Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
) I I IIHIIIIIIIIHMIMW • ami…
I IIHIIIIIIIIHMIMW • ami • ——1—1 9 mmmmmmm N -.u A-bg I IIHIIIIIIIIHMIMW • ami • ——1—1 9 mmmmmmm 1^0 BIG Y G'LOMEN. j 8- r. Diafl y Corau, fOd Wethaf diafl, diafl y corau. Oherwydd yn„ or Llanelli wedi ei ddewis i gael canu hym^y(ld y Brenin a'r Frenhines ar eu Cora. e agoshaol a Chaerdydd, y mae I)an _enwog ereill yn fflam. Beth am gor ebe'r i|^es' Merthyr ? ebe un. A Rhondda ? I& Pel v Meredydd." N0fej yr englynodd Daniel Owen y un tro i Meredydd, cymeriad ^SNgh 8 Wyddgrug, a'r dyn butraf Budreddog, blewog, hyll, ac—anchwaeth- A chethin ei gyflwr jus M ddydd a ddaw ar faw e fydd meredydd yn ymerawdwr." Y Neb mwy na'u gilydd. gy(jra ,^°Kt yr lancwys ydyw fod pawb yn yr y Talaethau [a than ddylanwad at ia r08t hwn fe droes Barnwr yn y tren yrnf,lrlc 0 lafurwr Cymreig, oedd newydd gyrnx -Hen Wlad, ac ebai, "Wel, fe cy^ 1 lawer o amser i ti yn yr Hen Wlad ^s^edd mewn cerbydres yn ochr fe gv Gwnai," ebe'r Cymro, ac rai ^awer 0 amser i tithau fyned yn ochp,/ yn yr Hen Wlad,"—-a dvna ddwy 1 y pvmc. *b tJ Cedyrn Caernarfon. Mr, v/dyrn Caernarfon sy'n fyw ydyw flaenoj, am Griffith, Stryt Llyn, a fu'n '^°riali am Aynyddau lawer yng nghapel Y triH ^r hwn sydd bellach yn 85 oed. gyhoeriH- T. Morris, Y.H., newydd ei lUn Pamffledyn destlus, yn cynnwys ceir e- a 1 banes ac wrth nyddu'r hanes, (^e{ aS aml i wr dyddorol arall o'r hen %ffirei '°' honno, fydd yn dref drwyadl &m ganrifoedd ar ol i Fangor ym- *b ^edodri y Fusiliers. Ho 1 G'lomen heibio i barracks y v SWel Welsh Fusiliers y dydd o'r blaen, te^iy ^Wc^1 Gafr y Gatrawd enwog. fr bvc} ^retdiinol sy'n diwallvi'r gatrawd la.e¡¡eJchod hyn ac yn wir y rnae ei farf a Phai'chnsed yr olwg a'r eiddo af e* da! ^wisga'r bwch dalaith arian ^esnpC6ri r*\wng ei gyrn, ac ysgrif Gymreig tllajor ^„arni. Wrlh gerdded gyda'r drum aHau aen y gatrawd gyda'i dalaith, ei falci' a 1 ^°dau, edrychai'r creadur barfog er'°ed, °'i swydd a'r un blaenor weles Witton Davies, a-Bn»/ Hughes (myfyriwr Coleg emn?r).° Athrofa'r Brifysgol, Bangor, Nfyn ei B.A. gyda first-class honours JS liefvH g. ym Mhrifys8o1 Cymru. ft Sail cael ysgoloriaeth Osborne S^dd' J1 hyn a'i galluoga i dreulio dwy ef|)itairijU yr Almaen i efrydu'r ieithoedd iathro Mab ydyw 1 Mr- C- H- H«Shes' h llillorlriSf^ y s" Aberaeron. vewydd p J- T. Evans, athro Hebraeg Un v °|eg y Bedyddwyr ym Mangor, 1%^ '§°loriaeth. Athro'r ddau fachgen b'edd ae('c'; L)r. Witton Davies, athro'r aHgor_ "ernitaidd yn Athrofa'r Prifysgol, Gw a ^iau « 'e*cbi°n Lloyd George. rh^yddi ara^b Mr. Lloyd George ar Dy'r mwy,,?'F wythnos ddiweddaf yn un o'r taltjj. 8°rchestol a glybuwyd yn y Ty ^tja,Vvdiaetl1aC ° ran Sa^u meddwl a min ei >awf'r>nnu'r wobr y buasem rhjng- >a ^*yw plnst°n Churchill. O11 J'n rf°ree byth yn ddedwyddach na 8anS°' yn enwedig os bo'r sawl a 1 er> daeti?° J'11 bresennol a heddyw, fel ^^dda ^ros ('i fin rai cyffelybiaethau M? "JgofeynW. a Eu- °eddw.Vr Cyrn ry, cymerwch aw- fii.^yhoeddi drwy areithiau Lloyd George, l.Vfet" a riT gasgliad o'r gwreichion raWev.f,'arywed°dd o dro i dro. Dyna thai ac a dalai. k l-v y d Dr- ARed. a yddordeb a gyrner papurau melyn ho Oeddu New York yn iechyd ein gwyr a i?1 enwedig rhai mor dra chy- dyna r" -ked. Os bo'r piff lleiaf A'j,1 fJigon wifro'r newydd dros y byd, a fel ° i'w chwyddo tan fynd. bk yn yw'r papurau melyn fod gwyr i/1' yn k "yd<lant ei fywgraffiad rhag- •V mJ*0d ei"byn ei farwolaeth. Ac anffodus a gwella, wel, fe ddodir -gyda -rheg i aros ei dranc. c0fi ydd VnWyr poblogaidd a gwyr cyhoedd- Jiiae' gysur chwi ddeall fod eich in type yn y swydd- d'agwyl eich hymddatodiad clvAir&j f^yaf ganddynt hwy fuasai ywed eich bod ynymddatod Cl Melyn yn Lerpwl. J'H r/ng0r y Chinaman wedi disgyn 6li. ?eiiodw^es^ Lerpwl a pheth amser a> Pwyllgor i chwilio i'w rhifedi, Vtj ^ed Vt, y'anwad ar foesau'r ddinas. l.^yw vL' ddiacl fod 224 0 Chineaid %ih° 8v^ 8efydlog yn niwedd 1906, a k ^dd a j V °l' beb gyfrif amry w forwyr y f)aellt fyrddau Ilongau. gamblo yn beth cyffredin yn eu ^(Jj ^aent ^(4 ¥ ar^er smocio opiwm, yn enw- 0,1 L a ttiwfSv '1 a t^1ysfcid fod yr arfer 01 honno yn ffynnu yn rhai ° fe^^ed P Chineaid yn ymbriodi ° 0 n pinion, a phrofid fod nifer e an tyner, tuag 16 oed, ac l'a.tt allf parohus, yn cael eu llithio i oes gyda hwy. Ci 11 add defaid. Amser yn ol, dywedwyd fod ffermwyr saith o blwyfi sir Gaernarfon wedi colli 1,264 o'u defaid yn ystod dwy flynedd, a 224 wedi eu hanafu, gan gwn lladd defaid. Cyfartaledd anhygoel o uchel," ebe un, "ac fe ddylid cofio nad yw gair hwsmon i'w gymeryd bob amser ar y pwnc. Er engraifft, os bo bwrdd y ffarmwraig yn mynd braidd yn ddi-gig, a'r potes neu gawl yn ddall, beth hawddach nag anog y ci i hanner lladd llwdn go fras, yna fe wel y ffermwr mai'r ffordd oreu fydd ei orffen, a'i droi at use y ty." K O'r America. Y mae'r Cymry, fel pawb aiff i'r America, yn myned yn lanciaidd eu dull. Dyma'r Parch. R. Williams (Syllog), Racine, yn ysgrifennu dwy golofn i'r Drych o adolygiad ar Y Ddysg Newydd," sef y New Theology ac wedi'r cwbl yn addef na ddarllennodd lyfr y Parch. R. J. Campbell ei hun o gwbl. K Ysgrif dda, gartrefol, a naturiol, ydyw'r eiddo Mr. Richard Hammond ar Ddiwrnod Cneifio yn Nantyr," gan ddechreu gyda geiriau adnabyddus Ceiriog :— Swn gwelleifiau mewn sgubor a buarth, Hyrddod yn ymladd 'rol colli'u gwlan Cwn yn brefu a defaid yn cyfarth, A'r crochan pitch yn berwi i'r tan." Adgofion hanner canrif yn ol ydyw'r ysgrif ac yn y te ar ddiwedd y cneifio, yr oedd pedwar o'r chwech yfwr yn cymeryd rum yn eu te, yn ol y ffasiwn pryd hynny. k Canmol mawr sydd ar y Parch. Hugh Williams, Amlwch, ac awydd cryf yng Nghymry'r America i wneud rhyw gynllwyn i'w gael i aros yn y Talaethau. Y mae cystal pregethwr ag ydyw o esboniwr, meddant, a chanddo rhyw ddull cartrefol chdi a fine o siarad a'i wrandawyr, ac yn peri i ddyn deimlo'n fentrus i fynd ato, er ei fod yn de all yr iaith wreiddiol mor dda. K Ddydd Sadwrn bu farw Edwin Edwards (" Ned Tryddyn," fel ei gelwid), gwas ffarm 50 oed, mewn canlyniad i syrthio i lawr y grisiau yn ei lety yn Penyball, .Treffynnon, y noson cynt. K Y mae pafiliwn chware golff wedi ei godi ym Mhrestatyn fel canlyniad pleidlais ar y mater, caed fod dwy ran o dair o'r aelodau ymhlaid caniatau gwerthu alcohol ynddo. Y mae rhai o'r aelodau a addawsant gymeryd cyfrannau ynddo, o'r herwydd, wedi tynnu eu cefnogaeth yn ol. K Y mae Mr. J. GlynlDavies, llyfrgellydd Cymreig Coleg Aberystwyth, wedi ymddi- swyddo. Un o wehelyth mawrion Dol- yddelen ydyw—ei fam (Mrs. John Davies, Lerpwl) yn fercli y diwedclar Barch. John Jones, Talsarn. Heddyw (dydd lau) gofynnir i Gyngor Sirol Caernarfon, gan yr Henadur W. J. Parry, i basio penderfyniad yn datgan mai cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth ydyw achos yr heiynt addysg yn gofidio'n ddwfn am benderfyniad y Prifweinidog i beidio myned ymlaen efo Mesur Datgysylltiad i Gymru tymor nesaf y Senedd, ac yn cymell yr Aelodau Cymreig i drefnu eu hunain yn Blaid Anibynol yn y Senedd ar linellau fel Plaid Llafur.
Llenyddol. ---
Llenyddol. Athbonxaeth Pbthau Cyffredin; Ysgrif- au syml ar Wres, Goleuni a Swn gan Gwilym Owen,B.A. ,M.Sc. Cwmni'r Cyhoeddwyr Cym- reig, Caernarfon.—Daeth y llyfr bychan destlus hwn i'm llaw y dydd o'r blaen, ac y mae arnaf flys dweyd ychydig o eiriau arno. Ysgrifau byrion ydyw y llyfr, y rhai a ymddangosasant gyntaf yn y cyhoeddiad gwerthfawr hwnnw, Yr Ymwelydd Misol, a chynhwysant esboniad byr, eglur a chryno ar bethau cyffredin" mewn cysylltiad a gwres, goleuni, a swn. Mae yr awdwr yn athro mewn Athroniaeth Naturiol ym Mhrif- ysgol Lerpwl, ac y mae y llyfr wedi ei gyflwyno trwy ganiatad i Syr Oliver Lodge. Fe ddeallir, gan hynny, fod yr awdwr, er nad ydyw ond cymharol ieuanc, yn gwybod am beth y mae yn ysgrifennu. Nid cyfieithiad ydyw, ond cyfansoddiad gwreiddiol gan un sydd yn deall ei bwnc ac wedi ei ysgrifennu mewn Cymraeg da. Mae yn ddyddorol dros ben anodd ydyw ei roi o law nes myned trwyddo ar un darllenniad. Heblaw hynny, y mae yn llawn addysg, ac yn rhwym o ddeffro y meddwl ieuanc i sylwi ar a cheisio deall y paham a'r pa fodd am bethau cyffredin o'i gwmpas. Mor fyw yr wyf yn cofio am y pleser a dderbyniais dros drigain mlynedd yn ol, yn darllen Philosophy in Sport made Science in Earnest." Prynned y Cymro ieuanc y llyfr hwn-nid yw ei bris ond chwe cheiniog-ac fe synna gynnifer o bethau o'i gwmpas sydd yn destynau dyddorol i'w hastudio, ac yn debyg o agor byd o ryfedd- odau o'i flaen. Gweled afal yn syrthio a arweiniodd Newton i ddeall deddf fawr disgyrchiant, ac ysgydwad lamp mewn eglwys a agorodd i Galileo ddirgelion y pendulum ac yr wyf yn mawr hyderu y megir athronwyr mewn gwyddoniaeth trwy ddechreu gyda'r llyfryn hwn. Hyderwn nad ydyw hwn ond y cyntaf o gyfres o lyfrau ar wyddoniaeth a ddaw o law Mr. Owen.— Elkazar ROBERTS. Y DDIOD, gan HALL CAINE; gyda Rhag- arweiniad gan Mr. Wm. George, Criccieth. Caernarfon Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.). 6ch.-Os mai drwy'r nofel y mae'n dysgu'r oes hon allan o'i ffolinebau a'u phech- odau, 'does yr un o'i haml bechodau yn teilyngu cryfach nofel na'i Meddwdod. Da ydoedd gweled gwr o allu ac enw Hall Caine yn cymeryd ar y gorchwyl; a da ydoedd y gwaith o'i chyfieithu i Gymraeg a'i chyhoeddi mewn ffurf mor radlon. Y mae'r chwedl yn un swynol ynddi ei hun, ac yn ddatguddiad ar yr erchylldra a'r dioddefaint a achlysurir gan y syched angerddol am y diodydd meddwol. Ac eithrio ambell Seis- nigwch yma ac acw, y mae'r cyfieithiad yn un da a naturiol, a dylai'r dirwestwyr wasgar y gyfrol fechan wrth y miloedd. Y Genhinjest.—'Does yng Ngenhinen Gor- ffennaf yr un ysgrif fflam, a'i hamcan i yrru'r wlad yn goelcerth, a'i phobl yn ben-ben a goreu po leiaf a geir o'r rhywogaeth hwnnw. Y flaen-ysgrif yw eiddo'r Canon Williams, B.A., Tyddewi, ar Ddatgysylltiad a Dad- waddoliad" ac ar ol dweyd pethau go bigog ei hun drwy'r ysgrif, dibenna gyda'r anogaeth dduwiol YMAITH, gan hynny, a'r dadleuon, y dygyfor, a'r cythrwfl-ymaith a'r eiddigedd, y meddyliau culion, a'r mesurau prinion ag sydd wedi bod fel llenni ar lygaid llawer yn eu hatal rhag canfod y gwirionedd a bydded i ni gydnabod ein gilydd mewn cariad, ac felly roddi mewn gweithrediad wir a phrif egwyddor crefydd Mab Duw, ac iawn ysbryd pob cymdeithas lewyrchus." Diolch i'r Parch. H. Cernyw Williams am ei lith ar Genhadaeth Morgan Llwyd o Wynedd;" ac i Gwylfa am y eiddo yntau ar "Penniaenmawr." Yn ol ei ysgrif, Eglwyswr ydyw Gwyneddig," yr hwn a ysgrifenna ar Cri y Bobl yn erbyn yr Eglwys," a dwg i'r wyneb y cyferbyniad sydd rhwng traul ac ysblander palasau'r esgobion ac urddasolion y Sefydliad Gwladol a symledd cyntefig yr Eglwys Gristnogol. Y mae ganddo ergyd hefyd i'r Ymneilltuwyr hynny a geir yn sychedu am y social status, ac yn prysur syrthio i'r un bai ag y cwymp- odd caredigion yr Eglwys o'u blaen. Y mae'r rhifyn yn un da, a does dim arwydd gwywo ar y Genhinen werdd. £100 yr un a gafodd y diweddar Mr. W. E: Gladstone am ei erthyglau "Craig Ddisigl yr Ysgrythyrau," a ysgrifennodd yn ateb i ymosodiad Huxley, yr amheuwr, ac awdwr y gair agnostic. Hyfryd meddwl y ceir y Beibl ei hun am 10c. -0--
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. YR oedd dyddordeb neilltuol i'w weled yn amlwg nos Fawrth ddiweddaf, gan fod Mr. L. Kenrick, crwner rhanbarth Ddwyreiniol sir Ddinbych, yn cynnal cwest ar gorff y diweddar Samuel Lloyd, a gyfarfu a i ddiwedd mewn modd >ydyn a difrifol y Sadwrn blaenorol. Dewiswyd Mr. J. Row- lands yn flaenor y rheithwyr. Wedi gwrando tystiolaeth amryw dystion, dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol. Dydd Mercher drachefn, o flaen Capt. Best (Cadeirydd), a'r Mri. H. Jones ac iE. R. Parry, dygwyd Isaac Harrison Jones i fyny am achosi marwolaeth Samuel Lloyd. Mr. Colbeck, Gwrecsam, yn am- ddiffyn y carcharor. Yr oedd y tystiol- aethau roddwyd rywbeth yn debyg i'r hyn gaed yn y cwest y dydd o'r blaen. Wedi ymneilltuo, dychwelwyd rheithfarn o farw- olaeth ddamweiniol, ac wedi ychydig ddistaw- rwydd awgrymodd y cadeirydd nad oedd digon o dystiolaeth i osod y carcharor ar brawf pellach, felly rhyddhawyd Isaac Harrison Jones yng nghanol cymeradwyaetli y dorf oedd yn gwrando. Claddwyd gweddillion yr ymadawedig prydnawn Mercher. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn. W. Foulkes a R. Jones Williams ac wrth y bedd gan y Parch. J. E. Morgan, curad. Derbyniwyd amryw flodeudyrch a chafodd gladdedigaeth barchus a phoblogaidd iawn. o Prydnawn a nos Ia,u ddiweddaf cynhaliodd Wesleaid Llandynan a Pentredwr eu gwyl de flynyddol yn yr awyr agored ar dir Llan- tysilio Farm. Ac yn yr hwyf prawf-gyngerdd o dan lywyddiaeth H. Lloyd, Ysw., N. &. S. W. Bank. Enillwyd y gwobrwyon fel y canlyn :— Parti meibion, Cefn Mawr, dan arweiniad Mr. J. Wright. Her-unawd, agored i bob llais allan o lu o gystadleuwyr, enillwyd y llawryf gan Miss Edith Davies, Gwrecsam. Unawd i feibion, Mr., Powell Edwards, Rhos. Unawd i ferched, Miss Davies. Cloriannwyd y canu gan y datganwr poblogaidd, Mr. D. Pryce Davies, Penmachno. Yn ystod y cyfarfod, cafwyd gair gan y Parch. R. Jones Williams, ac adroddiad gan Mr. Pritchard, Glyndyfrdwy. Datganwyd gan y beirniad a Miss Leech. Wedi i Mr. E. R. Parry gynnyg, a Mr. E. D. Jones eilio diolchgarwch. terfynwyd cyfarfod rhagorol, a hyderwn i'r frawdoliaeth gael elw sylweddol oddiwrtho. Dydd Llun cynhaliwyd Eisteddfod Gadeir- iol gyntaf Rhosllanerchrugog mewn pabell eang ar Bare y Rhos. Llywyddion y dydd oedd A. E. Evans, Ysw., Howell Jones Williams, Ysw., ac E. H. Hemmerde, Ysw., A.S. Yr oedd cryn ddyddordeb yn cael ei deimlo, am fod cor meibion y Llan yn myned yno i gyfarfod a chor meibion Warrington, pa un oedd wedi cario y wobr oddiar naw o gorau y dydd Sadwrn cynt yn Newtown; ond llawenydd gennym allu dweyd i gor meibion Llangollen eu trechu yn y Rhos, a mawr oedd y disgwyl gartref a chariwyd Mr. J. E. Morris, yr arweinydd, o'r orsaf at neuadd y dref, yn cael ei flaenori gan y sein- dorf. Yno cafwyd gair o ganmoliaeth i'r cor a'i arweinydd gan Mr. James Clark (Iago Eifiori).
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen. Rhestr gyflawn y testynau yn awr yn barod; ac i'w chael, pris 6ch drwy'r post 7 c; gan Evans, Sons 6 FoulKes, Swyddfa'r Brython." General Printing of every kind, Commercial and Artistic, at Evans, Sons, & Foulkes, Brython Office, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street (Telephone 1112 Central), and 356A & 358A Stanley Road, Liverpool (Tele phone 591 Bootle), AVON CYCLES are the best value in the world. We are the pioneers of the popular Cycles, and are the best value in the world to-day. Write for full list of prices. Model A, fitted 2 speed gear Dunlop Tyres £ 7—7—0. Easy payments from 8/6 per month. Note Address—AVON CYCLE & MOTOR CO., 19 Hardman Street, Liverpool. Motor Cycle repairs a speciality. All work quoted for before job started. Mewn Llian Hardd, 414 o Dudalennau, Hanes y Diwygiod a'r Diwygwyr: Yn cynnwys hanes Mr. Evan Roberts, ei rieni, ei ddygiad i fyny, ei alwad i'r gwaith, &c., &c., gan y Parch. Thomas Frances, Gorsoinion. Hanes cychwyniad a lledaen- iad y Diwygia drwy Gymru, wedi ei ysgrifennu gan lenorion adnabvddus. Hanes Mr. Dan Roberts a Mr. Sydney Evans, a chargliad o farddoniaeth y Diwyg- iad, Cynhwysa y gyfrol liaws o ddarluniau, y rhai a gyhoeddir am y waith gyntaf, megis darluniau o rieni Mr. Evan Roberts, Capel Casllwchwr, ac Ysgoldy Pisgah, &c., &c. PRlS HANNER CORON, nett. E. W. EVANS, Swyddfa'r Goleuad," Dolgellau. LLYFR AR RAI 0 BYNCIAU PWYSICAF Y DYDD.. Vmneillduaeth Eglwys ø Loegr, ø yn cynnwya Adolygiad ar y Ddadl rhwng Canon Will- iams, B.D., a Glanystwyth ar 11 Ffurfio Eglwys." Gan y Parch. THOS. HUGHES (Lerpwl). Ymdrinir ynddo ag honiadau Uchel Eglwyswyr, Pabyddiaeth yn Eglwys Loegr, &c., &c., a cheir ynddo Restr o Offeiriaid Cymreig sydd yn Aelodau o'r English Church Union t a Chymdeithasau Gwrth=Brotestan= aidd ereill. Gan fod Dadwaddoliad a Datgysylltiad yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru yn bwnc y dydd, mae perchenogion y Brython wedi gwueud trefniadau gyda'r Parch. THOMAS HUGHES i gynnyg y llyfr uchod am brisiau gostyngol. Amlen 1/- am 9c. Trwy y post 10c. Llian Cryf, 1/6 am 1/- Trwy y post am 1/1 BARN Y Gwir Anrhyd. D. LLOYD GEORGE A S. am y llyfr 'Rwyf yn falch iawn o hanes I Y Ddadl Fawr. Y mae ymddygiad trahaus a dallbleidiol yr offeir- iadaeth yn y dyddiau presennol yn prysur wthio hawliau Eglwys Loegr yng Nghymru a honiadau ei chlerigwyr i fysg cwestiynau yma,rferol y dydd unwaith eto. Ac nis gwn am ddim tebycach i oleuo deall ac i addfedu barn y werin Gymreig ar y pynciau pwysig hyn na'ch ymdriniaeth feistr- olgar chwi o honiadau Canon Williams yn y ddadl hon." Anfoner archebiou i Swyddfa'r BRYTHON' 1 Don Chambers, 8 Paradise St., Liverpool COFIA NT a PHREGETHAU Y DIWEDDAR Barch. ROBERT OWEN (Ty Draw), gan y Parch. JOHN OWEN, Wyddgrug. Telerau arferol i Lyfrwerthivyr, Archebion i'w hanfon i'r Argraffydd- HUGH EVANS, 356-8a Stanley Road, Neu y Parch. WM. OWEN, 11 Greenbank Road, LIVERPOOL "Y MAB AFRADLON" (The Prodigal Son). Gan T. OSBORNE ROBERTS, Can Newydd Ddesgrifiadol, i Denorneu Soprano yn E. Flat, Baritone a Contralto yn C. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Y ddau nodiant ar yr un copi. Pris Swllt. Trwy'r post, 1/1. "0 NEFOL AMEN" (Cân). Can syml dda. Cyfaddas i bob llais. 6c. Quartett, Y GWLITHYN," S.A.T.B. Yn cymeryd yn dda mewn Cyngherddau a Chystadl- euaeth. Hen Nodiant, 4c., Sol-ffa, 2g. CATALOGUE NEWYDD 1907. Yn rhoddi y telerau goreu am Pianos, Organs ac Harmoniums I'w cael gan D. R. JONES (Maw Madog), BRYN CERDD, 103 HAMPSTEAD ROAD, LIVERPOOL. COFIANT Y PARCH Edward Morgan, DYFFRYN, GAN Y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLE. Cynhwysa y Cofiant amryw Ddarluniau. Wedi ei rwymo mewn llian. PRIS, 6s. Cyhoeddedig gan Gee a'i Fab, Cyf., Dinbych, ac j i'w gael gan yr holl Lyfrwerthwyr. W. & J. VENMORE9 Estate Agents & Valuers, 200 SCOTLAND RD., Liverpool. Telephone No. 1463, Pianos & Organs Cash or Easy Payments. TUNINGS SINGLY OR BY CONTRACT REPAIRS by Expert Workmen. Write or call for ILLUSTRATED CATALOGUE 'L I ii & i3,BERftY STREET. 1 Mrm33^QYAi -s(Topo.^Boi.DST.>g^ Telephone 0664 Rcyal.1 J. OLIVER, TAILOR and I HABIT MAKER 126 Upper Hill Street PRINCES ROAD, ^LIVERPOOL, a Allan Line. Sicrheir y cysur mwyaf sydd bosibl ar Agerlongau Cyflym (Turbine). Y FORDAITH Feraf A RHATAF I Canada a'r Unol Dalaethau. Cyflym, I Cyfleusterau heb eu hail,y clud- ry | iad rhataf. Yr unig Linell a LPIOgei, chanddi Gylundeb a'r Llywod- rvciiriic raeth i gludo Llythyrau i cysurus. Canada. Llawlyfr ynrhadgan Allan T ir»#* 103 lbadenmallst., a Uail PALL MALL, LONDON 19 JAMES STREET, LIVERPOOL. To Advertisers PREPAID ADVERTISEMENTS FOR SITUATIONS-Wanted 6 Vacant. APARTMENTS-Furnished and Unfurnished, FOR SALE. EDUCATIONAL. ø Rate for Trade Advertisements, PubJic Meetings etc., may be had on application. EVANS, SONS & FOULKES, Don Chambers, 8 Paradise Street, L'pool, or 356-358a Stanley Road, L'pool. Telegraphic Address PIPES," Liverpool. JOHN EVANS SLATE BRICK, TILE, CEMENT c. MERCHANT, Rea Office and Depot: 88 to 92 SOHO ST., L'POOL. 0 Branches Cement Stores- 15 and 16 NOVA Sootia, CANNING Dock. Railway Depot — Spekbland Wharf (L. & N.W. RIy.) Edge Hill General Stores- 20 DACRE STREET, Birkenhead. I Telephone Numbers: Head Office-No. 102 Royal. Birkenhead-1025. Edge Hill-728Y Royal. Canning Dk-8208 Cen. The Gwolio Hotel, Ltd., LLANDRINDOD WELLS. Telephone 40 P.O, Telegraphic," Gwalia.' Managing Director-EDW. JENKINS. The situation of the GWALIA" is unrivalled Beautiful outlook, commanding the finest views possible perfect South-west aspect; close to Park. Mineral Springs-Saline, Sulphur, Chaly- beat. Golf Links, and excellent waters for Angling. Heating Apparatus, good supply of Radiators on balconies and corridors. Beds and bedrooms always well aired. Electric Light. Visitors' Lift. Free Billiard Table. Recreation Room.. Lock-up Cycle House. Tariff fram £211216 to zC3,11 OF Greenman's COMPLETE HOUSE FURN- ISHERS, Credit—Without Hire Agree- ment-at Cash Prices. 491 RICE LANE, WALTON & 72 AIGBURTH ROAD, LIVERPOOL Tel. 6y Walton, & 31y Lark Lane. ..r41 "I -¡p;a.7'Iii('¡ I BRYSIWCH I I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atoch, B cyn i'r Anwyd fyned yn waeth, ji Cofiwch B COUGH MIXTURE HUOH DAVIES, Machynlleth. | 13bc. a 2s. 9c. y botel. B IDAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE DAVIES'S COUGH MIXTURE At Beswch, B Anwyd, H Asthma, 1 Bronchitis, B Pas. Crygni, 1 Influenza. g