Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Llythyr Gwleidydol.

News
Cite
Share

Llythyr Gwleidydol. [GAN Y GWYLIWR]. O'r Tibr, Westminster, Nos Fawrth, Gorff. 2, 1907. Y diweddaraf am Ddatgysylltiad. NEITHIWR fe gefais ryddid i ddianc am fyr ysbaid o'r. Wylfa i weled ac i glywed pa fodd yr oedd rhai o'r Aelodau Cymreig yn gallu cyd-daro ar bwno Datgysylltiad y tu allan i furiau T:9" y Cyffredin. Yr achlysur ydoedd darlleniad papur i aelodau y New Reform Club—cymdeithas o wleidyddwyr sy'n pab- ellu yng nghylchoedd clasurol yr Adelphi- gan Mr. W. Llewelyn Williams, cynrychiolydd seneddol Bwrdeisdrefi Caerfyrddin, ar Ag- weddau Hanesyddol Datgysylltiad a Dad- waddoliad." Nid yn unig yr oedd y testyn yn ddyddorol a'r darllennydd neu'r darlith- ydd-yr un a fynner-yn hyddysg yn ei bwnc, ond yr oedd Llywydd y Bwrdd Mas- riach (y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George) yn y gadair, a Syr Ifor Herbert a Mr. Ellis Griffith ymhlith y gwrandawyr. Pregethu i'r Saeson yr oedd Mr. Llewelyn Williams, ac yn wir y mae yn dda reiol fod rhywun yn barod i gario yr efengyl wleidyddol iddynt, oblegid fel y sylwodd y darlithydd, y mae anwybodaeth yr average Englishman am hawliau a dyheadau gwleidyddol ei gymydog y Cymro bron yn anirnadwy. Y tro hwn cafodd bagad ohono-sef o'r average Englishman-oleuni clir hanesyddwr eglur ar Ddatgysylltiad y gorffennol. Ond credu yr oeddwn i fod y rhan fwyaf o'r gwrandawyr yn teimlo fel Syr Ifor Herbert fod dyddordeb y cwestiwn o Ddatgysylltiad a Dadwaddoli Eglwys yr Estron yng Nghym- ru yn gorwedd nid yn gymaint yn y pellafion o'r tu ol i ni ag yn y posiblrwydd sydd o'r tu blaen i ni. Ar y pen hwn fe draddododd Mr. Ellis Griffith resymau cryfion-rhesymau sydd erbyn hyn yn ddigon adnabyddus i ni oil—paham y tybiai ef y dylai Datgysylltiad ffurfio rhan o gynnwya llestr condemniad Ty yr Arglwyddi. Teimlai Mr. Lloyd George o'r ochr arall fod y llestr hwnnw yn ddigon llawn eisoes i gondemnio yr Arglwyddi i ddifodaeth o leiaf mor belled ag y mae eu hanfod bresennol yn myned, ac er y dymuna weled ami i ddiwygiad yn cael ei ddwyn oddiamgylch yn y byd gwleidyddol, creda mai y ffordd rwyddaf i'w cael ydyw symud ymaith yn gyfangwbl y Graig Rwystr sy'n atal cerbyd diwygiad yn ei flaen. Anrhydeddu Gweithwyr. Yr ydym ni yn Nhk y Cyffredin-ys dywed y Junior M ember-yn cymeryd hyfrydwch—o leiaf, y rhan fwyaf ohonom— yn yr anrhydedd y mae'r Brenin, ar gymer- adwyaeth y Prifweinidog, wedi ei osod ar dri gwr a wnaethant wasanaeth i Gymru. Gweithiwr distaw ydyw Syr Francis Edwards wedi bod, ac nid ydyw'r byd oddiallan wedi clywed yn agos gymaint am dano ag am ddynion mwy trystfawr. Ond ymhob mud- iad gwleidyddol Cymreig oedd yn gofyn am rywbeth heblaw siarad, ceid yr aelod dros sir Faesyfed bob amser ymhlith y dosbarth mwyaf gweithgar. Rhyw ddiwrnod feallai, pan ddatguddir cronicl gwaith y Blaid Gymreig, fe wneir yn hysbys ryw gyfran o'r gwassnaeth arbennig y mae Mr.—yn awr Syr-Francis Edwards wedi ei gyflawni yn ddistaw ac yn ddiymhongar ar hyd y blyn- yddoedd. Yn y cyfamser, y mae yn dda gennym fod Syr Henry Campbell Bannerman wedi dangos ei werthfawrogiad o lafur a ffyddlondeb un o blant y Gogledd sy'n cyn- rychioli siroedd y De. Am ei wasanaeth milwrol, yn bennaf, er nas gallai y Prif- weinidog anghofio ei sel ynglyn a'r Mesur Addysg, yr anrhydeddwyd Syr Ifor Herbert. Am Syr John Rhys, y mae ei gymhwysterau ef yn afrifed ond mewn cylchoedd gwleid- yddol, wrth gwrs, ei waith fel ysgrifennydd ac fel aelod o Ddirprwyaethau Brenhinol oedd yn pwyso fwyaf. Hawddamor i'r tri chadam, a hir oes iddynt i barhau i was- anaethu Cymru.

-0 BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Mr.Ellis J.Griffith, A.S.…

Yn Ynys Mon ac Arfon

Advertising

Advertising

Yn Ynys Mon ac Arfon