Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

..---o - Nodion o'r De,

News
Cite
Share

-o Nodion o'r De, [GAN HESGIN.] Teyrngarwch. NID oes ond un peth yn cael sylw yn y De yma y dyddiau hyn, sef ymweliad agoshaol y Brenin a Chaerdydd. Rhoddir colofnau o hanes y trefniadau a pharatoadau yn y papurau bob bore a cheir llythyrau wrth y dwsin yn cynnwys pob math o awgrymiadau gyda golwg ar y modd y dylai y rhai sydd mewn awdurdod wneud eu gwaith. Mi allsai rhywun feddwl wrth eu darllen fod holl granks y greadigaeth wedi cydgrynhoi yng Nghaerdydd y dyddiau hon, a'u bod oil yn swenu i'r pyre newydd." Ysgrif- enodd Mr. Woolcott Thompson lythyr i'r Western Mail i ddweyd nad oedd shap y flags a arferir yn gyffredin wrth ei fodd, ac ar ddiwedd ei lythyr fe anghofiodd ei hun i'r fath raddau fel ag i awgrymu y byddai yn eithaf peth i'r teulu brenhinol gael siawns i weled ein trefi a'n dinasoedd yn union fel y maent." What a horrible suggestion. Yng Nghaerffili, drachefn, fe fu ffrwgwd i'w ryfeddu ynghylch pwy oedd i gael yr anrhydedd" o gyflwyno yr anerchiad o groesawiad i'r brenin yno. Yr oedd y Cyngor Dosbarth wedi penderfynu mai Cadeirydd y Cyngor oedd iwneud y job, ond fe gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i ystyried yr holl drefn- iadau, ac fe welwyd fod mwyafrif y rhai oedd yn bresennol yn erbyn y Cadeirydd, am ei fod yn byw yn Ffynnon Taf. A Caerphilly man for Caerphilly," oedd y gadfloedd. Torrwyd y cyfarfod i fyny mewn tipyn o anrhefn, heb benderfynu beth i'w wneud. Modd bynnag, darfu i'r ddwy blaid gytuno i ofyn i Syr Wm. Thos. Lewis dorri'r ddadl, ac y mae ef wedi penderfynu (fel y gallesid disgwyl) yn ffafr y man in possession-y cadeirydd. Fe welwch y bydd Caerphilly patriotism "-with the accent on the riot mor adnabyddus a Caerphilly cheese cyn bo hir. Yr hyn y mae y mere working mob yn wneud yng nghanol yr holl helynt ydi diolch i'r nefoedd mai ar ddydd Sadwrn ac nid ar ddydd Gwener (fel yr hysbyswyd ar y dechrou) y mae'r rhialtwch i fod, fel na bydd raid iddynt ond colii hanner diwrnod o waith D Stori. Dyma i chwi ddwy stori glywes i yn ddi- weddar, ac y mae cymaint o wir ynddynt a dim bron welwch chwi yn y papyrau new- yddion (mae'r BRYTHON, wrth gwrs, fel plismon Rhys Lewis- yn eithriad ") Un bore yn ddiweddar yr oedd un o fechgyn gwlad y glo yn cerdded gydag oehr y canal pan y clywe fo waedd o Help Help 'rwy'n boddi," yn dod o gyfeiriad y dwr. Ffwrdd a fo i weled beth oedd y mater, a dyna lle'r oedd dyn yn ymlafnio ynghanol y gamlas. Beth ydi'r mater?" meddai. Help 'rydw i'n boddi meddai'r llall' O'r gore," meddai, lle'r wyt ti'n gweithio ?" Yn Yard- oedd yr ateb, Ffwrdd a'r boy nerth ei heglau yno, ac meddai wrth y foreman Mae liwn-a-hwn wedi boddi yn y canal. Oes 'ma chance am gael 'i job e' ?" Na, 'rwyt ti just rhy hwyr," meddai'r foreman, 'rydw i newydd starto hwnnw tawlodd o i fewn Yn lie i chi'n gwithio 'nawr, Tomos Siencyn," ebai un hen gono o Glydach Vale wrth y llall. Yn level gul Cwm Ogwr, bachan," oedd yr ateb. Pa mor gul yw hi-ydi hi'n gul iawn ?" Torri canwell yn beder i fynd miwn 'ddi hi, w'! ebe Tomos Siencyn. -0-- Ddydd Mercher diweddaf, priodai Mr. John Humphreys, cyfreithiwr, Porthmadog, a Geraldine Mary. merch W. Clark Russell, y nofelydd hysbys.

Senedd y Byd.

Advertising