Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Yr Undeb yng Nghastell= nedd.

Rhai Neilltuolion.

News
Cite
Share

Rhai Neilltuolion. Yr oedd yna rai neilltuolion yn y cyf- arfodydd eleni y dylid galw sylw atynt. 1. Yr oedd y pwyllgor wedi nodi dwy foneddiges i gymeryd rhan gyhoeddus yn y gweithrediadau. Areithiwyd yn ddawnus yn y cyfarfod dirwestol gan Mrs. Hope Evans, Maerdy, ar wasanaeth posibl y fam i'r achos dirwestol. A darllennwyd papur yn y cyfarfod cen- hadol gan Miss Eliza Evans, Lerpwl- emynyddes ragorol, ac un sydd wedi etifeddu llawer o fedr llenyddol ei thad, Dr. Owen Evans. Tystiolaeth unol y rhai a'i clywsant oedd iddi wneud ei gwaith yn alluog a thra effeithiol. Y mae y ddwy foneddiges yma wedi agor y drws i ereill i'w dilyn yn y dyfodol. 2. Cymerid dyddordeb mawr yn y penderfyniad a ddygid ymlaen yn y Gynhadledd ar gwestiwn Datgysylltiad. Ofnid fod yr Anibynwyr yn mynd i godi baner gwrthryfel. Ffynnai llawer o anfoddogrwydd ynglyn a gweithrediadau y Ddirprwyaeth. Cwynid nad oedd y Weinyddiaeth na'r Aelodau Cymreig yn dangos digon o sel ym mhlaid Dat- gysylltiad. Yr oedd y penderfyniad a gynhygid gan Mr. Josiah Thomas braidd yn fygythiol ei don. Yr oedd teimladau y cyfarfod yn bur gynhyrfus ond daeth y Parch. Elfed Lewis ymlaen, a thaflodd olew i dawelu y tonnau. Darllennodd y Ilythyr a dderbyniasai ychydig ddydd- iau cyn hynny oddiwrth Lloyd George. Ac wele, bu tawelwch mawr. A raid i dywysogion Cymru ymhob oes ddrwg- dybio eu gilydd, ac edliw teyrnfradwriaeth y naill i'r Ilall ? Ai nis gallwn feithrin mwy o ymddiriedaeth yn y Weinydd- iaeth hyd nes y ceir profion diamheuol ei bod yn mynd i'n bradychu ? Pe yn sorri ac encilio oddiwrth y Weinyddiaeth, a ydym mor ynfyd a thybio y byddai i ni fanteisio drwy wanhau y Rhyddfrydwyr a chryfhau breichiau Toriaid Eglwysig ? Dylem wybod na chawn fyth Ddatgys- ylltiad i Gymru hyd nes yr enillir y frwydr a Thy'r Arglwyddi. Ein dyled- swydd amlwg yw cydymuno i ymladd nes gorchfygu yn yr ymgyrch hon yn gyntaf oil. Yna galwn yn groch ac ymladdwn yn ddewr am gydraddoldeb crefyddol. Cafwyd cyfarfod cyhoeddus ardderchog eleni. Areithiwyd gan y Parch. Gwilym Evans, Aberaeron, ar Addysg Grefyddol yr Ysgol Sul yn wyneb yr argyfwng presennol ynglyn ag Addysg Elfennol. Yr oedd yr areithiwr yn ddieithr i'r mwyafrif oedd yno. Ond y mae'r araith hon wedi cyfiawn hawlio iddo le amlyc- ach yn ei enwad. Gellir dweyd yn gyffelyb am yr araith ar Jenkyn Jones a'i gylch a'i genedl," draddodwyd gan Pedrog. Gwnaeth yntau waith rhagorol. Cadwodd y dyddordeb yn fyw hyd y diwedd, er ei bod yn hwyr a'r dyrfa yn fawr. Disgwylid Ilawer oddiwrth Mr. S. T. Evans, A.S., yr hwn a ddarllennodd bapur ar ragolygon y Mesur Addysg nesaf. Mae'n amlwg nad oedd am bro- ffwydo rhyw lawer cyn gwybod yn sicr. Ond datganodd ei argyhoeddiad na fyddai yn y Mesur Addysg y flwyddyn nesaf yr Adran IV. yn rhoi ffafrau neill- tuol i ysgolion y Pabyddion a chredai na chai yr Eglwys Sefydledig fyth eto y ffafr o gael addysgu ei chatecism gan yr athrawon taledig gan y Llywodraeth. Da iawn," meddwn o'n calonnau. Un o brif atdyniadau yr Undeb yw yr Anerchiad o'r Gadair. Mr. Roberts, Manchester, oedd y cadeirydd eleni, a chydnabyddir iddo wneud ei waith yn anrhydeddus. Teyrngarwch i'r Gwir- ionedd mewn Cred a Buchedd oedd y mater a gymerodd yn destyn. Ar lawer ystyr yr oedd y rhan gyntaf yn dda iawn. Yn naturiol iawn, cymerai yn ganiataol mai y Beibl a dysgeidiaeth yr Iesu yw y safon i wybod ac i benderfynu beth sydd yn wirionedd. Ond ni flinid ef gan yr anhawsterau a deimlir gan ereill i gael sicrwydd fod yr efengylwyr wedi deall yr lesu yn iawn a'i groniclo yn gywir. Y mae beirniaid diweddar yn barnu mai Efengyl loan yw yr un ysgrifennwyd olaf o'r pedair. Cydnabyddir fod mwy o ddelw yr ysgrifennydd ar hon ac fod dysgeidiaeth yr lesu wedi cael ei lliwio yn fawr gan ymwybyddiaeth yr awdwr. Ond anwybyddai y cadeirydd yr anhaws- terau hyn i gyd. Y geiriau briodolir i'r lesu yn y bedwaredd efengyl oedd ei awdurdod i benderfynu y gwirionedd. Ond ar y cyfan, rhoddodd yr anerchiad foddlonrwydd mawr. Wrth edrych yn ol ar y gyfres o gyf- arfodydd teimlwn eu bod wedi rhoddi ysbrydiaeth newydd i filoedd i lafurio. Y mae'r Undeb yn galluogi'r enwad Anibynol i lefaru gyda mwy o nerth am ei fod yn cynrychioli eu llais unol ar faterion cyhoeddus. Y mae swn Undeb ehangach rliwng yr enwadau i'w glywed. Ni dderfydd enwadaeth o'r tir am dymor hir, ond dylai pob enwad wneud a allo i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd." ANIBYNWR.

Advertising