Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Llythyr Gwleidydol.

-0 BWLCHGWYN A'R CYLCH.

News
Cite
Share

-0 BWLCHGWYN A'R CYLCH. Y Parchn. W. O. Evans a Mon Hughes fu'n cadw cyfarfod pregethu rhagorol y Wesleaid yng nghapel Bethesda y Saboth a dydd Llun diweddaf. Mae digon hawdd i'r cyfarwydd ddweyd fod W.O.E. yn nai i'r diweddar Gynfaen fawr ei athrylith, oddiwrth nodwedd y filachiadau barddonol a dywynent draws ac yma hyd ei bregethau. Yr oedd y ddau yn dda—gobeithio yr egina yr had pur a hauwyd. A'th lugom mellt yn ennyn yn dy law 1B&- Fod Duw o 'u mown. ebe Islwyn a dyna ebem ninnau ym Mwlch- gwyn y Saboth diweddaf. Aeth mellten i dy David Rogers, Wesley Road, gan falu'r dodrefn a'r holl ffenestri yn 'sgyrion, llosgi'r gwelyau a dymchwel rhan uchaf y simne. Yr oedd Miss Rogers a lodes ei chwaer adre'n gwarchod, tra'r gweddill yn y cyfarfod pregethu. Llosgwyd gwallt yr eneth a'i hochr, a hyd yma y mae mewn cyflwr lied ddifrifol. Yng nghapel newydd y Nant, Coedpoeth, cynhaliodd Dosbarth Adwy'r Clawdd eu cyfarfod ysgolion deufisol, tan lywyddiaeth Mr. Thomas Jones—llywydd llednais a dymunol iawn. Holwyd y gwahanol ddos- beirth gan y Parch. J. Ll. Jones, B.A., canwyd ac radroddwyd darnau cysegredig, ac aed drwy raglen faith a blasus. Darllennwyd llythyr yn y cyfarfod athraw- on oddiwrth Ddosbarth y Wyddgrug, ar y priodoldeb fod y swyddogaeth eglwysig mewn cydymdeimlad fi'r Ysgol Sul yn fwy cyffredinol. Caed lliaws o awgrymiadau yn codi o'r dosbarth, ar y moddion goreu i feithrin, addysgu, a chymell yr ieuenctyd i siarad, dweyd eu profiadau fel deiliaid ac athrawon yr Ysgol Sul, ac i annerch gwa- hanol gyfarfodydd ysgolion yn y dosbarth. Teimlem fod un peth y dylid ei wella, sef y dull peiriannol o ateb yr arholwr. Ychydig o wreiddioldeb welid yn y prawf roddwyd arnynt y Saboth. Nid dyma arferiad plant y Nant, chwaith. YR ERYR.

Mr.Ellis J.Griffith, A.S.…

Yn Ynys Mon ac Arfon

Advertising

Advertising

Yn Ynys Mon ac Arfon