Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Look on this picture-and on…

Gwyn fyd y Colier.

Siom.

-------0---0 Gaerdydd. --

-------0---GLANNAU'R GLWYD.

News
Cite
Share

-0- GLANNAU'R GLWYD. Y MAE Mr. Howell ldris, A.S., wedi anfon llythyr i hysbysu etholwyr Bwrdeisdref Fflint nad yw yn teimlo y gall ymladd brwydr etholiadol eto. Drwg gennym nad yw y boneddwr wedi cwbl wella. oddiwrth effeithiau y ddamwain flin a gafodd dro yn ol ond y mae yn dda gennym ei fod yn ddigon cryf i gvflawni ei ddyledswyddau Seneddol. Hyderwn y bydd eira llawer blwyddyn wedi gwynnu Cader Idris cyn y bydd eisieu i Mr. Howell Idris na neb arall ymladd. Feallai y bydd un o fechgyn ysgolion sir Fflint yn barod i'r frwydr pan fydd galw. Pan yn darparu ar gyfer y golofn goffa- dwriaethol i Esgob Morgan ac ereill sydd o flaen Eglwys Gadeiriol Llanelwy, bu llawer o chwilio am ddarlun o gyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg, ond methwyd a chael un, a thystiai yr Archddiacon Thomas nad oedd un wedi ei adael. Ond y mae golygydd y St. Asaph Parish Magazine yn hvsbys 11 ei fod wedi gweled darlun ohono, os gwir a ddywed ei berchennog, ac y mae seiliau cryfion dros gredu hynny. Ond y mae sicrwydd mai darlun o Dr. Abel J. Parry a welir y dyddiau hyn yn ffenestr Mr. Sandoe, Rhyl, oherwydd y mae fel pe'n fyw. Merch Pedr Hir a'i paentiodd, ac y mae yn brawf o'i medr yn y gwaith. Coleg y Bedyddwyr, Bangor, fydd cartref y darlun bydd yn cael ei ddadorchuddio yno yr un pryd ag eiddo y diweddar Ddr. Hugh Jones. Y mae Dr. Parry yn un o sylfaenwyr y Coleg hwnnw, ac efe oedd ei ysgrifennydd cyntaf. Y mae, y-n. parhaii i gymeryd y dyddor- deb mwyaf yn y sefydliad, fel y prawf ei rodd o lyfrgell yn cynnwys dros fil o lyfrau gwerthfawr. Gan fy mod wedi dechreu son am ddar- luniau, bu darlun o un o weinidogion ieuainc y Rhyl mewn ffenestr yr wythnos ddiweddaf, a darlun rhagorol oedd hefyd. Ond pan aeth rhai o edmygwyr y gweinidog i weled y darlun yr oedd wedi diflannu, a'r achos o hynny oedd fod gan ei berchennog wrthwynebiad i ddang- os ei hun, er ei fod yn werth ei ddangos am fwy nag un rhoswm. Bu etholiad yn Rhyl yr wythnos ddiweddaf. Ymgeisiai tri am sedd y diweddar Mr. Joseph A. Williams ar Gyngor y Dref. Dewiswyd y goreu o ddigon, sef Mr. David Owen. Brodor o Galltmelyd ydyw Mr. Owen, ond y mae wedi treulio y rhan fwyaf o'i oes yn Rhyl, ac wedi bod yn gymwynasydd i r dref mewn mwy nag un ffordd. Y mae yn ad- nabyddus ymhell ac agos fel air. Dafydd Owen v Bandmaster. Y rnae yn gerddor gwyeh, a bu yn ddiwyd a ffyddlon am flyn- yddoedd lawer gyda seindorf bres yn y dref. Gwr gwylaidd ydyw pe buasai yn ud- ganu o'l flaen yn ol arfer rhai llai eu galhi nag ef, feallai y rhoddasid mwy o bris ar ei wasanaeth. Y mae Ffair y Byd yn parhau i atdynu llawer i'r Arcade, Rhyl. Y mae y Dyn Gwyllt yn ei ftali o hyd ond synnwn i ddim nad oes rhai gwylltach nag ef yn y dref. Y mae yno ferch yn yrnprydio er's tair wythnos, a llawer o rai ffol fel hithau yn talu am ei gweled. Tra y mae hi yn dewis yrn- prydio er mwyn cael pres, y mae llawer o drueiniaid yn y dref yn gorfod ymprydio am nad oes ganddynt brei,. 3PQ Mown araith ddoniol a medrus, dvwedai Arglwydd Esgob Llanelwy yn Rhyl ychydig ddyddiau yn ol mai un o'r mympwyon di- weddaf yw gwneud dysgu Cymraeg yn orfodol yn yr ysgolion elfennol Gresyn na fuasai y fath fitmpwy yn bod pan oedd ami un o glerigwyr a churadiaid yr esgobaeth yn yr ysgol. Cyhoeddwyd llyfr gan un ohonynt ychydig flynyddoedd yn ol y mae cynnwys ei lyfr yn eithaf dyddorol, ond druan o'r Gymraeg dan ei ddwy to—gweiir hi yn ei chlwyfau ar bob tudalen bron. •5b Bu dadleu brwd yng Nghvngor y Rhyl yr wythnos ddiweddaf. tra yr ystyrid cais y Queen's Palace Co. am drwyddedau i redeg motor cars o amgylch y dref. Yr oedd perchenogion meirch-gerbydau y dref yn rhagweled y tollid ar eu derbyniadau hwy os caniateid i'r motors redeg, ac yr oedd pot) Jehu wedi dod i wrando ar yr ymgiprys, ac yr oeddynt wedi sicrhau Mr. J. Roberts Jones, cyfreifcbiwr, i wrthwynebu ar eu rhan. Dadieuwyd ar ran perchenogion y motors y byddai i'r cerbydau redeg yn ddistaw, ac na byddai arogl anymunoi yn eu canlyn. Da iawn ond os na byddai achos tramgwydd i drwyn a chlust, beth am y perygl i un gael ei falurio o dan y cerbydau gwylltion ? Y mae ychwaneg o blant a phobl hen a musgrell yn dod i Rhyl nag i un dref arall ar y glannau, oherwydd fod y lie mor wastad, ac heb graig na dim o'r cyfryw i blant dorri eu gyddfau trwy gwympo oddiarnynt. Ond pe caniateid i'r motor cars redeg, byddai yr heolvdd yn fwy peryglus i'w teithio. Gwrthwynebodd Mr. Roberts Jones yn fedrus, a gwrthodwyd y cais. •5b Pe buasech yn Rhyl ddydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, Mr. Golygydd, buasech yn meddwl mai un o'r teulu brenhinol oedd yn priodi yma. Gwibiai dwrfinau o gerbydau ar yr heolydd, cenid clychau, a chyhwfenid banerau. Yr oedd Eglwys St. Thomas dan sang, yr hyn a brofai fod y bobl yn cym- eryd mwy o ddvddordeb mewn rhialtwch fel hyn nag yn yr efengyl. Esgob Llanelwy oedd yn rhwymo y par ieuanc. Mab i fragwr a marsiandwr gwin yn Glasgow oedd y priod- fab, a dywedir fod special train wedi ei ddwyn ef a'i gyfeillion i'r dref. Merch i Mr. Gamlin, cyfreithiwr, a chlerc newydd yr ynadon, Rhyl, oedd y briodferch. Ein dymuniad yw i ddedwyddwch bywyd priodasol y ddau fod yn deilwng o rialtwch v briodas. k Y mae trigolion y Rhyl yn gwnoud defnydd rhagorol o'r Llyfrgell Rydd. Y gwvn yn awr yw fod yr Y stafel] Ddarllen yn rhy fechan, a rhaid ei helaethu. Cedwir y llyfrgellydd rhadlon ar lawn waith yn rhoddi a derbyn llyfrau. Dylai hyn argyhoeddi y sawl a wrthwynebent y llyfrgell, gan ddadleu na wertbfawrogid hi gan yr ieuenctid, o'u cam- fivmeriad. P;¡: Anfonwyd Albert Parter, o Brighton, i garchar am ddau fis i edifarhau am ladrata pedwar crys. Yr oedd y crysau ar eu ffordd o Ruddlan i Coventry, ond cafodd Parter afael ynddynt tra yr oeddynt, yng ngofal Cwmni y Rheilffordd, ac aeth a hwynt i'r pawn. Addefai y carcharor mai mynychu rhedegfeydd ceffylau oedd yr achos o'r gwymp, a'i fod ar newynu pan gymerodd y crysau. 3P,e Yr oedd William Roberts, Abbey House, Rhuddlan, a gladdwyd ddydd Sadwrn wyth- nos i'r diweddaf, yn hannu o linach Catrin o'r Berain, a elwir weithiau yn Fam Cymru,' oherwydd lliosogrwydd ei hiliogaeth, mae'n debyg. John Salusbury o Lewenx, gerllaw Dinbych, oedd gwr cyntaf Catrin. Pan yn ei gladdu, elai y weddw tua'r fynwent ym mraich Syr Risiart Clough, a dychwelai ym mraich Morris Wynne (brawd Sion Wynne o Wydir), yr hwn a sisialodd yn ei chlust yr hoffai gael bod yn ail wr iddi. Ond yr oedd y brawd yn rhy ddiweddar, oherwydd yr oedd Catrin wedi addo y gymwynas honno i Risiart Clough ar y ffordd i'r fynwent. Ond addawodd y cawsai y trydydd chance os byddai galw. Felly bu, a chafodd Catrin fyw i gladdu Morris Wyxxne, a chymerodd Edward Thelwal o Blasward yn bedwerydd gwr. Yr ail wr oedd fwyaf yn ei ffafr o'r pedwar bu ef farw o bla dinystriol yn Antwerp, a rhaid fu llosgi ei gorff, ond anfon- wyd ychydig o'r llwch i Catrin, a cbadwyd y llwch mewn blwch o aur yn grogedig wrth ei gwddf hyd ei marwolaeth, yr hyn a gymer- odd le Medi 1, 1591. Claddwyd hi yn Llan- efydd. Ymddengys fod tlodion Dinbych yn cael byd gwell na'r eiddo Abergele. Cwynai rhai o Warcheidwaid y lie olaf yng nghyfarfod y Bwrdd ddydd Gwener diweddaf fod Gwar- cheidwaid Dinbych yn rhy hael. Mae yn amlwg fod y swm a roddir i'r tlodion yn y ddau le yn anghyfartal iawn. Os yw Aber- gele yn rhoddi digon, y mae Dinbych yn rhoddi gormod ac os nad yw Dinbych yn rhy hael, y mae Abergele vn rhy grintach. '»5b Y mae yr Yeomanry yn gwersyllu y dydd- iau hyn gerllaw Dinbych. Bu yr Arglwydd Esgob yn rhoddi pwt o bregeth iddynt wythnos i'r Sul diweddaf. Ni threthodd hwy a. meithder, oherwydd pregeth ddeng munud roddodd iddynt. Dyna guro y pregethwr mwyn o'r De o elwir yn Evan Ugain Munxid oherwydd byrder ei bregeth- au. Dywedir am y diweddar Gruffydd Risiart o Gonwy iddo orffen ei bregeth un- waith mewn deng munud, a dweyd, Mae'r bregeth wedi darfod yn go swta, oixid ydyw ? Ond mi aeth yn o lew mi awn ni drosti eto." Buasai Esgob Llanelwy a'r diweddar Hwfa Mon yn ddau campus i bregethu yn yr un cyfarfod.

Advertising

Etholiad Jarrow