Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Gwahanol Gyfnodau.

Nodiadau,

210,999.

Cyflogau'r Athrawon.

ofrestrydd acYsgrifennydd

Manion.-

Auditors ac Estate Agents.

News
Cite
Share

Auditors ac Estate Agents. Nid ydym yn gweled unrhyw reswm dros dalu i Auditors ac Estate Agents. Peth diweddar yn hanes y Gronfa yw y rhai hyn. Yr oedd y llyfrau yn cael eu harchwilio o leiaf er 1873, fe ddichon lawer yn gynt, pryd y ceir y nodiad June 5, 1873.—Examined and found correct. Thomas Lewis, Bangor. John Jones, Llanfyllin. Ond nid oes unrhyw gofnodiad am dal hyd y flwyddyn 1897, pryd y ceir nodiad am Y,7 7s. Ynglyn a'r mater yma nid unwaith na dwywaith y ceir nodiad fel y canlyn :— The Committee recommend that the sum of 1:2 2s. be paid to Mr. Liverpool, for the use of a room granted to Mr. who was appointed to examine and arrange the various deeds and documents." Tybed nad oes ymysg holl accountants yr enwad a'r holl rai sydd yn meddu ar offices yn Lerpwl neb sy'n caru yr achos gymaint ag i wneud gwaith fel hyn o gariad, a pha angen oedd myned o ystafelloedd y capel lie y cedwir y gweithredoedd i wneud y rhan olaf o'r gwaith ? Rhan bwysig o waith archwiliwr ydyw edrych a yw'r gweithredoedd, &c., yn ddiogel ac mewn trefn, ond oddiwrth nodiad a geir yn niwedd balance sheets, ymddengys fod yr archwilwyr yn gadael y gwaith hwnnw i ereill, canys dywedir The above accounts have been audited by us, and are found correct. Mr. William Evans and Mr. John Owens, on behalf of the Board of Trustees, certify to us that the deeds, etc., relating to the security of the Bala Fund are deposited in the safe at Crosshall Street Chapel, Liverpool. J ON US & THOMAS, Chartered Accountants, Liverpool." May 14, 1906. Mae'r archwilwyr o'r diwedd wedi deffro i bwysigrwydd hyn. "Mewn atebiad i lythyr a ddaeth oddiwrth Messrs. Jones & Thomas, Liverpool, yn datgan eu barn fod yn angen- rheidiol iddynt gael gweled Securities y Coleg, er cwblhau eu harchwiliad yn foddhaol, penderfynwyd fod y mater yn cael ei gyf- Iwyno i sylw Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, er cael eu hatebiad hwy i gais yr archwilwyr." Gallesid meddwl y buasai Bwrdd o Ymddir- iedolwyr holl-ddoeth wedi dysgu egwyddor mor elfennol alhon mewn archwiliad er ys talrn. Ceir hefyd, mi gredwyf, ddigon o wyr cymwys yn Lerpwl yn barod i gasglu llogau a Ground Rents yn ddidraul i'r Cyfundeb. Ac y mae'r ewestiwn yn codi a delir am gasglu a throsglwyddo y gweddill o'r llogau mewn Ileoedd ereill, canys nis gall llog yr arian a geir yn Lerpwl fod yn fwy nag £ 800, gan y pasiwyd Awst, 1893: Ar ol ystyriaeth, penodwyd i dderbyn aehasglu y llogau ar yriot-tyages a'r ground rents, ac i ofalu fod yr holl eiddo wedi ac yn cael eu yswirio, ac fod y premiums yn cael eu talu yn rheolaidd, eu cydnabyddiaeth i fod yn ol 1 i y cant ar y swm a dderbynnid." Os gellir easglu mil o bunnau mewn manriau ereill yn ddidraul, paham nad ellir gwneud yr un fath yn p a Lerpwl os na, thelir yn wir i gyfeillion mewn mannau ereill mewn rhyw ffordd arall, a bod cyfeillion Lerpwl yn rhy onest heb i'r Gymdeithasfa ddeall eu bod yn derbyn tai digonol am eu erwaith. Fe ddichon mai anwybodaeth wledig sy'n achos o hynny, ond yr oeddym rywsut o dan yr argraff fod manteision dirif yn dilyn trin cronfa, dyweder, o £20,000, yn rhoddi digon o dal heb godi tai uniongyrehol. Ond mwyaf y hydd dyn fyw, mwyaf wel a mwya glyw. Mae un peth bach y byddai yn dda i I chwi gael goleu arno, sef pa fodd y mae treul- iau Ileol wedi cynhyddu cymaint. Ceir eu bod yn JESS yn 1888, a phan wnaed amcan- gyfrif Mehefin, 1889, ceir: Adeilad, Grounds, a Man Gostau, £ 70 ond y mae wedi chwyddo dros ddwbl hynny yn awr., Hwyrach y bydd i rywrai ohonoch dybio ein bod yn aros gormod gyda man bethau, ond gwyr pob dyn sydd ganddo fusnes o dan ei ofal mai'I' man bethau hyn sydd yn mynd a'r arian.

Llyfrgell.

Yr Ysgol Baratoawl.

Anwyl Frodyr a Thadau Oreugwyr…

Plantos yn Bwhwman.

Llogau.

Sugndraeth Arianol.

Djweddglo. dð ft