Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NOD AC ESBONIAD.

Llyfr Du Caerfyrddin. --

it-AM.

8air i Salmau Can Edmwnd Prys,…

" y y ^eUad Brenhinol a Gogledd…

---GlannauV Mersey

News
Cite
Share

GlannauV Mersey Sefydlu y Parch. W. Roberts yn Trinity Road. NTos Sadwrn ddiweddaf, cynhaliwyd cyf- arfod yn eglwys Anibynol Trinity Road i sefydlu y Parch. W. Roberts, Golborne, yn weinidog yno. Cymerwyd y gadair gan Mr. Josiah Thomas, yr hwn a sylwodd mai afbgylchiad dyddorol iawn oedd hwn--priodas yn cymeryd lie. 'Roedd y priodfab yn un o blant y Tabernacl, a'r briodferch yn wyres i'r Tabernacl--digon o warant am eu cymer- iad. Cawsai ef gyngor pan yn priodi, Bear and forbear," a rhoddai yr un cyngor i eglwys Trinity Road ac i'r gweinidog newydd. Credai fod gwawr yn torri ar yr eglwys, os byddai i'r holl eglwys ystyried eu cyfrifoldeb, rhoddi eu hysgwyddau dan yr arch, a helpu Mr. Roberts ymhob modd. Mr. Edward Evans, Golborne, a sylwai mai teimlad o brudd-der oedd yn ei feddiannu ef yn y cyfarfod. Yr oedd llawenhau yn Trinity Road wrth dderbyn Mr. Roberts, ond yr oedd galar yn Golborne. Credai nad oedd neb yno na theimlai ei fod yn colli cyfaill, a chyfaill cywir. Collent weinidog da, ond bydded i Trinity Road gofio nad oedd heb ei ddiffygion. Yr oedd yn un tyner iawn, ond peidiwch pwyso gormod ar ei dynerweh, neu fe dry yn llew. Mr. Edward Edwards, diacon hynaf Trinity Road, a obeithiai y byddai i'r eglwys gydweithredu a Mr. Roberts os cydweith- rediad, llwyddiant heb gydweithrediad, aflwyddiant. Adnabyddai Mr. Roberts er's llawer o flynyddoedd, a chredai am dano mai dyn unplyg gonest, diweniaith, ydoedd. Y Parch. W. Thomas, Bootle, hen weinidog yr eglwys, a ddywedai fod llu o atgofion yn dod i'w feddwl. Meddyliai am Mr. Roberts fel dyn gonest, llawn o gydymdeimlad, o ddifrifoldeb, ac o wroldeb. Nid oedd wedi cael manteision addysg mawrion, ond yn ol a welai ef, cymeriad sy'n talu. Yr oedd yr eglwys wedi bod yn ffodus yn ei dewisiad, a chredai y byddai yr uniad yn llwyddiant. Mr. Hall, Golborne, un o hen gyfeillion Mr. Roberts, wrth siarad yn Saesneg, a gyf- lwynai gapel Golborne iddynt fel tystiolaeth i Mr. Roberts. Llawenhai fod yn eu mysg, fel y gwnai bob amser pan gyda'r Cymry. Yr oedd ar Mr. Roberts angen eu gweddiau, a hynny yn wastadol. Dymunai fendith Duw ar yr uniad. Mr. W. Jones, Wigan.—Yr oedd yn per- thyn i Mr. Roberts un o anhebgorion gweini- dog-yr oedd yn iach yn y ffydd. Yr oedd yr hyn wnaeth yn Golborne, sef casglu £ 200 ei hunan at ddyled y capel, yn ddigon o dystiolaeth. Yr oedd yn un olr dynion mwyaf straightforward, diragfarn, a diragrith, a gyfarfuasai erioed. Parch. J. L. Williams, M.A., B.Sc., Great Mersey Street.—Da gennyf ddod yma i gynrychioli eglwys Great Mersey [Street y llywydd yn cynrychioli y nain, a minnau yn cynrychioli y fam. Mae amgylchiadau eglwys Trinity Road yn galw am wr eithriadol. Y mae gan y Saeson air a ddefnyddiant ambell dro-" Godsend." Credai fod Mr. Roberts yn ddiau yn Godsend i Trinity Road. Dywedai wrth yr eglwys a Mr. Roberts, Trust in God, and keep you." powder dry." Yna galwodd y cadeirydd ar yr Hybarch Ddr. Pan Jones, Mostyn, i annerch, yr hwn a sylwodd :—Rhagluniaeth ddaeth a fi yma. Bum yn meddwl ar y ffordd p'run ai cyd- lawenhau a Mr. Roberts neu ynte a'r eglwys yn Trinity Road, ddylaswn ond penderfynais ddod i gydlawenhau a'r ddau. Yr oedd ar Mr. Roberts angen ffydd fawr, anferth, i weithio, ac hefyd ffyddlondeb mawr ar ran yr eglwys. Y Parch. J. O. Williams (Pedrog) 'a goff- haodd am hen frawd o bregethwr pan ai i bob lie yr oedd capel Anibynol yno, a ddy- wedai, 'Rwyf yn eu cofio yn dechreu achos yn y fan yma," a dywedai hynny mor ami nes i Hwfa M6n sylwi un tro, Pan yr ewch i'r nefoedd, y peth cyntaf ddywedwch fydd, 'Rwy'n eu cofio yn dechreu achos yn y fan yma Ond yr oedd ef yn cofio dechreu Trinity Road. Bu yma amryw o frodyr o dro i dro, ond ni ddarfu iddynt losgi allan yma, na llosgi'r ganhw-yllbren. Mae gennyf fi test go dda ar Mr. Roberts. Unrhyw fach- gen sydd yn garedig wrth ei fam, mae yn sefyll yn uchel yn fy meddwl. Ac felly y mae Mr. Roberts wedi bod, a'i fam mewn hir waeledd. Mae ganddo ddawn i gasglu arian, a chredwn, pe buasai modd cael ato, y cawsai arian gan y dyn yn y lleuad. Y gweinidog newydd a ddywedai iddo fod mewn penbleth pan gafodd yr alwad, ac na fuasai wedi ei derbyn onibai ei bod ynunirya- ol. Derbyniodd hi, ar yr oedd wedi dod 1 wneud ei oreu, fel yr oedd wedi gwneud yn y corffennol. Rhaid i chwi beidio disgwyl gormod, peidio disgwyl perffeithrwydd, o oblegid chewch chwi mohono. Fy uchelgais yw bod yn gymeradwy ganddo Ef," a chredaf, os caf hyn, y byddaf yn gymeradwy gennych chwithau. Nid wyf yn disgwyl tywydd braf o hyd, ond yr wyf am gymaint o dywydd braf ag y gallaf yn bosibl eu cael. Nid yw y ddyled yma yn fy nigaloni ( £ 1,500) -yn hytrach y maent yn luxury gennyf. Yna gwnaeth y Cadeirydd sylwadau miniog am yr eglwysi mawr cyfoethog, cysurus, blonegog, oedd yn byw mewn anwybodaeth o'r eglwysi bychain, gweiniaid. Caed sylwadau pellach hefyd gan y Parchn. J. Hawen Rees, Marsh Lane, a T. Price Davies, a diweddwyd trwy weddi gan y Parch. J. O. Williams. Waterloo. Dydd Sadwm diweddaf bu aelodau Ysgo Sabothol y lie uchod am eu pleserdaith flynyddol. Y lie a ddewiswyd eleni ydoedd Churchtown, ac mewn lie mor ddymunol a thywydd mor ffafriol mwynhaodd pawb eu hunain yn rhagorol, yn enwedig y plant ond nis gallent lai na gwneud tra y gofelid am danynt gan Mr. W. J. Matthews, J. W. Davies, a M. J. Parry. Y mae y tri hyn yn fedrus gyda'r gwaith o. beri i blant, a phawb ereill o ran hynny, fwynhau eu hunain yn y modd goreu. Mae gwedd lewyrchus ar yr ysgol hon ar hyn o bryd. Parha i gynhyddu mewn rhif o flwyddyn i flwyddyn, ac y mae ei dylanwad yn allu cryf er daioni yn y cylch. Testynau Eisteddfod Llangollen. RHESTB GYFLAWN Y TESTYNAU YN AWR YN BAROD, AC I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWY'R POST 7 ie., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDFA'R "BRYTHON." Gwibaith Farddol. DYDD Sadwrn, y 15fed cyf., cynhaliodd Ysgol y Beirdd a gyferfydd yn ystafell Cymru Fydd Belmont Road eu gwibdaith gyntaf. I bentref tawel Eastham y bu'r hynt, a phennod ddyddorol yn hanes y dosbarth ydoedd. Daeth y dosbarth ynghyd yn lied gryno ynghyda'r athro Trefor a gos- gordd o feirdd y cylch, Gwilym Mathafarn, Tanadog, Ceinydd, ac ereill. Cychwynwyd yn brydlon am dri o'r gloch yn swn cyfaredd hudol y cynghaneddion Cymreig. Wedi cyrraedd y lanfa draw, aed ar bererindod i'r pentref, ac ar ol mwynhau golygfeydd natur, a gwrando ar gerddoriaeth ei phlant, cyfeiriasant eu camrau i'r gwesty gerllaw, lie yr oedd gwledd wedi ei darpar ar eu cyfer. Ar ol gwneud chwareu teg a'r dant- eithion, cyhoeddwyd deddf gan Gwilym Mathafarn, fod englyn neu emyn yn amod i ysmygu, a doniol o beth oedd gweled y beirdd mewn gwewyr yn ceisio rhoddi ufudd-dod i ddeddf Mathafarn. Bu distawrwydd mawr am ysbaid, ond torrwyd arno gan Llanerchfab yn y llinellau canlynol Mae Gwilym Mathafarn yn dweyd fod rhaid cael Rhyw englyn neu gan cyn ysmygu 'Rwyf finnau yn tystio fod hynny'n dro gwael Gorfodi y beirddion i ganu Ni fagwyd un bardd ar y treadmill erioed- Gwaith ofer yn wir ei bastynu, Mil gwell ydyw myned am dro trwy y coed A hudo yr awen i ganu." Dilynwyd ef ag englynion gan Meirionfab, Tanadog, Gwilym Mathafarn, ac amryw ereill, ac yn eu plith y rhai canlynol gan Ceinydd a Threfor EPISTOL I DRIP EASTHAM. Teithiwr hyf mewn b6t a thram Yn ymestyn am Eastham, Nid spwrial, ond students parod A mintai rydd o Belmont Road I dawelwch dihalog A phentre glan lie can cog Prysurder pobloedd Lerpwl Gyda hwy sydd wegi dwl. I addas awenyddion Moethau haf yw cwm a thon 0 dre i lu fynd ar lam- Dyma le gosteg Eastham, Rydd i feirdd eu heuraidd fant I ganu i ogoniant Natur, a threfn hynotaf Ei hawen i'r hwyrnawn haf. Ni ofelir am fulod-loopio'r loop A rhyw lol 'rol dyfod Na, mae greddf yr Eisteddfod Yn y bardd distadla'n bod. Ei ddull ef yw rhoddi 11am I westy tawel Eastham Ni char gwpan yr anoeth, Mwynha dS a chwmni doeth Onid difyr fu dyfod I antur iach Belmont Road.—CEINYDD. Gwyl y Bardd," y gwlaw a baid,-yr heul- Siriola bob enaid [wen Yn ein nwyf ein hanian naid I'n holl agwedd a'n llygaid. Yma 'rym am awyr iach-a seibiant 0 sybwb twrf masnach, I gyfrannog gyfrinach Huda'r beirdd yr adar bach. Hyglyw daw'r chwibanoglydd-yn unfryd A'i fronfraith garenydd I greu gwen a llawenydd Ym mhrif wyl y Cymru Fydd. Daw Eastham i gyd-dystio-na fu gwyl Fwy ei gwerth i'r Cymro Hwyl gwerin yn blaguro Iraidd frig yn feirdd y fro.-TREFOR. Treuliwyd y gweddill o'r prydnawn mewn canu ac areithio, a therfynwyd un o'r cyfar- fodydd doniolaf a gafwyd erioed trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau o dan arweiniad Alaw Lleyn. Y mae rhagolygon y dosbarth yn ddisglaer, a disgwylir ychwanegiad yn rhif y disgyblion y tymor nesaf, oherwydd hwn yw yr unig ddosbarth o'r natur yma a gynhelir yn y cyleh.-A.C. NODIAD.—Yn dilyn wele englyn a gawsom ar ein bwrdd, ac heb destyn iddo. Feallai mai y peth goreu fig ef yw ei ddodi yma i ystyriaeth y frawdoliaeth fu yn Eastham, ac y gallant hwy ei ddeall Mwyn osteg gaem yn Eastham—ac yno Ni fu caniad gwyrgam Beirdd doniol, a bwrdd dinam,— Beauty'r oil fu bwyta'r ham. -0- Everton Brow. Cefais y fraint o dreulio bore dydd Sul diweddaf yng nghapel Saesneg Everton Brow, lie y llafuria ein cydwladwr ieuanc, y Parch. D. W. Morgan, B.A., gyda llwyddiant a chymeradwyaeth ei gorlan. Hoffem y gwas- anaeth yn fawr. Yn un peth, yr oedd yno ganu da a chelfydd, heb fod yn oer gosodid ei le i ddarllen yr Ysgrythyr, ac fe'i darllen- wyd ddwywaith mewn modd deallus a natur- iol, a oleuai lawer ar yr adnodau, ac nid gyda'r gwrnad a glywir mor fynnych a rhoddid i'r gwasanaeth dechreuol ei le yn deilwng, ac nid ei gythru trwodd fel pe bae ar ffordd y bregeth megis. Yn un ochr y capel, eisteddai y boys' brigade, yn 40 neu 50 o rifedi a phregeth neilltuol iddynt hwy a gaed heddyw'r bore-pregeth hynod addas i'r amcan ar Cadw dy galon yn dra di- esgeulus, canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod." Y mae'n weddol hawdd pregethu'n gyffredinol i unrhyw a phob dosbarth gyda'u gilydd, ond yn llawer anhaws, mi goeliaf, bregethu'n y fath fodd ag i gael clust a chalon bechgyn o oedran a dosbarth y rhai a anerchid heddyw ond fe wnaed hynny i bwrpas, a da ydoedd gennyf weled y bugail ieuanc yn crynhoi ei nerth i'r ffurf neilltuol hwn o genhadaeth, ac nid yn gadael y dalent o drin plant a ieuenctyd i'r Eglwys- wyr a'r Pabyddion. Gwnaed defnydd hapus iawn ar y bregeth ugain munud o hen fabinog Roegaidd y Syrens, ac nid yr hawg yr anghofir ei gwers gan y bechgyn, mi wranta. Huwco Penmaen. Y mae Mr. Hugh Edwards (Huwco Pen- maen), y bardd a'r lienor adnabyddus o'r Rhyl, yn dioddef gan anhwyldeb ar ei lygaid; a heddyw (ddydd Mercher) elai tan oporation gan ein cydwladwr medrus ac enwog, Dr. Richard Williams. Yn 67 Berkley Street yr erys Mr. Edwards a dymuna ei liaws cydnabod yn y ddinas hon adferiad buan i'r Huwco diddan, caredig.

Y Methodistiaid Calfinaidd.

Advertising

Family Notices

Advertising