Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

Llun Hwfa Mon.

Pregeth y Parch. E. Phillips.

Y Cynganeddion.

I I" Gyda'r Tannau."

News
Cite
Share

Gyda'r Tannau." MR. GOL.Dyniunaf gyflwyno fy niolch- garwch gwresocaf i awdwr yr ysgrif alluog a ymddanghosodd yn y BRYTHON Mai 30, dan y penawd uchod. Gwir fod y gelfyddyd gywrain hon o'r braidd wedi dianc o'n plith fel cened], yr hon dalent ni roddwyd i'r un genedl arall, ac nis gwn am un genedl a all gynghaneddu yn eu hiaith ond y Cymry, megis gweu awdl ar y pedwar mesur ar hugain, a'i chwareu gyda'r tannau, yr hyn both sydd bob amser yn ddyddorol, nid yn unig gan y Cymry, ond gan y Saeson hefyd. Er nad ydynt yn deall y gelfyddyd, maent yn mwynhau y glee. A chan fod y ddwy gelf- yddyd, óHef Cerdd Dafod a Cherdd Dant, wedi eu rhoddi i ni ytt arbennig fel cenedl, oni ddylem ymorchestu vnddynt ? Gan fod yr awgryrn wedi ei roddi pa fodd i'w hadferyd i'r genedl, 'rwyf yn hollol gydolygu ag awdwr yr ysgrif, sef mai Mr. 0. M. Edwards sydd yn y fantais oreu i ddwyn hyn oddi- amgylch. yn yr ysgolion hefyd i bwyllgorau yr Eistoddfodau gydweithredu. Gwyddom fod Eisteddfodau cyn hyn wedi eu cynnal heb yr un delyn na datgeiniad o'u mhewn • y rhan fwyaf o'r pwyhgorau hyn yn estron- genedl, ac ambell Gymro yn ddigon o Ddic- Shon-Daf ydd i gydweithredu a hwy. Pa, fodd y gellir cysoni Oes y byd i'r Iaith Gymraeg," a phopeth or gweithrediadau, hyd y gellir, yn Saesneg ? Dymunwn i bwyllgorau yr Eisteddfodau dyfodol roddi gwobrwyon cyntaf, ail. a thrydydd, am ganu rhannau o awdlau, a hynny wedi eu dos- barthu yn ol y gallu a ddisgwylir yn y gwahanol ddosbeirth, megis englynion a chywydd i'r trydydd dosbarth i'r ail, englynion toddaid, gorchest y beirdd clo- gyrnach; i'r dosbarth cyntaf, gwawdodyn' hir-a-thoddaid, a'r tawddgyrch cadwynog, &c, 'Rwyf yn credu mai dyddorol fyddai cael cyfres o ysgrifau ar y penawd uchod, a hynny gan awdwyr ago sydd yn talu dyddordeb i'r gelfyddyd ,gywrain hon er Codi'r hen wlad yn ei hoi," a bydd yn bleser or mwyaf gennyf gael traethu fy lien 'nawr ac eilwaith a myned i mewn i'w helfennau, er rhoddi symbyliad i'r ieuenctyd ei dysgu ynghyda chydweithredu a phawb a draetha ei len arni, ac hyd y gellir, gadw enwau personau o'r neilltu ac ymddwyn yn addas ac mewn cymdogaeth dda. Disgwylir i bawb a draethai ei len yn y BRYTHON roddi oi enw adnabyddvis wrth ei epistol. Mewn awen a chan, EOS Y BERTH, Befhesda. Fencerdd Cerdd Dant. .{Vw barhau).

John Jones mewn ffi.

Advertising