Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Croeso'r Brenin a'r Frenhines.

News
Cite
Share

Croeso'r Brenin a'r Frenhines. EICH UCHELDERAU BRENHINOL, Gwerinwr i'r earn yw y BRYTHON, ond nid yn ddigon cul ac eithafol i beidio anfon gair o groeso i chwi ar eich ymwel- iad a Chymru Wen. A diau na fydd i chwithau gymeryd hyn o linellau i olygu fod cyfaredd eich cysgod, wrth fynd heibio o Lunden, wedi ei wirioni nes peri iddo wegian dim yn ei farn a'i egwyddor. Y mae o galon yn dymuno i chwi eich dau ymdaith ddifyr ddianhap drwy Ogledd a Dehau, a dychwelyd ohonoch adref gydag atgofion melus am Gymru a'i phobl. Y mae yn edrych arnoch chwi, fel ereill, mor bell ag yr a eich swydd, yn greaduriaid amgylchiadau, ac yn well na miloedd o werinwyr pe buasent wedi eu dwyn i fyny yn eich cylch er mai ei ddymuniad yw am i amgylchfyd gwa- hanol gael ei greu yn raddol fel ag i gyn- hyrchu ffurf arall ar lywodraeth y wlad. Nid oes i chwi ddeiliaid mwy ufudd a heddychol dan eich baner na'r Cymry, er cymaint o adsain trais y teyrniaid cynt sydd eto yn eu clyw. Bu eu saint yn gweddio'n bryderus dros y Brenin presennol pan oedd yn Dywysog Cymru, a'i fywyd yn chwareu yng nghlorian clefyd, rhwng bywyd a bedd ac wedi hynny, pan mewn argyfwng tebyg, ac y bu raid i'w ben orffwys ar obenydd cys- tudd pan yr oedd y Goron yn barod iddo. Ac nid purachna dyfnach llawenydd neb na'r eiddynt hwy pan dderbyniwyd y newydd bob tro fod y fantol wedi troi i ochr bywyd. Da gennym eich bod yn ymweled a Chymru i gefnogi dysg a daioni. Buoch yno o'r blaen, ar ymweliad ag Eistedd- fodau, ac ni welwyd neb mwy gwylaidd a serchog pan ym mhresenoldeb yr Arch- dderwydd yng Ngorsedd y Beirdd, na balchach o'i ruban a'i fendith ef Yr ydym yn credu fod ynoch reddf garedig a chydymdeimlad eang a'r truenusion yn y deyrnas. Ymddengys na pherthyn ichwi broffesu politiciaeth, ac yr ydych yn bur lwyddiannus i guddio eich tuedd bleidiol, os oes gennych un, at y naill blaid mwy na'r llall. Ond, er hynny, pe caech eich ffordd-ped ymffurfiai eich teimlad a'ch tuedd mewn proffes- braidd na chred y BRYTHON mai clamp o Ryddfrydwr a fyddech chwi. Gwyddoch y medr y Cymry ganu, a diau y cewch eu clywed ar eich hynt y tro hwn eto. Ond nid ar ganu yn unig y bydd byw y genedl. Mae ganddi gwyn- ion teg, a hen erbyn hyn, yn erbyn gormes tirol a clirefyddol, ac mae hi yn dyheu am ei gwrando yn effeithiol. Ac yn awr, wrth derfynu, cais y BRYTHON gennych chwi, 0, Frenin, wneud yr unig beth a gadarnha eich Gorsedd yn y wlad ac yng nghalon Cymru,-teflwch eich dylanwad yn erbyn y gwrthuni ysgymun a elwir yn Dy yr Arglwyddi Amen ac Amen.

Advertising

Llythyr Gwleidyddol