Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Look on this picture-and on…

Gwyn fyd y Colier.

News
Cite
Share

Gwyn fyd y Colier. Y mae'r glowyr er's rhai misoedd wedi bod yn mwynhau byd da. Beth amser yn ol (tua'r Calan. os wyf yn cofio) cawsant gryn dipyn o godiad yn eu cyflogau, a does brin bythefnos wedi mynd heibio er pan gawsant godiad syhveddol arall—2 /3 y bunt. Felly mae Shoni wedi cael cryn lawer yn rhagor o bres poced yn ddiweddar. Sut y mae o wedi eu defnyddio, ddyliech chwi? 'Rwy'n credu fod cryn dipyn o gamargraff yn bodoli yn y Gogledd ynghylch yr Hwntws. Mae (neu, o leiaf, yr oedd) llawer yn credu mai rhyw giwaid diffaeth hanner-gwarciddiedig ydyw "Bechgyn y dyfnderoedd." 'Rwy'n cofio yn eithaf pan oeddwn i yn cychwyn o'r gomel fwyaf ogleddol o Ogledd Cymru i Gwm Rhondda ddeuddeng mlynedd yn ol, fod am- ryw o'm eyfoillion 'm cydnabod yn fy nghynghori ac yn fy siarsio fel pe buasent yn llwyr gredu fy mod yn mynd i drigiannu y drws nesaf i'r pwll diwaelod. Fu erioed fwy o gamgymeriad. Does yr un set garodic- ach a mwy calonagored dan haul nathrigolion gwlad y pyllau glo, ac y ma-ent yn gystal Cymry a chwarelwyr Arfon a Meirion bob dydd y codan nhw o'u gwlau. Dyna fy mhrofiad i, beth bynnag. Sut mae Shoni yn defnyddio ei surplus receipts, ofynnes i. Wei, mewnprynnu dodrefn,'dillad, a jewellery, a. phur ychydig ohonynt sydd ar y spree. Mae gwaith y llysoedd cyfreithiol yn llawer llai yn awr nag y bu er's misoedd, ac y mae Barnwyr Llys y Manddyledion bron ar yr unemployed list. Mae'r Methdaliadau hefyd fel pe ar ddarfod o'r tir. Fe welwch fod yr hyn ddywedwn ni, y Sosialists, yn cael ei wireddu o flaen ein llygaid, sef mai y peth cyntaf sydd yn eisieu tuag at gael gwerin gymedrol, foesol, a hunan-barchus ydyw rhoi moddion bywoliaeth o fewn eu cyrraedd. What is the matter with the poor," meddai George Bernard Shaw yn ddiweddar, is poverty."

Siom.

-------0---0 Gaerdydd. --

-------0---GLANNAU'R GLWYD.

Advertising

Etholiad Jarrow