Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Llythyr Gwleidyddol.I

News
Cite
Share

Llythyr Gwleidyddol. I [GAN Y GWYLIWR]. O'r Twr, Westminster, Nos Fawrth, 25 Mehefin, 1907. Y Weinyddiaeth a'r Arglwyddi. PRYDNAWN pwysig—dechreuad, o bosibl, cyfnod gwleidyddol newydd-ydoedd pryd- nawn ddoe yn Nhy y Cyffredin. Wedi oedi yn hwy nag y tybiai rhai o'i ddilynwyr oedd yn angenrheidiol, fe gododd, Syr Henry Campbell Bannerman yn ei le i amlinellu gwrthwynebiad y Blaid Ryddfrydol a Gwerin- ol i Dy yr Arglwyddi a'r buddiannau gwleid- yddol a gynrychiolir ganddynt. Danghosai agwedd y Ty fod rhywbeth pwysig mewn Haw. Pan welwyd y Prifweinidog yn dod i mewn heibio i gadair y Llefarydd, fe'i cyf- archwyd a banllef gymeradwyol,—banllef a arwyddai ymgroniad disgwyliadau y Blaid Ryddfrydol fod awr eu rhyddhad megis ar wawrio. Uwchben fe welid orielau llawnion ymhob cyfeiriad am y tro yr oedd hyd yn oed y Peers' Gallery wedi ei llanw gan wyr y Tý arall wedi dod yno i wrando gair eu tynged. Cynrychiolid Cymru yno gan Argl. Kenyon, yr hwn, onibae am yr anffawd iddo gael ei eni yn bendefig, a wnaethai aelod Ceidwadol rhagorol ar y llawr islaw a chan Arglwydd Carrington, oblegid nis gall pres- wylydd Castell Gwydir lai na bod i ryw fesur yn Gymro Yn ol yr arfer ar amgylchiadau pwysig, nid oedd digon o seddau i'r faithful Commons, ac eisteddai amryw ohonynt ar y grisiau, os nad ar eu sodiau. Pan gododd Syr Henry i gynnyg ei benderfyniad, yr oedd yn amlwg ei fod wedi ymarfogi i'r frwydr. Allan o'r gist goch a ddygodd i mewn gydag ef, tynnodd allan ddalennau ei araith, nid i'w darllen, ond i ddangos fod ei sylwadau yn ffrwyth myfyrdod a disgyblaeth ifanol. Am eu bod felly, yr oedd mwy o nerth ac o effaith yn ei gondemniad hallt o fradwriaeth Mr. Arthur Balfour tuagat Dy y Cyffredin ynglyn a'r Mesur Addysg y llynedd. Dy- wedid y pryd hwnnw-ac nid oes amheuaeth parthed gwirionedd y dywediad-mai cyn- dynrwydd Balfour a'r Ceciliaid a barodd i Archesgob Caergaint ac Arglwydd Lonsdale benderfynu, ar ol hir betruso, i wrthod Mesur Addysg Ty y Cyffredin. Yy gymaint a bod y Tý hwnnw wedi mabwysiadu y Mesur o dan amgylchiadau teg a chyda mwyafrif mawr o'i blaid, dyledswydd Mr. Balfour fel arweinydd un o adrannau y Ty ydoedd gadael i Dy'r Arglwyddi draethu eu barn arno, ac ymddwyn tuag ato fel y mynnent, heb gymeryd arno'i hun i ymyryd a'u barn na'u hymddygiad. Fel y gwyr y byd erbyn hyn, nid felly y gwnaeth a theimlad Tý y Cyffredin ddoe ydoedd fod condemniad y Prifweinidog, er poethed ydoedd, yn deg ac yn gyfiawn. 0 bob trosedd, bradychiad ymddiried yw y gwaeth- af, ac erbyn hyn, mi gredaf fod Mr. Balfour yn sylweddoli hynny. Y Cynllun. Aeth Syr Henry Campbell Bannerman ymlaen i egluro y cynllun sydd ganddo i gyfarfod anhegwch ac unochraeth y Ty etifeddol ac anghynrychioliadol. Os gwrth- odir Mesur gan y Ty hwnnw wedi iddo gael ei basio gan y Ty cynrychioliadol, fe'i gosodir at ystyriaeth cynhadledd o'r un nift r o aelodau o'r ddau Dy. Os methir dyfod i gytundeb, fe gyflwynir y Mesur, neu Fesur gwelliantol, i Dy'r Cyffredin yr ail waith, ar ol ysbaid, dyweder, o hanner blwyddyn, ac o phesir ef, fe'i hanfonir ef drachefn i Ðy'r Arglwyddi; ac yn niffyg cytundeb eto, fe gynhelir ail gynhadledd arno. Os methir dod i gyd-ddealltwriaeth y tro hwn, pesir y Mesur y drydedd waith-y tro hwn yn ddigyfnewidiad-trwy Dy y Cyffredin, ao fe'i hanfonir i Dy'r Arglwyddi gyda rhybudd yn datgan,os gwrthodir ef y drydedd waith, y rhoddir awdurdod deddf iddo er eu gwaethaf. Yn ol y cyfrif a glywais i neithiwr gan rai o wyr y Fainc Flaenaf, mae'r trefniant hwn yn golygu y gellir pasio Mesur a wrthwyn- ebir gan yr Arglwyddi drwy yr oil o'r cwrs a nodwyd mewn pymtheng mis o amser Bwriedir byrhau y Senedd-dymor o saith i bum mlynedd. Nis gellir dweyd, hwyrach, fod y cynllun fel yr amlinellwyd ef gan y Prifweinidog yn creu rhyw lawer iawn o frwdfrydedd yn y rhengau Rhyddfrydol. Teimlid fod y cwrs a gynhygid yn un cymedrol—rhy gymedrol feallai-ond 'rwy'n credu mai'r casgliad y daethpwyd iddo yn y diwedd ydoedd mai rhesymoldeb hawl ac nid llythyr- en y gyfraith oedd debycaf o lwyddo i ennill boddlonrwydd cyffredinol. Yn ystod y dra- fodaeth neithiwr, rhoddwyd datganiad i lais Cymru ar y mater gan Mr. Herbert Roberts a Mr. Edward Hemmerde-dwy araith syl- weddol a chyrhaeddgar ag yr oedd yn dda gennym eu clywed. -0-- Yr wythnos ddiweddaf, cynhaliwyd ar- holiadau y College of Violinists, Llurfden, yn Lerpwl ac ymhlith yr ychydig a fuunt yn llwyddiannus i basio, gwelir enw dau o ddisgyblion Dr. Glyn Roberts, sef S. A. Whitehead. (Third Grade), 87 o farciau allan o" 100, ac Elwy Glyn Roberts (First Grade) 84 o farciau. Mab bach wyth oed yr athro ydyw y diweddaf.

CRED A MOES.

Nodiadau Cerdd orol.

Advertising

Advertising