Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Family Notices

Advertising

NOD AC ESBONIAD.

Mynegair i Salmau can Edmwnd…

--u----Four Crosses, Pwllheli.

GlannauV Mersey

News
Cite
Share

GlannauV Mersey Undeb Eglwysi Anibynol Liverpool, Manchester, a'r amgylchoedd. Cynhaliwyd eynhadleddiyngIyn a'r Undeb uchod yng nghapel Clifton Road, Birkenhead, prydnawn ddydd Mercher diweddaf. Cym- erwyd y gadair gan y Parch. J. O. Williams (Pedrog), y cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. Washington Jones, Salford. Darllennwyd cofnodion y cyfarfod diwedd- af, a phasiwyd eu bod yn cael eu cadarnhau. Rhoddwyd cyfrif o sefyllfa ariannol y Cyf- undeb gan y trysorydd, Mr. John Edwards, Rock Ferry. Cafwyd gan yr ysgrifennydd, Mr. Josiah Thomas, a Mr. W. R. Owen, adroddiad y ddirprwyaeth a benodwyd i ymweled a'r egIwys yn Balmoral Road, Fairfield, yn wyneb eu cais am dderbynniad i'r Undeb, ond er yn awyddus i'w croesawu, nis gallai y ddirprwyaeth wneud hynny ar hyn o bryd, am yr un rheswm a phan dderbynniwyd y ceisiadau blaenorol. Gwnaed yn hysbys fod yr eglwys yn Trinity Road, Bootle, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. W. Roberts, Golborne. Cynhelir cyfarfod i'w groosawu Sadwrn, Mehefin 29ain. Darllennodd y Parch. D. Adams, B.A., adroddiad y pwyllgor oedd wedi ei benodi ynglyn a'r achosion gweiniaid yn y cylch. Cymeradwywyd fod y Parch. G. J. Williams, Vittoria Street. Birkenhead, i weithredu fel ysgrifennydd trefniadol. Pasiwyd fod cais yn cael ei wneud at yr eglwysi cryfaf i gan- iatau i'r gweinidog fyned yn ddidraul i wasanaethu yr eglwysi bychain o leiaf unwaith yn y flwyddyn. Hefyd fod apel yn cael ei wneud at leygwyr deallus a phrofiadol i fynod yn achlysurol i ymweled a'r lleoedd hyn er eu cynorthwyo a'u calonogi. Hysbyswyd fod tymor y Parch. Griffith Evans, Queen's Road, Manchester, yn ter- fynu ddiwedd y mis presennol. Apwyntiwyd is-bwyllgor i wneud trefniadau er cario yr achos ymlaen. Darllennwyd llythyr oddiwrth Eglwys Undebol Anenwadol Ashton-in-Makerfield. Gohiriwyd hyd y cyfarfod nesaf. Hysbysodd yr eglwys yn Prescot eu bod dan yr angonrheidrwydd o wneud cyfnewid- iadau ynglyu a'r capel yno, ac yn gofyn am gynhorthwy. Penodwyd y Parch. W. Roberts, Golborne, i gynrychioli yr Undeb yng Nghymanfa Ddirwestol Gwynedd a gynhelir yn Liverpool. Galwyd sylw y Gynhadledd at dysteb Dr. Griffith John, gyda dymuniad i'r gwaith gael oi ddwyn i derfyniad mor fuan ag y gellir. Pasiwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Southport. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddua o dan lywyddiaeth y Parch. J. O. Williams (Pedrog). Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Evans, Southport. Cafwyd anerchiad gan y Parch. Morgan Llewelyn, Booth Street, Manchester, ar Yr Eglwys fcl cartref i'n pobl iouainc." Diolchwyd yn gynnes i Mr. Llewelyn am ei anerchiad rhagorol. Wedi canu emyn, aed ymlaen at orchwyl dvmunol iawn, sef cyflwyno illwninciled address i Sir. Josiah Thomas am ei wasanaeth fel ysgrifennydd yr Undeb am 25 mlynedd. Oymerwyd rhan yn y cyflwyniad gan y Parchn J. O. Williams (Pedrog), R Roberts, Manchester (cadeirydd Undeb yr Anibynwyr Cymreig), O. Lloyd Owen, Birkenhead, 6. R. Owen, Park Road, ynghyda Mri. John Edwards, W. R. Owen, a J. Morris. Mal hyn y canodd Fedrog iddo :— Una'i glod enwog lewder --y gwron A brawdgarol fwj nder Llew hyf na. all ofni lifer, — Rhown at hwnnw yr oen tyner." Wedi i'r cadeirydd, ar ran yr Undeb, gyflwyno yr anerchiad, cafwyd ychydig eiriau gan Mr. Thomas yn amlygu ei ddiolch- garwrh i'r frawdoliaeth am yr arwydd hwn o'u teimladau da tuag ate, ynghyda datganiad o'i bendorfyniad i gysegru gweddill ei oes i wasanaothu ei enwad. Terfynwyd trwy weddi gan y cadeirydd. Brownloiv Ilill. J.M. Dosbarth Demi Gymreig Swyddi Lancashire a Chaer. Cynhaliwyd eisteddiad chwarterol yr uchod yn ysgoldv capel Crosshall Street, nos Wener ddiweddaf. Cymerwyd y gadair gan y Dosbarth Brif Demlydd (Br. Lewis Roberts), ac wodi myned drwy y gwasanaeth agoriadol, aed ymlaen i orseddu y swyddogion ond cafwyd fod amryw ohonynt yn absennol, felly bu raid gohirio hynny hyd y Ddosbarth Demi nesaf. Cafwyd adroddiad Pwyllgor Eisteddfod 1907. Mae y pwyllgor wedi bod yn Hwyddiannus i sicrhau y Central Hall, Renshaw Street, i gynnal y cyfarfod. Lie manteisiol i glywed, a chanolog i gyrchu ato. Mae y rhagolygon yn addawol am Eisteddfod lwyddiannus. Mae amryw o'r temlau yn frwdfrydig yn cynnyg gwobrau, ac hefyd y mae llawer o bersonau unigol yn rhoddi gwobrau a rhodd- ion anrhvdeddus. Cafwyd adroddiad y Br. T. C. Jones, o weithrediadau yr Uwch Demi, yr hon a gynhaliwyd yn Nhroforris. Cwynai nad oedd pethau yno mor flodeuog ag y gallesid disgwy] iddynt fod ar ol y Diwygiad diweddar. Teimlai fod yr awyrgylch yn oer ac yn ang- hymwys i dyfiant a chynnyrld, a disgwyliai weled yno fwy o waith a brwdfrydedd. Pasiwyd penderfyniad o'r Pwyllgor Gweith iol --cc Eiu bod yn gwahodd Pwyllgor Gweithiol yr Uwch Deml i dalu ymweliad a'r Dosbarth ym mis Medi." Hefyd pasiwyd y penderfyniad canlynol :—" Ein bod fel Dosbarth Demi yn dymuno galw sylw y cyhoedd at yr ymyfed sydd yn cymeryd lie ar y pleserlongau sydd yn rhedeg rhwng y porthladd hwn a Gogledd Cymru a marmau ereill, ac yn erfyn ar y Llywodraeth i osod y rhai hyn o dan reolaeth yr ynadon yn eu Mesur Dirwestol addawedig. Credwn fod niwed dirfawr yn cael ei wneud trwy nad oes arolygiaeth briodol drostynt.T 0 Gloddfa aur W.M.J." Nos Saboth, yng nghapel Stanley Road, wrth bregethu ar y geiriau Gan adael i ni esiampl, fel y canlynech ei 61 Ef," dywedodd y Parch. W. M. Jones, Crosshall Street, lawer o bethau byw, yn eu mysg Gan adael Crist o bawb a adawodd fwyaf ar ei ol i'r byd, er raai'^Efe dderbynniodd leia-f gan y byd. Nis gellir gwadu fod Crist wedi bod yn byw yn y byd. Pam ? Am ei fod wedi gadael ei 61 yma. Mae'n haws credu fod Iesu Grist wedi bod yn byw yn y byd, na fod Gladstone, y Frenhines Victoria, John Calvin, neu Paul wedi bod yma. 'Does neb all wadu ei fod, ac mae anfyddwyr yn hanner ei addoli wrth geisio gwneud hynny. Os ysgrifennant lyfr neu lythyr, maent yn mynd yn ol i Bethlehem am y dyddiad, ac yn dyddio eu correspondence ar gauad cryd y baban Ietsu. Ceisir dweyd mai un fel rhywun arall oedd lesu Grist— rhyw John Smith maent yn ei alw The man in the street." O'r gore ynte, ond o b'le daeth Crist yr efengylau yma ynte ? O cynnyrch athrylith yr ysgrifennwyr yw, mcddai diwinyddiaeth y papurau dimau yma. Y mae yn both newydd iawn i mi fod podwar o wladwyr di-ddysg, di-ddawn, di athrylith, wedi medru portreadu cymeriad perffaith, ag y mae hufen meddyliau yr oesau wodi methu ei wnend. Y mae fod y fath Berson a hwn wedi bod, yn wyrth unol a rheswm ond mae fod y bobl hyn wedi ei bortreadu ac yntau heb fod, yn wyrth groes i reswm. P'run fynnwch ? Waeth i chwi ddweyd wrthyf mai pedwar o anwariaid a ysgrifennodd Gyfatebiaeth Butler," neu mai pedwar o wallgofiaid o Rain hill ysgrifennodd Goll Gwynfa," na dweyd wrthyf mai yr efengylwyr ddyfeisiodd y cymeriad perffaith hwn. Eglwys Anibynol Martin's Lane. Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod chwarterol ddydd Sul diweddaf. Gwasan- aethwyd gan v Parchn. Owen Evans, D.D., ac O. Lloyd Owen. Ac er mai doniau lleol oedd y cyfryngau, eto ni chaed cyfarfodydd mwy llwyddiannus odid erioed yn banes yr eglwys. Ysgol Sabothol M.C. Anfield Road. Gwnaed pob trefniadau er's tro bellach i fyned a phlant a rhai mown oed yr [ysgol hon ly o am y treat blynyddol i Sefton ddydd Sadwrn diweddaf. Daeth y dydd-a daeth y gwlaw disgynnai dafnau breision o'r cymyl- au du uwchben, felly hefyd, mae lie i ofni, y dagrau o lygaid ami i blentyn siomedig wrth weled cestyll ci chwareuon yn cael eu chwalu. Ond ymhell cyn amser cychwyn, goleuai'r ffurfafen, peidiodd a'r gwlaw, ac ymdrlanghosodd brenin y dydd ae am un o'r gloch gwelwyd tyrfa liosog yng nghapel Anfield. Gosodwyd yr oil yn drefnus mewn deg o gerbvdau, a chaed drive tua 10 milltir trwy rannau prydferth o'r wlad, yr heolydd yn ddi-lwch, y gwrychoedd wedi eu gwisgo a Jblodau amrywiol, y gwair a'r irwollt glas a thoreithiog yn ymdonni tan yr awel esmwyth, nes llonni ami i lygaid nas gwelsai ond bricks a mortar er's tro byd, ac anadlu i'r fynwes nid awyr wedi ei thrwytho a mwg seimlyd y dref, ond ag awvr ffres wedi ei thynheru a gwlith Mehefin, a'i sentio ag arogl hyfryd gwair a blodau meillion a drain. Yn wir, gwych o beth. oedd cael allan o stwr a swn bvddarol y dref a'r German Bands a'r hyrdigyrdi i dawelwch swynol y wlad i wrando mwyn leisiau melusion yr adar bach yn y llwyni a'r perthi gerllaw. Yn ddiogel ac mewn pryd, wele ni yn Sefton, lie y caed popeth yn barod i'n croesawu. Caed ychydig egwyl i ehwareu gyda'r plant, ond drwy ryw gamddealltwriaeth a swyddog swyddfa'r gwlaw, gorfu arnom gilio dan do a gwneud y gore ohoni mewn chwareu a chanu. Pen- derfynwyd tan yr amgylchiadau gychwyn adref awr cyn yr amser penodedig, ac ar ol rhannu aur-afalau i'r plant, ac i ambell hen blentyn go hen ffasiwn yn ein plith, daeth y cerbydau, ac, yn rhyfedd iawn, oiliodd y gwlaw, a chaed noswaith o'r fath fwyaf dymunol i ddyehwelyd- -pawb mewn hwyl yn canu yr hen emyiiau anwyl sydd bob amser mor gydnaws ag anianawd y Cymro. Cyrhaeddwyd Anfield yn gynnar, heb hap na damwain, a thystiolaeth pernhennog y cerbydau ydoedd nas gwelodd erioed ysgol wedi ei thrcfnu mor fedrus er diogelwch y plant a rhwyddinob gwaith a'r ysgol hon. Dian fod y clod am hyn 011 yn ddyledus i'r swyddogion gofalus a gweithgar, sef yr arolygwyr, yr ysgrifenyddion, a r c.yfeilliKn caredig a roddasant eu gwasanaeth at hyn o orchwyl. Prydiiawn Saboth drachefn, cyflwynwyd y gwobrwyon roddwyd gan yr Undeb Ysgol- ion i'r plant a'r rhai mewn oed fu'n llwydd- iannus yn yr arholiad hefyd rhoddwyd, fel arfer, y gwobrwyon lleol. Daeth yr holl ddosbarthiadau i'r capel, ac nid rhyfedd i Mr. Jones. Cefn y Waen (oedd yn gwaaanaeth* yma y Saboth) dystiolaethu ar goedd fod yr olygfa yn werth myned ymhell i'w gweled— y bobl ieuainc a'r plant wedi eu gosod ar ganol y llawr, a'r olwg arnynt fel gardd o rosynau. Diau fod rhagolygon yr Ysgol yn hynod 9 11 ddisglaer, a chyfrifoldeb y rhieni a'r athrawon yn fawr ie, yn fawr iawn. Cofiwch gadwr yn fyw yr hen iaith anwyl Dyma un o'ch jpervglon cliwi yn yr ysgol ardderchog hon da chwi, cymerwch gyngor Mynyddog;- Gwnewch bopeth yn Gymraeg," a llawer llai o'r Saesneg yrna. Creulondeb o'r mwyaf yw esgeuluso dysgu ein plant i siarad a deall yr iaith a brogcthir iddynt. Hyn o gyngor yn garedig gan un sy'n hoffi Cymro, Cymry, a Chymraeg. (Rhagor o tudal. 8). --0-

FFETAN Y GOL.