Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Cysgodau y ] Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y ] Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XV.-CROESA W ADREF. SYNNWYD ardal dawel Tre Einion^a'i ham- gylchoedd pan ddaeth y newydd fod 'aeres ieuanc y Plasllwyd wedi ei phriodi yn uchel- diroedd yr Alban i'r gwr bonheddig achubwyd o'r llong a gollwyd yn y dymestl fawr ym mau Porth Einion. Fel arfer, Sara Ty'r Capel oedd y gyntaf i daenu'r newydd o gwmpas, a chyn i Mrs. Pugh, housekeeper y Plasllwyd, gael yn brin ddarllen llythyr ei meistres drwyddo, yr oedd Sara yn cludo'r newydd o dy i dy yn Nhre Einion. Tybiai y siopwyr fod y Sgweiar Gwyn wedi ymddwyn yn anheilwng iawn tuag atynt hwy, un ac oil. Buasai priodas yr aeres gyfoethog yn hen eglwys y dref yn sicr o roddi cryn lawer o arian ym mhocedi siopwyr Tre Einion, er i'r wisg briodas fod wedi ei gwneud yn Llun- den ac oblegid hynny cydunent bob un i synnu at y fath drefn ryfedd o briodi yr eneth mewn gwlad estronol. Mi fasa pob dyn yn meddwl mai^lle'r gwr ifanc oedd dwad i'r Plasllwyd i'r eneth fyned i'w phriodi i'r Llan yn weddus o'i chartref ei hun. Chlywes i yn y nydd am beth fel hyn o'r blaen, a mi wn i be ydi be yn well na'r rhan fwya," ebe gwraig yr Inn. Gan fod gwr a gwraig yr Inn wedi bod yn y gorffennol yn fwtler a lady's maid yn nheulu un o fawrion y sir, tybient hwy eu bod yn deall i berffeithrwydd holl reolau moesgarwch,ac ymddygiadau gweddus ymysg boneddigion. Cytunai pawb a syniadau gwraig yr Inn, onid oeddynt oil wedi colli eu rhan o'r ysbail ddylasai fod yn eiddo iddynt pe buasai priodas rwysgfawr,ynghyda'r miri a'r rhialtwch anwahanol gysylltiedig a'r fath seremoni, wedi ei threfnu yn y man y dylasai fod ? "Ma'n burion gin i fod rhywun |wedi torri cwnffon i gi, wirionedd i; siawns na cheith yr ardal yma ryw stori bellach, yn lie trin am danom ni yn yr Hendre yma o hyd," ebe Catrin Meurig, tra yn prysur baratoi cinio. Wel, mam," atebai leuan, ei mab, yr hwn oedd newydd ddyfod adref o'r farchnad, "arnoch chi 'roedd y bai yn tynnu Siani druan yma. Mae'r bobl, trwy drugaredd, yn dechreu cael dipyn o ollyngdod oddiwrth ofergoeledd. Y tro nesaf y bydd y llaeth yna yn gwrthod corddi yn iawn, rhaid i chi fynd o gwmpas yr helynt yn dipyn doethach, a mi neith y wers yma les i chi. Ond, Ieuan bach, pwy fasa'n meddwl y gneutha'r hen jad gin y forwyn daflu lwmp o sebon i'r fudda ?" Yn hytrach, mam, pwy fyth allai ddis- gwyl i wraig barchus fel chi, sy'n arfer myn- ychu moddion gras yn wastad, gredu fod a wnelai hen greadures fel Siani druan ddim &'ch llaeth chi ?" Fydd yma dipyn o groeso i'r teulu ifanc, Ieuan," ebe Catrin Meurig. 0, bydd. Mae yma ryw son am gael tê i blant ysgol llofft yr Hall yna, ac mae yna bitsh a choed gryn dipyn i fod, i neud bonffeiar. Dyna oedd y dynion yn ddeyd yn y farchnad oedd yr ordars oedd Mrs. Pugh wedi gael yn llythyr Mr. Gwyn." Yn Llys Gwenllian, ysgydwai Lewis Pennant ei ben yn lied ddifrifol. Derbyniasai yntau lythyr oddiwrth y Sgweiar, yn erfyn ei faddeuant am iddo golli ei dymer fore ei ymadawiad pan yn y Llys, ac hefyd yn gofyn i Lewis Pennant arwain ychydig ar y gym- dogaeth, fel y byddai y croeso roddid i'w ferch a'i phriod yn deilwng o foneddwr oedd yn ddisgynnydd1 o Robert Bruce, brenin ardderchog Ysgotland. Mae arnai'i ofn yn fy nghalon, Margaret, fod yma ryw ddichell wedi 'i harfer o gwmpas y briodas yma. Pam mae'r Sgweiar mewn helynt mor fawr ynghylch Sidi Wood a'i thylwyth ? Yn y llythyr yma eto y mae yn gobeithio eu bod hwy wedi codi 'u pabelli, a mynd o'r ardal yma. 'Does bosibl, debyg iddo fod wedi gadael i'r boneddwr yna briodi Alys heb wybod dim yn ei chylch ? Bydd yn andwyol i'w cysur am byth os felly y mae." 44 Mae'n ddigon tebyg mai dyna wnaeth Rhydderch Gwyn er hynny, Lewis. Mae'r groes yn un bur drom iddo na wnaiff un drws yn y sir yma agor i dderbyn Mrs. Gwyn nac Alys, neu fel y geilw ei thad hi, mi welaf- Mrs. Gwyn-Munro. Nis gwyr undyn pa gynlluniau ddyfeisiodd y Sgweiar i geisio agor y drysau cauedig yma, ac nid wyf yn sicr iawn y llwydda, chwaith ond mae digonedd o arian yn help mawr i wastadhau ami i gamwri. Rhaid i mi ddweyd na feddaf fi fawr o gydymdeimlad a neb ond a'r eneth a'i phriod os yw yn y tywyllwch. Buom lawer gwaith yn gofidio dros yr hen ledi, ond mae hi yn ddigon tawel erbyn hyn." Mae'r bobol yma yn mynnu deyd ei bod hi yn troi cryn lawer o gwmpas Mar- garet fach." 41 Ie, ond mi wyddom ni well pethau, Lewis. Na, tir angof yw'r bedd. Sut mae Job yn cleyd ?—' Ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd, ni ddihunant ac ni ddeffroant o'u owsg.5 Dyna fel y mae pethau, onide, Lewis ?" Ie, Margaret, ie ond yn wir fedra i yn y myw ddim peidio gwneud esgusion dros y bobol ofergoelus ymachwaith, druain. Mae'r byd yma yn rhyw anodd iawn ei esbonio. Mae bron yn amhosibl i ni gyda'n golwg byr ddeall paham y medd yr anuwiolion y fath raff rydd i wneud y drwg a fynnant. A mi fydda i'n meddwl mai'r methu cysoni gwirioneddau sydd yn peri y fath ofergoel- edd yn ein mysg. Pan geir ychydig oleuni, a thipyn gwell trefn ar fyd, fe gawn, mi obeithiaf, wared a chryn lawer o'r sothach sydd o'n deutu." Yn wir, Lewis, y ffordd i gael trefn ar y byd fyddai cael gafael ar ddynion glewion dros y gwir, yna byddem mewn gobaith. Dyn rhyfedd iawn yw ein marchog, beth bynnag, a goreu po leiaf o rai tebyg iddo gawn. Beth wnewch chwi, Lewis ?" Dim, ar hyn o bryd, Margaret fach, nes y byddaf wedi anfon gair ato i ofyn am ychydig ragor o wybodaeth nag a geir yn ei lythyr." Cyn i Margaret Pennant gael dweyd gair yn rhagor, wele'r forwyn yn agor y drws, ac yn dweyd fod Mrs. Gwyn o'r Ty Gwyn yno, a'r foneddiges yn cerdded tuag atynt. 44 Wel, dyma newydd rhyfedd, gyfeillion. onidS ?" ebe hi. Gwelodd fy mrawd-yng- nghyfraith yn dda anfon llythyr i mi i egluro y sefyllfa, ebe ef. Ond yn wir, Lewis Pen- nant, mae'r dull y mathra Rhydderch Gwyn bawb a phopeth o dan ei draed yn rhywbeth y tu hwnt i ddim a welodd neb erioed. Heddyw, mae'n ddigon gwyneb galed i ofyn i mi beidio gwneud dim i beryglu y croeso adref mae'n ddisgwyl gael i'w ferch a Capten Gwyn-Munro. Ymddengys mai dyna yw enwau'r par ieuanc i fod yn y dyfodol." Yna ychwanegodd yn ddifrifol,— Tybed, Lewis Pennant, fod y dyn yna yn credu yn y Bod o Dduw, ac mewn byd arall ? Nis gwn i sut y gall fyw y fath fywyd os ydyw yn wir." Mi fydd yn peri i mi feddwl am eiriau'r gwr doeth yn ami iawn, Mrs. Gwyn. Mae yna alluoedd y tu hwnt i'r cyffredin yn eiddo i Rhydderch Gwyn, end mae ei nwydau wedi ei wneud yn gaethwas iddynt hwy, ac yn wir dyna yw gwreiddyn yr holl helynt. Dyn yn methu llywodraethu ei nwydau, ac yn gwneud bywyd allai fod yn ddefnyddiol i bawb o'i ddeutu yn boen a gofid i'r rhai sydd yn myned yn aberth iddo. Feallai, Mrs. Gwyn, pwy wyr, fod rhyw ddiben da yn alltudiaeth Derfel Gwyn o'r Plasllwyd. Mae rhywbeth yn y mhricio i fod yna well siawns gwneud dyn o'ch mab, Mrs. Gwyn, ym mwngloddiau aur California nag ym Mhlasllwyd, er yr holl gyfoeth." Gobeithio fod, Lewis Pennant, gobeithio fod. Ydyw y sipsiwn wedi symud o Feudy'r Foel ? Mae y Sgweiar yn holi." Na, rhyw hwylio tipyn y mae Sidi. Ond beth mae'r creaduriaid yn boeni ar y Sgweiar ? Mae yn holi am danynt yn fy llythyr innau. Ai tybed, Mrs. Gwyn, fod y boneddwr ieuanc yn y tywyllwch ?" Gellwch fod yn bur siwr, Lewis Pennant, na oleua fy mrawd-yng-nghyfraith ddim ar undyn nes y bydd raid iddo. Druan o'r eneth yna, rwy'n ofni y gorfydd iddi hi ddioddef llawer. 4 Y mweled anwiredd y tadau ar y plant,' dyna'r ddeddf, onide. 'Does ryfedd yn y byd i ni ofni'r ddeddf. Ond mae'n dda gen i gredu fod Un wedi profi ei Hunan mawr yn gryfach na'r ddeddf." Gwraig dduwiol uniongred iawn, fel pobl ei hoes hi, oedd Mrs. Gwyn. Pe gwybuasant hwy oddeutu Tre Einion nad oedd yr holl siarad am y croeso ond gwastraffar amser, diau na fuasent mewn cymaint penbleth. Ond ni wyddai'r hen ardalwyr ddim am yr helynt oedd wedi gorddiwes y par ieuanc ddyddiau cyntaf eu priodas. (I barhau).

Jarrow.

Allan o Waith.

Gwyr y Rheilffyrdd eto.

Ty'r Arglwyddi.I

Undeb yr Anibynwyr a Llafur.

Advertising