Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

o EISTEDDFOD Y RHOS

News
Cite
Share

o EISTEDDFOD Y RHOS DDYDD Llun, Gorffennaf 1, y bu hon-y gyntaf er's 20 mlynedd. Bu'r pwyllgor llenyddol yn ddigon rhyfygus i drefnu Gor- sedd heb gennad Eifionydd na'r Archdder- ydd. Cafwyd Maen Llog i'r Heol Lydan," a phenodwyd Isfryn i gymeryd gofal yr holl weithrediadau, a gwnaeth ei waith cystal a'r Archdderwydd gwirioneddol. Offrym- wyd gweddi'r Orsedd gan y Parch. Charles Jones. Yr oedd Telynores Lleifiad gyda'r delyn yno, a Mr. W. O. Jones, Ffestiniog, yn canu ceinion ei wlad. Mr. W. Edwards yn adrodd dan gamp. Ficer Pritchard yn annerch yn fyr ond i bwrpas, a thrawiad pert oedd hwnnw wnaeth, Os oeddym ar yr Heol Lydan yn y bore, gobeithio y ceid ni oil ar y Ffordd Gul cyn y nos. Yr oedd pabell ddymunol yn y Pare wedi ei phrydferthu gan y Parch. Charles Jones a Mr. Joseph Roberts. Mr. H. Jones ac ereill wedi rhoddi gwasanaeth y blodau, &c, Aed o'r Orsedd tua'r Pare yn orymdaith drefnus, yr afr Gymreig yn blaenori, y Gwirfoddolwyr, dan ofal Capten J. C. Davies yn dilyn y seindorf, yr hon a wnaeth waith rhagorol yn ystod y dydd, y Cynghorau cyhoeddus, Cledd yr Orsedd, y Beirdd, a'r cyhoedd. Cafwyd gorymdaith ardderchog, er i'r gwlaw effeithio ychydig ar ei grym. Cafwyd tri chyfarfod yn ystod y dydd, a gellir dweyd fod y cynulliadau yn wir foddhaol,—eu trefn a'u hastudrwydd yn ganmoladwy, a'r cystadleuon yn yr holl adrannau o nodwedd uchel.. Cadeiriwyd Mr. Tom Owen, Hafodelwy, gyda rhwysg mawreddog. Nid anghofir adroddiad Cyffes Judas gan Miss Jones, Ysbyty, na datganiad Miss Jones, Llanarmon, o'r alaw Ceisiwch yr Arglwydd;" perfformiad Cor Cefnmawr o'r gydgan fawreddog, We never will bow down yn wir effeithiol ac yn wir amryw bethau ereill y buaswn yn hoffi manylu arnynt. Yr anffod fwyaf yn ystod y dydd ydoedd absenoldeb y llywyddion penodedig. Daeth A. Evans, Ysw., Bronwylfa, i'w gyhoeddiad, a gwnaeth ei waith er boddlonrwydd. Cafodd groesaw cynnes am ei annerch a'i rodd, yn gystal a'i addewid i noddi'r Eisteddfod yn y dyfodol. Mewn trybini gyda'i fodur y bu H, J. Williams, Ysw., Llunden, yn rhywle tua Bettws-y-coed. Methodd gyrraedd, er siomedigaeth i lawer. Mae'r pwyllgor yn wir ddyledus i'r boneddwr haelfrydig am ei gynorthwy sylweddol i'r Eisteddfod. Efe oedd yn rhoddi y gadair a'r wobr at wasan- aeth yr Eisteddfod. Yr oedd E. G. Hemm- merde, Ysw., A.S., yr rhy brysur tua St. Stephan. Gwyr pawb beth oedd y materion pwysig oedd gerbron y dydd Llun hwnnw, a da gan lawer weled y boneddwr mor ffydd- Ion i'w ddyledswyddau seneddol. Da oedd cael gwasanaeth Dr. J. C. Davies i gymeryd y gadair yn lie y ddau diweddaf. Cyr- haeddodd Mr. H. J. Williams yn fyw ac iach trwy'r holl lielyntion blin cyn diwedd y nos, a chafodd dderbyniad croesawgar. Gwnaeth y Parch. R. P. Williams, Hill St., arweinydd medrus. Llwyddodd i gario gweithrediadau'r dydd yn hwylus a dibrof- edigaeth. Mae ganddo ddigon o arabedd parod i foddhau cynulleidfa, a digon o fedr trefniadol i wylio y diwedd o'r dechreu. Mae clod yn ddyledus i'r gwahanol swydd- ogion. Haeddent y llwyddiant a gawsont ar ol llafur mor ddiflino. Bydd gan y pwyllgor dipyn wrth gefn i wynebu ar 'Steddfod y flwyddyn nesaf. Os yw i fod yn sefydliad blynyddol, ac i Iwyddo fel y mae wedi argoeli y tro hwn, rhaid ei chadw dan reolaeth pobl y gellir ymddiried ynddynt, rhaid cael gweithwyr oddifewn i'r pwyllgorau i hyrwyddo ei llwyddiant, ac nid rhai mewn banner cydymdeimlad a hi a rhaid cadw corgi enwadaeth yn dyn wrth gadwyn neu bydd wedi ei chyfarth i dir machlud haul yn fuan iawn. OFFA. Beirniadaeth Atvdl y Gadair—" Cyjlafan Bangor- is-y-coed." Tri sy'n ymgeisio am brif anrhydedd yr Eis- teddfod, a rhwydd waith yw penderfynu pa un o'r tri a'i piau. Deiniol Ap Dunawd—Hon yw'r awdl feraf a'r wannaf,nid oes ball ar ei beiau, maent ynjdolurio'r llygad ar bob tudalen. Ond rhaid chwilio'n ddyfal am ei rhagoriaethau gan mor anaml ydynt. Newyddian yw'r awdwr a bfrnu oddi wrth ei waith. Ni fedd gynllun goleu na medr i saernio ac am ei gystrawen a'i ramadeg, goreu po leiaf a ddywedir. Ni ddyry ragor na thraian ei awdl i ymdrin a'i destyn arweiniad ato yw'r hanner can llinell cyntaf, ac ymadawiad oddiwrtho yw'r can llinell olaf. Nid yn ami y darllennir awdl mor anghymesur allesg. Ninion Mae darllen hon yn flinder i'r cnawd; a bychan yw'r tal am yr aberth. Anaml yw ei phethau da, a phell oddi wrth eu gilydd fel ym- weliadau angylion. Ymwynfyda'r bardd mewn cynghaneddu'n afiaethus; a'i orchest bennaf yw tywyllu synnwyr, ac nid cloi synnwyr mewn clysineb." Dyma engraifft ohono ar ei oreu "Maluriwyd y deml orwech Hyd y llawr, heb adael Ilech; Gwyn addurn gogoneddis Roed dan draed yn dyrau us Distrywiwyd ystor awen, Seddau ac allorau lien Yr enaint teg arnynt oedd, A thus athrylith oesoedd." Ond ychydig o bethau tebyg sydd yn yr awdl. Afrwydd yw y rlian fwyaf ohoni, ac fel y mynydd teimladwy gynt yn llosgi gan dan/a thymestl, a lief geiriau. Mae'r disgrifiad o'r gyflafan yn rhy ddrylliog ac amhenodol, er fod y darlun o (wedd y maxw' yn bur gofiadwy. Cyrus o lal -Hon yw'r awdl oreu o ran ei saer- niaeth a'i mater. Hawdd madden ei man wallau a'i mympwyon mewn arddull, gan mor lawn ydyw o'r testyn ac o'i farddoniaeth. Cana yr awdwr yn gryf a dyfeisgar. Rhydd i ni ddarlun byw o'r hen Fynachlog, gyda'i bywyd glan a'i ffydd ddiffuant, ac edrydd hanes ei dyddiau blin gyda medr a deheurwydd bardd. Cedwir ni wyneb yn wyneb a'r gyflafan ar hyd y ffordd a disgriflr hi mor rymus nes peri i'w thrallod lifo i'n gwaed. Ceir yn yr awdl rym a hewyd, dychymyg byw, a nwyd gwladgar. Cyhoedder Cyrus o lal yn deilwng i'r Gadair, ac yn etifedd pob clod a braint a berthyn iddi.—Yr eiddoch, ar air a chydwybod, EIFION WYN.

[No title]

Nodion o'r De.

Yn Ynys Mon ac Arfon

.--0--Ffetan y Gol.

Advertising