Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

DATGYSYLLTIAD a THY'R ARGLWYDDI.

News
Cite
Share

DATGYSYLLTIAD a THY'R ARGLWYDDI. Beth oreu i Gymru wneud ? A REDO, edryched." Goreu canwyll, pwyll i ddyn." Ynghanol ein siom parth lie Datgysylltiad, da fyddai i ni oil geisio meddiannu ein heneidiau, ac edrych yn deg ar droadau a chyflwr pethau. Er nad oedd Datgysylltiad yr Eglwys Wladol yng Nghymru yn bwnc neilltuol amlwg yn yr Etholiad Cyffredinol trwy'r deyrnas, yr oedd llwyddiant mawr y Rhyddfrydwyr, a llais unol Cymru, yn gwneud disgwyl sylw buan i gais pennaf Cymru er's llawer dydd yn beth cwbl naturiol a rhes- ymol. Fe wnaed hyn yn beth mwy naturiol a rhesymol fyth gan addew- idion rhai o'r arweinwyr Rhydd- frydol yn fuan ar ol yr Etholiad. Do, fe wnaeth yr addewidion yn beth naturiol i ni ddisgwyl i'r pwnc gael sylw, os nad yn yr ail, yn y trydydd Senedd-dymor, y fan bellaf. Ac yn awr, yn wyneb datganiadau diweddar tri o aelodau'r Weinydd- iaeth—y tri mwyaf eu cydymdeimlad a Chymru, a'r tri cryfaf yn y Wein- yddiaeth-y mae yn naturiol i'r siomedigaeth fod yn ddigon mawr a chynhyrfus i droi yn edliwiaeth a chondemniad. Ond cyn mynd ymhellach mewn edliw a chondemnio, priodol yw sefyll ac ystyried pa fodd y mae pethau wedi dirwyn, a pha fodd y maent yn awr yn sefyll. A ydyw y Cymry blaenllaw sydd yn brwd ,siarad ac yn cynnyg penderfyniadau condemniol wedi gwneud hyn ? Nid oes arwydd eglur eu bod. Hawdd yw dweyd y dylasai y Weinyddiaeth fod wedi cerdded ymlaen yn fwy hyf a phenderfynol, gan ddandlwm llai ar y gwrthwynebwyr, ac y dylai gofio mwy am Gymru fechan ffydd- lon, beth bynnag y rhwystrau. Ond feallai y gwelir cyn hir fod y cerdded araf a thirion sydd wedi bod yn rhoi mwy o rym ac effeithiolrwydd i'r cerdded hyfach sydd yn debyg o fod o hyn ymlaen, ac yn gwneud yn haws gweithredu cyfiawnder tuagat Gymru. Rhy brin y mae yn iawn, beth bynnag i Gymru, ddechreu cyhuddo'r Weinyddiaeth mor fuan a hyn o anffyddlondeb a diffyg gonestrwydd. Ai rhith a hoced oedd gwaith y Prifweinidog yn gwahodd cynrychiolwyr Cymru i ymddiddan ag ef ar bwnc y Dat- gysylltiad, a'r hyn a ddywedodd ef a Mr. Asquith ar y mater, a'r hyn yr oedd Mr. Lloyd George wedi ei ddywedyd cyn hynny ? Nage, ni a gredwn. Ac yn ein barn ni, gwell yw anogaeth unfryd Cyngor Senedd- 01 yr Anghydffurfwyr i Anghydffurf- wyr Cymru, ymhlith Anghydffurf- wyr y deyrnas, nag anogaeth rhai cyrff crefyddol yn y Dywysogaeth, sef oedd honno-ar iddynt ymuno yn galonnog i roddi pob cynhorthwy yn eu gallu i'r Llywodraeth weithio allan ei chynlluniau. Nid ydym yn beio dim ar unrhyw gorff cy- hoeddus am yr hyn sydd wedi ei wneud yn enw Cymru yn y dydd- iau diweddaf, er yr amheuwn erbyn hyn fod Cymru drwyddi agos mor gynhyrfus ag y dywed rhai ei bod yn wyneb ymddygiadau'r Llywodr- aeth. Purion peth oedd atgofio i'r Weinyddiaeth yn y cyfwng hwn fod mwyafrif mawr pobl Cymru yn benderfynol ,0 hyd am Ddad- sefydliad Eglwys Loegr ynddi; ac y mae yn bur sicr y caiff y lleisiau a anfonwyd ati wrandawiad a sylw. Ond bellach, am ennyd, rhoi calondid sydd briodol, yn hytrach na chon- demnio a rhwystro. Dyma ein barn bendant ni. Beth bynnag a addawyd, dylid colio fod yr addewidion wedi eu rhoddi cyn gweled y ;rhwystrau a gyfodasant. Torri grym Tfr Arglwyddi yw'r gwaith pwysig yn awr. Rhaid atal ei rwysg ef cyn y gellir gwneud dim o werth i Gymru nac i unlle. Os nad ellir gosod peth ofn arno ef, pa ddiben fyddai treulio darn mawr o'r Senedd-dymor nesaf, neu'r dilyn- ol, i basio Mesur Datgysylltiad i Gymru ? Dim ond hyn dangos i Gymru fod y Llywodraeth yn ewyllysio gwneud cyfiawnder a hi— a pheri i'r Toriaid mawr a man chwerthin yn eu llewis yn yr olwg ar y gwastraff nerth ac amser. Ai nis gall Cymru roi y credyd i'r Llywodraeth o fod yn ewyllysio hynny, heb iddi wneud y fath aberth, a rhoi cymaint o achos i'r Philistiaid grechwen ? Yr ydym yn credu'n sicr na chaiff Cymru gam mawr oddiar law y Weinyddiaeth bresennol tra bydd Mr. Lloyd George a Mr. Asquith yn aelodau ohoni, nac o fodd y gwr anrhydeddus a da sydd yn Brifweinidog. Y mae yn amlwg erbyn hyn fod y Llywodraeth o ddifrif yn yr ornest fawr sydd wedi dechreu a'r Arglwyddi Toriaidd. A chan nad oes obaith i Gymru am gyfiawnder nes eu gorchfygu hwy, ei doethineb a'i dyledswydd ydyw rhoi pobjCym- orth yn ei gallu i'w gorchfygu.

DATGYSYLLTIAD.

Advertising

Advertising

Advertising