Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

r™—s J TRWY Y DRYCH. j

Advertising

Nodion o'r De.

News
Cite
Share

Nodion o'r De. [GAN HESGIN.] Gwlaw, DYNA ydym wedi gael er's wythnosau, nes gwneud i rywun feddwl ein bod yn mynd i gael ail ddiluw. A dydd Sadwrn cawsom ystorm fellt a tharanau er cwblhau cwpan ein cospedigaeth, mae'n debyg. Yr oedd y mellt yn llachar anghyffredin, a'r taranau fel pe buasai cannoedd o gyflegrau yn cael eu tanio uwch ein pennau. Yng Nghaerdydd rhoddodd y mellt dri lie ar dan, ond ni fu fawr niwed, oblegid yr oedd y fire brigade yno ar amrantiad bron ac yn Abertawe tarawyd pafiliwn newydd yr Eisteddfod gan fellten, a gwnaed rhan ohono yn ysgyrion. Ni chlywais fod neb wedi ei ladd na'i anafu yn unlle. A'i Effaith. Y mae'r hir wlybaniaeth yn wedi dechreu effeithio ar bobl. Dwn i ddim ydi gwlychu coryn dyn yn conducive to brain activity neu beidio o leiaf, dyma fel yr ymfflam- ycha un brawd yn ddigon barddonllyd yn y Western Mail NURSERY RHYMES FOR THE TIMES. John Hopkin Jones, Llanbradach, Wass wetted by the rain He tied his hanky round his neck, And cried as if in pain. He called to Bill, 0, daro Bill, Ten weeks the rain wass fall There is no rheswm in it, There is no sense at all.' Said Will y Gegin, Johnny bach, Come down to Teiliwr Joe, And we will stop the rain to fall And make the clouds to go. One thousand pennies you wass save, Five hundred I have got, j i J And so we"ll go to Teiliwr Joe And spend up all the lot.' > j ;1 They wass buy two umbarellas, J And two pairs of big golosh, j j And a brace of oilskin waders, r And a mighty mackintosh. i So the clouds began to shiver, And the sun wass take to shine— Da iawn for Bill and Johnny, Who wass make the weather fine." Ond dal i fwrw mae hi hyd yma. k Neb mor ddall, &c." Derbyniais nodyn yn ddiweddar oddiwrth gyfaill a alwodd heibio i'm llety pan ar ei sgawt yng Nghaerdydd, ond yr oeddwn yn digwydd bod allan. Dyma ddywedai :— I had hoped to see you, but you were out. However, I did the best I could under the circumstances—I went to have a look at the public buildings in Cathays Park. There I saw in a prominent position a sight which is typical of the state of Welsh national sentiment in Cardiff." Yn y fan yma yr oedd yn rhaid troi dalen. At be mae o'n cyfeirio, tybed ?" meddwn i wrthyf fy hun. At y ddelw or ddraig sydd uwchben ystafell Cyngor y Gorfforaeth, ys gwn i ?" Mae honno yn cdrych yn benuchel, ffyrnig ac effro ddigon, meddyliwn. Ond erbyn troi drosodd, elai y braddug ymlaen fel y can- lyn I refer to the ten pillars in front of the Welsh University Offices. Go and have a look at them." Wel," meddwn i wrthyf fy hun, beth sydd mater arnynt nhw, tybed ?" Gan fy mod yn mynd trwy'r pare o leiaf deirgwaith bob dydd, yr oedd yn rhaid fy mod wedi eu gweled gannoedd o weithiau. Beth bynnag, y tro cyntaf yr eis drwyddo wedyn, aethum i'w hymyl i gael gwneud minute examination arnynt os oedd angen. Erbyn dod i'w hymyl, yr oedd un cipolwg yn ddigon. Fe chwarddais nes o'wn yn siglo. Dyna lle'r oedd y deg polyn haearn, a draig ar ben pob un—a'r olwg arni! Mae ei hedyn ar led fel bran ar hanner marw, a'i phen ar osgo dan ei haden chwith fel pe bae arni ofn dangos ei hwyneb, a'i chynffon yn llipryn i lawr y polyn Welsoch chwi fwy woe-be-gone look yn eich bywyd. Ac yr oeddwn erioed heb sylwi ar y joke o'r blaen. 'Roedd gen i gryn gydymdeimlad a'r eneth honno ddy- wedodd nad oedd hi 'rioed wedi dychmygu fod pentref ei mebyd hi yn lie mor dlws nes y gwelodd hi ei lun o ar picture postcard Libel ar Gaerdydd ydyw sly hit fy nghyfaill, wedi'r cwbl. --0--

Ffetan y Gol.

GLANNAU'R GLWYD.

TREMEIRCHION. MO1

--0--CARMEL, ger TREFFYNNON-on…

Advertising