Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Look on this picture-and on…

Gwyn fyd y Colier.

Siom.

News
Cite
Share

Siom. Nis gwn a ydyw yn strictly within the terms of reference i mi yn y golofn hon wneud cyfeir- iad at y don o siomedigaeth aeth dros Gymru yr wythnos ddiweddaf, pan gafwyd datganiad clir a phendd/nt y Prifweinidog na cheid Datgysylltiad y tymor seneddol nesaf, os yn wir, o gwbl yn ystod y Senedd hon. Fe wyr fy narllennwyr yn eithaf da had oeddwn i yn disgwyl dim yn amgen ond nid wyf yn awr yn yr humour i daflu halen i friw fy nghyd- wladwyr drwy wenu a dweyd I told you so." Mae'n bryd i gwestiwn Datgygylltiad gael ei f-etlo bellach, ac y mae Cymru ar ol yr aberthu wnaeth hi er mwyn y Blaid Rydd- frydol yn haeddu gwell triniaeth. 'Rwy'n credu mai yr achos, neu o leiaf y prif achos fod Cymru yn dal yn ol mor gyndyn rhag ymuno a Phlaid Llafur ydyw ei bod hi wedi oerdded Dyffryn Baca, ac wedi yfed dyfroedd Mara er mwyn Rhyddfrydiaeth ddeng-mlyn- edd ar hugain a deugain mlynedd, yngol. Mae'r traddodiadau am yr aberth wnaed gan ugeiniau o ffarmwyr a llafurwyr ein cymoedd a'n dyffrynoedd yn '59 a '68 wedi suddo'n ddwfh i ymwybyddiaeth y genedl. Yr ydym fel pe'n clywed siars yr hen gadfridogion ymadawedig yn dod ar aden y gwynt, ac yn sibrwd yn ein clustiau Cofiwch fod yn ffyddlon." Mae adlais o sir Gaernarfon yn dod o Dynllwyn mae Aberteifi hithatÙl sibrwd mae yn Llanuwchllyn fedd a cholofn Michael Jones yn dwyn ar gof i rii yrfa arwr ac yn Llandderfel mae Capel Rama yn gof- golofn o'r dagrau heilltion dywalltwyd. A rhyfedd mor werthfawr yn ein golwg yw yr hyn yr aberfbasom drosto. Credaf fod pedwar ugain o bob cant o'r rhai bleidleisiant i'r Ehyddf r vdwyr yng Nghymru yn cytuno a'r hyn y mae Plaid Llafur yn ei ofyn ond y mae en cred yn addewidion, a good intentions y Blaid Ryddfrydol yn gymaint fel y buasai yn well ganddynt fynd i gael eu dirdynnu ar arteithglwyd na phleidleisio yn erbyn y Liberal. Ond os aiff y Llywodraeth hon ymlaen fel y mao wedi mynd yn ddiweddar, fo ddaw terfyn ar amynedd y mwyaf amyn- eddgar, ac fe siglir ffydd y mwyaf ffyddiog. Nid oes berygl, fodd bynnag, i Gymru droi yn Doriaidd. 0 nag oes, mae hi wedi sefyll angerdd tan erledigaeth ac yn erbyn hud- ddeniadau gwlanen a glo yn y eyfeiriad yna. Na, i gyfeiriad Llafur y symnd Gwalia, os byth y gedy y Rhyddfrydwyr.

-------0---0 Gaerdydd. --

-------0---GLANNAU'R GLWYD.

Advertising

Etholiad Jarrow