Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
HONOURED BY HIS MAJESTY Atelier CARHMTF 6rand 3 Lord St., Studios: Liverpool. g-t t o ( 93 Grange rd 4 Portrait Artist, Birkenhead. Tel. 1355 Central. Tel: 62 Y BirKenhead. STUDIOS ARE FITTED WITH THE VERY LATEST IMPROVEMENTS IN ELECTRIC LIGHT. WEATHER NO OBJECT. Our Speciality 3 Cabinets, Platinomatt, 2s. 6d. Business houvs •—9 a.m. to 6 p.m. Saturday, 9 a.m. to 5 p.m. C YNR IC, Y TEILIWR ø CYM REIG. 0 SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASOANBLE PRICES. ø E. C. KenricK.,1 • f 62' RENSHAWJ STREETS ESpBEjll N:EW Koym bdj.f-, TABLE DELICACY
r™—s J TRWY Y DRYCH. j
r™—s J TRWY Y DRYCH. j Eglwys Matthew Henry. ANODD troi y Drych ar Gymru heb iddo dynnu ein trem i Gaerlleon; ac mae llawer o elfennau Cymreig wedi eu nyddu i fewn i hanes yr hen dref gaerog honno. Ar hyn o bryd, dyma Eglwys Matthew Henry o flaen y Drych, ac erbyn craffu, gwelwn fod ynddi hithau fwy o Gymreig- rwydd nag y gallesid dybio, ac iddi hi y mae hanes tra dyddorol. Gwyddom oil mai yma y bu yr hen Esboniwr anfarwol, ac wrth ei Ragymadrodd i'w Esboniad, gwelir y dyddiad, Mai 13/ 1710. Wedi marw Matthew Henry, daeth iddo olynydd o duedd at Ariaeth, a throes olynydd hwnnw drachefn yn Undodwr. Yn 1768, aeth y lleiafrif Trindodol ac uniongred allan, ac ymsefydlasant yn achos newydd mewn neuadd gyffredin, lie y buont am bedair blynedd. Yn 1772, codwyd y capel ar safle yr un presennol, ond a ail adeiladwyd wedi hynny. Sef- ydlwyd yr eglwys newydd hon gan Gymro, sef y Parch. Benjamin Evans, o Lanuwchllyn, yr hwn a dynnodd allan Gyffes Ffydd Uchel-Galfinaidd a Chyf- amod Eglwysig. Mae y Cyfamod a'r Gyffes Ffydd hyd y dydd hwn yn llaw- ysgrif Benjamin Evans, ac yn cael eu darllen gan y gweinidog, oddiwrth Fwrdd y Cymundeb, y nos Saboth cyntaf o bob blwyddyn. Yr unig beth a gymerodd yr aelodau gyda hwynt ar eu hymad- awiad o'r hen eglwys oedd copi o argraffiad cyntaf esboniad Matthew Henry. Gwraig i un o weinidogion diweddarach yr eglwys hon-Samuel Luke-oedd y Jemima Luke a gyfansoddodd yr emyn I think when I read that sweet story of old." G Proffwydoliaeth Yn yr un eglwys fyth bu y cenhadwr, y Parch. Richard Mill, yr hwn a bro- ffwydodd am fawredd yr enwog Mr. C. H. Spurgeon. Deg oed oedd Spurgeon ar y pryd, a phan yn ei gwmni mewn gardd, syllodd Mr. Mill yn ei wyneb hawddgar a'i lygaid heulog, a dywedodd maijpregethwr a fyddai, y cai y gynulleidfa fwyaf yn y byd, ac na byddai neb uwch mewn enwogrwydd. Ceir yr hanes ym Mywgraffiad Spurgeon, yr hwn ei hun iu yn pregethu yn yr eglwys, ac yn dwyn tystiolaeth i wirionedd y digwyddiad. Ar hyn o bryd, y mae Cymro arall, y Parch. D. Wynne Evans, yn weinidog yr unrhyw eglwys. Pregethwr rhagorol, o gymeriad disglaer, ac anwyl gan bawb a'i hedwyn, yw efe. Ordeiniwyd ef yn Llanrwst, bu wedi hynny yn Briton Ferry, aeth oddiyno i'r Tabernacl, Llan- elli, lie y mae Gwylfa ar hyn o bryd, o'r lie y symudodd i'r eglwys Gynulleid- faol hon yng Nghaerlleon. Efe yw cadeirydd presennol Undeb Cynulleidfaol Seisnig Gogledd Cymru. Y mae hefyd yn pregethu yn fynnych mewn cyfarfodydd Cymreig. Fel hyn, mae llawer gwythien gyfoethog o dalent a gwasanaeth Cymreig yn rhedeg drwy yr eglwysi Seisnig, yn Lloegr, ac nid anyddorol fyddai ychwaneg o olrhain arnynt. G Ymneilltuwyr yn uno; TROWN y Drych unwaith eto ar yr enwadau Ymneilltuol Cymreig, ac ym- ddengys fel pe byddent yn sylweddoli yr argyfwng y maent ynddo, a'r angen- rheidrwydd am iddynt ymgrynhoi ynghyd mewn ymdrech unol i sicrhau yr amcan cyffredin i'r oil. Un o beryglon yr Ymneilltuwyr yw dibynnu yn ormodol ar unrhyw Senedd all fod mewn awdurdod, ac anghofio y pwys o gadw i fyny yn glir gerbron y wlad ddelfrydau hanfodol Crefydd Rydd. Dylem wneud pob def- ydd allom o'r Wladwriaeth yn ffafr ein hegwyddorion ond mae gwneud gallu neu ewyllys Senedd yn safon i'n Hym- neilltuaeth yn gamgymeriad barnol. Tra y byddai doeth ynom roi pob cymorth a chwareu teg i'r Llywodraeth i wneud y goreu posibl dan yr amgylchiadau, mae y syniad na ddylai yr Eglwysi Rhyddion bregethu mwy o'u Hymneill- tuaeth nag y gall y Senedd ei dderbyn yn wrthuni a gwaseidd-dra, ac yn frad- wriaeth yn erbyn coffa'n tadau ac eg- wyddorion hanfodol ein proffes. Mae perygl i Ymneilltuaeth hyd yn oed pan fyddo ei chyfeillion goreu yn y Llyw- odraeth. A pheth mwy a ddywedwn, y mae y perygl, mewn ystyr, yn fwy na phan fyddont yn yr Wrthblaid. Mae pob Cabinet i fesur yn glymblaid, a rhaid i'r un aberthu rywfaint er mwyn cydweithrediad yr oil. Pan fyddo y Rhyddfrydwyr yn Wrthblaid, maent yn rhydd i gyhoeddi yn groew ddelfrydau Rhyddid; ond pan mewn Cabinet, maent dan orfod i son mwy am yr hyn ellir ei wneud nag am yr hyn ddylid. Faint bynnag ddisgwyliwn oddiwrth y Senedd, ein dyledswydd o hyd yw cadw a meithrin yr argyhoeddiadau Anghyd- ffurfiol yn fyw a chryf yn yr eglwysi. Cartref a ffynhonell bywyd a nerth Crefydd Rydd yw rheswm a chydwybod pobl, ac nid yw deddfwriaeth., Senedd ar y goreu ond moddion i gyrraedd yr amcan hwnnw. Pe buasai Ymneilltuaeth a Phrotestaniaeth yn cael gwell magwraeth yn yr eglwysi, buasai cyn hyn lai o waith dylanwadu ar y Senedd, llai o duedd at glytio cyfaddawdau gwaeth nag arfer, a buasai y Comisiwn Eglwysig yn destyn chwerthin cenedlaethol mwy calonnog am ben yr ymgais i wthio derwen fawr Ymneilltuaeth Cymru i flower pot! Dy- wedwn eto,—gwneler y defnydd goreu posibl o gyfle y Llywodraeth bresennol, ond cadwer mewn cof mai Ty YR AR- GLWYDD, ac did" ty yr arglwyddi," yw ein hawdurdod a'n safon ni fel Ym- neilltuwyr Cristnogol. G Cyfyngder yr Uno. Nm drwg i gyd yw i Ymneilltuaeth Cymru deimlo gwasgfa. Ein tuedd pan mewn hawddfyd neu ddifrawder gyda golwg ar bethau mawrion a hanfodol yw cwerylon ynghylch pethau bychain a damweiniol. Yng nghyfnodau ei gwae y mae Crefydd Rydd yn ennill nerth ac undeb. Mae hi mewn crefydd fel mewn natur Mae eisieu Mawrth cyn mis Mai." Mae hanes cyflwr crefyddol-wleidyddol Lloegr yn amser y Puritaniaid yn brawf ddarfod i drallodion y gwahanol enwadau Anghydffurfiol fod o dda iddynt, a'u huno yn fwy a'u gilydd. Wrth gwrs, golygai yr enwau ar bleidiau crefyddol y pryd hwnnw rywbeth pur wahanol i'r ystyr a roddir iddynt yn awr ond, er hynny, mae yr egwyddor dan sylw yn cael ei hegluro yn eu hanes. Dywed Mr. Green, yr hanesydd, ddarfod i Ddydd St. Bartholomew brofi yn fanteisiol i'r graddau uchaf i ryddid crefyddol, oherwydd iddo fod yn foddion i ddwyn y gwahanol bleidiau Puritanaidd yn nes at eu gilydd. Eb efe :— YN ffodus, gyrrodd ysgariad mawr Dydd St. Bartholomew y Presbyteriaid allan o'r eglwys wrth ba un y glyn- asant, gan eu gwasgu i undeb cyffred- inol a sectau a gasesid ganddynt hyd hynny mor chwerw a'r esgobion eu hunain. Bu i erledigaeth gyffredinol yn fuan rwymo yr Anghydffurfwyr yn un. Torrodd erledigaeth i lawr o flaen rhifedi, cyfoeth, a phwysau gwleidyddol yr enwadau newyddion, a chafodd yr eglwys ei hun am y tro cyntaf yn ei hanes wyneb-yn-wyneb a chorff trefnyddol o Anghydffurfwyr o'r tu allan iddi. Bu i'r amhosibl- rwydd iddi wasgu y fath gorff a hwn dynnu oddiwrth y gwleidyddwyr Seis- nig y gydnabyddiaeth gyfreithiol gyntaf o addoliad rhydd yn Neddf Goddefiad mae eu tyfiant cyflym mewn amserau diweddarach wedi diosg yr eglwys o braidd bob braint gyfyngedig a feddai fel corff crefyddol, ac yn awr yn bygwth yr hyn sydd yn aros o'i ehysylltiad swyddogol a'r Wladwriaeth. Onid yw hyn oil yn arwyddo fod y gallu i sicrhau ei gwaredigaeth ym meddiant Anghydffurfiaeth ei hun, ac mai yr hyn sydd eisieu yn bennaf yw iddi sylweddoli hynny, crynhoi ei nherth mewn undeb difwlch, a cherdded at ei nod ? Pe buasai eu holynwyr wedi gwneud yr ymdrech a'r aberth angenrheidiol i wthio brwydrau y tadau ymlaen yn ffyddlon, buasai y fuddugoliaeth derfynol wedi ei hennill er ys talm, a'r gweddill sydd yn aros o'r cysylltiad" anachaidd wedi ei dorri ymaith yn llwyr. ø Teyrngarwch i'r Gwirionedd. AR Undeb Cynulleidfaol Cymru, yng Nghas- tellnedd, y mae y Drych yn awr, a gwelwn y Parch. Robert Roberts, Manchester, y cadeirydd, yn sefyll o flaen tyrfa liosog,. ac yn traddodi ei anerchiad ar Deyrngarwch i'r Gwirionedd." Bu wrthi dros awr a hanner, a chyfrif yr amser maith a gymer- wyd gan y gwrandawyr i ddangos eu cymer- adwyaeth. Y farn gyffredinol yw mai dyma un o anerchiadau gallu o cat yr Undeb o'i gychwyniad, ac nid ychydig olyga hynny. Gwyddai cyfeillion Mr. Roberts yn dda am ei allu fel meddyliwr, ei fod yn ddarllennwr a myfyriwr helaeth a chyson, a'i bregethau bob amser yn dwyn ol llafur a pharatoad manwl. Ond nid oedd y Cadeirydd eleni mor adnabyddus i'r enwad yn gyffredinol a rhai fu yn y swydd o'i flaen. Mentrodd ,w destyn oedd yn amserol a thragwyddol," ys dywedai yntau, a gwelwyd fel yr elai ymlaen ei fod yn gartrefol ym meddylfyd (thought-world) ei destyn amlweddog, yn hanesyddol, gwyddonol, athronol, diwin- yddol, ac eglwysig a gwisgodd hen bynciau ac ymresymiadau a newydd-deb meddwl byw ac arabedd tarawgar. Er yn cymeryd safle yr hen ddiwinyddiaeth, yr oedd y cyflead ohoni yn newydd, a'r eglurebau yn ami yn wreiddiol. Ni fynnai osgoi yr un anhawster, ac arwyddai y mynnych gymeradwyaeth a gaffai gan y gwrandawyr fod ei amddiffyniad i'r ffydd gyffredin yn fllddugoliaethus-hyd yn oed wrth ymwneud ag athrawiaeth y Cwymp. clanghosodd graffter mawr yn ei ymdriniad a rhai o eiriau yr lesvi, fel y ceid ynddynt seiliau gwyddonol (scientific basis) i athrawiaethau yr efengyl. Nid oedd y traddodiad yn hylithr ac areithyddol ond yr oedd mor ymresymiadol, clir, ireiddiol, a chyfoethog o feddw], ac yn dwyn y fath don o hunanfeddiant a hyder, nes y parai argraff ddofn ar y dorf fawr oedd yn gwrando. Nodweddid yr ho 11 gyflawniad gan bwyll priodol i un yn dealt ac ymddiried yn y Gwirionedd y traethai am dano. Prin y gellid disgwyl i bawb gytuno ar bob peth yn yr anerchiad, ond yr oedd yn eglur mai dyna a wnai y mwyafrif mawr, a bydd yn werth gan ereill gael cyfle i ddarllen ac ystyried yn fanylach y traethiad galluog hwn wedi y cyhoedder ef. 3F;Q Y Cadeirydd Newydd. Gwyr Cymry Lerpwl a'r cyffiniau, yn gystal a Chymry Ymneilltuol yn gyffredinol, am alluoedd pregethwrol a chymeriad disglaer y Parch. Robert Thomas, Glandwr, cyn- weinidog y Tabernacl, a chadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol. Blin gan ei gyfeillion lliosog oedd deall am ei gystudd trwm yn ystod y blynyddoedd diweddaf, ond hyderir yn gryf ei fod ar wellhad, ac y ca nerth i gyfiawni y swydd yr etholwyd ef iddi gyda'r fath frwd- frydedd. Bu Mr. Thomas yn ffyddlon i'r Undeb drwy y blynyddoedd, ei bwyll a'i graffter o fawr werth i'w weithrediadau, a'i ysbryd addfwyn yn gynhesrwydd i'w awyr- gylch. Y mae hefyd yn un o brif bregethwyr ei enwad, a lliosog yr oedfaon nerthol a gafodd efe yn ei uchel-wyliau. Yn Rhos- llanerchrugog y bydd yr Undeb nesaf, a gobeithiwn gael troi y Drych ar wyneb hawddgar Thomas Glandwr," fel y cyfyd yntau i godi'r 116-n oddiar gyfrinach ei feddwl a'i fyfyrdod yn y ffurf o anerchiad.
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen.— RHESTR GYFLAWN Y TESTYNAU YN Awn YN BAROD, AC I'W CHAEL, PRIS 6ch., DRWY'R TOST 71c., GAN EVANS, SONS & FOULKES, SWYDDIA'R BRYTHON."
Nodion o'r De.
Nodion o'r De. [GAN HESGIN.] Gwlaw, DYNA ydym wedi gael er's wythnosau, nes gwneud i rywun feddwl ein bod yn mynd i gael ail ddiluw. A dydd Sadwrn cawsom ystorm fellt a tharanau er cwblhau cwpan ein cospedigaeth, mae'n debyg. Yr oedd y mellt yn llachar anghyffredin, a'r taranau fel pe buasai cannoedd o gyflegrau yn cael eu tanio uwch ein pennau. Yng Nghaerdydd rhoddodd y mellt dri lie ar dan, ond ni fu fawr niwed, oblegid yr oedd y fire brigade yno ar amrantiad bron ac yn Abertawe tarawyd pafiliwn newydd yr Eisteddfod gan fellten, a gwnaed rhan ohono yn ysgyrion. Ni chlywais fod neb wedi ei ladd na'i anafu yn unlle. A'i Effaith. Y mae'r hir wlybaniaeth yn wedi dechreu effeithio ar bobl. Dwn i ddim ydi gwlychu coryn dyn yn conducive to brain activity neu beidio o leiaf, dyma fel yr ymfflam- ycha un brawd yn ddigon barddonllyd yn y Western Mail NURSERY RHYMES FOR THE TIMES. John Hopkin Jones, Llanbradach, Wass wetted by the rain He tied his hanky round his neck, And cried as if in pain. He called to Bill, 0, daro Bill, Ten weeks the rain wass fall There is no rheswm in it, There is no sense at all.' Said Will y Gegin, Johnny bach, Come down to Teiliwr Joe, And we will stop the rain to fall And make the clouds to go. One thousand pennies you wass save, Five hundred I have got, j i J And so we"ll go to Teiliwr Joe And spend up all the lot.' > j ;1 They wass buy two umbarellas, J And two pairs of big golosh, j j And a brace of oilskin waders, r And a mighty mackintosh. i So the clouds began to shiver, And the sun wass take to shine— Da iawn for Bill and Johnny, Who wass make the weather fine." Ond dal i fwrw mae hi hyd yma. k Neb mor ddall, &c." Derbyniais nodyn yn ddiweddar oddiwrth gyfaill a alwodd heibio i'm llety pan ar ei sgawt yng Nghaerdydd, ond yr oeddwn yn digwydd bod allan. Dyma ddywedai :— I had hoped to see you, but you were out. However, I did the best I could under the circumstances—I went to have a look at the public buildings in Cathays Park. There I saw in a prominent position a sight which is typical of the state of Welsh national sentiment in Cardiff." Yn y fan yma yr oedd yn rhaid troi dalen. At be mae o'n cyfeirio, tybed ?" meddwn i wrthyf fy hun. At y ddelw or ddraig sydd uwchben ystafell Cyngor y Gorfforaeth, ys gwn i ?" Mae honno yn cdrych yn benuchel, ffyrnig ac effro ddigon, meddyliwn. Ond erbyn troi drosodd, elai y braddug ymlaen fel y can- lyn I refer to the ten pillars in front of the Welsh University Offices. Go and have a look at them." Wel," meddwn i wrthyf fy hun, beth sydd mater arnynt nhw, tybed ?" Gan fy mod yn mynd trwy'r pare o leiaf deirgwaith bob dydd, yr oedd yn rhaid fy mod wedi eu gweled gannoedd o weithiau. Beth bynnag, y tro cyntaf yr eis drwyddo wedyn, aethum i'w hymyl i gael gwneud minute examination arnynt os oedd angen. Erbyn dod i'w hymyl, yr oedd un cipolwg yn ddigon. Fe chwarddais nes o'wn yn siglo. Dyna lle'r oedd y deg polyn haearn, a draig ar ben pob un—a'r olwg arni! Mae ei hedyn ar led fel bran ar hanner marw, a'i phen ar osgo dan ei haden chwith fel pe bae arni ofn dangos ei hwyneb, a'i chynffon yn llipryn i lawr y polyn Welsoch chwi fwy woe-be-gone look yn eich bywyd. Ac yr oeddwn erioed heb sylwi ar y joke o'r blaen. 'Roedd gen i gryn gydymdeimlad a'r eneth honno ddy- wedodd nad oedd hi 'rioed wedi dychmygu fod pentref ei mebyd hi yn lie mor dlws nes y gwelodd hi ei lun o ar picture postcard Libel ar Gaerdydd ydyw sly hit fy nghyfaill, wedi'r cwbl. --0--
Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. Y Pregethwyr Poblogaidd. SYR,—Yn eich colofn dra dyddorol 0 Big y G'lomen," bythefnos yn ol, dywedid fod un o Gymdeithasau Cymru Fydd Lerpwl wedi trefnu cystadleuaeth enwi'r chwe pregethwr mwyaf poblogaidd yng Ngliymru, gan nad o ba enwad a rhoddid dwy restr, a adawodd rhyw ymgeisydcl angliofus, meddech chwi, ar ei ol yn y tren. A'r tri uchaf yn yr ail restr ydoedd y Parch. W. Prydderch, Abertawe. Y Tad Ignatius, Llanthony. Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas. Wel, mi chwarddais yn fy nyble weled cyf- uniad mor anisgwyliadwy—dyna'r sandwich ryfeddaf a welais erioed, gyda'r Ignatius, Babydd poetli, megis mwstard rhwng dau dafell o fara iach. Ond i ddweyd hyn y dechreuais ysgrif- ennu, sef nad yw ddiben yn y byd i'r un gymdeithas ddisgwyl cael cystadleuaeth deg ac amhartiiol ar y fath bwnc y mae'r Cymry yn rhy sectol i enwi neb ar ei deilyng- dod ei hun, a gormod tan ddylanwad rhagfarn enwadol i enwi chwech yn onest a chyd- wybodol. Gwyn y gwel y sect ei chyw, Er fod ei liw yn lowddu." Yr unig gystadleuaeth onest ellir drefnu ydyw gofyn am chwe pregethwr mwyaf poblogaidd pob enwad ar ei ben ei hun. Ac er mwyn rhoi cyfie i rywun arall ddatgan ei farn, fe enwaf yma'r chwech mwyaf pobl- ogaidd i'm syniad i. Nid y chwech goreu, o angenrheidrwydd, a ddywedaf—y mae'r rhai poblogaidd ymhell o fod y rhai goreu weithiau Y Methodistiaid Calfinaidd. Parch. John Williams, Brynsiencyn. Parch. T. C. Williams, M.A., Y Borth. Parch. John Roberts, B.A., Lerpwl. Prifathro Owen Prys, M.A., Aberystwyth. Parch. Wm. Prytherch, Abertawe. Parch. S. T.Joiies, Rhyl. Yr Anibynwyr. Parch. H. Elfed Lewis, M.A., Llunden. Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog. Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon. Parch. Gwylf a Roberts, Llanelli. Parch. Ben Davies, Panteg.. Parch. O. L. Roberts, Lerpwl. Y Wesleaid. Parch. D. Gwynfryn Jones, Llandudno. Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Llanddulas. Parch. W. O. Evans, Y Rhyl. Parch. Thos. Hughes, Lerpwl. Parch. T. Nicholls Roberts, Y Wyddgrug. Parch. T. O. Jones (Tryfan), Manceinion. Y Bedyddwyr. Parch. E. T. Jones, Llanelli. Parch. Charles Davies, Caerdydd. Parch. Aaron Morgan, Blaenffos. Pedr Hir, Bootle. Parch. Hugh Jones, Llanelli. Parch. Moses Roberts, Ffestiniog. A rhag i chwi feddwl mai gyda'r Ymneiiltu- wyr yn unig y mae pregethwyr poblogaidd, dyma i chwi chwe efengylydd poblogaidd yr Hen Fam heddyw :— Parch. T. Pritchard, Ficer y Rhos. Parch. James Davies, M.A., Lerpwl. Parch. David Jones, Penmaenmawr. Canon E. T. Davies (Dyfrig). Archddiacon Wynne Jones, Llangollen. Parch. J. F. Reece, Llanfwrog. Maddeuwch i mi am gymeryd cymaint o'ch gofod. Yr eiddoch, Morfa Harlech. CLUSTFEINIWR.
GLANNAU'R GLWYD.
GLANNAU'R GLWYD. Bu Cynghorwyr y Rhyl yr wythnos ddiweddaf yn ucheldir Llanefydd.—Dyma ddydd A; nual Inspection y Waterworks, yr hyii 0 1 gyfieithu yw—Picnic neu Ysbleddach flYU- yddol. ■, Chwareu teg iddynt hefydj haeddant dydd fel hyn yn awr ac yn y man er eu ha10 bechodau. Y maent yn cael ami gic chrafiad gan y trethdalwyr, a doeth y gnant ddianc i'r mynydd-dir, o ganol dwndwr Y dref, i gael gwneud a dweyd fel y mynnoo am ddiwrnod. Wn i ddim pa faint o inspectlo y Gwaith Dwr fydd yno, hwyrach mai araco number two yw hynny. Byddai Dydd y Cymod yn eithaf enw ar y dydd. ByddaH ben-ben a'u gilydd yn fynnych yn ystod Y flwyddyn, ond cleddir pob bwyell ar Y dydd hwn, a bydd pawb mewn natur "heb neb yn tynnu'n groes." Enw priodol iawn fyddai Dydd Seboni," oher- wydd y mae seboni neu gosi eu gilydd Y cael lie amlwg yng ngwasanaeth y dydd-j' dyna swm a sylwedd yr areithiau, a be sydd fwy naturiol nag i ddwr a sebon ganly eu gilydd ? Dywedwn eto na ddyiew rwgnach yr ysbleddach diniwed hwn 01 yw, am a wn i, yn costio dim i'r dref. Er ell bod yn treulio y dydd ar lan y llyn, y mae»fc yn ddigon gonest i beidio defnyddio d^ y trethdalwyr yno, oherwydd cymerft0 eu diod hefo nhw. Y mae Mr. Clieetham er'slpeth amser y1 rhoddi arddanghosiad y Living Pictutes yn y Central Hall, Market Street, Rhyl, bob nos. Ond bore dydd Iau diweddaf P arddanghosiad mwy dyddorol y tu i'r Hall. Y mae Mr. Cheetham wedi arwydd-fwrdd yn hysbysu ei shou y drws er's tro, ond ni ofynnodd am gani^t** y Council cj'n gwneud hynny, a ehafo^. orchymyn i'w dynnu i lawr. Gwrthod Mr. Cheetham ufuddhau, gan ymresymu fOb ereill wedi gosod byrddau cyffelyb bob ganiatad, a'i fod yn barod i'w dynnu i la; os byddai iddynt wneud yr un modd. Il blygeiniol iawn bore dydd Iau ymddang- hosodd Mr. Torkington a'i ddynion gyd^ awdurdod y Town Surveyor i dynnu y bwr< i lawr ar draul Mr. Cheetham. Ond yr °e Mr. Cheetham wedi codi mor fore a hwythf a gorfododd y gweithwyr i symud yr ysgoli0^ oeddynt wedi eu gosod yn erbyn y lTtlU' d Wedi ychydig seibiant i gael boreufWyd, ymddanghosodd y dynion eilwaith, ac allfoll, wyd brysgennad at y Town Surveyor i w annedd i geisio cyfarwyddyd beth oeddyJl i wneud (yr oedd yn rhy fore, wrth gw i'r boneddwr hwnnw fod o gwmpas ei hurw; Ei orchymyn oedd fod y bwrdd i gael dynnu i lawr doed a ddelo. Codwyd scaff°Ti fel y gallent gyrraedd y bwrdd heb gyffw'r a mur yr adeilad, ond nis gallent symud y arwydd-ford. Yr oedd Mr. Cheetham 111, brysur a hwy thai i gyda'i cinematogrdf machine yn tynnu llun pob symudiad yW 5^ olygfa ddyddorol. Yr oedd cannoedd o bo wedi ymgasglu ac yn mwynhau yr hely yn fawr. Yn y man ymddanghosodd arnry, o'r Cynghorwyr, a mawr oedd y111drecd rhai ohonynt i ymgadw o gyrraedd y peiriant tynnu llun. Cyn bo hir, asyn yno, ond nid yw yn hysbys eto a oe efe yn cynrychioli Cyngor y Dref ai nad oe ond gwyddom i ryw un o'r dyrfa waed > pan ymddanghosodd yr hirglust, Dyma arall ohonynt." Prydnawn Sadwrn yr °° yr holl olygfa yn cael ei harddangos yn iy ar y IlSn gan Mr. Cheetham yn ei s"°0g a'r neuadd yn orlawn. Bwriada ei dang.^ bob nos am betli amser. Penderfyno yr ychydig gyngliorwyr, wedi ymgyngh" j ynghyd ar yr lieol, fod i'r arwydd-fwrdd_g llonydd hyd ddiwedd yr liaf. Pa ^° vll bydd wedyn, nis gwyddom ond y amlwg fod cydymdeimlad y cyhoedd i Mr. Cheetham, ac os gwir a ddywed ef, n yw y Cynghorwyr yn ddigon teg i yindd^y yr un fath at bawb, heb ffafcio neb, dywea ninnau Rhwydd hynt i wr y shou." Heno (nos Lun) y mae Arglwydd Cecil yn y Queen's Halace, Rhyl, yn arll<T ffyn yr Eglwys, a diameu ei fod yn ca&1 llawn, oherwydd da gan lawer gael cyfleus i glywed y gwr enwog. Yn ei ganlyn y Arglwydd Kenyon ac Esgobion Llane a Bangor. n y Gan y bydd eisieu puro yr awyr y11 Ii cymydogaethau hyn ar ol y ddau arglwYl1 a'r ddau esgob, y mae yn dda fod Dr. Clifford yn dod i Brestatyn wythnos i ddy Iau nesaf, ac y mae John yn sicr o g cystal dorbyniad o Hugh. Trwy garedigrwydd Mr. Arthur Rowl& (Ab Uthr) cafodd plant Ysgol Sul AnibyW Rhuddlan bleserdaith i Gwespyr ddy Mawrth diweddaf. «5b Y mae yn dda gennym fod Mr. Th011^ Amos Jones, mab Mr. Richard Jones, Park, Rhyl, wedi pasio ei arholiad te: fel cyfreithiwr. Dymunwn, a chredwn t dyfodol disglaer i'r gwr ieuanc medrus Y mae ei Iwyddiant yn anrhydedd 1 Roberts Jones, cyfreithiwr, gyda'r hwn y y gwr ieuanc yn paratoi. •5b lf Y mae'n debyg fod y gog wedi ein ga° e(ji oherwydd y mae ei bwgan, sef gwair, ei dorri i'w weled ar wastadeddau Dy" Clwyd. .0
TREMEIRCHION. MO1
TREMEIRCHION. MO1 CYNHALIWYD y cyfarfod pregethu blynY tli, Sul a Llun, Mehefin 23 a 24. Gwasana wyd gan y Parchn. J. Roberts, Rhyl> E. Davies, Treffyrmon. Y cynhulliadau^^ fod mor lliosog ag arfer, ond y weinidog yn hynod rymus.
--0--CARMEL, ger TREFFYNNON-on…
--0-- CARMEL, ger TREFFYNNON- on a CAED cyfarfod pregethu yma Mehefin Y gweinidogion eleni oedd y j?are T. C. Williams, M.A., a J. E. Davies, ffynnon. Er fod yr hin yn hynod o an:f„etb ac yn dweyd ar y gynulleidfa, tystio pawb oedd na chaed erioed well eyfairfod.
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen. f hestr gyflawn y testynau Y awe yn barod, ac i'w chael, pris s drwy'r post 7ic, gan Evans 50,t 6 Foulkes, Swyddfa'r SiBrytboos