Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Llythyr Gwleidyddol.I

CRED A MOES.

News
Cite
Share

CRED A MOES. CHRISTIANITY AND THE SOCIAL CRISIS, by Walter Rauschenbusch, Pro- fessor of Church History in Rochester Theo- logical Seminary, London. MACMILLAN & Co., LTD. AMCAN mawr y llyfr hwn ydyw dangos fod a wnelo Cristionogaeth yn bennaf ag achub- aeth a pherffeithiad cymdeithas, ac nid ag achubiaeth unigolyn a bod dyledswyddau neilltuol yn perthyn i Eglwys Crist yn yr argyfwng presennol. Cyfeirir yn fwyaf neill- tuol at amgylchiadau pethau yn yr Amerig, ond y mae'r egwyddorion ddysgir yn gyfaddas at amgylchiadau pob gwlad. Dangosasom eisoes yn y golofn hon fod Diwygwyr crefydd- ol wedi apelio yn ormodol at les a dyfodol y person unigol, gan anghofio y dichon apel felly rwystro datblygiad cymdeithas. Nid ydym yn dweyd fod yna ddim byd mawr na newydd iawn yn y llyfr uchod, ond y mae yn ddatganiad teg a chlir a chryf. ni gredwn, o hanfod crefydd Crist wedi ei ysgrifennu yn chwaethus ac yn atdyniadol, ac oherwydd hynny yn wir werth yr arian a delir am dano. Rhennir ei gynnwys i saith o bennodau, a cheisiwn yn y llinellau canlynol roddi yn fyr a chryno gynnwys y penodau hyn. Gwreiddiau Hanesyddol Cristionogaeth. Anghenraid ydyw talu sylw manwl i broffwydi yr Hen Destament cyn y gellir dirnad yn llawn ddylanwad cymdeithasol Cristionogaeth Foreuol a chyn y gellir deall meddwl lesu Grist yn gywir. Gwahan- wyd y proffwydi oddiwrth syniadau crefydd- 01 cyffredin eu hoes gan yr argyhoeddiad fod Duw yn galw am gyfiawnder ac am ddim ond cyfiawnder. Nid oedd moesoldeb yn gynwysedig mewn seremoniau diderfyn, Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoeth offrwm." Ac ni sonir am foesoldeb y teulu yn unig, ond moesoldeb cyhoeddus ar ba un y sylfaenir bywyd y genedl. Golyga wleid- yddiaeth yn enw Duw. Nid oedd y ffiniau cydrhwng bywyd crefyddol ac amgylchiadau cyhoeddus yn cael eu gwahanu fel gennym ni. Yr oedd y proffwydi yn ddynion ey- hoeddus, a'u dyddordeb mewn materion cyhoeddus. Yr oedd rhai ohonynt yn wleidyddwyr o'r radd flaenaf. Yr oedd cyd- ymdeimlad hyd yn oed y rhai mwyaf aris- tocrataidd gyda'r dosbarthiadau tlotaf. Yr oedd baich eu cenadwri yn erbyn y wane am dir gan y bendefigaeth oedd yn cysylltu ty at dy, ac yn cydio maes wrth faes yn erbyn creulondeb cyfalaf, am iddynt wrethu y eyfiawn am arian, a'r tlawd am bar o esgidiau." Cwestiwn y tir sydd wrth wraidd pob perthynas gymdeithasol. Yr oedd y tir yn perthyn i'r Arglwydd, hynny yw, i'r llwyth neu'r genedl. Nid eiddo personol mohono. Yr oedd dynoliaeth y tlawd yn fwy pwysig yn eu golwg na meddiannau y cyfoethog. Aethant i'r ysgol at Dduw byw, ac nid at Dduw mewn llyfr. Amcanion Cymdeithasol yr lesu. Yr oedd y proffwydi wedi datgan fod cen- edloedd ereill i gyfranogi o'r amser braf gerllaw, ac y mae loan Fedyddiwr yn wir olynydd i'r proffwydi pan y mae yn gosod teyrnas nefoedd ar sylfaen foesol. Ond gobaith cymdeithasol ydoedd yn galw am foesoldeb cymdeithasol. Fe dderbyniodd yr lesu loan fel ei ragredegydd. Fe ddygwyd yr lesu o unigrwydd Nazareth gan y symudiad poblogaidd a grewyd gan loan. Yn ychwan- egol, wrth gydio dwylaw ag loan, fe afaelodd yr lesu yn holl olyniaeth y proffwydi, gyda pha rai yr oedd efe yn rhestru loan. Eu geiriau hwy oedd ei hoff ddyfyniadau. Fel hwythau, yr oedd yn diystyru neu yn gwrth- wynebu y rhannau seremoniiol, ac yn rhoddi pwys ar y moesol. Fel hwythau, yr oedd yn ochri gyda'r tlawd a'r gorthrymedig. Yn nhawelwch a chraffter a sefydlogrwydd Ei feddwl, yn gystal ag yng nghariad Ei galon, yr oedd yn anrhaethol uwc-h na'r mwyaf ohonynt. Ond yr oedd y Mawr Hwn eto yn un o'r proffwydi, ac yr oedd y dyddordeb dwfn hwnnw ym mywyd cenedlaethol a chymdeithasol a nodweddai y proffwydi yn rhan anatodol o'i fywyd yntau hefyd. Y dybiaeth naturiol yw fod Crist yn cyfranogi o amean moesol sylfaenol y proffwydi. Os oes rhywun yn haeru fod Crist wedi troi ei gefn ar y gobaith cymdeithasol, a rhoddi ei ffydd yn unig ar grefydd yr unigolyn, rhaid iddo ddwyn enghreifftiau ymlaen ymha rai y mae Crist yn gwadu gorffennol crefyddolLei genedl. Ysgogiad Lymdeitnasoi Cristionogaeth Foreuol, I ba raddau y gafaelwyd yn amcanion moes- ol yr lesu ac y cariwyd hwy allan gan yr Eglwys oedd yn dwyn ei enw ? A oedd ei ddilynwyr yn meddu ar yr un syniadau eang a dyrchafedig am deyrnas nefoedd, a'r un tynerwch llednais a rhyddid brawdol ag a wnaeth enaid yr lesu yn ganolbwynt llachar ein byd moesol ac ysbrydol ? Buasai hynny yn wyrth. Y Cristionogion Iddewig ydoedd blaid radicalaidd yr Eglwys Foreuol. Mae gweithydd Paul yn rhan mor fawr o'r Testa- ment Newydd fel yr ydym yn derbyn yr argraff mai ei syniadau ef oedd y rhai mwyaf cyffredinol yn yr oes apostolaidd. Mae'n debyg nad yw hynny ddim yn awr. Yr oedd Paul yn radical mewn diwinyddiaeth ond hefyd yn geidwadwr ar bynciau cymdeithas- ol. Ac eto, nid oedd Paul mor ddifraw ynghylch cwestiynau cymdeithasol tag a dybir. Yr oedd gobaith am ail-ddyfodiad Crist yn tra-arglwyddiaethu yn yr eglwys gyntefig. Yr oedd dyfodiad yr Arglwydd yn golygu dechreuad teyrnas nefoedd. Nid oedd eglwysi y genhedlaeth gyntaf yn eglwysi yn ein hystyr ni o'r geiriau. Nid cymdeith- asau er mwyn cyd- addoii oeddynt, ond cym- deithasau er mwyn cydfyw. Yr oeddynt yn gweddio gyda'u gilydd, ond hefyd yn bwyta ynghyd. Nid, oedd ganddynt addoldai, ond yr oeddynt yn cyfarfod yn nhy yr aelodau. Yr oedd yr eglwys gyntefig yn amddifad, oddiar egwyddor, o feddiannau. Yr oedd holl incwm yr eglwys at gyflenwi rheidiau'r saint. Gwaith Aileni Cymdeithas. Yn ein gwlad ein hunain, pe bae'r eglwys yn rhoddi ei holl fryd ar unioni unrhyw gam cymdeithasol, mae'n debyg nad oes dim mewn bod sydd yn alluog i'w gwrthsefyll. Mae yn ein meddiant felly sefydliad sydd oherwydd ei darddiad a'i natur yn rhwym o ail ffurfio cymdeithas. Mae wedi cael amser a chyfle. Paham nad yw, ynte, wedi ail greu bywyd cymdeithasol Cristionogaeth ? Gellir ateb fod amgylchiadau y byd ar yr adeg yn gyfryw fel nad oedd hynny yn bosibl. Gellir ateb, o'r ochr arall, ei fod wedi gwneud. Danghosir y gwahaniaeth rhwng y byd paganaidd a'r byd Cristionogol, Rhaid i ni gofio, yn y lie cyntaf, pa fodd bynnag, fod yr awduron sydd wedi disgrifio dylanwad Cristionogaeth ar fywyd dynol yn cael eu temtio, wrth ddangos y gwahaniaethfcyd- rhwng Cristionogaeth a Phaganiaeth, i ddewis agweddau tywyllaf y flaenaf ac ag- weddau mwyaf goleu yr olaf. Yn yr ail le, nid yw'r effeithiau cymdeithasol a ddarlunir yn gyffredin yn cynnwys ail drefniant cymdeithasol ar sylfeini Cristionogaeth, ond yn hytrach ddiddymiad rhai o ddrygau mwyaf cyhoeddus a gwarthus y gyfundrefn gymdeithasol. Yn y lie olaf, y mae effeithiau mwyaf pwysig Cristionogaeth wedi deilliaw ohoni yn anibynol ar fwriad yr eglwys, ac weithiau yn erbyn ei hewyllys. Y mae tri achos wedi milwrio yn erbyn dylanwad Cristionogaeth. Un ydyw'r argyhoeddiad mai rhywbeth yn perthyn i fyd arall ydoedd Cristionogaeth, ac oherwydd hynny mai afreidiol a diangenrhaid oedd gwella y byd hwn, gan y buasai hynny yn arwain dynion i ymfoddloni ynddo yn lie teimlo awydd i baratoi ar gyfer byd gwell. Elfen arall ydoedd yr enciliad i fywyd meudwyol a myn- achaidd. Mewn canlyniad i hyn, mae'n wir fod llawer o arian wedi ei ryddhau at am- canion elusennol. Yn wir, mewn cyfraniadau o'r natur yma y mae'r cyfnod hwn yn destyn rhyfeddod. Yn Eglwys Loegr, er engraifft, y mae'r rhan fwyaf o gyfraniadau at gynnal crefydd wedi cael eu rhoddi, naill ai gan y llywodraeth neu yr unigolyn, pan nad oedd poblogaeth yr ynys hon fawr fwy na phobl- ogaeth Llunden yn awr. Ond nid yr amcan oedd codi'r tlawd, ond dwyn bendith i enaid y rlioddwr. Achos arall o'r aflwyddiant yw fod yr eglwys, yn lie gofalu am wella'r byd, wodi ymroi i gyfoethogi ei hun. Yr Argyfwng Presennol. Mae dyn bob amser wedi dioddef eisieu neu ofn eisieu. Mae ei beryglon wedi dod o ddau gyfeiriad—oddiwrth natur ac oddiwrth ddyn. Yn nesaf at fywyd ei liun, y fendith fwyaf i ddynion ydyw'r tir, gan yr hwn y cynhelir pob bywyd. Mae ein cyfraith ni yn edrych ar dir fel yn eiddo personol. Mae hyn yn beth cymharol ddiweddar, yn ffrwyth dylanwad cyfraith Rhufain. Cawn ar ein tir y tir foddiannwr, y ffarmwr, a'r llafurwr, ac y mae hynny yn golygu tlodi ac anwy- bodaeth mown gwlad. Mae drygau egluraf ein cyfundrefn dirol i'w gweled yn ein dinasoedd mawrion. Mae cymdeithas drwy ei gweithgarwch a'i hanghenion yn ychwanegu at werth tir dinesig, ond y mae ein cyfraith ni yn rhoddi canlyniadau y gweithgarwch cymdeithasol yma i unigolion. Mae hyn yn cefnogi rhaganturio mewn tir. Y mae dynion yn prynnu tir mewn gobaith y bydd iddo gynhyddu mewn gwerth heb ddim egni o'u heiddo hwy. Os byddant yn methu, y maent yn dioddef tlodi neu feth- daliad. Os llwyddant, deuant yn gyfoethog. Y mae y naill ganlyniad fel y Hall yn drygu'r rhaganturiwr. Feallai y daw'r dydd pan y gofynnir i'r hwn a hawlia feddiant personol ar ddarn o dir, fel y gofynnwyd i gaeth- feistr yn Vermont, to show a bill of sale signed by the Almighty." Beth i Wneud. Ceir ymdrechion mewn rhai cyfeiriadau i ddiwygio ac ailffurfio cymdeithas sydd wedi profi yn fethiant. Nis gellir dychwelyd yn ol i sefyllfa fwy unplyg ar gymdeithas. Mae yn rhaid cael cyfalaf, ac nis gellir cael hyn heb ffurfio ewmnlau mawrion. Ffol- ineb yw ceisio diwygio deddfau'r tir ar gyn- lluniau ysgrythyrol. Mae'r egwyddor o dan ddeddfau Moses yn wir, ond nis gellir dilyn y manylion. Un o gamgyrnenadau mwyaf cyndyn dynion crefyddol ydyw gohirio pob gwelliant hyd ail ddyfodiad Crist. Mae angen ar grefydd cymdeithasol am edifeirwch a ffydd edifeirwch am ein pechodau cymdeithasol, ffydd mewn posibl- rwydd cyfundrefn cymdeithasol newydd. Cyhyd ag y gwel dyn ddim yn ein cylch cymdeithasol bresennol ond ychydig o ang hyfiawndorau anocheladwy, ac heb ganfod pechod a drygioni yn ddwfn yn natur y gyfundrefn bresennol, y mae eto mewn sefyllfa o ddallineb moesol, ac heb gael ei argyhoeddi o bechod. Yr hen syniad am grefydd ydoedd y peth hwnnw oedd yn gweini cysur i eneidiau dynion, neu oedd o wasanaeth i'r eglwys. Pan oedd dyn yn myned i'r eglwys, yn cyfrannu at gynnal ei gwaith, yn dysgu yn yr Ysgol Sul, yn siarad a'r anychweledig, neu yn edrych am y claf, yr oedd yn gwneud gwaith crefyddol. Yr oedd y cydwybodolrwydd hefyd a pha un yr oedd yn gwneud y gwaith hwn yn meddu ar rinwedd grefyddol. Yn awr, pe meddem ar ffydd i gredu y gall yr oil o fywyd dyn gael ei lenwi a bwriad dwyfol, fod Duw yn achub nid yn unig yr enaid, ond yr oil o fywyd dyn, fod unrhyw beth sydd yn tueddu at wneud dynion yn iach, yn feddylgar, yn ddedwydd ac yn dda, yn wasanaeth i Dad pob dyn nad yw teyrnas nefoedd wedi ei ffinio gan yr eglwys, ond ei bod yn cynnwys holl ber- thynasau dynol-yna fe dderbynia pob gwaith sancteiddrwydd ac urddas grefyddol. Gallai dyn wrth drwsio esgid neu ddadleu achos mewn llys barn, neu wrth blannu tatws neu wrth ddysgu mewn ysgol, deimlo fod hyn ynddo ei hun yn gyfranniad at ddyrchafiad dynion. Credwn ein bod wedi rhoddi digon or llyfr i demtio llawer i'w brynnu. -clciovL,

Nodiadau Cerdd orol.

Advertising

Advertising