Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Eisteddfod Bwlchgwyn.

Senedd y Byd.

News
Cite
Share

Senedd y Byd. [Gan Mr. ELEAZAR ROBERTS, Y.H.J IE, Senedd y byd, neu, os mynner, The Parliament of man,lthe federation of the world," chwedl Tennyson. Wrth roi hanes Cyn- hadledd yr Hague yn 1899, dywedais un- waith Os oes rhyw ymdrafodaeth rhwng y teulu fry a theulu'r llawr (a chredaf fod) y mae yn anhawdd meddwl nad oedd enaid Henry Richard yn talu ymweliad a'r T$ yn y Coed yn yr Hague, yn ystod y ddau fis bythgofiadwy hynny, gan fod y pwnc v bu efe drwy ei oes yn galw sylw y byd ato yn awr yn cael ei drafdd mewn modd ym- arferol yn yr ysmotyn dyddorol hwnnw. Mae yr ail Gynhadledd yn cyfarfod am dri o'r gloch, tra yr wyf yn awr yn ysgrifennu, a pha beth bynnag am drigolion y wlad fry, yr wyf yn bur siwr fod fy enaid i yn hofran tua'r Hague yn awr, ac yn mawr bryderu gyda golwg ar yr hyn a wneir yno. Yn y Gynhadledd*gyntaf nid oedd ond 26 o wledydd yn cael eu cynrychioli, ond yn y Gynhadledd heddyw cynrychiolir 46 o deyrn- asoedd mewn gair, yr holl fyd gwareidd- iedig. lawn, gan hynny, y gellir ei galw yn Senedd y Byd." Ni Iwyddwyd i gyflawni amcan mawr galwad y Gynhadledd yn 1899, sef cael diarfogiad mewn unrhyw fesur taflwyd y mater hwnnw yn ol i ystyriaeth y gwahanol deyrnasoedd. Ond pasiwyd pen- derfyniad o blaid dymunoldeb y peth, er hynny. Y gwaith mawr a wnaed yn 1899 oedd gosod y Gynhadledd ar fath o sylfaen arhosol, a datganwyd yn groew o blaid yr egwyddorion mawrion y bu Cobden a Henry Richard yn dadleu drostynt ar hyd eu hoes ac fel y dywedwyd yn y llyfr crybwylliedig, daeth yr athrawiaeth a bregethwyd ganddynt yn gredo proffesedig cenhedloedd gwar- eiddiedig y byd." Yn gredo," cofier, ond nid bob amser y mae teyrnasoedd, mwy na phersonau, yn actio yn ol eu credo. Ang- hofiwyd credo 1899 gan Brydain, Rwsia, a Japan, ac ymladdwyd brwydrau creulon a dianghenraid, fel y gwyddis. Ond er y cyfan nid aeth y Gynhadledd honno heibio yn ddieffaith. Dywed Mr. W. T. Stead yn y Review of Reviews am y mis hwn fod ei hael- odau wedi cyfarfod heb fod ganddynt ddim ffydd ynddi, eu bod yn barod i chwerthin yn wynebau eu gilydd fel rhai wedi cyfarfod heb wybod yn iawn i ba beth. Ond ar ol dau fis o ymdrafodaeth, daethant i gredu yn y Gynhadledd, a gwnaethpwyd gwaith rhag- orol. Na, nid breuddwydwyr oedd aelodau y Gvmdeithas Heddwch, y rhai a fuant am flynyddoedd yn cynnal Cynadleddau yn y wlad hon ac ar y Cyfandir, er fod ein gwýr mawr milwrol yn ceisio credu hynny. Pan aeth y llyngesydd Syr Charles Napier i Gynhadledd Edinburgh yn 1853--mor fyw y mae yr amgylchiad yn dod i fy meddwI- aeth yno mewn dull beiddgar i wrthwynebu yr amcan, ond ar ol ei alw ar y llwyfan, methodd ennill nerth i wrthsefyll y pender- fyniad a phleidleisiodd o'i blaid. Yr oedd cvflegrau ymresymiadol y lath wýr a Cobden, Bright, a Richard yn rhy gryf iddo ef eu gwrthsefyll. A newid y gymhariaeth, yr oedd gan y gwyr hyn wirionedd byw i'w hau ymysg y bobl: ac y mae hedyn byw o wir- ionedd yn siwr o dyfu ond iddo gael daear iawn. A living seed," ebe yr enwog Geikie, however small, will work its way up, and be powerful enough to lift a heavy flagstone." Faint o rym fydd yn yr ail Gynhadledd, yr hon a gyferfydd heddyw ? Pa un a basia benderfyniadau ymarferol ai peidio, sydd yn anhawddd ei wybod profir hynny yn ystod yr wythriosa.u dyfodol. Ond y mae yr had wedi ei osod yn y ddaear, ac y mae yn hedyn byw, ac felly yn siwr o ddwyn ffrwyth. Mae Prifweinidog Prydain wedi siarad yn groew o blaid amcan mawr y Gynhadledd fe basiodd ein Senedd ni ar y 6ed o Fai, 1906, benderfyniad cryf o'i blaid, ac nid oes braidd neb o farn yn meiddio sefyll i fyny yn eofn i ddadleu yn erbyn egwyddorion mawrion Plaid Heddwch. Meddylier am y cydymgais ynfyd a gwallgof rhwng teyrnasoedd Ewrop mewn darpariadau milwrol. Mor bell yn ol a'r flwyddyn 1841, defnyddiodd Syr Robert Peel y geiriau canlynol yn y Senedd ONID ydyw'r amser wedi dod pan y dylai gwledydd eryfion Ewrop leihau y darpar- iadau milwrol y maent wedi bod yn eu casglu ynghyd mor ddiwyd ? Onid ydyw yr amser wedi dod pan y dylent fod yn barod i ddatgan nad oes dim lies yn y fath ddarpariadau gordyfol ? Pa fudd sydd mewn bod un gallu yn gwneud cynnydd mawr yn ei byddin a'i Ilynges ? Onid ydyw vn gweled fod y galluoedd ereill yn dilvn ei esiampl ? Y canlyniad o hyn fydd nad oes unrhyw allu ya ychwanegu ei nerth cymariaethol ond y mae yn rhaid y bydd gwastraff cyffredinol ar adnoddau pob gwlad mewn darpariadau milwrol. Y maent, mewn gwirionedd, yn amddifadu Heddwch o hanner ei fanteision, ac yn gwario egnïon rhyfel cyn bod eu heisieu. Gwir fantais Ewrop fyddai dod i ryw gydsyniad cyffredinol, fel ag i alluogi pob gwlad i leihau ei hadnoddau milwrol, y rhai sydd yn perthyn i stat o ryfel yn hytrach nag i stat o Heddwch. Mi fyddai yn wir dda gennyf pe bae cynghorau pob <*wlad (neu pe byddai Uais a meddwl y fliaws, os na wnai y cynghorau) yn Hedaenu yn ewyllysgar yr athrawiaeth hon. Wei, y mae yr athrawiaeth hon a bregeth- wyd mor glir gan Syr Robert Peel, a chan wladweinwvr enwog ereill o bob plaid, a chan gyfeillion Heddwch ar hyd y blynydd- oedd, o'r diwedd yn dechreu tywynu ar feddwl John Bull. Rhvfedd mor hir y mae yr hen wr wedi bod cyn gweled gwirionedd mor eglur, os ydyw yn wir wedi ei weled eto. Dyna'r pwnc mawr arall: Cyfiafareddiad yn He Rhyfel. Pwy, ie, hyd yn oed o n swyddogion milwrol, na eddyf fod cyfiafar- eddiad yn well na myned i ryfel ? Ae eto, dyna'r OadfridogArglwydd Roberts yn myned o gwmpas y wlad i bregethu cwymp Prydain os na ddysgir pob dyn i drin gvfai; ac y mae yn ennill disgyblion lawer, y mae lie i ofni. Y mae "Bobs" gyda'i rychwn yn swyno llawer Sais penwan, ac yn eu gwirioni. Ebe un o wladweinwyr enwog Germani wrth olygydd newyddiadur yn yr ymweliad di- weddar You are the most warlike people in Europe, more easily whipped into a. war fever than any other." Rhy wir o lawer, onide ? Hyderaf fod y Cymry yn gallaoh. Pa fodd bynnag, gadewch i ni feddwl, siarad, dadleu, gweithio, a gweddio ♦Bywyd a gwaitb Henry Richard, td, 314. o ddifrif ar fod y Gynhadledd a gyferfydd heddyw yn -_foddion i wneud y gelfyddyd farbaraidd o ryfola yn ffieiddbeth_trwy y byd. Am danaf fi, byddaf yn gwylied symudiadau y Gynhadledd gyda dyfalwch a phryder yr wythnosau hyn, ac os caf ganiatad y Golygydd ceisiaf wneud nodiad yn awr ac eilwaith yn y BRYTHON tra bydd yn eistedd, er mwyn cadw^y^cwestiwn o Heddwch yn fyw o flaen y darllennwyr. Hyderaf y bydd gweinidog- ion yr Efengyl yn galw sylw at y Gynhadledd, ac yn gweddio yn gyhoeddus o'i phlaid. Mae gohebydd yn y Daily News heddyw yn ychwanegu mai nid amhriodol fyddai i'r rhai hynny a bleidiasant y rhyfel diweddaf gyffesu eu pechod. Pam lai ? lloylakc, Mehefin 15fed. --0--

Nodion o Fanceinion.

PULPUDAU MANCHESTER.

Advertising