Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

[No title]

s2*rfod Sefydlu yn Nhrefnant.

--b EBION,

Yn Ynys Mon ac Arfon

News
Cite
Share

Yn Ynys Mon ac Arfon [GAN BETHMA]. Nos Sadwrn. Cymanfaoedd. RHAID i ni ddechreu gyda'r un testyn yr wythnos hon a'r wythnos ddiweddaf. Mae'r gan a'r bregeth wedi bod yn amlwg yr wyth- nos hon mewn amryw leoedd. C Ar ddyddiau cyntaf yr ^wythnos yr oedd cymanfa Bedyddwyr Arfon yn y dref. Llywydd y gymanfa eleni oedd Mr. R. E. Jones (Cyngar), Llanberis, a thraddododd anerchiad campus ar Genadwri gymdeith- asol Cristionogaeth." Mae Mr. Jones yn un o wyr cadarn ei enwad, ac yn barod a chymer- adwy ei wasanaeth gyda gwahanol achosion da perthynol i bob enwad. Pregethwyd yn y gymanfa gan y Parchn. Iorwerth Jones, Maesteg, Hugh Jones, Llanelli, E. T. Jones, Llanelli, a Phedr Hir, Lerpwl, yr oil yn dda. Y Gan. Ddydd Iau ymgasglodd miloeddfi'r dref i gymanfa ganu y M.C. i'r Pafiliwn. Yr oedd y tywydd yn anffafriol, ond er mor anodd canu yn y gwlaw, nid wyf yn meddwl i neb gael ei siomi yn y canu oedd yma. Mr. J. T. Rees, Mus.Bac., oedd yr arweinydd, a chan- molir ef yn fawr am ei allu a'i ddoethineb. Mae gormod o duedd mewn rhai arweinyddion i bregethu yn lie arwain, ond cadwodd Mr. Rees rhag hynny. Cynorthwyid y cantorion gan gerddorfa liosog. Llywyddwyd y cyfar- fodydd gan Mr. J. E. Roberts, Y.H., Bangor, a Mr. D. P. Williams, Y.H., Llanberis. Gall y ddau hyn areithio yn dda pan fydd angen, ond gwyddent mai nid areithio oedd i fod yn y gymanfa," am hynny buont yn ddigon doeth i fod yn fyr a buddiol.Ar y llwyfan gwelaisMr. Eleazar Roberts, Hoylake, a phan ofynnwyd iddo ddweyd gair, rhoed cymeradwyaeth galonog iddo. Yr oedd y gymanfa yn llwyddiant mawr, ond tebyg yw y buasai rhagor wedi dod pe cawsid haul i wenu yn y bore. Galar. Cyn gadael y dref, gwell fyddai i mi gyfeirio at farwolaeth dau o wyr adnabyddus —dau oedd yn ddiaconiaid parchus yn Engedi. Nid yn ami y bydd yr un eglwys yn colli dau flaenor mor agos i'w gilydd. Yr oedd Mr. John Jones, fferyllydd, wedi cyrraedd oedran teg. Byddai ei fasnachdy am flynyddoedd yn fan cyfarfod pregethwyr a diaconiaid, a synnwn i ddim na fuasai mwy o lwyddiant wedi bod ar ei fasnach pe buasai llai o hynny wedi cymeryll lie. Hen lane oedd. Bu yn ffyddlon nodedig i ddilyn cyfarfodydd misol a Sasiynau tra y gallodd. Claddwyd ef heddyw,—y Parch. Ellis James Jones, M.A., yn gweinyddu. Y gwr arall ydoedd Mr. D. W. Davies, llyfrwerthydd. Dyn diwyd, gochelgar, a gofalus oedd ef, a bu yn llwyddiannus iawn yn ei fasnach. Yroedd yn garedig a hael- ionus at wahanol achosion yn y dref. Gad- awodd briod a phlant i alaru am dano, a llu o gyfeillion. Claddwyd ef ddoe, ac yr oedd tyrfa liosog iawn yn yr angladd. Yr oedd y Parch. T. Pritchard, ficer y Rhos, a'r Parchn. E. James Jones, M.A., a D. O'Brien Owen, yn gwasanaethu. Amlwch. Nos Fawrth a thrwy ddydd Mercher yr oedd y Bedyddwyr yn cynnal cymanfa y sir yn y lie hwn. Pregethwyd gan y Parchn, Charles Davies, Caerdydd, Iorwerth Jones. Maesteg, E. T. Jones, Llanelli, J. W. Williams, Caergybi, a D. Lloyd, Caergybi. Trodd yr hin yn anffafriol, a bu raid myned i'r addoldai at yr hwyr nos Fercher. Pregethwyd yn Capel Mawr (M.C.), ac yn Salem. Mae llwydd ar yr achos yma dan weinidogaeth y Parch. J. J. Richards. Mi a wn ei fod wedi derbyn galwad o ddwy eglwys bwysig yn y De, ond nis gwn a wna dderbyn y naill neu'r Hall ohonynt. Hyderaf nas gwna, am y credaf y byddai ei golli o Fon yn golled fawr, nid i'w enwad ei hun yn unig, ond hefyd i'r Gymdeithas Ryddfrydol a Chymdeithas Eisteddfod Mon. Bu Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., yma yn arwain cymanfa yr wythnos ddiweddaf. Ac yr oedd Mr. David Evans, Mus. Bac., yn arwain un mewn lie arall ym Mon ddydd Mercher. Dylai canu'r wlad godi i safon uchel pan y mae cynulleidfaoedd yn cael arweinwyr uwchraddol i ddangos sut i ganu. L Dydd Iau, cyfarfu pwyllgor Eisteddfod Mon yma. Nid wyf yn gwybod llawer o'r manylion, ond deallaf y penderfynwyd yno fod y gadair i gael ei rhoddi am awdl a phrydd- est bob yn ail, er mwyn rhoi yr un chwareu teg i feirdd y mesurau rhydd a chaeth. Mae Cymdeithas yr Eisteddfod yn rhoddi y wobr yn y brif gystadleuaeth gorawl ( £ 40). Cyhoeddir cyfansoddiadau buddugol Caergybi dan olygiaeth Mri. S. J. Evans, M.A., Llan- gefni, R. Pugh Jones, M.A., Caergybi, E. O. Jones, R. Mon Williams, H. C. Jenkins, Cadwaladr Davies, a'r ysgrifennydd, Mr..J. T. Williams. Ail etholwyd Mri. Cadwaladr Davies a S. J. Evans, M.A., yn gadeirydd ac is-gad- eirydd am y flwyddyn nesaf. Cadarnhawyd gwaith Pwyllgor Llangefni yn newisiad y testynau, a phasiwyd i roddi ar gofnodion y gymdeithas fynegiad o werth- fawrogiad llwyr o waith ardderchog cyfeillion Caergybi. Trosglwyddodd Mr. Cyril O. Jones, B.A., £ 100 i drysorfa y gymdeithas. Galwodd yr ysgrifennydd sylw at y priod- oldeb o dalu i feirniaid lien yn gystal ag i feirniaid cerddorol, &c. Deallwyd fod hynny wedi cael ei wneud. Llanddaniel. Pentref bychan gerllaw gorsaf y Gaerwen ydyw hwn. Mae yr Anibynwyr wedi bod yn ail adeiladu yr addoldy yma, ac wedi gwario oddeutu EI,200, ond maent wedi llwyddo i gasglu uwchlaw yr hanner at hynny eisoes. Da iawn. Mae y Parch. J. C. Jones yn weinidog ar yr eglwys hon a Berea er's dwy flynedd ar hugain, ac yn weithiwr ffyddlon. Pregethwyd ar yr ail-agoriad gan y Parchn. Dr. Probert,Bangor, D. Rees, Capel Mawr, O. L. Roberts, Lerpwl, R. P, Williams, Caergybi, a Gwylfa Roberts. Llanelli. Mae enwau y gwyr hyn yn sicr- wydd nad oedd yno ddim prinder mewn mater a dawn. Dyfodiad y Brenin. Mae Llew Tegid yn llawen anghyffredin. Daw yr addewidion i fewn yn rhesi y dyddiau hyn at y Coleg. Yr oedd wedi ei ddewis yn un o bedwar i fod yn oruchwyliwr yn Llyfr- fa yr enwad Anibynol, ond mae wedi tynnu ei enw allan, a gadael i'r dewisiad terfynol fod rhwng y tri arall. Nis gall Bangor fforddio colli'r Llew. Os oes arnoch chwi neu rhywun arall yn Nerpwl yna, Mr. Gol., eisieu lie cyfleus i weled y Brenin, anfonwch bum gini i Llew Tegid gyda chwrs cyntaf y llythyrdy.

Cyhoeddi Eisteddfod Llangollen.

Eisteddfod yn nes adre'.

Advertising

Family Notices

Advertising

-0--LLITH OFFA.