Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

r™—s J TRWY Y DRYCH. j

News
Cite
Share

r™—s J TRWY Y DRYCH. j Eglwys Matthew Henry. ANODD troi y Drych ar Gymru heb iddo dynnu ein trem i Gaerlleon; ac mae llawer o elfennau Cymreig wedi eu nyddu i fewn i hanes yr hen dref gaerog honno. Ar hyn o bryd, dyma Eglwys Matthew Henry o flaen y Drych, ac erbyn craffu, gwelwn fod ynddi hithau fwy o Gymreig- rwydd nag y gallesid dybio, ac iddi hi y mae hanes tra dyddorol. Gwyddom oil mai yma y bu yr hen Esboniwr anfarwol, ac wrth ei Ragymadrodd i'w Esboniad, gwelir y dyddiad, Mai 13/ 1710. Wedi marw Matthew Henry, daeth iddo olynydd o duedd at Ariaeth, a throes olynydd hwnnw drachefn yn Undodwr. Yn 1768, aeth y lleiafrif Trindodol ac uniongred allan, ac ymsefydlasant yn achos newydd mewn neuadd gyffredin, lie y buont am bedair blynedd. Yn 1772, codwyd y capel ar safle yr un presennol, ond a ail adeiladwyd wedi hynny. Sef- ydlwyd yr eglwys newydd hon gan Gymro, sef y Parch. Benjamin Evans, o Lanuwchllyn, yr hwn a dynnodd allan Gyffes Ffydd Uchel-Galfinaidd a Chyf- amod Eglwysig. Mae y Cyfamod a'r Gyffes Ffydd hyd y dydd hwn yn llaw- ysgrif Benjamin Evans, ac yn cael eu darllen gan y gweinidog, oddiwrth Fwrdd y Cymundeb, y nos Saboth cyntaf o bob blwyddyn. Yr unig beth a gymerodd yr aelodau gyda hwynt ar eu hymad- awiad o'r hen eglwys oedd copi o argraffiad cyntaf esboniad Matthew Henry. Gwraig i un o weinidogion diweddarach yr eglwys hon-Samuel Luke-oedd y Jemima Luke a gyfansoddodd yr emyn I think when I read that sweet story of old." G Proffwydoliaeth Yn yr un eglwys fyth bu y cenhadwr, y Parch. Richard Mill, yr hwn a bro- ffwydodd am fawredd yr enwog Mr. C. H. Spurgeon. Deg oed oedd Spurgeon ar y pryd, a phan yn ei gwmni mewn gardd, syllodd Mr. Mill yn ei wyneb hawddgar a'i lygaid heulog, a dywedodd maijpregethwr a fyddai, y cai y gynulleidfa fwyaf yn y byd, ac na byddai neb uwch mewn enwogrwydd. Ceir yr hanes ym Mywgraffiad Spurgeon, yr hwn ei hun iu yn pregethu yn yr eglwys, ac yn dwyn tystiolaeth i wirionedd y digwyddiad. Ar hyn o bryd, y mae Cymro arall, y Parch. D. Wynne Evans, yn weinidog yr unrhyw eglwys. Pregethwr rhagorol, o gymeriad disglaer, ac anwyl gan bawb a'i hedwyn, yw efe. Ordeiniwyd ef yn Llanrwst, bu wedi hynny yn Briton Ferry, aeth oddiyno i'r Tabernacl, Llan- elli, lie y mae Gwylfa ar hyn o bryd, o'r lie y symudodd i'r eglwys Gynulleid- faol hon yng Nghaerlleon. Efe yw cadeirydd presennol Undeb Cynulleidfaol Seisnig Gogledd Cymru. Y mae hefyd yn pregethu yn fynnych mewn cyfarfodydd Cymreig. Fel hyn, mae llawer gwythien gyfoethog o dalent a gwasanaeth Cymreig yn rhedeg drwy yr eglwysi Seisnig, yn Lloegr, ac nid anyddorol fyddai ychwaneg o olrhain arnynt. G Ymneilltuwyr yn uno; TROWN y Drych unwaith eto ar yr enwadau Ymneilltuol Cymreig, ac ym- ddengys fel pe byddent yn sylweddoli yr argyfwng y maent ynddo, a'r angen- rheidrwydd am iddynt ymgrynhoi ynghyd mewn ymdrech unol i sicrhau yr amcan cyffredin i'r oil. Un o beryglon yr Ymneilltuwyr yw dibynnu yn ormodol ar unrhyw Senedd all fod mewn awdurdod, ac anghofio y pwys o gadw i fyny yn glir gerbron y wlad ddelfrydau hanfodol Crefydd Rydd. Dylem wneud pob def- ydd allom o'r Wladwriaeth yn ffafr ein hegwyddorion ond mae gwneud gallu neu ewyllys Senedd yn safon i'n Hym- neilltuaeth yn gamgymeriad barnol. Tra y byddai doeth ynom roi pob cymorth a chwareu teg i'r Llywodraeth i wneud y goreu posibl dan yr amgylchiadau, mae y syniad na ddylai yr Eglwysi Rhyddion bregethu mwy o'u Hymneill- tuaeth nag y gall y Senedd ei dderbyn yn wrthuni a gwaseidd-dra, ac yn frad- wriaeth yn erbyn coffa'n tadau ac eg- wyddorion hanfodol ein proffes. Mae perygl i Ymneilltuaeth hyd yn oed pan fyddo ei chyfeillion goreu yn y Llyw- odraeth. A pheth mwy a ddywedwn, y mae y perygl, mewn ystyr, yn fwy na phan fyddont yn yr Wrthblaid. Mae pob Cabinet i fesur yn glymblaid, a rhaid i'r un aberthu rywfaint er mwyn cydweithrediad yr oil. Pan fyddo y Rhyddfrydwyr yn Wrthblaid, maent yn rhydd i gyhoeddi yn groew ddelfrydau Rhyddid; ond pan mewn Cabinet, maent dan orfod i son mwy am yr hyn ellir ei wneud nag am yr hyn ddylid. Faint bynnag ddisgwyliwn oddiwrth y Senedd, ein dyledswydd o hyd yw cadw a meithrin yr argyhoeddiadau Anghyd- ffurfiol yn fyw a chryf yn yr eglwysi. Cartref a ffynhonell bywyd a nerth Crefydd Rydd yw rheswm a chydwybod pobl, ac nid yw deddfwriaeth., Senedd ar y goreu ond moddion i gyrraedd yr amcan hwnnw. Pe buasai Ymneilltuaeth a Phrotestaniaeth yn cael gwell magwraeth yn yr eglwysi, buasai cyn hyn lai o waith dylanwadu ar y Senedd, llai o duedd at glytio cyfaddawdau gwaeth nag arfer, a buasai y Comisiwn Eglwysig yn destyn chwerthin cenedlaethol mwy calonnog am ben yr ymgais i wthio derwen fawr Ymneilltuaeth Cymru i flower pot! Dy- wedwn eto,—gwneler y defnydd goreu posibl o gyfle y Llywodraeth bresennol, ond cadwer mewn cof mai Ty YR AR- GLWYDD, ac did" ty yr arglwyddi," yw ein hawdurdod a'n safon ni fel Ym- neilltuwyr Cristnogol. G Cyfyngder yr Uno. Nm drwg i gyd yw i Ymneilltuaeth Cymru deimlo gwasgfa. Ein tuedd pan mewn hawddfyd neu ddifrawder gyda golwg ar bethau mawrion a hanfodol yw cwerylon ynghylch pethau bychain a damweiniol. Yng nghyfnodau ei gwae y mae Crefydd Rydd yn ennill nerth ac undeb. Mae hi mewn crefydd fel mewn natur Mae eisieu Mawrth cyn mis Mai." Mae hanes cyflwr crefyddol-wleidyddol Lloegr yn amser y Puritaniaid yn brawf ddarfod i drallodion y gwahanol enwadau Anghydffurfiol fod o dda iddynt, a'u huno yn fwy a'u gilydd. Wrth gwrs, golygai yr enwau ar bleidiau crefyddol y pryd hwnnw rywbeth pur wahanol i'r ystyr a roddir iddynt yn awr ond, er hynny, mae yr egwyddor dan sylw yn cael ei hegluro yn eu hanes. Dywed Mr. Green, yr hanesydd, ddarfod i Ddydd St. Bartholomew brofi yn fanteisiol i'r graddau uchaf i ryddid crefyddol, oherwydd iddo fod yn foddion i ddwyn y gwahanol bleidiau Puritanaidd yn nes at eu gilydd. Eb efe :— YN ffodus, gyrrodd ysgariad mawr Dydd St. Bartholomew y Presbyteriaid allan o'r eglwys wrth ba un y glyn- asant, gan eu gwasgu i undeb cyffred- inol a sectau a gasesid ganddynt hyd hynny mor chwerw a'r esgobion eu hunain. Bu i erledigaeth gyffredinol yn fuan rwymo yr Anghydffurfwyr yn un. Torrodd erledigaeth i lawr o flaen rhifedi, cyfoeth, a phwysau gwleidyddol yr enwadau newyddion, a chafodd yr eglwys ei hun am y tro cyntaf yn ei hanes wyneb-yn-wyneb a chorff trefnyddol o Anghydffurfwyr o'r tu allan iddi. Bu i'r amhosibl- rwydd iddi wasgu y fath gorff a hwn dynnu oddiwrth y gwleidyddwyr Seis- nig y gydnabyddiaeth gyfreithiol gyntaf o addoliad rhydd yn Neddf Goddefiad mae eu tyfiant cyflym mewn amserau diweddarach wedi diosg yr eglwys o braidd bob braint gyfyngedig a feddai fel corff crefyddol, ac yn awr yn bygwth yr hyn sydd yn aros o'i ehysylltiad swyddogol a'r Wladwriaeth. Onid yw hyn oil yn arwyddo fod y gallu i sicrhau ei gwaredigaeth ym meddiant Anghydffurfiaeth ei hun, ac mai yr hyn sydd eisieu yn bennaf yw iddi sylweddoli hynny, crynhoi ei nherth mewn undeb difwlch, a cherdded at ei nod ? Pe buasai eu holynwyr wedi gwneud yr ymdrech a'r aberth angenrheidiol i wthio brwydrau y tadau ymlaen yn ffyddlon, buasai y fuddugoliaeth derfynol wedi ei hennill er ys talm, a'r gweddill sydd yn aros o'r cysylltiad" anachaidd wedi ei dorri ymaith yn llwyr. ø Teyrngarwch i'r Gwirionedd. AR Undeb Cynulleidfaol Cymru, yng Nghas- tellnedd, y mae y Drych yn awr, a gwelwn y Parch. Robert Roberts, Manchester, y cadeirydd, yn sefyll o flaen tyrfa liosog,. ac yn traddodi ei anerchiad ar Deyrngarwch i'r Gwirionedd." Bu wrthi dros awr a hanner, a chyfrif yr amser maith a gymer- wyd gan y gwrandawyr i ddangos eu cymer- adwyaeth. Y farn gyffredinol yw mai dyma un o anerchiadau gallu o cat yr Undeb o'i gychwyniad, ac nid ychydig olyga hynny. Gwyddai cyfeillion Mr. Roberts yn dda am ei allu fel meddyliwr, ei fod yn ddarllennwr a myfyriwr helaeth a chyson, a'i bregethau bob amser yn dwyn ol llafur a pharatoad manwl. Ond nid oedd y Cadeirydd eleni mor adnabyddus i'r enwad yn gyffredinol a rhai fu yn y swydd o'i flaen. Mentrodd ,w destyn oedd yn amserol a thragwyddol," ys dywedai yntau, a gwelwyd fel yr elai ymlaen ei fod yn gartrefol ym meddylfyd (thought-world) ei destyn amlweddog, yn hanesyddol, gwyddonol, athronol, diwin- yddol, ac eglwysig a gwisgodd hen bynciau ac ymresymiadau a newydd-deb meddwl byw ac arabedd tarawgar. Er yn cymeryd safle yr hen ddiwinyddiaeth, yr oedd y cyflead ohoni yn newydd, a'r eglurebau yn ami yn wreiddiol. Ni fynnai osgoi yr un anhawster, ac arwyddai y mynnych gymeradwyaeth a gaffai gan y gwrandawyr fod ei amddiffyniad i'r ffydd gyffredin yn fllddugoliaethus-hyd yn oed wrth ymwneud ag athrawiaeth y Cwymp. clanghosodd graffter mawr yn ei ymdriniad a rhai o eiriau yr lesvi, fel y ceid ynddynt seiliau gwyddonol (scientific basis) i athrawiaethau yr efengyl. Nid oedd y traddodiad yn hylithr ac areithyddol ond yr oedd mor ymresymiadol, clir, ireiddiol, a chyfoethog o feddw], ac yn dwyn y fath don o hunanfeddiant a hyder, nes y parai argraff ddofn ar y dorf fawr oedd yn gwrando. Nodweddid yr ho 11 gyflawniad gan bwyll priodol i un yn dealt ac ymddiried yn y Gwirionedd y traethai am dano. Prin y gellid disgwyl i bawb gytuno ar bob peth yn yr anerchiad, ond yr oedd yn eglur mai dyna a wnai y mwyafrif mawr, a bydd yn werth gan ereill gael cyfle i ddarllen ac ystyried yn fanylach y traethiad galluog hwn wedi y cyhoedder ef. 3F;Q Y Cadeirydd Newydd. Gwyr Cymry Lerpwl a'r cyffiniau, yn gystal a Chymry Ymneilltuol yn gyffredinol, am alluoedd pregethwrol a chymeriad disglaer y Parch. Robert Thomas, Glandwr, cyn- weinidog y Tabernacl, a chadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol. Blin gan ei gyfeillion lliosog oedd deall am ei gystudd trwm yn ystod y blynyddoedd diweddaf, ond hyderir yn gryf ei fod ar wellhad, ac y ca nerth i gyfiawni y swydd yr etholwyd ef iddi gyda'r fath frwd- frydedd. Bu Mr. Thomas yn ffyddlon i'r Undeb drwy y blynyddoedd, ei bwyll a'i graffter o fawr werth i'w weithrediadau, a'i ysbryd addfwyn yn gynhesrwydd i'w awyr- gylch. Y mae hefyd yn un o brif bregethwyr ei enwad, a lliosog yr oedfaon nerthol a gafodd efe yn ei uchel-wyliau. Yn Rhos- llanerchrugog y bydd yr Undeb nesaf, a gobeithiwn gael troi y Drych ar wyneb hawddgar Thomas Glandwr," fel y cyfyd yntau i godi'r 116-n oddiar gyfrinach ei feddwl a'i fyfyrdod yn y ffurf o anerchiad.

Advertising

Nodion o'r De.

Ffetan y Gol.

GLANNAU'R GLWYD.

TREMEIRCHION. MO1

--0--CARMEL, ger TREFFYNNON-on…

Advertising