Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

DYDDIADUR.

---Glannau'r Mersey

GIPSY SMITH

News
Cite
Share

GIPSY SMITH Methais a chael hamdden i ysgrifennu yn gynt, ond wythnos Cymanfa ddiweddar y Wesleaid ym Mynydd Seion eefais y cyfle cynta i wrando Gipsy Smith yn pregethu. Rywsut neu gilydd, yn fy myw y gellais gredu 'rioed fod modd achub Sipsyn, achos dyna'r garsiwn fwyaf castiog ac an- achubadwy a gyfarfum hyd yma; ac wrth atgofio eu gwaith yn ffowla a lladrata'r nos yn fy hen ardal ddyddiau maboed, yr oeddwn 'run gred a Goronwy y byddai raid can stwffwl cist uffern hyd yn oed pan elai neb o'r hil felynddu i'r diriogaeth honno. K Ond duaf y gors, gwynnaf y lili yn fynnych a dyf ohoni; a dyma heddyw Sipsyn wedi cael gras, wedi ei danio'n ardderchog, ac yn gyfrwng i achub cannoedd o eneidiau ymhob parth o'r byd. Tu ol iddo yn y pulpud, dacw'i frawd-yng-nghyfraith Gipsy Evens, a'i briod—hithau yn gantreg dda, ac yn dwyn holl nodweddion ei chenedl lygadlym, felynddu a'r ddau Gipsy—Evens a Smith -yn balffo ddynion cedyrn a hardd yr olwg. «5e Cyn dechreu'r bregeth, gofynnodd Gipsy Smith faint o Gymry oedd yn yr oedfa, a phan gododd dwy ran o dair y cynhulliad eu dwylaw i fyny, erfynniodd arnynt ganu— Gwaed y Groes sy'n co cl.i fyny 'Reiddil yn goncwerwr mawr," gan ledio'r geiriau ei hun mewn Cymraeg eithaf croew a Diolch Iddo Byth am gofio llwch y llawr wedi hynny. Gwyr Gipsy Smith cystal ag undyn sut i roi cynhulliad Cymreig mewn cywair gwrando. Ei destyn ydoedd y paragrafi olaf o Luc ii., sef hanes ei rieni yn colli'r Iesu ar y ffordd o Jerusalem. Ac 'roeddwn yn dotio at ei ddull cartrefol, unprofessional, o drin yr adnodau. Fydd gen i ddim bias i ysgrifennu pregeth os bo hi'n dda ac felly rhaid i mi ddibynnu ar got pur dyllog i wysio rhai o'i sylwadau mwyaf nodweddiadol yn ol. «• -;c (1) Fe gollwyd yr Iesu gan yr olaf un y buasech yn ei ddisgwyl-gan ei fani. (2) Fe'i collodd hithau ef yn y lie olaf y buasech yn ei ddisgwyl-yn y Deml. Ac fe'i collir gan filoedd heddyw yn yr un fan. Nid yn y chwareudy y collodd hi'r Tesu- fyddai Mail' ddim yn mynd yno nid yn y dosbarth dawnsio-fyddai hi ddim yn mynd yno—lleoedd iawn i golli'r Iesu yw y rheiny. Ond colli'r Iesu yn y capel, yn yr eglwys. Ie, yno y cyll miloedd eu Harglwydd. Fe'i cyll llawer oherwydd myned yno—nid i edrych ar yr lesu, ond i rythu ar fonet neu fflowns neu ffal-di-ralal hon-a-hon yn y set arall arall a'i cyll yn y canu a'r organ, ac arall yn ei rywbeth yntau. Pa ddiben cael harddwch celfyddyd i'r addoldy, ysblander i'r gwasanaeth, a gwychter i'r wisg, os mai llithio'r llygaid oddiwrth y Gwrthrych mawr ei hun y mae'r cwbl, ac os collir yr lesu yn y cyfan ? Ie, dyna'r gwir—fod miloedd o broffeswyr Cristnogaeth yn colli Crist—yn y capel o bobman (3) Mynd gyda'r dorf—gyda'r crowd-yr oedd ei fam pan gollodd ei Hiesu ac y mae llawer wedi colli'r Iesu wrth fyned yn y crotvd, heb fod a'u meddyliau yn bersonol gyda'r Un,—gyda'r lesu. Ac y mae llawer yn colli'r lesu wrth siarad am bawb a phopeth ond y Fo, wrth ddychwelyd o'r oedfa. Os gwelwch yr ysbryd beirniadol yn gryf iawn mewn dyn neu ddynes, chwi ellwch fod yn dawel eu bod wedi colli'r Iesu. Cnoi a thraf- lyncu'r pregethwr, cwyno a beio'r bregeth,— arwydd fod y cylla ysbrydol allan o drefn, ac fod camdreuliad yn gwneud y bobl yn flin. Llawer un sy'n colli'r lesu wrth ymddiddan yn feirniadol ar y bregeth a'r pregethwr ar y ffordd adref o'r oedfa gyda'r dorf. 3PIQ Wedi dangos yr amryfal ffyrdd oedd i golli'r Iesu, a,eth ati yn eilran y bregeth i ddangos sut i'w gael a'r sut mawr ydoedd, dychwelyd yn union i'r un fan ag y collwyd yr Iesu ynddo—mynd yn ol i'r deml. A phryd na chawsant Ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei geisio Ef." You'll always find Him exactly where you lost and left Him." Ac i yrru'r pwyth adref, adroddodd ei fod yn pregethu yn Chicago ychydig amser yn ol ar golli'r Iesu pryd y dwysbigwyd rhyw filiwnydd oedd yn ei wrando-gwr oedd wedi twyllo merch ieuanc i borthi ei nwyd wedi cael dau blentyn ohoni yna wedi ei gwadu a'i gadael hi a hwythau i gymeryd eu siawns. Ond teimlodd i'r byw tan y bregeth, a'r can- lyniad fu gyrru i chwilio am y fam a'i phlant, cael ei bod hi druan wedi dihoeni a marw, y ddau blentyn wedi eu rhoi i magu mewn sefydliad elusengar, ac un ohonynt hwythau wedi trengu mynnodd gael y bychan arall oddiyno rhoes iddo le mab yn ei balas gwych, a gwnaeth yr hyn oedd iawn yn ol addysg y bregeth—mynd yn ol at yr Iesu i'r very lie y collodd Ef, sef yn y weithred anfad gwneud y cwbl oedd yn ei allu ef o iawn am ei drosedd ac yna fe deimlodd y miliwnydd ar unwaith ei fod wedi cael yr Iesu. A'r un ffordd y caiff pawb Ef- drwy droi'n ol a'i wynebu' yn y man lie Ei collwyd. K Clywais ddweyd y rhaid tri pheth i wneud pregeth gyfiawn. Os yn apelio at reswm dyn, dyna bregeth dda os yn apelio hefyd at ei gydwybod, dyna bregeth well ac os gyda'r ddau hyn y byddo hi'n deffro'r teimlad ac yn cynhesu'r galon, dyna bregeth berffaith. Nid yn gymaint at y de all a'r teimlad yr apeliai'r bregeth heddyw, ond at y gydwybod—paham, tybed ? Ai am ein bod ni'r Cymry yn meddu llai o hyn nag, o'r ddau beth arall ? Clywais ddweyd fod humour Gipsy Smith weithiau yn cael y trechaf arno, ac fod t'rawiadau doniol yn dilyn yn rhy agos yn ymyl sylwadau difri a dwys. Ond heddyw, sut bynnag, ni chlybuwyd dim o'r cyfryw caed ambell fflach yn awr ac eilwaith a barai i wen iach gerdded dros y cynhulliad, ond dim yn anghyson a'r urddas a'r sobrwydd meddwl a weddai i eneidiau yn gwrando am y Cadw neu'r Colli mawrjoedd o flaen pob un. p I

BIRKENHEAD.I

Advertising