Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

..---o - Nodion o'r De,

Senedd y Byd.

News
Cite
Share

Senedd y Byd. Clodfori Milwyr. GAN fy mod wedi addaw gwneud rhai sylw- adau gwasgarog ar faterion ynglyn a Rhyfel tra y mao Senedd fawr yr Hague yn eistedd, goddefer i mi alw sylw y tro hwn at y duedd afiachus i anrhydeddu Cadfridogion milwrol, heb dalu un ystyriaeth i gyfiawndor yr achos yr ymladdant o'i blaid. Yn hytrach na tliraethu fy syniad fy hun, gadawer i mi ddyfynnu o erthygl gan ein cydwladwr enwog Henry Richard ynglyn a'r Due o Wellington, a'r rhyfel fawr rhwng y wlad hon a Ffrainc—rhyfel ag y mae ein plant ar hyd y blynyddoedd wedi cael eu dysgu i edrych arno fel yn cyfansoddi un o destynau ym- ffrost ein gwlad. Fel hyn yr ysgrifennai Henry Richard, ar ol marwolaeth y Due Wellington :— Yr ydym wedi cael ein taro gan beth arall yn ymddygiad gorganmolwyr Crist- nogol y Due, a hynny ydyw, mor hunan- foddhaol y maent yn cymeryd yn ganiataol y pwnc ar ba un, yn ol eu hegwyddorion eu hunain, y mae pris moesol ei wrhydri milwrol i gael ei fesur, sef a oedd y rhyfel y bu yn ei ddwyli ymlaen yn un cyfiawn ac angenrheidiol ? Fe addefa pob dyn synhwyr- ol yn awr fod rhyfel diangenrhaid yn un o'r troseddau dynol mwyaf a ellir ei gyflawni, gan ei fod, fel y dywed Arglwydd Brougham, yn cynnwys y lleill oil, trais, gwaed, twyll, lladrad, a phopeth a all anurddo y cymeriad, a newid natur a darostwng dyn.' Gallesid gan hynny dybied, cyn dechreu gorganmol doethineb, gallu, a gwroldeb y dyn a gariodd y rhyfel ymlaen, a honni iddo ddiolchgarwch ei wlad, ei fod yn anhebgorol i ddysgawdwr moesol foddloni ei hun fod y rhyfel yn un na ruthrid iddo yn ddiangenraid. Costiodd rhyfel Ffrainc i'r wlad hon ryw bedair neu bump cant o filiynau o bunnau, a thrueni o bob math ag y mae yn anodd dychmygu ei faint. Aberthwyd o leiaf ddwy filiwn o fywydau dynol, a rhai a ddinystriwyd ymhob ffurf o greulonder ac ing a ellir eu dychmygu. Nis gallai gogoniant y Due Wellington bwyso ond ychydig yn erbyn y fath anfadwaith a thrueni, Ond a oedd y rhyfel yn angenrheidiol ? Fe wyddis fod y Ffrancod yn 1793 mor bell o fod yn dymuno cweryla a Lloegr, wedi gadael eu cennad yn y wlad hon am chwe mis ar ol i ni alw ein cennad adref o Paris, ac na ddarfu wedyn adael y wlad hon nes iddo gael 24 o oriau o rybudd. Fe wyddis nad oedd y Ffrancod hyd hynny wedi cyflawni un ym- osodiad yn ein herbyn. Fe wyddis fod ymron holl wladweinwyr y dydd-Fox, Sheridan, Tierney, Erskine, Grey, Holland-wedi con- demnio y rhyfel fel un ymosodol a dianghen- raid, Fe wyddis pan gyrhaeddodd Napoleon anterth ei allu yn Ffrainc, iddo ar unwaith ac ohono ei hun wneud cynhygion heddwch i'r wlad hon mewn ysbryd ag oedd yn ymddangos o leiaf fel yn ddidwyll a rhydd, ac iddynt gael eu gwrthod yn y modd mwyaf trahaus a diystyrllyd. A raid i'r rhyfel liwn,' meddai yn yr ysgrif hynod a ddanfon- odd at y brenin, yr hwn am wyth mlynedd sydd wedi anrheithio pedwar chwarter y byd, fod yn un d-derfyn ? Onid ellir rhyw fodd ddyfod i ddealltwriaeth ? Pa fodd y gall y ddau Allu mwyaf goleuedig yn Ewrob aberthu, er mwyn mawredd gwag, fanteision llwyddiant mewnol a dedwyddwch teulu- aidd ? Pa fodd nad ydynt yn teimlo mai heddwch ydyw y peth rheitiaf a gogoneddus- af ?' Fe wyddis nad oedd Napoleon wedi dangos un gelyniaeth neilltuol at Loegr hyd nes y gwrthodwyd y cynhygiad hwn o Heddweh mewn atebiad ag a ddywedai Mr. Erskine ar y pryd yn Nhy y Cyffredin oedd yn un odiously and absurdly wrong." Fe wyddis fod llawer o wyr mwyaf galluog ein hamser ni (1852) wedi tystio fod y rhyfel yn un diangenrhaid, ac o ganlyniad yn un anghyfiawn, ac yn eu mysg Arglwydd John Russell ac Arglwydd Brougham. Dywedodd yr olaf mewn araith yn Liverpool yn 1835, wrth son am y rhyfel hwn, fod 1,500 o filiynau wedi eu gwastraffu ar greulondeb ac anfadwaltli-inewn sefydlu barbarcidd-dra dros y byd-toi y cenhedloedd mewn tywyll- wch—rhuddo a gwaed ddaear pob gwlad o dan haul—a'r cwbl gyda'r ymgais truenus, a diolch i Dduw yr ymgais dieffaith, o geisio mathru rhyddid y bobl.' Fe wyddis yr holl bethau hyn, a llawer mwy o'r un natur am y rhyfel hwn yn erbyn Ffrainc. Ac eto, yn wyneb hyn i gyd, y mae y rhai sydd yn moli y Due yn cymeryd yn ganiataol fod y rhyfel hwn yn un angenrheidiol. Ac os nad oedd yn angenrheidiol, yna fe aberthwyd yr holl fywydau dynol a nodwyd yn ofer, ac nid oedd y rhyfeloedd yn y rhai yr enillodd Wellington ei anrhydedd mewn un modd yn anturiaethau ardderchog a gwronaidd, ond yn ddim llai na chigyddiadau anferth." Fel yna yr ysgrifennai Henry Richard am farbareidd-dra rhyfeloedd dianghenraid, ac am wrhydri milwrol y rhai oedd yn eu cario ymlaen. Ac onid oedd yn iawn ? Pwyser ei eiriau, a chofier pa sawl rhyfel anghyfiawn a ymladdodd Prydain, ie Pryd- ain Gristnogol, erioed, a'r modd yr anrhyd- eddwyd y rhai a gymerasant ran ynddynt. Pa bryd y dysgwn ni yn well ? ELEAZAR ROBERTS. Mehefin 22ain.

Advertising