Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

--0--PULPUDAU MANCHESTER.

. o Nodiodou Cerddorol.

News
Cite
Share

o Nodiodou Cerddorol. [GAN HU GADARN1. Offrymu Mawl. CWESTIWN a fynnych ymrithia o flaen y meddwl yw hwn Pa beth yw prif ddiben addoliad cyhoeddus ? Fel atebiad, dywed un: I offrymu gweddiau. Un arall a ddy- wed I dderbyn nerth ac hyfforddiant. Ereill Er mwyn y pregethau a cheir y dosbarth hwn yn lliosog iawn. Dyma'r dosbarth fydd yn gofyn "Pwy sydd gyda chwi heddyw ? As os bydd y pregethwr yn ieuanc a lied amhrofiadol, anfynnych y gwelir y personau hyn yn y moddion. Nis gall neb ddweyd nad yw offrymu gweddiau, darllen yr Ysgrythyrau, ynghydaphregethu'r efengyl, yn hanfodol bwysig eto nis gallwn weled paham y gwneir cymaint o bregethu, ac yr esgeulusir y rhan sydd yn llawer mwy hanfodol a phwysig o'r gwasanaeth, sef offrymu mawl i'r Goruchaf. Yn ddiau, dyma y rhan bwysicaf, a'r un sydd yn cael ei hesgeuluso fwyaf yn ein eglwysi. Pe teflid golwg ar hanes yr eglwysi o'r amser boreuaf, ceid fod y rhan hon yn cael lie a sylw neilltuol. Rhoddid sylw mawr i'r rhan hon o dan yr Hen Oruchwyliaeth. Eto ymhob oes yn yr Eglwysi Rhufeinig ac Eglwys Loegr, gwelir fod y ddiweddaf, trwy y Llyfr Gweddi Cyffredin, a gasglwyd gan rai o'r prif ddysgawdwyr-ac nid yw eu golygiadau i'w ddibrisio-yn rhoddi pwys neilltuol ar y rhan hon o'r gwasanaeth. Sylwer fel y mae y Canticlau a'r Salmau yn cael y lie blaenaf yn y casgliad, a'r safle anrhydeddus a roddir i ganu mawl yn yr addoliad. Gwyddom fod a fynno ein gweddi- au a'n llygredd a'n trueni ni ein hunain tra y mae a fynno mawl a daioni a thru- garowgrwydd Duw. Gweddi yw ein rhesym- ol wasanaeth fel meidrolion a phechaduriaid mawl ydyw ragorfraint ag y cydgyfranogwn ohoni a'r angelion. Fe baid ein gweddiau gyda'r bywyd presennol, ond fe roddir mawl yn dragywydd. 0 ganlyniad, os mesurwn amser gyda thragwyddoldeb, pethau daearol gyda phethau ysbrydol, llygredd gyda phurdeb, Duw gyda dyn, gwelir ar unwaith pa faint y rhagora mawl ar y weddi mewn urddas. Ar yr un pryd, ni fynnir i neb ddeall y gosodiad hwn fel yn ddiraddiad yn y mesur lleiaf ar y weddi, ond yn hytrach er dangos mai moliannu Duw ydyw yr offrwm uwchaf a mwyaf anrhydeddus, ymha un y gall unrhyw fod meidrol gymeryd rhan. Gan mai y prif amcan yw gogoneddu ac anrhyd- eddu ein Crewr, rhaid iddo fod uwchlaw popeth yn cynnwys yr ansoddau hynny a ychwanegant at ddifrifoldeb a pharch yr addoliad, a hyrwyddo ymroddiad llwyr y galon i addoliad y Duw byw. Oddiwrth hyn yr ydym yn tynnu allan gasgliadau o berthynas i nodwedd y gerdd- oriaeth a ddefnyddir fel cyfrwng i roddi mawl, i ba rai y rhoddwn sylw. Yr emyn- don yw yr arddull fwyaf syml a mwyaf cyf- addas ar gyfer y gynulleidfa, am y rheswm bod, yn gymharol fer o'i chymharu a r anthem, &c. Gwendid y don, er hyn, yw y rhoddir yr un pwys ar bob gair o'r emyn, fel y dioddefa y synnwyr, oherwydd diysgog- rwydd symudiad y don, a chydag anhawster y rhoddir bywyd gwirioneddol i'r mawl drwyddi. Er mai gorchwyl lied anodd ar bob amgylchiad yw cyfaddasu emynau ar gyfer tonau priodol iddynt. Er engraifft, cawn yr emyn Bydd myrdd o ryfeddodau," yn llawn o ffydd, hyder, gobaith, ac o'r elfen o lawenydd, eto ar donau yn y cywair lleiaf y cenir ef gyda ni y Cymry yn ddi- eithriad. Y mae gennym nifer fawr o emyn- au a ieuir yn gyffelyb. Nid oes reswm o gwbl i'w roddi, ond ei fod yn arferiad gyda ni o genhedlaeth i genhedlaeth. Meddylier am hyn, a cheir weled mai ychydig iawn o briodoldeb sydd iddo. Astudier yr emynau yn fwy trylwyr, a cheir gweled fod nodwedd rhai emynau yn wahanol i'r hyn yr ydym wedi arfer meddwl.

..C0LEG Y G0GLEDD,..I

---Senedd y Byd.

Advertising

I INodion o Fanceinion.

Advertising