Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Llythyr Gwleidydol.

-0 BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Mr.Ellis J.Griffith, A.S.…

Yn Ynys Mon ac Arfon

Advertising

Advertising

Yn Ynys Mon ac Arfon

News
Cite
Share

y Parch. D.. Jones, Garregddu. Cyfarfod da oedd hwn. Mae holi mawr pwy oedd y foneddiges ieuanc gyflwynodd gofiant Edward Morgan, Dyffryn-gwaith y Parch. Griffith Ellis, Bootle. Pwy bynnag oedd, gallaf ddweyd dros y gweinidogion newydd ordein- iedig eu bod oil yn ddiolchgar iddi am y rhodd werthfawr. i *5= Yr wyf wedi bod mewn amryw sasiynau, ond yr oedd hon yn un o'r rhai goreu y bum ynddi. Yr oedd y teimladau wedi codi yn uchel iawn yn yr oedfaon ddydd Gwener ar y maes, a thyrfa fawr wedi dod at eu gilydd. Y Parch. Robert Thomas, gweinidog y lie, wrth ei fodd, a chlywais ef yn dweyd ar goedd, "Dyma'r sasiwn oreu y bum ynddi erioed. Wn i ddim pa emyn i roddi allan." Yr oedd amryw o blant y Diwygiad yn bresennol, ac nid yn fuan yr anghofir gweddi boneddiges ieuanc yn yr oedfa oJaf. Caergybi. Nos Fawrth caed cyngerdd da yn y neuadd drefol, y Parch. E. B. Jones yn llywyddu, a Mr. R. Mon Williams yn arwain. Gwas- anaethwyd gan Mrs. Kate Rowlands, Miss Lilian A. Parry, Mr. E. W. Rees, gyda'r crwth, Mr. R. R. Thomas, Rhostryfan, Mr. C. A. Hughes, Cor Plant Cybi, dan arweiniad Mrs. C. A. Hughes, a Chor Undebol Caergybi, dan arweiniad Mr. Hugh Williams. Cyfeil- iwyd yn feistrolgar gan Mrs. C. A. Hughes. Yr oedd y cantorion oil a'r corau mewn hwyl dda. Cafwyd amryw adroddiadau campus gan Llew Deulyn, Nantlle. Yr oodd elw y cyngerdd i frawd claf. Daeargryn. A glywsoch cliwi neu a deimlasoch chwi yn Nerpwl yna yr ysgydwad ? Fe ddywedir fod rhai pobl yng Nghaergybi wedi teimlo oddiwrth yr effeithiau ddydd Mercher di- weddaf ond nis gallaf gredu fod llawer o helynt. Wyddoch chwi, mae mewn ambell i le ohebwyr, os na fydd ganddynt newyddion cyffrous, nid ydyw yn ormod ganddynt greu daeargryn Ni chlywais fod yr un creadur wedi colli ei fywyd gyda'r ddaeargryn hon. Gallwn feddwl fod peth tebycach i ddaeargryn wedi bod yn y Cyngor Trefol wrth ymdrin ag ymweliad y Brenin. Mawr ddiolch i'r cyfeillion hynny safasant yn ddewr dros roddi gwledd i'r plant yn hytrach na gwario yr arian am dan gwyllt. Yr oedd yn llawer hawddach cael pobl i wario yr arian, na chael rhai i fyned o gwmpas i'w casglu. Cyngerdd, Eis innau, fel rhai ereill, heno i Gaernarfon i'r cyngerdd mawreddog yn y Pafiliwn. Amcan y cyngerdd oedd chwyddo trysorfa y dysteb fwriedir gyflwyno i Mr. D. Emlyn Evans am ei wasanaeth mawr. Un o gyf- eillion anwylaf Emlyn ydyw y boneddwr Mr. M. T. Morris, Y.H., ac efe drefnodd y cyngerdd hwn. Pwy ond If efe allasai sicrhau y fath dalentau ? Yr oedd wedi llwyddo i gael seindorf Llanberis a seindorf Nantlle i roddi eu gwasanaeth, a chor meibion y dref, dan arweiniad Mr. Walter Thomas. Yr oedd y rhai hyn yn dda ond i glywed Miss Maggie Davies a Miss Gwladys Roberts, Mr. Ffrangcon Davies a Mr. Maldwyn Humphreys, yr oedd y dyrfa wedi ymgasglu. Cafodd y pedwar dderbyniad croesawgar iawn, ac yr oedd eu caneuon yn ennill cymer- adwyaeth fyddarol. Dichon nad oedd pawb ohonom yn deall geiriau yr oil o'r caneuon, ond pa wahaniaeth ?—yr oedd pawb wrth eu bodd, a bu raid iddynt oil ail ganu. Cafwyd unawdau penigamp ar y crwth gan Mr. Theodore Lanson. Cyfeiliwyd i'r cor meibion gan Mr. Willie Morris, ac i'r cantorion gan Mr. John Williams a Mr. Orwig Williams. Yr oedd y cyngerdd yn treat, a diolchir i Mr. Morris am ei drefnu. Ar ganol y cyngerdd rhoddodd Mr. Ffrangcon Davies anercliiad gwresog ar deilyngdod Mr. Emlyn Evans i'r dysteb anrhydeddus. Cymhellai leoedd ereill i wneud eu rhan fel Caernarfon. Dy- wedwyd ychyidg eiriau gan Faer y dref a Mr. Lloyd Carter. Gall Mr. Morris deiiiilo-yn dawel ei fod ef wedi gwneud ei ran. K Persono!. Mae Mr. Dan Roberts y Diwygiwr yn aros am ychydig yn Gwalchmai, gyda theulu caredig Ty Newydd. Yr oedd yn dda gennyf ei weled yn edrych mor dda. Mae Miss Williams, Ty Newydd, wedi dychwelyd gartref ac yn gwella yn dda. Bu Mr. Thos. Williams yn pryderu llawer, ac nid hwy yn unig, ond preswylwyr Gwalchmai a Mon i gyd o'r bron. Yr wyf fi fel ereill yn liyderu y bydd iddi gael llwyr adferiad i'w hiechyd, a hynny yn fuan. Cefais air heno fod Ap Huwco, Cemaes, wedi ennill cadair yn Beaumaris. Da iawn. Ymgeisiai saith, ond yr oedd yr Ap ymhell uwchlaw y gweddill, meddai Gwynedd, y beirniad. Dewi Meirion oedd y goreu allan o ddwsin am adrodd. Carem gofnodi rhagor, ond cawn wneud eto, os byw.