Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

Llun Hwfa Mon.

Pregeth y Parch. E. Phillips.

Y Cynganeddion.

I I" Gyda'r Tannau."

John Jones mewn ffi.

News
Cite
Share

John Jones mewn ffi. SYR,—Tra yn eistedd wrth y ffenestr yn y ty yma y dydd o'r blaen, yn gwylied y gwlaw yn ymdywallt ar y ffordd, syrthiais o dipyn i beth i ryw fath o lewyg. Pan yn yr ystad hon, teimlwn rywbeth yn fy nghorddi rywle tua chymdogaeth yr ymen- ydd, a chymerais afael mewn pensil led, a dechreuais ysgrifennu ar ddarn o bapur oedd yn digwydd bod ar y bwrdd. Ar y deehreu ysgrifennwn yn araf a clxydag an- hawster mawr ond yn raddol teimlwn fy hun yn cynhesu at y gwaith, a dylifai y geiriau oddiar bwynt fy mhensil fel gwlaw o grwe. Ymhen ychydig amser teimlwn dipyn yn well, a dadebrais yn o lew, a disgynnodd fy llygaid ar y papur gwyn. Ac yn wir i chwi, yr oedd yna y marciau rhyfedda a welodd neb erioed, yn union fel pe buasai rhyw bry' wedi syrthio i botel inc, ac wedi cerdded dros y papur wedyn. Cefais lot enbyd o drafferth i ddehongli y marciau hyn, ond pan y llwyddais i wneud hynny o'r diwedd, bu agos iawn i mi gael ffit draehefn. Do, yn wir Beth feddyliech chwi oedd ar y papur ? Darn ardderchog o farddoniaeth, ,P I wedi ei gyfansoddi gennyf fi fy hun Ie, syr, coeiiwch chwi fi neu beidio, dyna'r ffaith, ac er inwyn eich argyhoeddi, yr wyf yn anfon i chwi gopi ohono. Dyma fo Gwlaw, gwlaw, A welir yma ar bob llaw, Os pery'n hwy, y dilnw ddaw Mao dyddiau'r haf yn cilio draw, A'r haul uwchben yn ffoi mewn braw, 0, am ryw law i gloi y gwlaw Wel syr, beth feddyliech chwi ohono ? Onid yw yn ddarn ardderchog, yn masterpiece gwirioneddol ? Synnwn i ddim na fydd o byw tra pery'r gwlaw i wlawio Wrth gwrs, mae o yn copyright, a thrwy ffafr I arbennig yr ydach chwi yn cael ei gyhoeddi. Fe ddanghosais y darn i un o'm cyfeillion rnynwesol y dydd o'r blaen, a'r unig sylw a wnaeth efe oedd gofyn i mi sut oedd fy ewythr sydd yn y 'Seilain yn dod ymlaen y dyddiau hyn. Wrth gwrs, atebais i mo'r cwestiwn, aellos pa fusnes oedd ganddo fo i ofyn y fath beth ? Yr ydych chwi, syr, wedi clywed am y dywediad hwnnw fod gorffwylledd yn agos at athrylith, ac felly 'roedd hi gvda'r dyn hwn. Ydwyf, syr, eich ufudd was, JOHN JONES. Y CAE GLAS. Dydd Sadwrn. O.N.Os bydd y ffitiau yma yn fy nhrwblo i eto, syr, cewch lythyr arall yn fuan. -0- Oh- Y mae'r Duke of Lancaster's Own Imperial Yeomanry, yn rhifo 500 o wyr, yn gwersyllu yng Nghaerwys, sir Fflint, o ddvdd Llun cyn y diweddaf byd Mehefin 20fed. Pistylla'r gwlaw arnynt agos bob dydd er pan y maent yno, ac y mae'r cae bellach yn slebog o le. Ddydd Gwener, cafodd 200 o dtodion tlot.y Caernarfon a Bangor eu gwledda a'u croesawu gan Mr. Assheton--Smith ym Mharc y Vavnol. GHveinyddwyd arnynt gan Mrs. Smitli a lliaws o foneddigesau dilynwyd y te gyda cha.n(;uon gan gantorion cyflogedig a chyn ymado rhoed tybaco i'r hen wyr, to i'r gwraged ,1, a melusion i'r plant. 0

Advertising