Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Gwahanol Gyfnodau.

Nodiadau,

210,999.

Cyflogau'r Athrawon.

ofrestrydd acYsgrifennydd

Manion.-

Auditors ac Estate Agents.

Llyfrgell.

News
Cite
Share

Llyfrgell. Mae arnaf ofn cyffwrdd a'r mater hwn, ga,n y gwelais i ryw frawd eofn fentro yn y BRYTHON both amser yn ol awgrymu fod E25 yn ddigon at y Llyfrgell, ac i Seven y Bala bron a'i losgi i fyny, Gwariwyd £ 1875 ar y Llyfrgell gan y Pwyllgor o 1887—1906. Ychwaneger at hyn y miloedd o gyfrolau a gaed gan Dr. T. C. Edwards a'i blant, a Llyfrgell Dr. Thomas a chyfroddion o bryd i bryd gan wahanol bersonau, a chydnabyddir gan bawb y dylai fod yna Lyfrgell go dda yn y Bala erbyn hyn, os nad oes yna ryw wastraff a diofalwch mawr wedi bod. Yn wir, profir gan y diweddar Dr. T. C. Edwards nad oedd y Llyfrgell yn 1892 mor ddrwg, gan y ceir y nodiad a ganlyn yng Nghymdeithasfa Bangor Awst, 1892 Hysbyswyd gan Dr. Edwards yn wyneb prinder arian gan y trysorydd i gyfarfod a'r holl dreuliau, y gwnai y Coleg roddi i fyny £50 o'r can punt blynyddol ag a delir tuag at y Llyfrgell, am ddwy flynedd, i gynorthwyo talu. cyflog yr Athro ychwanegol." Mae'r mater yma wedi bod o dan sylw y pwyllgor fwy nag unwaith, e.g. Cymdeithasfa Bangor, Awst, 1898.—Gwel y rhan gyntaf o'r penderfyniad uchod A reduction of JE50 per annum in the Library Grant." Y rheswm na chariwyd hynny yr adeg honno ydoedd Adgofiwyd y Pwyll- gor gan Dr. Edwards ei fod wedi derbyn galwad y Pwyllgor i ddyfod yn Brifathro yn y Bala, ar y dealltwriaeth (ymhlith pethau ereill) fod £100 yn flynyddol yn cael eu rhoddi tuag at gyflenwi y Llyfrgell a'r llyfrau goreu. Daliai Dr. Edwards y pwyllgor yn rhwym wrth ei addewid. 0 dan ddylanwad yr ystyriaeth hon, penderfynodd y Pwyllgor wrtbod awgrym yr Ts-Bwyllgor ariannol." Cymdeithasfa Bangor, 1901.Penderfyn- wyd fod y Pwyllgor Ariannol i gyfarfod i ystyried yr holl gwestiwn (a) o gyflogau yr athrawon (b) a ellid gostwng y treuliau. Y mae hyn yn cynnwys ystyriaeth y cwestiwn o swm y grant i'r Library." Cymdeithasfa Awst, 1902.Ar ol ystyriaeth fanwl, ac ar ol gwrando yr hyn a ddywedai Proff. Hugh Williams ar ran y Senate, eym- hellai y Pwyllgor fod y grant o £100 yn cael ei estyn eto tuag at Lyfrgell y Coleg." Awgryrnwn i'r Gymdeithasfa, pa fodd bynnag, fod yr adeg wedi dod pan y gall y Llyfrgell ymfoddloni ar £ 50.

Yr Ysgol Baratoawl.

Anwyl Frodyr a Thadau Oreugwyr…

Plantos yn Bwhwman.

Llogau.

Sugndraeth Arianol.

Djweddglo. dð ft