Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

DYDDIADUR.

:--... Cymraeg yn yr Y sgo…

News
Cite
Share

Cymraeg yn yr Y sgo lion Dyddiol. FB gofir i ysgrif ymddangos beth amser yn ol mewn ffurf 6 lythyr penagored at swyddog gweithgar un o gymdeithasau Cymru Fydd ein dinas, yn argymell arno yn gyntaf oil roddi arbenigrwydd ar ein hamcanion cenedl- aethol, gan gydweitliredu a'r blaid Ryddfryd- ol cyn belled ag y byddai hynny yn fantais i hyrwyddo y cyfryw. Achoswyd cyffro gan yr ysgrif ar y pryd, a cheisiwyd yn ofer ddod o hyd i'r awdwyr. Os yw popeth a sibrydir yn ein dyddiau ni yn wir, mae'r awdwyr, pwy bynnag oeddynt, yn gallu fforddio chwerthin yn galonnog, gan fod amser wedi cyfiawnhau y pethau ddywedwyd. Ar raglen y Cyngor Dinesig, y ddoe, yr oedd cynhygiad yn sefyll yn enw y Cynghor- wyr Henry Jones a J. Harrison Jones, yn awgrymu fod i Bwyllgor Addysg gyflwyno adroddiad o'r nifer o blant o rieni Cymraeg sydd yn ein dinas ydynt yn awyddus am gael dysgu Cymraeg yn ein hysgolion dyddiol, ac am y moddion goreu i ddwyn yreyfryw i weithrediad. T' Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'r ddau foneddwr anrhydeddus sydd wedi dwyn y mater i sylw. Nid oes gennym amheuaeth ychwaith na fydd i'r mater gael perffaith chwareu teg ym Mhwyllgor Addysg. Nid oes neb nad wyr fod y Cynghorwr J. Harrison Jones yn un o wyr grymusaf ein* dinas, a phe ceid ganddo i ymdaflu i waith y Cyngor yn fwy llwyr, ni cheid cymar iddo. A chydag ef y mae ein cydwladwr cynnes, yr Henadur Williams, yn llawn sel dros y cynhygiad. Dywedir fod ambell i Ryddfrydwr yn edrych gyda diysytrwch ar y peth, ac ambell Gymro hefyd yn dweyd mai ffolineb yw son am hawl i ddysgu Cymraeg i Gymry, er y dysgir Hebraeg i Iddewon yn ysgolion elfennol ein dinas, nad oes yn Lloegr gynnifer ohonynt ag sydd o Gymry yn Lerpwl. Dyma gyfle ardderchog i gymdeithasau Cymru Fydd ein dinas gyfiawnhau eu bod- olaeth drwy sefyll wrth gefn y tri chedyrn a enwyd, gan basio penderfyniad yn datgan yn groew na fynnwn ar ein Senedd Dinesig, boed ef yn Gymro neu yn Sais, neb os na wel ei ffordd i hyrwyddo yr amcan mewn golwg, a rhoddi cyfle i bob plentyn o Gymro gael addysgiaeth yn iaith ei fam. Anodd gennym gredu, er y sibrydion, fod cymaint ag un Dic-Sion-Dafydd ar y Cyngor. Os oes, pan ddaw'r adeg, ni phetruswn fyned i'w ranbarth, pe bae draw yn y Dehau bell, i rwystro iddo gael yr anrhydedd y mae yn awr yn ei feddu. Bydd gennym air ymhellach pan ddaw'r amser i hynny. r DIWEDDAR Mr, Wm. Jones, Elm House ERIOED ni fu chwithach gennym gofnodi marwolaeth neb nag eiddo'r hen gyfaill anwyl a chywir uchod. Byr fu ei gystudd olaf: ddydd Iau diweddaf y tarewsid ef yn wael gan y parlys, a graddol ymsuddo a wnaeth o hynny hyd fore dydd Saboth, pan yr ehedodd i'w gartref fry yn ei nawfed flwydd a phedwar ugain. Brodor ydoedd o'r IGreen, ger Dinbych, lie ei ganed yn 1818.^ Daeth i Lerpwl mor gynnar ag 1841 ac wele gopi o'i docyn aelodaeth eglwysig a gyflwynodd y pryd hwnnw i eglwys Pall Mall ANWYL FRODYR,-Hyn sydd i hysbysu fod y dygiedydd, Mr. William Jones, yn aelod o'n Cymdeithas ni, y Trefnyddion Calfinaidd, yn y Cwm, swydd Fflint. Gras a fyddo gyda chwi oil, Amen. Yr eiddoch dros yr eglwys, RICHARD NEWTON. "Awst 31, 1841." Ymhen rhai blynyddoedd arweiniwyd ef i Birkenhead, ac efe a fu'n un o'r rhai amlyeaf a ffyddlonaf gyda'r achos Methodistaidd yma o ddydd y pethau bychain, pan addolid yn yr hen garchardy tua Chester Street, ac yn ddifwlch drwy bob datblygiad ar yr achos o hynny hyd yn awr. Yn 1881 dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Parkfield; ac yn ol ei alluoedd a'i amgylch- iadau, gellirJYlweydJTyn bur ddibetrus nas llanwodd neb y swydd yn fwy cydwybodol, didramgwydd, na chyda mwy o urddas. Yr oedd wrth natur yn addfwyn a bonedd- igaidd, a gras at hynny wedi ei lyfnu a'i brydferthu nes ei wneud yn un o'r cymeriadau mwyaf sanctaidd a hawddgar. Ond er yn fwyn, nid oedd yn feddal—cashai weniaith, a thraethai ar bob achos yn wyneb-agored, ond gydag ysbryd oedd mor amddifad o fympwy a thrahauster nes adeiladu pawb heb bellhau neb. He was one of God's gentlemen, heb os nac onibae a chynheddfau ei feddwl, fel grasusau ei enaid, yn gyflawn a chryno. Ni feddai rhyw un gallu nac un rhinwedd i eithafoedd nes anwastatu'r gweddill, ond y cwbl ynddo yn gymesur, ac yn ymdoddi i'w gilydd nes ffurfio cymeriad hoffus, cadarn, a gogyhyd trwyddo. Efe ydoedd prif Ysgrythyrwr a diwinydd Parkfield er's llawer blwyddyn; ac er na chafodd ddiwrnod o ysgol yn ei oes, ymroes i goethi a diwyllio ei feddwl, a'i lanw a mer diwinyddiaeth. Adwaenai gam-flas mewn athrawiaeth, a synhwyrai gyfeiliornad o bell; ond ni surai ac ni ffromai wrth neb-ei ofal dros y gwir yn unig a barai iddo siarad a chynghori. Gwr gwerthfawr ydoedd mewn seiat a myn- ych y clywid ef yn llinynu adnodau yn eu gilydd mewn modd nas gallsai neb ond y diwinydd cyfarwydd a mynnych y diferodd sylw meddylgar tros ei fin a fuasai'n ymestyn yn awdl neu bryddest yng ngenau ambell un. Yr oedd wedi darllen llawer, end wedi myfyrio mwy. Dr. R. O. Morris, yr hwn a weinyddai arno yn ei gystudd, a ddywed i'w hen gyfaill ychydig funudau cyn croesi'r afon adrodd iddo bennill oedd bur hoff ganddo ar "Yr Ymgnawdoliad," gwaith hen brydydd o Lansantsior, ger Abergele. Y llyfrau oedd wrth ei benelin pan ei gymer- wyd yn glaf oedd y Beibl, Athroniaeth Trefn Iachawdwriaeth, Nodiadau ar yr lawn (Gynddelw),^Arweiniad i'r Efengylau (Dr. Parry), Bannau Hodge, &c., ac ymhob un o'r llyfrau ceid llu o bapurau yn ei law ei hun yn cynnwys cwestiynau dyddorol ar amryfal bynciau yr ymgodymai a hwy. A phan ofynnw d iddo, ar drothwy'r glyn, os oedd y pac yn barod, Ydyw," ebe'r hen dad, er yn hir." Y gair olaf a glywodd a'i glust o leisiau'r ddaear-a gair a barodd i'w lygaid ymloewi o'r newydd—ydoedd "Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air, canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth." Bu farw ei briod 21 mlwydd yn ol, ac ymneilltuasai oddiwrth orchwylion ei alwedigaeth er's blynyddau. Treuliodd brydnawnddydd ei oes faith ac uniawn gyda'i fab, Mr. Wm. Jones (ieu.) a'r teulu yn Ashville Road a mawr eu serch tuag ato a'u gofal ohono. Ac er yn oedrannus, ymlwybrodd i'r moddion Sul, gwyl, a gwaith haf a gaeaf, gyda chysondeb rhyfeddol a barai gywilydd i rai hanner ei oedran. Mawr ydoedd ei ofal am y claf a'r profedigaethus, y tlawd a'r helbulus, ac fe erys yr ymweliadau lliosog a dalodd, a'r geiriau siriol a serchog a draethodd ar achlysuron felly, yn berarogl Crist ar lawer aelwyd am flynyddau. Yr oedd yn wr anghyffredin ei gymhwysterau fel swyddog eglwys, a chlirder a chroewder ei syniadau, ac yn fwy anghyffredin fyth ar gyfrif uniondeb a phrydferthwch ei fywyd ac wrth edrych ar ei weddillion yn cael eu gollwng i'r gweryd oer yn Flaybrick Hill heddyw (ddydd Mercher) dywedem gydag Islwyn Lle'r aeth ei weddi, O Y gweddiwr aeth," sef i entrych nef y Nef. -0- Capel Newydd Oahfield Road. Dymunem gyfeirio sylw ein darllennwyr at y manylion llawn a welir mewn colofn arall am gyfarfodydd agoriadol addoldy hardd a helaeth y Wesleaid yn Oakfield Road. .— Troi'n ol i Jamaica. Nos Fercher ddiweddaf, cymerodd am- gylchiad dyddorol le ynglyn ag Ysgol Sul Earle Road, f pryd y gwahoddodd Mr. T. Arthur Lloyd, Falkner Square, ei ddosbarth a'r arolygwr i ginio yn y Bear's Paw. Un o amcanion y cyfarfyddiad oedd dymuno Duw'n rhwydd i Bob (Mr. R. G. Ellis) sydd yn dychwelyd yn fuan i Jamaica. Ymysg y llwnc destynau yr oedd y Parch. D. Adams a'r Eglwys," Mr. Ellis," iechyd yr hwn a gynhygid gan Mr. T. Arthur Lloyd mewn dull liapus a chyfaddas a'r Dos- barth," gydag enw'r arolygwr (Mr. Wm. Jones). Mr. Ernest Williams, wrth ateb ar ran y dosbarth, a ddiolchai i Mr. Lloyd am ei garedigrwydd gwastadol. Ysgrifennodd y Parch. D. Adams yn datgan ei ofid o'i anallu i fod ynl bresennol, oherwydd ei fod allan o'r dre. Treuliwyd noson hapus iawn. Yr oedd cerdyn bwyd-restr celfydd, gyda darlun neilltuol o gapel Earle Road, wedi ei baratoi i fod yn gof-arwydd o'r amgylchiad.

Advertising