Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

r ADOLYGIAD.

A^erchiad y Llywydd

Vmraeg yn y Gymanfa

^eaeth yn y De

Y Cyfarfodydd Cyhoeddus

--0-----BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Advertising

0BIG Y G'LOMEN. J ......1

.;1'.. Y Golygyddion.

Pwyo Campbellyddiaeth.

---------Carthu Colwyn Bay.

Cymwynas y Mor.

Codi Cythrel- a'i Ostwng.

. Catherine Jones. Bryn'r…

News
Cite
Share

Catherine Jones. Bryn'r Eryr j BU'R hen Gymraes ddyddorol, Catherine Jones, Bryn yr Eryr, Llanfihangel Glyn Myfyr, farw Mehefin 11, pan ymron cyrraedd ei 88 oed. Yr oodd yn hen wreigan hardd o gorff, a chydnerth a chadarn drwyddi a chadwodd ei chynheddfau yn loewon hyd y diwedd. Deallai gerddoriaeth yn dda, meddai lais campus, canai fel eos hyd ei dyddiau olaf, ar yr oedd mor glustfain a lodes wyth oed. Brenhines o wraig ydoedd wedi darllen llawer, a'i chof fel y bedd, ac yn gallu adrodd y pregethau a glybu yn Sasiynau'r Bala 60 a 70 mlynedd yn ol. Yr oedd yn wraig dawedog ond a chanddi stor o arabedd miniog ond diwenwyn pan fae eisieu. Ei ehasbeth ydoedd balchter a rhodres, a gwae'r cyfryw ddeuai i'w gwydd. 'Doedd ball ar ei charedigrwydd ac yr oedd Bryn yr Eryr fel gwesty, agored i bawb gael tamaid, ond nad oedd yno ddim rhedeg i nol cacen, bara brith, a rhyw geriach merfedd felly. Ystyriai ei bwyd cryf iach yn dda ddigon i bawh. Fe'i hadwaenid gan grwydriaid Cymru benbaladr, ni chai'r un fyned ymaith heb frecwest a swper, a lie i orffwys yn yr ysgubor. Nis anghofiaf fi mo'i charedigrwydd tra byddwyf ac os caf byth esgyn i'r un trig- fannau nefol ag yr aeth hi iddynt, Lie mae Modryb Bryn Eryr ?" fydd un o'm cwestiynau cyntaf. Clacldwyd hi tan y drefn newydd ddydd Sadwrn diweddaf ym meddrod y teulu ym Mettws Gwerfil Goch. Cymerwyd rhan gan y Parch. J. Morgan Jones, a'r Parch. James, fleer Llanfihangel. Daeth trigolion yr ardaloedd yn lluoedd, ac yr oedd y cyn- hebrwng tywysogaidd yn deyrnged deilwng o barch i'r hen Gymraes glodwiw athrwyadl. Boed ei Duw hi yn dirion wrth ei mab, John Jones ac wrth Keturah, ei hwyres a ofalodd am dani megis am ganwyll eu Ilygaid, ac arhosed ei hysbryd fyth yn y teulu a'r perthynasau. Dyma engraifft fel yr oedd hyd yn oed yr anifeiliaid yn hoff ohoni, ac yn darllen ei natur garedig :—Ddwy flynedd yn ol, bu- asai'n wael yn y llofft am beth amser. Yr oedd y ceffylau gwedd yn methu dirnad p'le yr ydoedd ac vmffurfiasant un diwrnod yn ddirprwyaeth i fynd i edrych am dani. Tra'r oedd y merched yn godro un diwrnod, cafodd y ceffylau gyfle, a ftwrdd a hwy, chwec-h ohonynt, i'r gegin. Daeth eu meis- tres, er ei gwendid, i Iawr o'r llofft, a chafodd fraw weled cymaint o foneddigion wedi dod i edryeh am dani. Y mae'r hen gegin yn un dra helaeth meddianodd liithau ei linn, ac er fod y llawr cerrig yn llithrig aeth i'w canol, a chyda thorth o fara coirch, tywysodd hwy allan fesul un ac un, heb iddynt dorri cymaint a llestr ac chan eu pratio, a diolch iddynt am eu hymweliad, ffwrdd a hi yn ol.

Advertising

Bwyta Llandudno.

Wesleaid Llandudno.

Gwynfryn.

Ap Madoc.

"Y Gallu Ysbrydol."

MeHdith y Clybiau.