin yw hyn mewn gwyr talentog, yn enwedig o'i fesur corfforol ef. Er yng nghanol dylanwadau estronol, mae calon ac iaith Dan, fel eiddo yr Ap, yn parhau yn drwyadl Gymreig. Am hynny, pan ymwelo bechgyn fel hyn a'r Hen Wlad, teimlwn ein calon yn cynhesu ac yn troi atynt i'w croesawu. Dau Bregethwr. O'r Amorig bell, dyma y Drych wedi ei droi i Ddeheudir Cymru, a gwelwn ddau weinidog yn taro ar eu gilydd ar y ffordd, ac yn dechreu ymgom. Adwaenwn un ohonynt fel gweinidog athronaidd o Lan y Ferswy, a'r llall yn perthyn i enwad trefnusol arall, ac yngwylio'r athrawiaeth yng Nghym- ru. Aeth y ddau i son am y Ddiwinydd- iaeth Newydd," a gwelwyd yn fuan nad oeddynt hollol gytunoj ar bob peth. Yn wir, aeth yn bur groesfarn, a gallasai fynd yn groesnwyd onibai i un o'r ddau ddatguddio eyfrinaeli-oiid ei gyfrinach ei hun, chwareu teg iddo. Galwodd y naill sylw at erthygl a ymddangosasai "mewn cylioeddiad Cym- reig, a dywedai bethau llosgfaol am yr awdwr, yr hwn nis adwaenai efe yn bersonol. Beth bynnag, mawr fu syndod y disgyblion pan hysbyswyd ef gan ei gydymaith, Myfi yw y gwr Wrth lwc, nid oedd y ddau wedi cwrdd dan arferion y dyddiau gynt, ac ni chafodd pastwn ei dorri o'r coed, na charreg ei chodi o'r ffordd, fel nag argument na chosp. Bu y ddeuddyn yn ddigon diniwed i ym- bwyllo ac ymresymu'n mater. Ymadawodd y ddau ar delerau brawdol, a gwelem ryw wen fyfyrgar ar wyneb y ddau fel yr elai pob un am ei bulpud. Wrth dynnu'r Dryeli oddiarnynt, yr ydym yn hanner maddeu i'r hen arferiad nad yw bob amser yn ddymun- ol-yr arferiad o holi dieithrddyn, cyn agor ymgom ag ef, Pwy yda chi, mor hy' a gofyn ?
Advertising
Testynau Eisteddfod Liangolien.- RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AC I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWY'R POST 71c., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDFA'R BRYTHON."
Trem ar Gymdeithasfa Llanerchymedd.…
Trem ar Gymdeithasfa Llanerchymedd. [GAM ABWYDYN.] SYR,—Do, fe aethum innau, wedi maith a thrwm berswadio, i'r Sasiwn. Yr oeddwn yn hynod o ddigychwyn, ond arwydd dda o at-daliad ydyw hynny yn fynnych. Cawn fy hun er's dyddiau megis rhwng deufor gyfarfod yr oedd y lie, y materion, a'r maes yn tynnu yn gryf arnaf; y Cyfarfod Misol, cyfeillion fy eglwys, a'r teulu yn gwthio arnaf o bob cyfeiriad i fynd rhwng y tynnu a'r gwthio cefais fy hun yn brydlon yn Llanerchymedd. Er hynny, nid y fi oedd y cyntaf, deallais fod bagad o bobl wedi cyrraedd yno yn gynnar y dydd blaenorol, i ryw neges neu gilydd. 0 ran pwysigrwydd, amrywiaeth doniau, a gallu pwyllgorawl, ceid eu bod yn ddigon ynddynt eu hunain i gynnal Sasiwn, pe bai rhywbeth wedi digwydd i rwystro y fintai a ddaeth yno ddydd Mercher. Er lliosoced y dyfodedigion, nid oedd croeso a haelfrydedd digymar cyfeillion y lie ronyn yn llai. Saif y Sasiwn hon ar ei phen ei hun yng nghyfoeth, amrywiaeth, a phwysigrwydd ei rhaglen, ynghyd a'r bywiogrwydd a'r deheu- rwydd oedd yn nodweddu yr holl weithred- iadau. Prin y gwelwyd eisteddiadau lliosoc- ach, a chymaint o' astudrwydd cyffredinol ynglyn a'r pynciau a ddygid gerbron. Parod ydym i gydnabod fod y rhan helaethaf o'r clod am lwyddiant y cynadleddau yn disgyn i'r Llywydd a'r Ysgrifeimydd. Os bu y gair hwnnw erioed yn gywir, gellir ei gymhwyso at yr ysgrifennydd, The right man in the right place." Teimla pawb os bydd ef yn bresennol fod diogelwch cyfarfod wedi ei sicrhau. Tuedd y llywydd ydoedd rhoddi ffurf ar gynhvgion cyn i'r materion addfedu digon yn y llawr. Yr unig wahan- iaeth o bwys rhwng y ddau swyddog ydoedd fod y naill yn deall dynion yn well, a'r llall yn fwy hyddysg mewn materion. Rhwng y ddau, symuda y cerbyd ymlaen yn gyflym ac esmwyth. Athrofa'r Bala. Edrychid ymlaen at bwnc y Coleg gyda chryn ddyddordeb, os nad pryder. Mae y sefydliad hwn wedi bod gerbron y wlad- bellach er's blynyddoedd. Trafodaeth dipyn yn dymestlog gaed arno yn y Bermo. Hawdd gweled erbyn y Gymdoithasfa hon fod y pwyllgor wedi tynnu ei gyrn i mown, a dyna oedd ei unig ddiogelwch mown trefn i ennill cydsyniad a chymeradwyaeth y wlad. Mae dyddiau'r deddfu o'r Sasiynau heb gymoryd barn yr eglwysi i ystyriaeth wedi diflannu. Eto, na feddylied y brodyr hynny fod y wlad yn or-hoff o'r rhai hynny sydd yn siarad i lawr tuag ati. Cymysglyd iawn oedd y drafodaeth gaod ar y mater y tro hwn eto dynion yn codi yn sail rhyw bender- fyniad, ac yn dadleu bob ffordd. Ein hunain, pell ydym o dybied fod mater yr Athrofa hyd yn hyn allan o'r coed. Prin fod y pwyllgor o'r cychwyn wedi anturio at wreiddyn y drwg, ond trimio ychydig ar yr amgylchoedd. Syn gennym os gweithia y cynllun presennol yn effeithiol. Yn sicr, mae perthynas yr adran a'r Coleg, codi cyflogau yr athrawon, sefyllfa'r llyfrgell, ethol dau athro newydd, pwnc y llogau, &c., yn gadael yr holl achos mewn stad anfodd- haol, a dweyd y lleiaf. Cnewyllun y ddadl ar hyd y ffordd ydyw codi cyflogau a lliosogi'r athrawon pan wedi llwyddo i gael y pethau hyn y rhoddir yr Athrofa ar dir i gyflawni gwaith effeithiol. Ein hunain, credwn y dylid rhoddi amod ynglyn a dewisiad dau athro newydd mai am dymor yn unig y gwneid hynny. Yn ol y cynllun presennol, mae eu lie yn sicr am eu hoes, pa mor anghymwys bynnag y bydd- ont i'r swydd. Mewn cyfnod, dyweder, o ddeng mlynedd ar hugain, dylai fod gan gyfundeb cryf fel yr eiddom ni ddynion ieuainc yn agored i'r gwahanol gadeiriau, pa rai sydd mewn cyffyrddiad byw a'r oes, ac yn teimlo yn agosach at y to presennol o bregethwyr ieuainc. Ychydig o sylw roed i fedrusrwydd a gwasanaeth y llyfrgellydd. Pe chwilid y ddwy dalaeth, amhosibl fuasai cael neb amgenach, a llwyr gredwn fod y gydnabyddiaeth a dderbynia yn anheilwng o'r gwaith a gyflawna. Ffaith ryfedd i ni ydyw cwyno fod adnoddau y Coleg yn fyr i gyfarfod y treuliau, ac ar yr un pryd ddadleu mawr dros godi cyflogau yr athrawon, pa rai sydd yn cael tai da, llyfrau rhad, a hufen y cyhoeddiadau Sabothol, a chlirio eu holl dreuliau pwyllgorawl. Na synner neb pe y deuid yn fuan eto ar ofyn y wlad am gronfa, oblegid prin ydyw gras y cyfoethogion i gyfrannu symiau personol yn flynyddo] at unrhyw fudiad. Gresyn or mwyaf, drwy rhyw anghaffael, i ysgrif alluog Alltud fynd ar grwydr rhwng eich swyddfa a phen ei thaith. Gosodir y mater yn deg ac argyhoeddiadol gerbron, a chydsyniaf a'i awgrym mai da fyddai gohirio yr holl achos nes gweled pen tir. Cyfarfod Ordeinio. Braint o'r mwyaf ydyw cael CymdeitJiasfa ag ordeinio ynddi. Teimla cyfeillion y lie yn ogystal a'r cynrychiolwyr, fod hyn yn ychwanegiad at urddas a phwysigrwydd y Sasiwn. Ond i fod yn gwbl agored, nid oedd y cyfarfod eleni i fyny a'r disgwyliad, er fod gwanach araith, ac eiddilach cyngor, wedi llwyddo i gynhyrchu mwy o frwdfrydedd lawer tro. Daiilennwyd yr araith gan frawd teilwng, ond wrtli ymgeisio at gyffyrddiadau barddonol, elai yn ofnadwy o ryddiaethol. Anffodus braidd iddo draetliu yn helaeth ar y pennau cyn dyfod atynt. Os rhywbeth, rhy lwythog ydoedd o fater, ac am fod hwnnw wedi ei gamleoli ychwanegid at y trymder. Caed cyngor da a doeth gan henafgwr parchus. Pe gofalai y Cyfundeb roddi ei ffafrau ychydig yn gynarach ar einioes dyn, credwn y cawsai well gwasaiiaetli oddiwrthynt. Am y bechgyn ieuainc, gwnaethant eu gwaith yn rhesymol a dibrofedigaeth. Yn sicr, dylid bellach roddi yr hen ddull ystrydebol o holi yr erthyglau o'u cwr r o'r naill du. Dylai y Gymdeithasfa gael dynion i ateb ar unrhyw bwnc o athrawiaeth, pa ben bynnag i'r rhestr a ddechreuid. Na feddylied neb ein bod yn cwyno ar y gwasanaeth hwn aeth popeth ymlaen yn ddymunol, ond ni chyrhaeddodd y marc arferol. Amrywion. Daeth materion ereill i sylw, megis gwerthu eiddo, coffad am frodyr ymadawedig, per- thynas cronfeydd y Genhadaeth Gartrefol a'r Achosion Seisxiig, symudiad gweinidogion at y Presbyteriaid Seisnig. Cymylog a niwlog ydoedd y drafodaeth ar rai o'r mater ion hyn, ac oni bai am awdurdod y llywyd a doethineb Solomonaidd yr ysgrifennyo buasai y brodyr heb ddim i ddweyd w?e ymhelaethu oriau arnynt er anhwylusto i bawb y tu fewn a thu allan ond cyn sychll yr ysgrif bin, goddefer i mi gyfeirio at Han yr Achos yn y Sir, a helynt y Pell. Ysgrifennwyd y cyntaf gan un o fechgY Mon, ac anwylun y genedl. Ni chauodd e1 lygaid ar ddiffygion yr Ynys, a nododd ddiofn rai o bechodau yr eglwysi ar 0> gwlad. Cwynai yn dost fod y sir yn cael blino gan fan gwerylon anorffen. Nid °eCh, ym yn cwbl ddeall yr ergyd, ai defnyd cysur ydoedd hyn, am nad oedd rhyw ystorm gref ar derfynau y wlad. Cred y buasai yn well i grefydd fod un yn dirgrynnu y gwersyll, na rhyw fan Vs8a^ mesoedd yma ac acw yn poeni y salD j Mae rhyw ddechreu a diwedd yn perthyn ddrycin iawn, ond does dim pen draw ar Y ffraeo dibwrpas na ddaw byth i grafang9 disgyblaeth. Awgrymid mai ffrwyth, j yn hytrach mai canlyniad y diwygl ydyw hyn ond rhaid cofio eu bod yma y ymhell o'i flaen yn llu mawr iawn. 0, Do cldileuid ar fyrder y ffiloreg wirion, A ddigio heb achos, cymoded heb iawn- Mae gwaith, amser, ac amynedd ein bug01 iaid yn cael ei gymeryd i fyny i wastadhl1 rliwng aelodau a'u gilydd, yn lie ymosod Yd erbyn pechod y byd. Credwn fod yr erd am fynyclxiad y tafarnau gan ddiacon111 wedi cyrraedd gartref, ac y ceir sylw Q ar hyn yn y Cyfarfod Misol. Yn sicr, adrod iad gwir dda gaed y tro hwn, heb yindreC slafaidd am wen neb, nac ofn gwg undyn. Hen bwnc llosgawl hefyd ydyw y hoeddiadau Pell, a mawr yr ymdderu arno y tro hwn eto. Yr hyn oedd wrth wrai 11 ei ddygiad ymlaen y tro iwn ydoedd y g y o Leyn ac Eifionydd fod y pell yn anhwyluso i gael lie i newydd-ddyi0 iaid i'r sir ac i gael prawf ar weinidog10^ ieuainc cyn eu liordeinio. Ond yr hyii syd dan y gwyn ydyw fod rhoddi cyhoeddiad ymhell ymlaen yn achlysuro i rai pregethw^ eu torri. Ffyddlondeb gweinidogion 1 liymrwymiadau Sabothol ydyw yr un.| feddyginiaeth ar gyfer y drwg hwn. ^bleg* pe rhoddid ond cyhoeddiadau am flwyda. ymlaen, byddai yn liawdd iawn i weinid e ieuanc fedru llanw ei Suliau, a disgwylia p° un gael ei ordeinio o fewn y ft wy ddyn y ymsefydla mewn eglwys. Wna au ddim gwahaniaeth ynglyn a hyn- cwbl sydd eisieu ydyw i bob pregetri gadw ei addewid. Ond, ysywTaeth, fel ar y mae, a'r rhai parotaf i roddi cyhoeddiad pell ydynt y rhai gwaethaf am dorri c.yh°6' iadau agos. Soniwyd am i'r Llyfrfa d dclymu dyddiaduron ugain mlynedd,K cyfyngid hwy, dyweder, i bedair hawdd iawn y gallasai blaenor gwenetto, am bregethwr da greu Sul mlaen yn itl iawn. s Nid pwnc o roddi cyhoeddiad pell neu ago, ydyw, ond mater o onestrwydd dyn 1 h- adduned. Rhoddir y bai ar yr amgylc w iadau, pryd mai egwyddor anheilwng ffynhonell yr holl ddyryswch. Rliaidgwell" dd, canolbwynt os am ddiwygio'r amgylcho<3 Gwyddom am Gyfarfodydd Misol nad yd- yn rhoddi cyhoeddiadau ymhell y»"a^' ac y mae digon o anffyddlondeb i'r ynirwy iadau ynddynt, ac nid ydyw ddim hawdd' trefnu gweinidogion i fynd drwy yr egby.^ ynddynt er cael pleidlais i'w lioi'deiia^c Rhaid wrth rhywbeth gwell mewn bycl. eglwys na newid amgylchiadau a thre iadau i wrthweithio'r drwg. Yr Odfeuon. gos or.,I Adeiladwyd stage cang ar faes eyfa tro gynllun dipyn yn newydd. Dyma. y cyntaf i mi weled esgynlawr tebyg i uwchben y cloc mewn capel ar y cae. yn ateb dau ddiben, i'm tyb i. Un y crynhoi y dyrfa at ei gilydd, a rhoddi te:t h ar wag gerdded a man siarad ar finion Pe y gynulleidfa hefyd yr oedd hyn yn j pellter i'r pregethwr wrth annerch y 0 Clywais mai dyma y lie goreu i flJ. ddigon o un man. Trefnwyd y pu^P jji gyfer codiad yn y tir, yr hyn oedd yn rf10 ,g(j mantais i rai byrion ymhell yn ol wyneb y pregethwr. Dyma yr es lawf o ddestlusaf a hwylusaf a welais eto yn Y « eiri ledd, a gallaf fynd cryn bellter yn ol. Sasiynau dyfodol, gofelwch am weled stage Llanerchymedd. Mae anian pvep6^ yn natur gwyr mawr Mon, ac feallai dyma sydd yn cyfrif am berffeithrwyd j allan olion. Mawr oedd eu ffydd i draul enfawr ar hin mor ansicr. iawn oedd y tywydd y noson flaenaf. y gawod a'r oerni, gorfod oedd cilio i'j* gapel, a buan y gorlanwyd y naill a r Ond daeth tranoetli teg, a chaed tair I ar y maes, a dywedir mai dyna yr all. ddiwrnod braf ar ei hyd er's wytnO 110 Gorlanwyd yr esgynloriau dair gnvaith, onibai fod sicr sail i'r colofnau, cWboDI fuasai'r hanes, gan mor wasgedig oedd J, arnynt. Os ataliwyd y cymylau dros d I nod, agorwyd ffenestri'r nefoedd a thyW tJ.w, wyd gwlaw graslon ar etifeddiaeth Hired ydoedd oriau'r gwrando, nid °e yji yn blino sefyll nac eistedd. Oedfa ^0ftb unig a ddechreuwyd yn ol yr hen Trefnwyd i ddilyn am ddau, ond sy ..yW> yr Ysbryd Glan, a dechreuwyd gan a daeth mwy o'r anrhefn drefnusaf oedfa'r hwyr. Ni chlywais fod na P.1 ^,ecli gor na senate yn dwrdio fod yr Ysbryd ( torri tir newydd iddo ei hun. Bid j yl1 offrymwyd un weddi ar y cae oedd 1 n drymach na'r holl bregethau. Prin yr Y yfl i dybied fod effeitliiolrwydd ysbrydo oeM cyfrif am bob cynnwrf a welwyd. r di of yno ddosbarth cryf yn barod i welfj-ad^11 ol pob gair, ac o amenio mewn cysyn ^yf cyfeiliornus. Tueddai rhai o'r vyii i geisio taro tan o rywle, drwy a darn o bennill anghysylltiol i inevVIVjJ^y^ fenthyca darnau o bregethau prege j)0ii sydd yn fyw. Bargen go ddrud Y am funudau o hwyl arwynebol. & gennyf gredu fod y gwrandawyr j'j0gol distaw wedi cael mwy o fendith na'r cyfeillion trystfawr a thra mo Prin fu ein doniau i bregethu ar y CoIled erioed, ond maent yn llai heddyw. o anadferadwy sydd i ni ar ol y gwr 8obØ,f Y Landinam mae eto un yn aros yn e1 ioiciib De, ond ddaw hwnnw ddim ond p3;11. jjyf ei hun. Eto, dichon Duw o'r mein j^jj' godi pregethwyr i'r miloedd. olehgar fyth am y Sasiwn yn ei chyn& au a'i phregethau. I godi pregethwyr i'r miloedd. By olchgar fyth am y Sasiwn yn ei ch au a'i phregethau. I