Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

! TREM 1 5 TRWY Y DRYCH. j

News
Cite
Share

TREM 1 5 TRWY Y DRYCH. j Carreg yr Imbill TROWN y Drych arni, ac wele mor wahanol yw y Garreg i'r hyn ydoedd pan fu llygaid eneidfawr Eben Fardd yn syllu ami, a'i awen braff yn canu iddi Yn 1857 y bu hynny, a dyddorol heddyw yw oymharu yr hyn oedd y pryd hwnnw a'r hyn y sydd yn awr. Ebe'r bardd, yn ei rag-nodiad i'w linellau, Yr oedd y gair allan ar y pryd eu bod am dorri'r graig, a chloddio ohoni feini adeiladau, &c." Ac ebai efe mewn cynghanedd "Ynghrombil eang yr Imbill—d'wedant Y dodir cryf ebill Dynn o'i pherfedd ryfedd rill Taranol at ryw ennill. Gwfr y gyrdd hyd ei gwar gerddant- diwr I'w darnio ddaw meddant, [nod A'i chloddio nes byddo'n bant Agennog, di-ogoniant. Gresyn i'r hen graig, rywsut, Ado'i sail, newid ei sut Holl waelod traeth Pwllheli Ni byddai hardd hebddi hi; Gorwag bant, yn lle'r graig bur, Ni ettyb ddarlun natur Ai synwyr yw briwsioni Adwy'r llong yn nyfnder Hi ? Onid trwm fydd trem y fan, Os tynnir Cilbost Anian ? Yr oedd y Garreg yn gyfan pan welodd y bardd o Glynnog hi yr adeg honno, ac nid oedd ond yn unig ddarogan yn y gwynt am ei dwyn dan ymosodiad y gyrdd a'r ebillion. Yr oedd ganddo ef lygad i'r prydferth, ac nis gallai ddygymod a'r syniad o ddryllio darlun natur." Ond bychan feddyliai am y cenedlaethau o derfysgwyr a rhwygwyr oedd cyn hir i daranu eu hergydion ar gadernid yr Imbill hen G Erbyn Heddyw Rhyfedd mor wahanol yr ymddengys yr Imbill trwy y Drych i ni heddyw rhagor yr hyn ydoedd pan welodd Eben lii Mae y rhan fwyaf ohoni, debvgem, wedi ei saethu yn ddarnau, a'u cludo ymaith, yn agos a phell, er budd adeiladau a phelmynt, yn gystal a chenedlaethau o weithwyr fu'n dibynnu arni am eu cyn- haliaeth. Deallwn, fodd bynnag, y bwr- iedir cadw cyfran ohoni rhag dialedd yr ordd a'r ebill, ac yr erys digon o'r graig i wneud dwrn a dery donnau oes- oedd yn drochion cyrbibion yn eu hoi. Heblaw hynny, gwelwn fod y Porthladd Newydd yn prysur ymffurfio, dynion ar waith yn llenwi ceudod hyll rlian helaeth o'r morle, ac yn paratoi ffordd i'r tren redeg ymlaen i ganol y dref. Bydel" holl waelod traeth PwHheli," wedi'r cyfan, yn harddach nag y tybiodd y bardd, a'r dref yn sicr o fod yn fwy atdyniadol i ymwelwyr. Mae mawr glod yn ddyled- us i Mr. Lloyd George am y gwaith hwn. Onibae am ei gefnogaeth ef, mae yn bur sicr nas gwelsid y fath antur a hyn yng Nghorfforaeth y Pwll." G Morglawdd Madog Nid hawdd oedd tynnu'r Drych oddiar yr Imbill heb ei droi am eiliad ar Borth- madog, a chyda hynny dyma atgofion am yr hyn a dclarllenasom gynt, am yr helynt fu yno hefyd i wthio y don yn ol o'r tir, a thrwy hynny ennill tua saith mil o aceri toreithiog. Bu y drychfeddwl o'r anturiaeth ym rnhenglog Syr John Wynne o Wydir, a Syr Hugh Myddleton, gynared a 1625, ond W. A. Maddocks, A.S., gafodd awdurdod Senedd i'r gwaith yn 1808, ac ar y draul o £100,000 dygwyd y gorchwyl i ben erbyn 1811. Mae aelodau Seneddol o'r fath yma o werth i'w gwlad. Bu bardd mawr arall yn ymfflamychu yn y fan hon liefyd, nid amgen Dewi Wyn o Eifioti, athro vr Eben a.nfarwol a welsom wrth yr Imbill. Ymddengys fod Dewi yn canlyn gwedd" i gynorthwyo cau y rhwyg a wnaed yn y Morglawdd tua 1812. Cyfansoddodd hefyd gyfres o englytiion cryfion ar yr achlysur, ymha rai y gesyd allan yr elfen gymdogol garedig oedd yn y bobl i Ifelpu mewn cyfyngder :— Ewyllys da, lleshad oedd,—uwch arian, A cheraint. a thiroedd Pob eorth gymherth ar goedd Cai Madawg o'r cymydoedd. A bydd y canlynol o ddyddordeb i'r Monwyson—o ba rai, yn ol a glywsom, y mae o leiaf ryw hanner dwsin yn byw yn Lerpwl Daw dydd ysmaldod y don,—dyohwelyd A chwalu gwaith dynion, T fwrw ei heillt lafoerion Fel y gwnaeth ym Malldraeth Môn," Ond nis gallwn byth dremio i gyfeitiacl y Port a chofio hanes y Morglawdd, na bydd llinell gynhwysfawr Gethin Jones yn gwibio trwy ein cof,—- I droi y mor yn dir mes." Dyna bacio yr holl waith i un llinell ac engraifft orchestol o'r peth hwnnw a eilw dysgedigion yn MiiUum in parvo. Nid ydym yn gweled acw gymaint o brysurdeb tua'r cei ag a welsom gynt. ond tybiwn ganfod dwy long fawr," llwythog o drysorau gwerthfawr-" gwell. riag aur a gwell nag arian "—ar gychwyn allan, dan eu Hawn hwyliau, ac mai lolo a William John yw yr enwau sydd arnynt. Rhwydd hynt iddynt G Cof Da Wrth dynnu'r Drych oddiar yr lolo farddonol, cofiasom am ei gôf dihysbyddol ef. Gwyr y neb a'i clybu yn cvhoeddi ei feirniadaethau oddiar 1 wyf an ami Eisteddfod Genedlaethol mor rwydd, mor glir, mor ddibetrus, ac mor berffaith ymhob modd, yr adroddai y eyfr -vw- —yn cynnwys dyfyniadau helaeth—heb gymaint a modfedd o bapur o'i flaen. Dywedai Gutyn Ebrill fod yn werth dod o Batagonia i glywed beirniadaeth lolo mewn Eisteddfod Genedlaethol. Ond gallu rhyfedd yw y cof, ac wrh feddwl am lolo, gwelsom ddrychiol- aethau Scott Gladstone, Macaulay, a Browning, Hiracthog a'r Doctor- iaid Owen a John Thomas, yn pasio heibio'r Drych rhyfedd yma. Gallai Scott, pan yn blentyn, adrodd hanner llyfrgell o'r Border Poems and Tales Macaulay, yn wyth oed, allai ddarllon The Lay of the Last Minstrel unwaith, ac vna adrodd yr holl gyfansoddiad, canto ar ol canto, yn gwbl gywir. Glad- stone hefyd oedd yn gyffelyb, ond nid mor gynnar o ran oed. Mae y sail gryfaf dros ddweyd nad oedd ormodiaeth ym Macaulay ddweyd, pe diflanasai pob copi o Goll Gwynfa a Thaith y Pererin, y gallasai ei gyflenwi o'i got. Browning oedd un arall. Hyd yn oed mewn gwtli 0 oedrari," gallai eistedd uwchben llyfr dyddorol iddo drwy'r dydd, ac ar ginio yr hwvr ei adrodd, ddalen ar ot dalen, i gyd, ac yn hollol gywir. Ac am allu cof rhyfeddol y Cymry enwog a nodwyd, y mae yn ddihareb ymysg y rhai a'u hadnabuent, ac yn hysbys i'r neb a ddar- llenna eu hanes. Dyna un elfen arbennig I o'u grymuster fel pregethwyr.

Cor Plant y Rhos, Cio.

Cymanfa Ganu Anibynwyr Mon

Eisteddfod Johannesburg.

Cyfarfod y Bore.

Cyfarfod y Prydnawn.

Cyfarfod yr Hwyr,

Nodiadau.

Athron.

-----1)----LLANGOLLEN.

Yn Ynys Mon ac Arfofl

Thomas Price

Y Cynghaneddion.