Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
Advertising
YOUR PRICELESS EYES. Y OUR Eyes deserve the best possible v y°u can give them, and whenever y u are conscious they are in any way eakened you should at once have them exalni-lied. Few of those who practice sight testing dftf able to properly correct the simplest of let alone the complicated errors of the wonderfully complex human eye, abl u 8 accounts for much of the incur- headaches, so prevalent. Are Yorr QUITE STJRE ? Do you need he advice and service of an expert ? j; d you like to know the exact con- Y l0n your eyes ? °U can have them^examined FREE by Lo Moreton Parry, Oph.D., F.R.M.S., Eyesight Specialist, 0AKFIELD RD., ANFIELD, LIVERPOOL, SAVE S5 CASH OR HIRE. D. GRIFFITHS & SON, fft-» Brec^ Road, and AIM ORGANS 8s 1 u the at it e r a. Li III uli 8 Rd. 70S a.\tertree. ==- Lun t's Boots are VALUE FOR MONEY. Try a ladies' and Gent's in great variety. II PARADISE STREET, The only address Telephone-261 Bootle. P. LLOYD JONES, Vcl, Funeral Furnisher, attention given to removals to and Y from Wales B U I L D I N G S 6,! & 364 Stanley Rd., L'poo. (Near Bankhall). WEI)DING EOUIPAGES. 'Phone—017 Central. 0 W. GRIFFITHS Tailor, 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL, ALSO ATj 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. 'Phone—27x Bootle. Humphrey Williams, ~fj Tel. 8158 -J 53 SMITHFIELD STREET, TITHEBARN STREET, LIVERPOOL. Manufacturer of SLATE HEADSTONES, and all other STONE MEMORIALS. 000 Enamelled Slate Chimney Pieces, Bangor Roofing Slates, and every description of Slate Slab Work.
Family Notices
PRIODI. s-Hkp.Ri.T)ydd Mercher, Mehefin 5, io.F yng nghapel Booth Street.. Manchester, priodwyd Mr. R. W. Jones, General Post Office, a Miss Marie Harris, merch ieuengaf Mr. a Mrs. D. Harris, Robert Street. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. C. Jones, Llanfyllin (ewythr y briodferch) yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. E. Jones, Llanbedrog (tad y priod- fab), ac M. Llewelyn. ROBERTS—THOMAS—Yn Eglwys Dewi Sant, Brownlow Hill, gan y Parch. James Davies, M.A., Mr. David Roberts. Pansy Street, Kirkdale, Lerpwl, a Miss Sarah Jane Thomas, mcrch hynaf Mr. Josiah Thomas, Seacome Street, LerpwI. GRIFFITH—EDWARDS—Mehefin 6, yng nhapel M.O. Llanbedr, Meirionydd, gan y Parch. D. C. Edwards, M.A. (tad y briodferch), yn cael ei erynorthwyo gan y Parchn. Gwynoro Davies (Abermaw), Llewelyn Edwards, M.A., Llunden (ewytft y briodferch) a Morgan W. Griffith, B.A., Abermaw, Jennie Charles Edwards,unig ferch y Parch. D. C. Edwards, M.A., a Mrs. Edwards, ac wyres y diweddar Ddr. Lewis Edwards, y Bala, a'r Parch. O. Jones Griffith, B.A., bugail eglwys M.C. Dolwyddelen. Cyn- haliwyd neithior yn Hafodybryn, pryd yr oedd dau gant o wahoddedigion yn bresen- nol. Treuliant eu mis mel yn yr Iwerddon. JONES—HANNAH—Mehefin 4, yn eglwys St. Thomas, Ashton-Lu-Makerfield, gan y Parch. Henry Fiddall, ficer, a'r Parch. F. Kenner, curad eglwys West Derby, Dr. Oswall Wynn, mab Mr. Wm. Jones, Balliol Road, Bootle, a Martha (Pattie), pedwaredd ferch Dr. Hannah, Ashton-in-Makerfield.
Advertising
Telephone 51 Y Anfield. JOHN JONES, ø FUNERAL FURNISHER, 19 Preston Grove, LIVERPOOL. Style, Quality, Economy, Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. Estimates including all charges on application. NODER—Nad oes unrhyw gysylltiad rhyngof ag arall o'r un enw. RICHARD EVANS, GtNtRAL HOUSE FURNISHER AND BEDDING MANUFACTURER 64 Stanley Road, Bootle, BLINDS CARPETS. LINOLEUMS. CURTAINS LINOLEUMS BEDSTEADS CRETONNES BEDSTEADS BEDDING TAPESTRY BEDDING. Show of Floor Covering this and following days e largest stock of Carpets 6 Linoleums in Bootie, 64 STANLEY ROAD, BOOTLE. 440 PBootle KEADY THURSDAY NEXT OFFICIAL LIST OF SUBJECTS llqngollen Royal National Eisteddfod, 1908. Price 6d.. a Post 1d. 2 EVANS, SONS FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road, Liverpool. k.
--------:---0 0 roolmn * 9…
0 0 roolmn 9 o BI6 Y 1* 0 0 1 Craig yr Helbul. Dyna enw preswylfa'r nofeles enwog, Miss Marianne Farringliam, yn yr Abermaw. Ty ydyw ar ben craig yn wynebu'r mor a phan fo terfysg, yno bydd y tonnau yn troehioni i ben y elogwyn. Nid yn ami y caed amgenach enw, na hyfrytach mangre i nyddu nofel.
Gweddw Watcyn Wyn.
Gweddw Watcyn Wyn. Trwy ddyfal geisio, y mae Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., wedi cael gan y Prifweinidog orchymyn fod £ 150 o'r Royal Bounty Fund yn cael eu talu i weddw y diweddar fardd ac Eisteddfodwr Watcyn Wyn, ar gyfrif ei lafur dros lenyddiaeth a phethau goreu'i wlad. Bu Mr. Williams tan addysg Watcyn Wyn am dymor.
Cwmwl Ffestiniog.
Cwmwl Ffestiniog. Cymylog iawn y deil pethau yn Ffestiniog a'r ardal ac wrth hedeg tins y chwareli, nid wyf yn cofio gwoled cyn lleied yn gweithio ynddynt er's blvnyddau. Ac wrth edryclI i lawr ar y dref, gwelir tri cliant o dai gweigion, a'r dwsin neu fwy o add old ai yn gruddfan tan. £30,000 o ddyled. Ac er fod y bobl yn dal i ymfudo wrth y cannoedd nid ymddengys aefyllfa'r gweddiil a orys gartref ronyn gwell.
Y Ddifinyddiaeth Newydd.
Y Ddifinyddiaeth Newydd. Dywed Ymofynnydd—cyboeddiad misol yr Unitariaid Cyriireig-fod tros 60 o weini- dogion y pedwar enwad uniongred yng Nghymru wedi ymholi am lyfrau Unitar- aidd yn ystod y flwyddyn ae yn cydnabod iddynt dderbyn mawr leshad oddiwrth y cyfryw. Cysura'r Ymoiynnydd ei hun fod hyn yn argoel dda, a diolcha i'r Ddifinydd- iaeth Newydd am achlysuro'r peth. all
Y L. 6 N. W.
Y L. 6 N. W. Yr wythnos ddiweddaf anfonnodd Mr. Bryan Warhurst at bwyllgor Eisteddfod Bwlchgwyn i ddweyd i'w g6r meibion o'r Hen Golwyn fethu cyrraedd i'r gystadleu- aeth oherwydd i'r L. &. N. Western wrthod eu cludo yno am bris gostyngol. Buasent yn cael myned am lai agos o'r banner i Rasus Caer. Gresyn fod y cwmni barus a thrahaus hwn yn cael cymaint o wnoud fel y myn a ni.
Brawdlys Sir Ddinbych.
Brawdlys Sir Ddinbych. Ddydd Gwener, gerbron yr Arglwydd Brif Farnwr, dedfrydwyd Lewis Williams (24), glowr, i ddwy flynedd o garrhar am ymgais i dreisio geneth o'r enw Annie Samuels, Rhiwabon. Am gael cvflenwad o gig drwy dwyll gan Mri. Davies Bros., Colwyn Bay, anfonwyd Charles Brown (24), Portsmouth, i naw mis o garchar. Am dorri i siop J. Parry Jones, grocer, Broughton, dedfrydwyd dau lowr o'r enw lorwerth Jones (31) a John Evan? i dri mis o garchar bob un:
Damwain Angeuol.'
Damwain Angeuol. Dyma ddaeth i ran Powell Jones, Top y Rhos, trwy gael ei daflu allan o'r cludydd ym inhwll glo Tryddyn. Lodge (neu fel y'i gelwir ar lafar gwlad, "Pwll Mari "). Ym- ddengys ei fod yn disgyn at ei orchwyl fore Sadwrn diweddaf, rhwng pump a chwech o'r gloch, pan yr aeth y cludyddion i wrth- darawiad a'u gilydd yng nghanol y pwll, gan daflu Powell allan, nes disgyn ohono ar waelod y pwll yn hollol farw. Dyma'r gyntaf o ddamweiniau Pwll Alari" er pan mae'r gwaith wedi dechreu, o hynny oddeutu dwy flynedd yn ol. Parodd y newydd gryn gyffro yn ardal Tryddyn, yr hon sydd mor glir oddiwrth ddamweiniau o'r natur yma. Gadawodd y truan wraig a phlant mewn cwmwl o brofedigaeth i alaru ar ei ol.E)-yr Bwlchgwyn.
* Brawdlys Sir Fflint.
Brawdlys Sir Fflint. Ddydd Llun, yn y Wyddgrug, yn ei anerch- iad i'r rheithwyr, llongyfarchai yr Arglwydd Brif Farnwr y llys oblegid bychander y troeeddau, gan sylwi fod y Dywysogaeth, yn enwedig y Gogledd, ar y blaen yn hyn, ac mai lledaeniad crefydd ac addysg foesol oedd yn cyfrif am y gwellhad. Nid oedd ond un achos i ddod i brawf, sef cyhuddiad yn erbyn F. J. Cox (22), groom, o ladrata t3 9s. 9c. o dy A. E. Owen, Padeswood. Ymddengys oddiwrth y tystiolaeth i'r carcharor briodi Mai 1, ac iddo ladrata'r arian i dalu am y dillad priodi—het, menyg, y cerbyd, a'r deieen briodas. Cymerodd y Barnwr olwg drugarog ar yr achos gan sylwi i'r gwr ieuanc gael ei demtio i'r camwedd rhag siomi ei ddyweddi efo'r priodi Gollyngwyd ef yn rhydd, ond gyda rhybudd i wylied arno'i hun yn y dyfodol.
Cwyn y Dirwestwyr.
Cwyn y Dirwestwyr. Yng nghyfarfod Pwyllgor Gweithiol Cym- deithas Ddirwestol Gwynedd ym Mangor, ddydd Mercher, hysbysid fod Mr. D. Davies, A.S., wedi gwrthod y gwahoddiad i fod yn llywydd y gyrndeithas ac yna pasiwyd i ofyn i Mr. Herbert Roberts, A.S., barhau i lanw'r swydd honno. Ymddengys fod Mr. Joseph Malins, Prif Demlydd Lloegr, yn gwylied holl aelodau Cymru, pa sawl gwaith a pha fodd y pleid- leisant a darllennwyd llythyr oddiwrtho yn y cyfarfod yn cwyno gynnifer ohonynt oedd yn absennol o'r Ty noson cyflwyno Mesur Dewisiad Lleol yr Ysgotland. Yr I e oedd pump o'r aelodau esgeulus o'r Gogledd, a phasiwyd i ofyn am eglurhad ganddynt.
Hapio.
Hapio. Yn ol pob argoel, cynhyddu y mae betio, yn gudd ac yn g'oedd, yng Nghymru. Ddydd Sadwrn, dirwywyd George H. Russell, dyn ieuanc pur drwsiadus yr olwg, i £10 a'r costau, heblaw 10/6 i'r cyfreithiwr, am sefyll- ian hyd heolydd Colwyn Bay i dderbyn beta. Ymysg ereill a welodd yr heddgeidwad yn mynd ato i fetio yr oedd llanc 14 ood. Sais yw Russell, yn byw mewn clobvn^o dy yn Rhiw Road ond nid Saeson yn unig sy'n betio yng Nghymru ond y mae'r ddrwg-arfer yn dod i fewn i'n gweithdai a'n gweithfeydd, a bechgyn tyner o oedran a magwraeth yn cael en llithio i drobwll peryglus yr hapio a'r Ilymeitian-gefoilliaid. $1,
Anghysondeb.
Anghysondeb. 'Does odid i'r un o'r newyddiaduron Tori- aidd a frefant mor groch am Ddiffyndollaeth -Protection --nad yw'n gweithredu gartref yn unol hollol a Masnach Rydd, sef ymofyn ei nwyddau o'r wlad rataf, He i bynnag y bo. Beth" aniser yn ol, gwelid ysgrif ar- weiniol gref yn un o DorYaidd bapurau Gog- ledd Cymru, a honno wedi ei hargraffu ar bapur y cawsid pob sheet ohono o un o wled- ydd y Cyfandir oherwydd ei radlonrwydd. Dyma.
Anghysondeb Arall,
Anghysondeb Arall, sef gwaith ffermwr o ddirwestwr a wertha ei haidd i fragwr am y cai swllt yr hob yn ychwaneg am dano, ac i'r hwn y canodd un o'r beirdd fel y canlyn Fy hunan yw fy eilun, Fy hunan yw fy oil, Fy hunan mwy addolaf, Aed pawb ond f'hun ar goll. Fy hunan lwydd, a'm hunan-les, Yw'm lloches ar y llawr Neb ond fy hunan fo'n mwynhau Mwynderau'r nefoedd fawr."
Arddanghosfa Bath ð West yng…
Arddanghosfa Bath West yng Nghasnewydd--Buddugwyr o Ogledd Cymru. Heffer Byrgorn.l ddwyflwydd.—3ydd wobr, Iarll Powis, Oastell Powis, Trallwm. Buwch neu heffer ddu Gymreig, dros flwydd oed.—laf, R. M. Greaves, Wern, Porthmadog 3ydd, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Herfor ddu Gymreig, dwyflwydd.—laf, Colog Bangor. Heffer flwydd eto. -2il, Coleg Bangor 3vdd, R. M. Greaves. Tarw du Cymreig, dwyflwydd neu dair oed. I af, R. M. Greaves. Tarw du Cymreig, blwydd.—2il, R. M. Greaves. Hwrdd Mynyddig Cymreig, blwydd neu ddwyflwydd.—2il, Mri. Gratton, Voryd Fawr Farm, Abergele. Tair o hesbinod blwydd mynyddig Cymreig.2il, Mri. Gratton, Abergele. k-
Pethau Chwithig.
Pethau Chwithig. Dyma rai pethau chwithig y bydd y G'lomen yn eu gweld a'u clywed wrth hedfan tros Gymru y dyddiau hyn Cymry yn troi i gabldyrddu yn Saesneg wrth fynd allan o gapelau Cymraeg. Plant Cymry yn darllen Cymraeg yn yr Ysgol Sul, ac yn esbonio yn Saesneg. Ambell aelod eglwysig efo menyg kid yn fforwla'i logell am geiniog i'w rhoi yn y blwch casgliad. Un arall, balchach a mwy crintach fyth, yn troi at ei gyfnesaf yn y set i ofyn Oes gynoch chi ddwy ddimai am geiniog ?" wrth i'r casgtwr nesu. Gwreigen yn troi allan yn ei jaced sealskin hyd yr heolydd, ac ar ol dod adref yn gofyn benthyg padell ffrio gan wraig ty nesa i ffrio p'nogyn yn ginio i'r gwr.
Pregethwyr Poblogaidd.
Pregethwyr Poblogaidd. Y mae Cymdeithas Cymru Fydd Anfield ac Everton (Lerpwl) wedi trefnu cystadleu- aeth a chynnyg gwobr i'r sawl a enwo'r chwe pregethwr byw mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Y mae adeg danfon yr enwau i mewn wedi cau ac felly gaUwn anturio cyhoeddi'r rhestr a ganlyn a adawodd rhyw ymgeisydd anghofus ar ei ol yn y tren y dydd o'r blaen Parch. John Williams, Brynsiencyn. Parch. Thos. Chas. Williams, M.A., Porth- aethwv. Parch. H. Elfed Lewis, M.A., Llunden. Prifathro Owen Prys, M.A., Aberystwyth. Parch. E.T. Jones, Llanelli (Llwynpia gynt). Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog.
Rhestr arall.
Rhestr arall. Er mwyn sicrhau'r wobr, yr oedd y cyfaill wedi parotoi ail restr; ac fel hyn roedd honno:— Parch. W. E. Prydderch, Abertawe. Y Tad Ignatius, Llanthony. Parch. D. Tecwyn Evans,B.A.,IJanddulas. Parch. Evan Phillips, Emlyn. Parch. Thos. Jones. Rhostyllen. Parch. J. Roberts, B.A., I.erpwl. -o Am gicio buwch yn ei phwrs nes gwaedu ei thethi, anfonwyd Isaac Roberts i fis o garchar gan ynadon Colwyn Bay ddydd Sadwrn. Eiddo Mrs. Evans, fferm Nant Ucha. ydoedd y fuwch a'r wytlmos gynt yr oedd y carcharor, ar ol bod yno'n was, wedi cael ei anfon ymaith. Y mae'r Ysgrifennydd Cartrefol, ar sail tystiolaethau a roed gerbron Dirprwyaeth y Llywodraeth beth amser yn ol gan Dr. Rd. Jones, Ffestiniog, a Dr. R. Owen, Penygroes, wedi ychwanegu fibroid phthisis (sef yr anhwylder neilltuol y mae chwarelwyr mor chwannog i'w gael) at yr afiechydon oblegid y rhai y ceir iawn arbennig tan Ddeddf yr lawn i Weithwyr.
Nodion o'r De,
Nodion o'r De, [GAN HESGIN.] Y Brenin yn dod i Gaerdydd, AR 01 llawer o grefu, y mae'r Brenin a'r Frenhines o'r diwedd wedi cydsynio i dalu ymweliad a ni yma i agor y Doc newydd. Ar ei daith adref, wedi bod ym Mangor, Caergybi, a Dulyn y geilw heibio i ni. Mae'n ddiameu y caiff groeso i'w ryfeddu yma gan wreng a bonedd. Er fy mod i yn werin- lywodraethwr i'r earn, y mae gen i feddwl lied uchel o Edward y Seithfed. Mae cryn lawer 0 human nature yn Teddy, ac y mae o yn fwy hirben a chyfrwys nag y mae llawer yn feddwl. Ddydd Sadwrn cynhaliwyd cyfarfod ar- bennig o'r Cyngor Dinesig, ac ar ol mynd drwy'r ffurfioldeb arferol mewn amgylch- iadau anghyffreclin fel hyn, penderfynwyd ar un stroc roddi £2,500 yn chwanog o gyflog i'r Arglwydd Faer. Penderfynwyd hefyd barat- oi anerchiad croesawol ardderchog, ac felly yn y blaen. Yng nghyfarfod y Cymmrodorion nos Wener penderfynwyd cyflwyno anerchiad Cymraeg i'w Fawrhydi os y cytuna i'w derbyn ac er sicrhau fod tipyn o lewyrch ar iaith ac arddull yr anerchiad, gofynnwyd i'r Proff. Powell edrych ar ol y wisg. Mae'n debyg felly na fydd yr anerchiad hwn lawn mor garbwl a'r un gyflwynwyd gan y Gorfforaeth i'r Ardalydd Bute pan briododd o. Fe gewch chwi weled y byddwn ni yn torri cut pan ddaw ei fawrhydi yma. Fel yr hysbysais rai misoedd yn ol, gweithiwr- saer-maen wrth ei alwedigaeth—ydyw Argl- wydd Faer Caerdydd eleni. Y fo ddylasai fod yn y swydd y llynodd, pe cymerasai pethau eu t.refn arferol. Ond gan fod y rhai oedd mewn awdurdod yn disgwyl y Brenin yma i agor yr adeiladau dinesig newyddion, ac y tybient y buasai yn infra dig. iddo Igael ei groesawu gan a mere Labour man, pender- fynasant ail ethol yr Henadur Robert Hughes. Ond ddaeth y Brenin ddim yma fel y disgwyl- ient !-ac yn awr dyma'r mere xoorkingman yn mynd i gael ysgwyd llaw ag Edward y Seithfed, ac fe fydd raid iddynt hwy aros, a'u cynffonau yn ddigon llipa, o'r neilltu. Y snobs Brwydr Dyffryn Sirhowy, Dyma ydyw pwnc y dydd mewn cylchoedd masnachol y ffordd yma y dyddiau hyn. Y pwnc mewn dadl ydyw pa rai o'r cwmniau rheilffyrdd sydd yn mynd i gael eu pig i mewn i gario y glo gaiff ei godi yn y dyfodol o'r gymdogaeth uchod. Mae'r proffwydi yn dweyd y bydd ardaloedd Coed-duon ac Ynysddu-" Gwlad Tslwyn "—yn ail Gwm Rhondda ymhen deng mlynedd ac wrth arogli celain mor fras, mae'r Railway Com- panies fel cigfrain yn hofran uwch y He. Mae'r G.W.R., Rhymney Railway, a'r Barry Railway wedi bod wddf-yng-ngwddf er's misoedd, ac y mae'r ymgodymu wedi costio miloedd o bunnau iddynt. Mae'r frwydr yn tynnu at y terfyn yn awr, a'r argoel yw na chaiff yr un ohonynt fawr o'i ffordd ei bun." Mae Casnewydd-ar-Wysg yn gobeithio mai'r G.W.R. enilla mae Caerdydd yn gobeithio mai'r Rhymney a Barry, wrth gwrs. yn deisyf am lwyddiant y Barry. Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn," medde'r Hen Lyfr. Pan gawn ni gyfieithiad diwygiedig, fe newidir yr adnod i ddarllen, Nid ar lo yn unig," &u. Tywysog Cymru yng Nghasnewydd. Bu'r Prins o Wels yng Nghasnewydd ddydd Iau, ar ymweliad a'r Bath and West Show. Aeth miloedd yno i gael golwg amo-yn ogysta] a'r pethau ereill a ddanghosid yno. Rhyw ddwy awr y bu o yno, ac yr oedd hi yn gwlawio hen wragedd a ffvn ar hyd yr holl amser. Bu agos i ddamwain allasai fod yn spriws gymeryd lie pan oedd yn mynd i ffwrdd, drwy i geffylau oedd yn un o'r cer- bydau redeg pan glywsant y band yn chwareu Gob bless the Prince of Wales (poor Binley Richards !) ond yn ffortunus ni anafwyd neb. Enillodd amryw o Ogledd- wyr wobrwyon yn yr Arddanghosfa—ceir eu henwau mewn colofn arall. 3PIQ Moch. moch i mi." Bythefno3 yn ol cyfeiriodd eich gohebydd doniol o'r Rhyl at broblem y cadw moehyn.' Wel, mae pobl Caerdydd wedi cael eu cyn- byrfu i waelodion eu henaid yn ddiweddar gan waith Pwyllgor y Gwallgofdy (nage, nage, yr Ysbyty Feddyliol,rydym ni wedi mynd yn rhy sedate i yrru pobl i'r madws), yn penderfynu codi cytiau moch sydd i gostio mil o bunnau. Welsoch chi 'rioed y fath row sydd wedi bod. Mae rhai yn eu darn- regi nhw am eu gwastraff, a'r lleill yn chwor- thin am eu pennau. Mae popeth i fod yn tip-top er gofalu am gysur y porcers—mae hot-water pipes i gael eu gosod drwy'r holl le Mae cartoonist y Western Mail wedi tynnu lluniau moch fel y byddant yn edrych yn yr amser braf sydd yn eu haros." Ceir rhai yn gorwedd ac yn cysgu yn dawel ar esmwyth- feinciau. a'r lleill yn gwrando ar gramophone yn canu Songs of Araby iddyn nhw. Mi fase rhywun yn meddwl y huasai ar aelodau pwyllgor mor gibddall a lliosog a hwn ofn mynd i dalu ymweliad a'r ysbyty rhag ofn i'r doctoriaid eu cadw nhw yno. Ond hwyr- aell eu bod yn teimlo eu hunain yn ddigon ,,tiff-- beca?tse they don't take incurables in Dyna fel mae'r byd yma yn mynd yn ei flaen carpiau, oerni a llwgfa i blant, penyd- wasanaeth a chaethiwed y tloty i hen bohl- a phaias gyda hot-ivater pipes i foch Pa hyd, 0 Dduw, pa hyd k- Cyfarfodydd Pregethu. Y Sul nesaf, ac yn wir nos Sadwrn a nos Lun, y mae gwledd bregethwrol yn ein haros. Ym Mhembroke Terrace (M.C.) cynhelir y cyrddau blynyddol, pryd y gwasanaethir gan y Parchn. John Williams, Brynsiencyn (dyna fel yr hysbysir ar y murleni), a Cyn- ddylan Jones. Yng nghapel Mining Street, Cathays (A.), cynhelir Cylchwyl"" Flyn- -71" yddol beth ydyw'r gwahaniaeth, 'dwn i ddim- pryd y pregethir gan y Parchn. Ben. Evans, Barry, a Job Miles, Aberystwvth. Pedair hoelen wyth." o Ddydd Mercher diweddaf, 'ar y maes lie y gwersylla'r Imperial Yeomanry (sir Ddin- bych) yn Llandyrnog, tarawyd Sergt. Idxie Jones &'r parlys, a ehwympodd oddiar ei geffyl, ac mewn canlyniad bu farw ddydd Sadwrn yn Infirmary Dinbych. Efe ydoedd perchen tafarn y Lion, Treffynnon, a mab i Mr. Tysilio Jones, Johnstown. Ymladdodd yn rhyfel ddiweddar Affrica, ac yno y priod- odd ag un o'r nursee a gyfarfu ar y Veldt.