Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
0 pp- Yr Inig Bapur Cymraeg a Argreffir yn Lerpwl. "<M
DYDDIADUR.
DYDDIADUR. Lerpwl a'r Cylch. Gor. 4-Darlith ar Hwfa M6n yn Yittoria Street. Gor 5-8, 13-15-Agor Capel newydd Oakfield Road Gor. 6-7-Cyfarfod Pregethu yn Vittoria Street Awst 3-6-Dathlu Seithcant Oed Lerpwl (Pageant) Medi 21-Eisteddfod New Brighton Hyd. 1516-Cyfarfodydd Blynyddol Cymanfa Ddir- westol Gwynedd ac Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru, yn Princes rd Hyd. 22-Te Parti a Chyngerdd Grove Street Hyd. 29-Cyf. Cystadleuol Unedig Fitzclarence St, Edge Lane, Douglas Rd., a Newsham Park Hyd. 30—T& a Chyngerdd Gt, Mersey Street Tach. 5-8,-Nodachfa Cymru Fydd Anfield ac Everton yn St. George's Hall. Tach. 16—Cyngerdd y Welsh Choral yn y Philhar- monic Hall Rhag. 7 a 8-Cyfarfod Pregethu Chatham Street. Rhag. 8-Cyfarfod Pregethu Bedyddwyr Edge Lane Rhag. 15-Elfed y.i Gt. Mersey St. Rhag. 21-Plant y Pentre yn y Central Hall. Rhagfyr 25-Cyngerdd Blynyddol Crosshall Street Rhagfyr 26—Eisteddfod y Temlwyr Da. Rhag. 28-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall Chwef., 1908-Bazaar Eglwys Anibynol Martin's Lane, Liscaid. Maw. 28-Cyngerdd y Welsh Choral yn y Phil- harmonic Hall Manceinion. Gor, 4-Cyfarfod sefydlu gweinidog yn Altringham Medi 14 a 15-Cyntanfa Bregethu Booth Street. Medi 20 a 21-Cynhadledd y Bobl Ieuainc. Hyd. 12-Cym. Ganu Methodisti iid yn Moss Side, Cymru. Awst 5—Eisteddfod Corwen. Awst 5-Eisteddfod Newmarket Miss Eliza Evans, Un o Foneddigesau Lerpwl yn Undeb yr Ambynwyr Cymreig. Cymerodd y foneddiges uchod ran amlwg yng nghyfarfod blynyddol Undeb yr Anibyn- wyr Cymreig yng Nghastellnedd yr wythnos ddiweddaf, trwy ddarllen papur godidog, ar gais y pwyllgor, ar Waith cenhadol merched ymysg merched a gwragedd y gwledydd paganaidd." Yr oedd yr adeilad yn orlawn. Derbyniodd y papur gymerad- wyaeth uchel a chyffredinol, a thynnodd ddagrau o gannoedd o lygaid. Dyddorol ydyw cofio fod yr Hybarch Ddr. Owen Evans ymysg yr ychydig oedd a llaw yng nghychwyniad yr Undeb agos i ddeugain mlynedd yn ol. Cymerodd un foneddiges arall, sef priod y Parch. J. Hope Evans, Maerdy, ran yng ngweithrediadau yr Undeb trwy draddodi araith effeithiol yn y Cyfarfod Dirwestol. Dyma y tro cyntaf yn hanes yr Undeb i ferched ymddangos ar ei lwyfan.
:--... Cymraeg yn yr Y sgo…
Cymraeg yn yr Y sgo lion Dyddiol. FB gofir i ysgrif ymddangos beth amser yn ol mewn ffurf 6 lythyr penagored at swyddog gweithgar un o gymdeithasau Cymru Fydd ein dinas, yn argymell arno yn gyntaf oil roddi arbenigrwydd ar ein hamcanion cenedl- aethol, gan gydweitliredu a'r blaid Ryddfryd- ol cyn belled ag y byddai hynny yn fantais i hyrwyddo y cyfryw. Achoswyd cyffro gan yr ysgrif ar y pryd, a cheisiwyd yn ofer ddod o hyd i'r awdwyr. Os yw popeth a sibrydir yn ein dyddiau ni yn wir, mae'r awdwyr, pwy bynnag oeddynt, yn gallu fforddio chwerthin yn galonnog, gan fod amser wedi cyfiawnhau y pethau ddywedwyd. Ar raglen y Cyngor Dinesig, y ddoe, yr oedd cynhygiad yn sefyll yn enw y Cynghor- wyr Henry Jones a J. Harrison Jones, yn awgrymu fod i Bwyllgor Addysg gyflwyno adroddiad o'r nifer o blant o rieni Cymraeg sydd yn ein dinas ydynt yn awyddus am gael dysgu Cymraeg yn ein hysgolion dyddiol, ac am y moddion goreu i ddwyn yreyfryw i weithrediad. T' Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'r ddau foneddwr anrhydeddus sydd wedi dwyn y mater i sylw. Nid oes gennym amheuaeth ychwaith na fydd i'r mater gael perffaith chwareu teg ym Mhwyllgor Addysg. Nid oes neb nad wyr fod y Cynghorwr J. Harrison Jones yn un o wyr grymusaf ein* dinas, a phe ceid ganddo i ymdaflu i waith y Cyngor yn fwy llwyr, ni cheid cymar iddo. A chydag ef y mae ein cydwladwr cynnes, yr Henadur Williams, yn llawn sel dros y cynhygiad. Dywedir fod ambell i Ryddfrydwr yn edrych gyda diysytrwch ar y peth, ac ambell Gymro hefyd yn dweyd mai ffolineb yw son am hawl i ddysgu Cymraeg i Gymry, er y dysgir Hebraeg i Iddewon yn ysgolion elfennol ein dinas, nad oes yn Lloegr gynnifer ohonynt ag sydd o Gymry yn Lerpwl. Dyma gyfle ardderchog i gymdeithasau Cymru Fydd ein dinas gyfiawnhau eu bod- olaeth drwy sefyll wrth gefn y tri chedyrn a enwyd, gan basio penderfyniad yn datgan yn groew na fynnwn ar ein Senedd Dinesig, boed ef yn Gymro neu yn Sais, neb os na wel ei ffordd i hyrwyddo yr amcan mewn golwg, a rhoddi cyfle i bob plentyn o Gymro gael addysgiaeth yn iaith ei fam. Anodd gennym gredu, er y sibrydion, fod cymaint ag un Dic-Sion-Dafydd ar y Cyngor. Os oes, pan ddaw'r adeg, ni phetruswn fyned i'w ranbarth, pe bae draw yn y Dehau bell, i rwystro iddo gael yr anrhydedd y mae yn awr yn ei feddu. Bydd gennym air ymhellach pan ddaw'r amser i hynny. r DIWEDDAR Mr, Wm. Jones, Elm House ERIOED ni fu chwithach gennym gofnodi marwolaeth neb nag eiddo'r hen gyfaill anwyl a chywir uchod. Byr fu ei gystudd olaf: ddydd Iau diweddaf y tarewsid ef yn wael gan y parlys, a graddol ymsuddo a wnaeth o hynny hyd fore dydd Saboth, pan yr ehedodd i'w gartref fry yn ei nawfed flwydd a phedwar ugain. Brodor ydoedd o'r IGreen, ger Dinbych, lie ei ganed yn 1818.^ Daeth i Lerpwl mor gynnar ag 1841 ac wele gopi o'i docyn aelodaeth eglwysig a gyflwynodd y pryd hwnnw i eglwys Pall Mall ANWYL FRODYR,-Hyn sydd i hysbysu fod y dygiedydd, Mr. William Jones, yn aelod o'n Cymdeithas ni, y Trefnyddion Calfinaidd, yn y Cwm, swydd Fflint. Gras a fyddo gyda chwi oil, Amen. Yr eiddoch dros yr eglwys, RICHARD NEWTON. "Awst 31, 1841." Ymhen rhai blynyddoedd arweiniwyd ef i Birkenhead, ac efe a fu'n un o'r rhai amlyeaf a ffyddlonaf gyda'r achos Methodistaidd yma o ddydd y pethau bychain, pan addolid yn yr hen garchardy tua Chester Street, ac yn ddifwlch drwy bob datblygiad ar yr achos o hynny hyd yn awr. Yn 1881 dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Parkfield; ac yn ol ei alluoedd a'i amgylch- iadau, gellirJYlweydJTyn bur ddibetrus nas llanwodd neb y swydd yn fwy cydwybodol, didramgwydd, na chyda mwy o urddas. Yr oedd wrth natur yn addfwyn a bonedd- igaidd, a gras at hynny wedi ei lyfnu a'i brydferthu nes ei wneud yn un o'r cymeriadau mwyaf sanctaidd a hawddgar. Ond er yn fwyn, nid oedd yn feddal—cashai weniaith, a thraethai ar bob achos yn wyneb-agored, ond gydag ysbryd oedd mor amddifad o fympwy a thrahauster nes adeiladu pawb heb bellhau neb. He was one of God's gentlemen, heb os nac onibae a chynheddfau ei feddwl, fel grasusau ei enaid, yn gyflawn a chryno. Ni feddai rhyw un gallu nac un rhinwedd i eithafoedd nes anwastatu'r gweddill, ond y cwbl ynddo yn gymesur, ac yn ymdoddi i'w gilydd nes ffurfio cymeriad hoffus, cadarn, a gogyhyd trwyddo. Efe ydoedd prif Ysgrythyrwr a diwinydd Parkfield er's llawer blwyddyn; ac er na chafodd ddiwrnod o ysgol yn ei oes, ymroes i goethi a diwyllio ei feddwl, a'i lanw a mer diwinyddiaeth. Adwaenai gam-flas mewn athrawiaeth, a synhwyrai gyfeiliornad o bell; ond ni surai ac ni ffromai wrth neb-ei ofal dros y gwir yn unig a barai iddo siarad a chynghori. Gwr gwerthfawr ydoedd mewn seiat a myn- ych y clywid ef yn llinynu adnodau yn eu gilydd mewn modd nas gallsai neb ond y diwinydd cyfarwydd a mynnych y diferodd sylw meddylgar tros ei fin a fuasai'n ymestyn yn awdl neu bryddest yng ngenau ambell un. Yr oedd wedi darllen llawer, end wedi myfyrio mwy. Dr. R. O. Morris, yr hwn a weinyddai arno yn ei gystudd, a ddywed i'w hen gyfaill ychydig funudau cyn croesi'r afon adrodd iddo bennill oedd bur hoff ganddo ar "Yr Ymgnawdoliad," gwaith hen brydydd o Lansantsior, ger Abergele. Y llyfrau oedd wrth ei benelin pan ei gymer- wyd yn glaf oedd y Beibl, Athroniaeth Trefn Iachawdwriaeth, Nodiadau ar yr lawn (Gynddelw),^Arweiniad i'r Efengylau (Dr. Parry), Bannau Hodge, &c., ac ymhob un o'r llyfrau ceid llu o bapurau yn ei law ei hun yn cynnwys cwestiynau dyddorol ar amryfal bynciau yr ymgodymai a hwy. A phan ofynnw d iddo, ar drothwy'r glyn, os oedd y pac yn barod, Ydyw," ebe'r hen dad, er yn hir." Y gair olaf a glywodd a'i glust o leisiau'r ddaear-a gair a barodd i'w lygaid ymloewi o'r newydd—ydoedd "Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air, canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth." Bu farw ei briod 21 mlwydd yn ol, ac ymneilltuasai oddiwrth orchwylion ei alwedigaeth er's blynyddau. Treuliodd brydnawnddydd ei oes faith ac uniawn gyda'i fab, Mr. Wm. Jones (ieu.) a'r teulu yn Ashville Road a mawr eu serch tuag ato a'u gofal ohono. Ac er yn oedrannus, ymlwybrodd i'r moddion Sul, gwyl, a gwaith haf a gaeaf, gyda chysondeb rhyfeddol a barai gywilydd i rai hanner ei oedran. Mawr ydoedd ei ofal am y claf a'r profedigaethus, y tlawd a'r helbulus, ac fe erys yr ymweliadau lliosog a dalodd, a'r geiriau siriol a serchog a draethodd ar achlysuron felly, yn berarogl Crist ar lawer aelwyd am flynyddau. Yr oedd yn wr anghyffredin ei gymhwysterau fel swyddog eglwys, a chlirder a chroewder ei syniadau, ac yn fwy anghyffredin fyth ar gyfrif uniondeb a phrydferthwch ei fywyd ac wrth edrych ar ei weddillion yn cael eu gollwng i'r gweryd oer yn Flaybrick Hill heddyw (ddydd Mercher) dywedem gydag Islwyn Lle'r aeth ei weddi, O Y gweddiwr aeth," sef i entrych nef y Nef. -0- Capel Newydd Oahfield Road. Dymunem gyfeirio sylw ein darllennwyr at y manylion llawn a welir mewn colofn arall am gyfarfodydd agoriadol addoldy hardd a helaeth y Wesleaid yn Oakfield Road. .— Troi'n ol i Jamaica. Nos Fercher ddiweddaf, cymerodd am- gylchiad dyddorol le ynglyn ag Ysgol Sul Earle Road, f pryd y gwahoddodd Mr. T. Arthur Lloyd, Falkner Square, ei ddosbarth a'r arolygwr i ginio yn y Bear's Paw. Un o amcanion y cyfarfyddiad oedd dymuno Duw'n rhwydd i Bob (Mr. R. G. Ellis) sydd yn dychwelyd yn fuan i Jamaica. Ymysg y llwnc destynau yr oedd y Parch. D. Adams a'r Eglwys," Mr. Ellis," iechyd yr hwn a gynhygid gan Mr. T. Arthur Lloyd mewn dull liapus a chyfaddas a'r Dos- barth," gydag enw'r arolygwr (Mr. Wm. Jones). Mr. Ernest Williams, wrth ateb ar ran y dosbarth, a ddiolchai i Mr. Lloyd am ei garedigrwydd gwastadol. Ysgrifennodd y Parch. D. Adams yn datgan ei ofid o'i anallu i fod ynl bresennol, oherwydd ei fod allan o'r dre. Treuliwyd noson hapus iawn. Yr oedd cerdyn bwyd-restr celfydd, gyda darlun neilltuol o gapel Earle Road, wedi ei baratoi i fod yn gof-arwydd o'r amgylchiad.
Advertising
Beibl Gymdeithos Gymreig LIVERPOOL. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas, yn HOPL HALL, LIVER POOL. Nos Fercher, Hyd. 2il, 1907. MANYLION ETO. Eisteddfod Gadeiriol N ewmar&et, -GWYL Y BANC,- AWST 5ed, 1907. Beirniad Cerddorol E. D. LLOYD, Ysw., R.A.M. Arweinydd: HUWCO PENMAEN. Yr holl Gyfansoddiadau ac enwau yr Ymgeiswyr i fod yn Haw yr Ysgrifenydd ar neu cyn Gorffennaf 12fed, 1907. ED. HUGHES-JONES, Ysg., Llan Cottage, Newmarket, Rhuddlan, R.S.O. Liverpool&North Wales Regular Daily Sailings (Sundays included). From Prince's Landing Stage (weather and cir- cumstances permitting), Every day by La Marguerite (Fridays, St. Tudno "). 10-45 a.m., for Llandudno, Beaumaris, Bangor and Menai Bridge, allowing 4 hours ashore at Llandudno, and due back about 7-30 p.m. 2-30 p.m. Fridays, Saturdays and Mondays. Early boat on following Monday, due Liverpool 10-15 a.m. Returning at 2-30 p.m. Anglesey Trips 9-15 a m., Tuesdays, 16th and 30th. Holyhead Trip, Mondays and Wednesdays, at 9-15 a.m., calling at Llandudno (6 hours ashore), due back 8 p.m. ROYAL VISIT TO BANGOR. 9-0 a.m. Tuesday, 9th, special Excursion by St. Tudno to Llandudno and Bangor in connection with the Royal Visit. Allowing long stay ashore. Through Bookings from Principal Stations. For Fares, &c., apply to the Liverpool and North Wales Steamship Company, Ltd., T. G. Brew, Secretary, 40 Chapel Street, Liverpool. Tel. 6366. Official Guide, post free 3d. Channel Cruises. FARE 6d. Two Hours' Channel Cruise. The Favourite Saloon Steamer PATHFINDER or other Steamers, specially fitted lip for Passengers, having every convenience on board, leaving the Prince's Landing-stage [weather and other circum- stances permitting] Week days 3.15 p ill, prompt; Sunday 1115 a.m. [short trip], arriving back about 12.45,3.30, 4.30, 6.30. and 7.30 p.m, ANGLESEY.—Near Llangefni. SALE OF FREEHOLD FARM. MESSRS. E. H. OWEN & SON will IV JL Sell by Public Auction, at the Town Hall, Llangefni, on THURSDAY, July 18th, 1907,at 2-30 prompt, the Desirable Freehold Farm GLAN'RAFON," Tregaian, on the border of Llanbedrgoch Parish. Area about 18 acres, with new House and capital Outbuildings, &c. Further particulars of Messrs. Ellis W. Davies and Evan Jones, Solicitors, or the Auctioneers—all of Carnarvon. COMFORTABLY FURNISHED Country C; Cottage TO LET in Anglesey. Large Dining Room, Kitchen, Pantry, Four Beds, lovely scenery, bracing. Convenient for Shops, Post, Station, Church and Chapels. Terms moderate.—Apply 25X Brython. WANTED-Mother's Help, age 30 to 40, W able to speak Welsh. State refer- ences and wages.Apply 23 Brython Office. T LANRHAIADR-YN-MOCHNANT.—To Let, from September 1st, Modern Farm House. Furnished, containing large Dining Room, Kitchen, Four Bedrooms, Bathroom, W.C., &c. Croquet Lawn. Beautifully situated, Distance 1 mile from Station. Within easy dis- tance to Lake Vyrnwy Waterworks and Llanfyllin For terms, apply to J. W. JONES 17 Hallville rd., Liverpool Telephone-2270. Richard Owen, PRACTICAL TAILOR and COSTUME MAKER 152 Dale St., LIVERPOOL. CAPEL NEWYDD WESLEYAIDD, i OAKFIELD ROAD. —————————— 1- Cynhelir Gyfarfodydd Agoriadol Y Capel uchod GORFFENAF 5, 6, 7, 8, 13,14 a'r 15, 1907. TREFN Y CYFARFODYDD: NOS WENER, Gorffenaf 5ed, am 7-30, Parch. Robert Lewis (Arolygwr y Gyichdaitb) NOS SADWRN, Gorffenaf 6ed, am 7, Parch. O Madoc Roberf5 SABOTH, Gorffenaf 7fed, am 10-30 Parch. Edward Humphreys (Cadeiryddy DaJaetbl. j SABOTH, Gorffenaf 7fed, am 2-30, Parch. O. Madoc Robert. SABOTH, Gorffenaf 7fed, am 6, Parchn. O. Madoc Roberts a E. HumphreYS NOS LUN, Gorffenaf 8fed, am 7-30, Parch. O. Madoc Robert5 j NOS SADWRN, Gorffenaf 13eg, am 7, D. Tecwyn Evans, SABOTH, Gorftenaf 14eg, am 10-30 (Gwasanaeth Seisnig), Parch. A. H. Walker, S.A. SABOTH, Gorffenaf 14eg, am 2-30, | Parch, D. Tecwyn Ev | SABOTH, Gorffenaf 14eg, am 0, Parch. D. Tecwyn Ev&n NOS LUN, Gorffenaf 15fed, am 7-30, Parch. D. Tecwyn Ev3n Rhoddir gwahoddiad Cynnes i bawb, a gwnet Casgliadau tuag at y Capel Newydd yn yr oil ot Cyfarfodydd. Neuadd y Twr, New Brighton* CYNHELIR Y SEITHFED EISTEDDFOD GERDDOROL FLYNYDDOL, Ddydd Sadwrn, Medi 21, 1901. Beirniaid Cerddorol :— HENRY COWAPD,Ysw.,Mus-Doc. (Oxon.), DAN PRICE, Ysw.(Ll«n<J a HARRI EVANS, Ysw. CORAU CYMY^tr (a) Awake the Harp (" Creation," Haydn): (b) "Moonlight ( eifl' Fanning). Gwobr laf, £ 35 aHer-Darian Arian, gwerth 35 gini, aThlws Auri r ydd 2il, £10 a Thlws Arian i'r Arweinydd; 3ydd, £5 a Thlws Arian i'r Arwel rfÝ CORAU MEIRION (a) "Where is He?" ("Engcdi," Beethoven); (b)" Myfanwy" .(a j't Evans). Gwobr laf, £ 25 a Thlws Aur i'r Arweinydd 2il, £10 a Thlws AT Arweinydd 3ydd, £ 5 a Thlws Arian i'r Arweinydd. CORAU PLANT (a) "Wake, Wake, Wake!" (O- A. Veazie) (b) Y Deryn Pur' \^> Emlyn Evans). Gwobr 1 af, £ 5 5s. a Thws Aur i'r Arweinydd, a Thlws Arian Aelod o'r Cor Buddugol; 2il, £ 3 3s. a Thlws Arian i'r Arweinydd. u, PEDWARAWDAU (S.A.T.B. ac A.T.T.B.). Gwobr, £ 4 4s. TRTAWD (S.T.B-) f £ 3 13s. 6c. DEUAWD (S. a T.). Gwobr £ 3 3s. UNAWDAU, Gwobr, Thlws Arian. UNAWD I FECHGYN. Gwobr, £ 1 Is. a Thlws Arian. ADRODDIADAU i Feibion a Merched. Gwobrau, £ 1 Is. a Thlysau Arian. Rhaglen gyflawn i'w chael ond anfon stamp i'r Ysgrifennydd- LLEW WYNNE. 1 Hamilton Square, Birhenbea Eisteddfod Goronog T emlwyr Do Liverpoo, yn y ndV) New Central Hall, Renshaw St., Rhagfyr 26,1907 (Boxmfif Prif Destynau. (f\obt' TESTYN Y GORON, PRYDDEST, "Ac felly yr hwyr a fu, a'r boreu a fu y dydd cyntaf. £ 2 2s.,aChoron Arian werth £ 4 4s. ndir^eS PRIF DRAITHAWD, Gwasanaeth y diweddar Barch. John Thomas ( Y Lladmerycld) 1 "U1 JS, TRAITHAWD I FERCHED,' Syniadau diweddaraf y Meddygon ar Alcohol a'i effeithiau pnTLi rvQTAm FIT AETH GORAWL, COR CYMYSG, (a) "Oh, Gladsome Light ( gs> POP ATT PT AMT Rhvfel Kywyd" (J• Mov(j(wi)» Gwobr? h3 3s. a Thlws Aur. WYTHAWD ILksi/uS Gwobr, » CELF. Sp3iiW6™tolmEngf7n, (Joawdau,'Deuawd, Adroddiad, Cyiieithiad, &»•> s°' BEIRNIAID Barddoniaeth, Parch. D. ADARIS, B.A. (Haiven), a TREVOR. ^.0fdA» Rhyddiaeth, Parch. GRIFFITH ELLIS, II.A., Mrs. JOHN DAVIES, a Cerddoriaeth, Mr. TOM PRICE. Rhestr gyflawn o'r Testynau, &c., i'w chael trwy anfon stœmp lc. i'r Ysgrifennydd, Boo1J¡' R. VAUGHAN JONES, 76 RoAD, Cymdeithas Cymru Fydd Anfield ac Eve^ nodachfaTgymrB^ yn ST. GEORGE'S HALL, LERPWL, Tachwedd 5ed, 6ed, 7fed, ar 8fed, MANYLION I DDILYN. x Amcan Dileu y ddyled ar yr adeilad newydd, 102 Printed and Published for the Proprietors, EVANS, SONS! & FOU^ Chambers, 8 Paradise Street, Liverpool, Tel. 1112 Central, by Hu I 358a Stanley Road, Liverpool, in the County of Lancaster. Jk