Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Cysgodau y ] Blynyddoedd Gynt.

Jarrow.

Allan o Waith.

News
Cite
Share

Allan o Waith. Fe glywir ar bob llaw, yn enwedig ar lwyfannau ac yn y wasg Ryddfrydol, fod ein trade ni fel teyrnas wedi cyrraedd swm anamgyffredadwy bron, a'i fod yn dal i gynhyddu. Ar yr un pryd, yn ol yr ystadeg- au swyddogol a gyhoeddir yn y Labour' Gazette amlMehefin, yr oedd ym mis Mai 21,000 o aelodau yr Undebau Llafur yrodd y ffigyrau i mewn allan o waith. Fe sylwch mai dim ond aelodau yr Undebau gymerodd y drafferth i'w gyrru i'r golygydd, ddywedais i. Fe ellir ychwanegu atynt aelodau yr Undebau hynny nad ydynt yn talu out-of-work benefit. Fe wnelant hwy o leiaf 21,000 arall. A beth ellir ddychmygu am y dorf fawr sydd y tu allan i bob undeb ? Beth am danynt hwy ? Credaf, a chymeryd yr oil gyda'u gilydd, a gwneud yr amcangyfrif isaf sydd yn bosibl, fod o leiaf gan mil o weithwyr y deyrnas allan o waith Beth sydd gan ein gwleidyddwyr a'n gwladweinwyr (if any) i ddweyd yn wyneb peth fel hyn. Yr achos fod y rhan fwyaf ohonynt allan o waith ydyw eu meddwdod a'u hoferedd," medd y dir- westwr. Nage, frawd yr achos eu bod allan o waith ydyw nad oes dim gwaith iddynt. Y mae gan y ddiod gryn lawer i'w wneud a pJiwy fydd allan o waith, ond nid a pha faint."

Gwyr y Rheilffyrdd eto.

Ty'r Arglwyddi.I

Undeb yr Anibynwyr a Llafur.

Advertising