Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

Advertising

----------------- I DYDDIADUR.I

GlannauV Mersey

News
Cite
Share

GlannauV Mersey At Gymry Birkenhead. ADDAWODD y Gol. y cawswn ddanfon gair atoch i'r BRYTHON ar ol cyrraedd pen y daith, ar yr amod y byddai raid iddo ef anadlu anadl ei einioes iddo, a'i wneud yn llythyr byw. Wei gwnaed, ac mae'n debyg na fydda i yn nabod mo'm llythyr pan y gwelaf mewn print." 0 leiaf, felly y gwelais hi bob aimer o'r blaen. Wil, fe ddeliais i fyny yn bur dda wrth eich gadael ar Landing Stage Lerpwl ond wedi i'r Empress of Britain ddechreu hwylio ymaith, ac i'eh gwynebau hoff ddiflannu- am byth, hwyrach—o'm golwg, fe wylais fwcedeidiau o hiraeth, yn enwedig wrth weled copau mynyddau'r Ken Wlad yn cilio i nos y pellter. Wyddoch chwi beth, rhyw doclyn cywrain ydyw calon dyn, pan ystyrioch y toittilada,ii-biraeth, llawonydd, siom, ac yn y blaen-a ddychlamant y naill ar ol y Hall ohoni. Cefais long ardderchog, ac yr oeddwn yn un o tua 1,500 neu 1,800 o deithwyr ar ei bwrdd. Fel y gwyddoch, cloff ydwyf, a phur anhwylus i ymdaro drosof fy Ivan ond gofalodd y nef fod yno Gymry yniysg y teithwyr. T'rewais ar un llanc o Gaergybi, a deuai i'r bunlt bob bore a nos i gadw dyled- swydd ac un arall o Aberaeron i'm helpu i gael i mewn i'm dillad. Daeth y cyntaf gyda mi bob cam i Montreal. Yr oeddwn wedi bod ar war y weilgi fwy nag unwaith o'r blaen, a phob tro heb salwch y mor ond y waith hon cefais bedwar diwrnod o'r selni atgas hwnnw, a llawer heblaw finnau; ac ebe rhyw walch ar dop ei lais, "Fish will be fat and cheap in Liverpool after this." Dywedweh a fynnoch, lie diras erchyll ydyw bwrdd Ilon- ac nid ydwvf fi yn synnu dim tod ami un ohonynt yn mynd i'r gwaelod. Yn ffodus, pump o Norwegiaicl oedd yn yr un gysgfa a mi, a phobl glen a glan odiaoth oeddynt, ond mod i'n methu deall yr un gair a ddywodent. Wedi cyrraedd St. John's, rhaid oedd mynd i'r lan, a gorffen y daith i Montreal mewn tren. Onibae fod gennyf bapurau oddiwrth yr awdurdodau o Montreal, buasent wedi'm troi yn ol bob cam o St. John's. Papuryn bach gwerthfawr i mi ydoedd y passport heddyw a than sbio'n ddrwg- dybus a rhincian ei ddannedd arnaf, wrth fy ngweld yn hobian efo'r ffon, y gadawodd y swyddogyn ffroenuchel fi fyned heibio. Cyrhaeddais Montreal y Saboth, a chefais fy chwaer a'i theulu yn iach a siriol. Cychwyn- cm ganol yr wythnos ddilynol. i Upper Canada ac yr ydym bellach wedi ymsefydlu ar y ffertrt. Nid ydym yn rhyw bell iawn o Raiadr Mawr y Niagara a plie gwelsech chwi hwn, fyddai arnoch ddim eisieu cyboli gweld Rhaiadr y Wennol, Bettwsycoed. wedyn. Gwlad ardderchog sydd yma, a digon o le heb guro penelin na sathru traed ein gilydd a phawb yn cael awyr ffres iddo'i hun—ac nid awyr wedi ei hanacllu gan filiwn o safnau ereill o'i flaen. Y mae yma ddigon o ffrwythaa'n tyfu yn agored a didrtlfferth-- coed afalau, gellyg, eirin, tomatos—hyd y meusydd a bydd yn dda gan y saint hynny yn Birkenhead sy'n smocio cvmaint gtywed fod deilen y tybaco yn glwstwr hyd y meusydd yma. A dyma lie byddaf, mae'n fwy na thebyg, hyd derfyn fy nhaith. Cefais y fraint o dreulio pymtheng mlynedd yn eich mysg yn Birkenhead, a chafodd yr un eloffyn mor llesg a phechadur mor fawr erioed fwy o dosturi a charedigrwydd ond gan y nefoedd nag a dderbynniais oddiar eich Haw. Ond fe •wei'fchais inna fwyd iach i chwi ac wrth feddwl am y papurau a ddosberthais yn eich mysg, gallaf ddweyd fel Glan Alun am ei farddoniaeth Ni iygrais neb." Yr unig goll yma yw nad oes yma ddim achos Cymraeg o fewn cannoedd o filltiroodd a rhyw datws llaeth ydyw'r efengyl yn Saesneg gen i erioed. Ond y mae yma Feibl a phregethau David Charles, Caerfyrdd- in, ar y silff, a BRYTHON yn cyrraedd bob wythnos, a dyna ni ar ein digon—caed neb fynno'r gweddill. Brysiwch yma. Yr eiddoch, hen ffrindiau amvyl, MORGAN JONES. COTTAM, ESSEX Co., ONTARIO, CANADA. 1

EBION.

Y Parch. S. O. Morgan, B.A.,…

CVIAIOOI) MISOL LERPWL.

Family Notices

[No title]

-Y Methodistiaid CaHinaidd.

Advertising