Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Cysgodau y ] Blynyddoedd Gynt.

Jarrow.

Allan o Waith.

Gwyr y Rheilffyrdd eto.

News
Cite
Share

Gwyr y Rheilffyrdd eto. Cynhaliodd y rhai'n gynhadledd yr wyth- nos ddiweddaf, er penderfynu ar gyfeiriad eu cam nesaf. Tra yr oedd yn dda gennyf weled fod pwyll yn nodweddu yr ymdra- fodaeth, nid wyf yn credu fod angen i Mr. Richard Bell brotestio bob eyfle gai nad oedd dim streic i fod. Mae agwedd felly yn debyg fel pe baech chwi yn dweyd wrth rywun, 44 'Rydw i yn benderfynol o dy guro di, ond 'does gen i mo'r bwriad lleiaf o dy daro di!" Prif ddiben y dynion a'u swydd- ogion yn yr argyfwng hwn, meddant, ydyw cael gan lywodraethwyr a chyfarfyddwyr y gwahanol gwmniau gydnabod hawl cyn- rychiolwyr yr undebau i gario yr ymdrafod- aeth ymlaen ar ran y gweithwyr, ac y mae y cwmnxau hyd yma yn gwrthod yn bendant. A ydyw cais yr undebau yn un teg ? Wel, dibynna yn gyfangwbl ar pa gyfartaledd o'r dynion sydd yn aelodau o'r undebau. Os oes mwyafrif rhesymol o'r dynion i mewn, mae'r cais yn un teg, ac fe ddylid ar bob cyfrif ei ganiatau. Ond os mai rhyw un- ran-o-dair sydd yn aelodau, mae'n anodd gweld fod tegwch a chyfiawnder yn gofyn am i'r meistri ei gydnabod. Os oes ar weithwyr y rheilffyrdd eisieu cael cyfnewidiad yn nhelerau eu cyflogiad, y peth cyntaf a ddylent wneud yw ymuno a'r undeb. Dyna y ffordd sicraf i arbed streic. Mi wn fod mwyafrif fy narllennwyr wedi sylwi mai peth anghyffredin iawn yw streic yn y crefftau a'r gweithfeydd lie y mae'r gweithwyr yn well organized. Pan, gyferfydd y ddwy blaid mewn cynhadledd i ystyried y pwnc mewn dadl, a phob un yn gwybod fod cyn- rychiolwyr y dynion yn siarad dros, yr oil o'u haelodau, ac fod cynrychiolwyr y meistri yn cynrychioli yr holl feistri, y mae'r ddwy ochr yn teimlo eu cyfrifoldeb, ac fe gaiff amynedd ei pherffaith waith, ac fel rheol deuir i delerau. Ond pan na bo ond rhyw gyfran o'r gweithwyr mewn undeb, cryn berygl iddynt gael eu hud-ddenu gan ben- boethni a 8wa8hbuckling speeches rhyw ychyd- ig i wneud gofynion nad oes yr un rhithyn o debygrwydd iddynt gael eu caniatau, ac fe fydd y meistri o'r tu arall yn gwybod fod mwy o swn nag o sylwedd yn y trybestod, a'r canlyniad fydd eu bod yn fwy gwargaled ac afresymol. Wedyn,—streic ac wedi bod allan am ryw yehydig,-collapse, gan adael y gweithwyr lle'r oeddynt, gyda drwg- deimlad y cymer flynyddoedd i'w ddileu. Na, y mae tymor teyrnasiad y streic bron ar ben, ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn. Mae gweithwyr y deyrnas hon-a theymasoedd ereill hefyd, o ran hynny- yn dechreu gweled mai ffordd effeithiolach a rhatach yw streicio drwy ballot box.

Ty'r Arglwyddi.I

Undeb yr Anibynwyr a Llafur.

Advertising