Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Methodistioeth Mon.

Nodion o Fanceinion.I

News
Cite
Share

Nodion o Fanceinion. GAN CYFRIN. Cymanfa Chorlton Road. Nos Sadwrn a'r Sul y cynhaliwyd y Gymanfa flynyddol gan yr Anibynwyr a thri peth mawr a berthynent iddi ydynt pre- gethwyr mawr, cynhulliad mawr, a chasgliad mawr. Gwasanaethwyd y tro hwn gan y Parchn, Samuel Williams, Maesteg, a H. Elfed Lewis, M.A. Rhodd- odd y blaenaf foddlonrwydd llwyr ar ei ddyfodiad cyntaf i'r lie. Mae ganddo ddewrder i draethu gydag awdurdod drama- yddol, ac addfwynder i sefyll yn gennad ac nid oracl. Mae swyn a meluster Elfed yn denu pawb ato ofer yw ceisio paentio'r lili. Dyma ychydig berlau o'r gadwen feddyliol, heb fychanu cyfoethowgrwydd y gweddill Ebai y Parch. D Williams Tuag i lawr mae trugaredd yn mynd, ond os at bechadur, at y goreu sydd ynddo yr ä. Diwygiwr oedd Esaiah, a gwaith diwygiwr yw ymosod ar ddrwg ond nid dwrn i daro yn unig oedd y proffwyd, eithr bys i gyfarwyddo hefyd. Dyledswydd pob derbynydd yw diolch, awgryma can yr ehedydd bach hynny yn y bore. Rhan o ogoniant dyn, meddai'r hen Biwritan, ydyw ei fod yn gallu sefyll yn wyneb Duw heb ufuddhau, ond ei gywilydd yw hynny. Cymhariaeth o ddinas brydferth bywyd, a chydwybod yn rheoli'r oil, yw dinas Edinburgh, ar y gwastadedd mae parciau y pleserwyr, yn uwch heolydd y masnach- wyr, yn uwch wedi hynny y mae'r colegau i wyr addysg, ac uwchlaw y rheiny mae y castell, ac ar ben twr uchaf hwnnw mae amser-fagnel (time gun) yn taranu cywirdeb i'r oil. Mae trugaredd yn rhoi chwareu teg i fagu dyndod. Mae llawer o debygrwydd rhyngom a'r Saeson, a llawer o wahaniaeth hefyd, ac y mae yn amhosibl cyfieithu y cymeriad Cymreig,-Yilao rhywbeth yng ngwaed y Cymro na oddef ei gyfieithu. Athrylith arbennig yr Iddew oedd crefydd, gwrando ar sibrydion yr ysbrydfyd oedd. Meddwl oedd athrylith bennaf y Groegwr a dyn yr amgylchiadau oedd y Rhufeinwr. Meddai Elfed :-Os cawn fod esbonwyr yn anghytuno, y cynllun goreu yw tori at ddau esboniad sydd wrth law, sef y bywyd cyffredin a'r Beibl. Mae ambell aradwr yn ddall i bopeth ond y gwys a'r nod fydd ganddo, ac ambell ddyn yn fyddar i bopeth ond i genadwri y llyfr a ddarllenna. Collodd Crist ei olwg ar angelion am ei fod yn gweled pechaduriaid. Nid yw gwirionedd yn gwaeddi llawer cyfeiliornad sydd yn gwaeddi bob amser, a rhaid iddo gael gwneud neu farw heb gofiant iddo, mae ei oes mor fyr. Rhodd- wyd colofnau yn y newyddiaduron am y Diwygiad ond yn awr, os bydd rhywbeth yn anglod, ar y Diwygiad y rhoir y bai fydd y peth bach a gyflawnwyd neithiwr, ac a gyhoeddir, wedi darfod tra'r cwrdd gweddi na sonir am dano yn parhau am gan mlynedd. Pan fydd Duw eisieu goleuo seren newydd yn y ffurfafen, mae yn gwneud ei hun ond os bydd eisieu goleuo canwyll yn ystafell cystudd, rhaid i ni wneud hynny. Yr amser mwyaf llwyddiannus ar fasnach yw yr amser mwyaf peryglus. Yr hwyl fwyaf a gai rhai yn y Diwygiad oedd dweyd triciau hen deulu y diafol. Fuasai yr un dyn yn ceisio dilyn llwybrau pechod pe gwelsai ddiwedd y llwybr,—gofala'r diafol gadw hwnnw o'r golwg. Enaid wedi myned yn hyf ar Dduw yw balchter ysbryd, a phechod ofnadwy yw hwnnw. Dringo Llwybr Dysg. Mae y rhai fuont yn llwyddiarmus yn arholiad y Brifysgol yng Ngholeg Owen yn hysbys, a dyma enwau y Cymry ar y rhestr Enillwyd M.A. gan Gwladys Evans ac Ernest J. Price a M.Sc. gan Edward W. H. James. Derbyniodd L. M. Angus, mab y proffeswr ym Mhrifysgol Cymru, ei radd o B.A. gydag anrhydedd yr ail ddosbarth mewn Archadeiladaeth. Mewn daearydd- iaeth, bu David Meredith yn llwyddiannus, a chafodd John W. Jones y B.A., ac Evelyn Gwynne Jones y B.Sc. Enillwyd Ysgolor- iaeth Bradford mewn Hanesyddiaeth gan Stanley Wilson Jones, a'i frawd, Arthur Jones, M.A., oedd yr unig un enillodd an- rhydedd y dosbarth cyntaf yn yr arholiad Celtaidd. --0-

PULPUDAU MANCHESTER.

Advertising