Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

) I I IIHIIIIIIIIHMIMW • ami…

Llenyddol. ---

News
Cite
Share

Llenyddol. Athbonxaeth Pbthau Cyffredin; Ysgrif- au syml ar Wres, Goleuni a Swn gan Gwilym Owen,B.A. ,M.Sc. Cwmni'r Cyhoeddwyr Cym- reig, Caernarfon.—Daeth y llyfr bychan destlus hwn i'm llaw y dydd o'r blaen, ac y mae arnaf flys dweyd ychydig o eiriau arno. Ysgrifau byrion ydyw y llyfr, y rhai a ymddangosasant gyntaf yn y cyhoeddiad gwerthfawr hwnnw, Yr Ymwelydd Misol, a chynhwysant esboniad byr, eglur a chryno ar bethau cyffredin" mewn cysylltiad a gwres, goleuni, a swn. Mae yr awdwr yn athro mewn Athroniaeth Naturiol ym Mhrif- ysgol Lerpwl, ac y mae y llyfr wedi ei gyflwyno trwy ganiatad i Syr Oliver Lodge. Fe ddeallir, gan hynny, fod yr awdwr, er nad ydyw ond cymharol ieuanc, yn gwybod am beth y mae yn ysgrifennu. Nid cyfieithiad ydyw, ond cyfansoddiad gwreiddiol gan un sydd yn deall ei bwnc ac wedi ei ysgrifennu mewn Cymraeg da. Mae yn ddyddorol dros ben anodd ydyw ei roi o law nes myned trwyddo ar un darllenniad. Heblaw hynny, y mae yn llawn addysg, ac yn rhwym o ddeffro y meddwl ieuanc i sylwi ar a cheisio deall y paham a'r pa fodd am bethau cyffredin o'i gwmpas. Mor fyw yr wyf yn cofio am y pleser a dderbyniais dros drigain mlynedd yn ol, yn darllen Philosophy in Sport made Science in Earnest." Prynned y Cymro ieuanc y llyfr hwn-nid yw ei bris ond chwe cheiniog-ac fe synna gynnifer o bethau o'i gwmpas sydd yn destynau dyddorol i'w hastudio, ac yn debyg o agor byd o ryfedd- odau o'i flaen. Gweled afal yn syrthio a arweiniodd Newton i ddeall deddf fawr disgyrchiant, ac ysgydwad lamp mewn eglwys a agorodd i Galileo ddirgelion y pendulum ac yr wyf yn mawr hyderu y megir athronwyr mewn gwyddoniaeth trwy ddechreu gyda'r llyfryn hwn. Hyderwn nad ydyw hwn ond y cyntaf o gyfres o lyfrau ar wyddoniaeth a ddaw o law Mr. Owen.— Elkazar ROBERTS. Y DDIOD, gan HALL CAINE; gyda Rhag- arweiniad gan Mr. Wm. George, Criccieth. Caernarfon Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.). 6ch.-Os mai drwy'r nofel y mae'n dysgu'r oes hon allan o'i ffolinebau a'u phech- odau, 'does yr un o'i haml bechodau yn teilyngu cryfach nofel na'i Meddwdod. Da ydoedd gweled gwr o allu ac enw Hall Caine yn cymeryd ar y gorchwyl; a da ydoedd y gwaith o'i chyfieithu i Gymraeg a'i chyhoeddi mewn ffurf mor radlon. Y mae'r chwedl yn un swynol ynddi ei hun, ac yn ddatguddiad ar yr erchylldra a'r dioddefaint a achlysurir gan y syched angerddol am y diodydd meddwol. Ac eithrio ambell Seis- nigwch yma ac acw, y mae'r cyfieithiad yn un da a naturiol, a dylai'r dirwestwyr wasgar y gyfrol fechan wrth y miloedd. Y Genhinjest.—'Does yng Ngenhinen Gor- ffennaf yr un ysgrif fflam, a'i hamcan i yrru'r wlad yn goelcerth, a'i phobl yn ben-ben a goreu po leiaf a geir o'r rhywogaeth hwnnw. Y flaen-ysgrif yw eiddo'r Canon Williams, B.A., Tyddewi, ar Ddatgysylltiad a Dad- waddoliad" ac ar ol dweyd pethau go bigog ei hun drwy'r ysgrif, dibenna gyda'r anogaeth dduwiol YMAITH, gan hynny, a'r dadleuon, y dygyfor, a'r cythrwfl-ymaith a'r eiddigedd, y meddyliau culion, a'r mesurau prinion ag sydd wedi bod fel llenni ar lygaid llawer yn eu hatal rhag canfod y gwirionedd a bydded i ni gydnabod ein gilydd mewn cariad, ac felly roddi mewn gweithrediad wir a phrif egwyddor crefydd Mab Duw, ac iawn ysbryd pob cymdeithas lewyrchus." Diolch i'r Parch. H. Cernyw Williams am ei lith ar Genhadaeth Morgan Llwyd o Wynedd;" ac i Gwylfa am y eiddo yntau ar "Penniaenmawr." Yn ol ei ysgrif, Eglwyswr ydyw Gwyneddig," yr hwn a ysgrifenna ar Cri y Bobl yn erbyn yr Eglwys," a dwg i'r wyneb y cyferbyniad sydd rhwng traul ac ysblander palasau'r esgobion ac urddasolion y Sefydliad Gwladol a symledd cyntefig yr Eglwys Gristnogol. Y mae ganddo ergyd hefyd i'r Ymneilltuwyr hynny a geir yn sychedu am y social status, ac yn prysur syrthio i'r un bai ag y cwymp- odd caredigion yr Eglwys o'u blaen. Y mae'r rhifyn yn un da, a does dim arwydd gwywo ar y Genhinen werdd. £100 yr un a gafodd y diweddar Mr. W. E: Gladstone am ei erthyglau "Craig Ddisigl yr Ysgrythyrau," a ysgrifennodd yn ateb i ymosodiad Huxley, yr amheuwr, ac awdwr y gair agnostic. Hyfryd meddwl y ceir y Beibl ei hun am 10c. -0--

LLANGOLLEN.

Advertising