Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.
Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XIII.—OFERGOELION. NiD atebai faw- o ddiben i ni ymdroi i wrando ar Rhydderch Gwyn yn melltithio'r sipsiwn, ac yn erehi i Lewis Pennant eu danfon i ffwrdd gynted ag y medrai, y disgwyliai ef weled yr ardal yn glir oddiwrth Sidi a'i theulu cyn ei ddychweliad ef a'i deulu digon yw dwevd, os bu i Rhydderch Gwyn, A.S., fod i fyny a'r barnwyr yn llysoedd y wlad pan yn lladrata hen gomin Maen Essyllt, ei fod yntau wedi taro wrth feistr yn Lewis Pennant. Aeth y Sgweiar i ffwrdd heb fod yn y dymer oreu, gan siarad wrtho ei hun, a chwythu 'bygythion yn erbyn pawb a feiddiai groesi ei lwybrau ef. Aeth Rolant renrig hefyd yn ol tua'r Hendre, heb fod nemawr elwach ar ei ym- weliad a'r Llys. Ceisiodd Margaret Pennant ei ddarbwyllo nad oedd a wnelai Siani Tyncoed, na neb arall y tu allan i'r Hendre, ddim oil a'r llaeth yn y fudda, ond os cafodd ei geiriau rywfaint o effaith ar Rolant Meurig ei hun, ni fynnai y wraig wrando arnynt, a'r canlyn- iad fu iddi roddi'r crochan mawr ar y tan a chalon buwch yn hwnnw dros ei phen mewn dwr, a thua ceiniogwerth o binnau wedi eu pwyo bob yn un ac un ar hyd a lied y galon. Tybiai y wraig mai dyna oedd y dull goreu i ddadreibio'r llaeth, a chymaint oedd yr ofergoeledd yn y wlad fel y disgwyliai'r wraig druan i'r galon yn y sospan ddwvsbigo calon Siani Tyncoed. Hefyd, gorfu i blant Rolant Meurig fyncd i'r fan lie tyfai coeden griafol, ac wedi torri rhai o'r brigau, gwneud modrwyau a hwy. Rhaid oedd rhoddi un o'r modrwyau o dan ystlysbost drws y ty, ac un arall uwchben capan drws y bwtri. Ystyrrid y modrwyau yma yn alluog i gadw pob ysbryd drwg i ffwrdd o'r tai annedd, ac yn yr Hendre y bwtri oedd cyrehfan ueill tuol y gwr hwnnw, dybygid, yr wythnos honno. Disgwyliai Catrin Meurig yn bryd- erus weled Siani yn dod ttiag yno, ac yn gwaeddi am ryddhad oddiwrth y poenau ddylasent fod yn ei blino, oherwydd y pinnau oeddynt yn berwi yn y galon, ond nid oedd hanes am dani am oriau lawer. O'r diwedd gwylltiodd Rolant Meurig, a ffwrdd ag ef tua hen fwthyn Tyncoed i hebrwng Siani trwy deg neu arw tua'r Hendre i dynnu ymaith y felltith oddiar y llaeth. Cafodd yr hen greadures yn ei dan ddwbl o flaen y tan, y crydcymalau yn peri digon o boen iddi, beth bynnag am y pinnau. "Boeth y bo'ch di. Sian. Cod ar dy 'draed, a thyr'd hefo mi adra gynta medri di." 1. ":Yn wir, Rolant Meurig, fedra i ddim symud pe cawn i'r byd gynoch chi. Mae'r gwaew crydeymalau yma bron a fy nychu i trw'r dydd. Ydi'n wir. Chysgas i ddim llygedyn neithiwr, chwaith fel yma bydd o'n amal iawn o flaen gwlaw." Taw a dy lol, y satan ddrwg gin ti. Crydcymalau i ti, wir. Yn tydi meistres acw yn berwi dy galon di er's oria ineithion. Roedd acw bawb yn gwybod yn burion basa rhaid dy fod ti'n dioedde yn o sownd, hefyd, a diodde raid i ti nes y tynni di'r felltith oddiar y llaeth acw." Does nelo i ddim a'ch llaeth chi, Rolant Meurig. Doedd acw run dyferyn,meddft Catrin Meurig, pan fu'm i'n gofyn am fowliad. ddyfia (dydd Tau), a fum i byth ar y cyfyl wedyn." Mi wn i hynny cystal a titha, Roedd y llaeth wedi darfod, ne mi gawset beth. Yn lie hynny, mi est ti adra, a fedrodd neb gorddi yr un corddiad o laeth acw byth a mi clywodd y forwyn di'n deyd dy druth wrth fynd, dyna i ti. Does fawr pan gollson ni chwech o berchyll bach y naill ar ol y llall, a roedd y rheini yn ddigon desant yn 'u cwt nes i ti ddwad i ofyn oedd acw un ar werth, a meistres yn deyd nad oedd yr un sew. i sparin, bod nram 'u magu nhw'n hunan. • A gorfod i ni sparin chwech, cyn pen yr wsnos, a phwy ond y chdi a'r cythral wyr i ble raethon rihw ? Rwan, cod ar dy draed, mi gei wared a dy boenau, y jad ddrwg, pan dyn meistres y galon o'r crochan, a dim cynt. A mi wyddost, titha hynny cystal a neb." Yn wir, yn wir, dawn i'n marw, Rolant Meurig, does nelo i -ddim a'ch llaeth na'ch moch chi, a fedra i ddim symud y nhraed o'r fan yma. Yr ydw i'n ddigon diniwed yn y fan yma cawn i lonydd. Nes i ddim i'r un ohonoch chi, a faswn i byth yn dwad ar y'ch gofyn chi am lymed o laeth onibai bod yr Hendre dipyn nes yma na'r Llys, a fy loda inna mor anystwyth. No mi fydd eroeso i mi yn y Llys, tawn i'n mynd yno bob dydd hefo fy mhisor bach, a gwyneb Margiad Pennant yn eiriol bob amser, dyna i chi." Rhaid i ti ddwad acw heiddiw, beth bynnag, tae raid i mi dy dynnu di bob cam o'r ffordd, wedyn waeth i ti ddwad trwy deg yr un blewyn i ddadneud y gwaith." Edrychodd Rolant Meurig tua'r drws, a gwelodd drol a mul yn pasio. Y foment nesaf yr oedd wedi gwaeddi ar ei gyrrwr, a rhwng y ddau cariwyd Siani druan i'r drol yn hanner marw yr olwg.arni cydrhwng ei phoenau a'i dychryndod, ac ymaith a hwy tua'r Hendre, yr hen greadures yn erfyn am gael myned yn ol i'w thy ei hun i dynnn ei hanadl olaf, a Rolant Meurig yn deehreu rhegu Siani, y llaeth, a'r moch, a'r drafferth syda'r oil ohonynt, un bob yn ail yn eu tro. Ymhen dipyn, pan welodd y mul yn dda- nis gwyddai y truan hwnnw ddim oil am y galon bigog oedd' yn y crochan—wele hwynt wrth yr Hendre, a Chatrin Meurig wrth y drws yn disgwyl, ei llewys wedi eu torchi, a'i dvrylaw ar bennau ei chliniau, a golwg ddigon tebyg i grochan yn hongian wrth fachau ami hi ei hun. Safai Mr. Lloyd y person yn ei hymyl. Newydd ddyfod yr oedd yntau mewn ufudd-dod i gais y gwas a ddanfon- wyd ato gan Catrin Meurig, ac nis deallai ef ddim am yr helynt. Edrychai yn syn ar yr hen wreigan yn y drol, a'r gyrrwr a Rolant Meurig yn ei helpu ohoni. Dowch i mewn, syr, dowch i mewn i'r fy. Rydan ni yma mewn helbul fawr, syr, ar Siani mae'r bai. Rydw i wedi gyrru am danoch chi i roi help Haw i ni i symud y felltith sydd ar y ty yma." Ac i fewn a Chatrin Meurig a Mr. Lloyd, a'i- gweddill ohonynt yn eu dilyn. "Dyma ni, syr mae Rolant yn dyst, W3di colli hanner dwsin o'r perchyll gora feddan ni, a doedd hynny ddim yn ddigon mae'r hen witsh yma wedi edrych yn gam ar hynny o laeth sydd yn dwad i fewn o'r fuches bob dydd mae pedwar ne bum cordd- iad wedi mynd yn dda i ddim ond i roi ym mwyd y moch. A drychwch, syr, mi ferwes i'r galon yma trw'r dydd, a'i llond hi o binna mi wyddwn i cawswri i Siani yma cyn nos, a dyma chdi wedi dwad, Siani." Yn wir, syr," ebe Siani, mewn llais wylofus, "nes i ddim byd ar y ddaear fawr i'r bobol, a ma'r crydcymalau bron a fy lladd i trw'r dydd. Rydw i mewn poena, aniodd efol heb i neb fy nhynnu i ar draws y phvv i ddim." < "Mewnpoenarwyt ti 't" gofynnai Catrin Meurig. Ma'n debyg fod y galon wedi gneud 'i gwaith felly. Wel, gna ditha ddad- neud dy waith, a ffwrdd a chdi o ngolwg i am byth wedyn, ac os doi di at y tv yma byth ond hynny, mi yrrai'r cwn ar dy ol di." Cododd Mr. Lloyd ei ddwylo i fyny, ac ebe Catrin Meurig, Catrin Meurig, ymgroes- weh, ymgroeswch, ofergoeliedd pechadurus yw peth fel hyn. Rolant Meurig, mae'n syn meddwl fod dyn yn ei oed a'i synnwyr fel ydych chwi yn coelio hen straeon gwrach fel hyn. Rhag cywilydd i chwi, gadewch i'r hen wraig fynd adre ar unwaith." 0, syr, bendith Dduw i chi, yn wir, Catrin Meurig, rydw i'n ddigon glan oddiwrth y cwl)wl i gyd. Gadewch i mi fynd yn f'ol," Mae peth fel hyn yn warthus, yn wir," ebe'r person, wyddwn i ddim yn sicr fod yma'r fath anwybodaeth yn y wlad." Bendith Dduw arnoch chi i gyd, gadweh i mi fynd o'r fan yma, mae'r gwaew yma yn y rigneud i'n gripil glan, a dwn i ddim sut y ,n gna'i gropian i'r hen dy acw, yn war, syr." Raid i'r hen wraig gael ei danfon yn ol, Rolant Meurig, a goreu po gyntaf, "hefyd. Dear me, dear me. Rydach yn wir wedi fy synnu i." "Syr," ebe Catrin Meurig, "newch chi fod mor ddifalch a gofyn bendith ar y ty yma ?" Bendith ? Does ddim bendith i neb ddisgwyl yma, ddyliwn i, yn siwr, Catrin Me ii rig. Mistras, mistras," ebe'r gwas oedd wedi treio ei law ar gorddi, mae'r tnenyn yn dechre hel at 'i gilydd yn iawn. Y munud cynta gwaeddodd Siani bendith Duw mi ddoth y llaeth ato'¡ hun." Gwarchod ni," ebe Mr. Lloyd, y fath sefyllfa ofnadwy." Beth sy'n bod ?" gofynnai leuan Meurig, llanc glandeg yr olwg arno. Ceisiodd pawb esbonio iddo ar unwaith, ond ar Mr. Lloyd y gwrandawai leuan. Yna aeth allan heb ddweyd yr un gair, rhoddodd geffyl yn y drol, ac arweiniodd Siani iddi. Lie rwyt ti'n mynd, leuan," gofynnai ei fam. Mae digon i amser i ni gael siarad a'n gilydd eto. Does ryfedd fod fewvrth Hywel yn meddwl fod yma ryw hanner paganiaid, ddyliwn i. Diolch i chi, syr. Berwi calon a'i llond o binna, wir Mi fase'n llawer mwy rhesymol rhoi y cig o flaen y dynion ganol dydd. yn Ile'r cig modi bras wedi melynu o dan y nen fydd ar 'u trensiw» nhw y rhan amla." Ac ymaith ag leuan i ddanfon Siani i Dy'neoed. (I barhau). -0-
Llun Hwfa Mon.
Llun Hwfa Mon. MR. GOT,.—A fyddwch fwyned a gadael i mi wneud yn hysbys na,d OOH a wnelo'r Proff. Herkomer a'r darlun o'r diweddar Arch drier- wydd y bwriedir ei gyPwvno i Arglwydd Ca.stletown yn Llangollen. Nis gwn i pwy sydd yn gyfrifol fod y syniad yna wedi liithro i'r wasg. Ni soniais i air am y Proff. Herkomer wrth undyn byw, ac yn fy nwylaw i y mae'r oil o'r,ti-t fi-iiailau gogyfer a'r cyf- lwyniad. Feallai fod rhywun yn breuddwyd- io n.ad oedd ond darlun Gomer ar gael o'r diweddar Hwfa Mon. Yr eiddoch, GWYNETH VAUGHAN.
Pregeth y Parch. E. Phillips.
Pregeth y Parch. E. Phillips. SYR,—Drwg gennyf nas gallaswn ysgrif- ennu yng nghynt, ond fe synnais weled y baldordd a draethodd 0. H. Thomas mewn llythyr yn y BRYTHON ar bregeth y patriarch o'Emlyn yng Nghymanfa'r Sulgwyn. Diau fod llygaid yr efengylydd hwnnw yn fil craffach na'r eiddo ef i ganfod gwerth testyn 9 I, ac mai mynd ar ol ei ragfarn ei hun a wnaeth eich gohebydd, yn lie gwrando ar wersi'r pregethwr. 'Roedd yn llythyr O. H. Thomas gyfeiriad at fagu anffyddwyr. Wel, fe geir arnbell un felly yn Lerpwl, a fagwyd ar fronn- au'r Ysgol Sul, ond a ddeil i hoetian i gyfar- fodydd crefyddol i ddim ond i ffowla am feiau a gwendidau. Nid yw barn rhai felly am worth hanesyddol a moesol yr hen Desta- ment o fawr bwys. Yr eiddoch, PHILIPIAD.
Y Cynganeddion.
Y Cynganeddion. Syit,-Y mae liawer o wir yn yr hyn a ddywed eich gohebydd Penmaen am y cynghaneddion, ac yr oedd ei lythyr yn fy atgoffa am sylw'r Parch. E. Lloyd .Jones, y gweinidog Wesleaidcl hysbys o Fanel-tester-- fod ami i Gymro yn gwario'i fedr a'i gyw- reinrwydd ar nyddu englyn i naid chwanen tra y dylasai ymwneud a l'hywbeth mwy buddiol ac ymarferol. Nid beirdd a ddvlid galw'r cyfryw, ond jiriglers sy'n malio .dim am fpddwI a synnwyr, ond yn cael eu gwneud yn ddiddig gan dine arwynebol eu hoff dogan. "3 Ond hanner y gwir yw hynyna. Yn nwy!aw'r gwir fardd, y mae'r gynghanedd o werth mawr ac arhosol. Os yn berchen athrylith, ac yn esgor ar feddyliau mawrion, teilwng o gael byw, y mae gallu eu gwau mewn cynghanedd hyfryd, bersain, yn foddion i'w hoelio dros byth yng nghof y darllennydd prydnabuasaiyr unmeddyliau, pa mor odidog bynnag, os mewn rhydd- iaeth prosaic, yn meddu dim mwy o afael ar y cof na ffigyrau neu bethau o'r fath. Y mae Cloi synnwyr mewn elysineb yn engraifft deg o'r hyn y soniaf am dano, lie y mae'r gynghanedd yn rhywbeth heblaw jingle, ac yng ngrym ei haddaster a'i phert- rwydd, yn galluogi dyn i gofio'r drychfeddwl yn barhaus a byth. Ac nid yn Gymraeg, fel yr awgryma Penmaen," yn unig y eeir cynghanedd. Er engraifft, dyna Tri fratelli, tri castelli (tri brawd, tri chastell) yn yr Eidaleg, ac ami engraifft arall ellid roddi. Yn y fraw- ddeg hon a'i chyffelyb, y mae'r gynghanedd yn rhoi ffurf i wirionedd gwerthfawr, na buasai hanner mor gofiadwTy pe mewn iaith foel. Felly, fe welir fod Penmaen," er yn dweyd rhan o'r gwir, yn esgeuluso edrych yn ddigon clwfn i 'r pwnc i weled y gwasanaeth a wna'r gynghanedd i gadw'r meddyliau a'u gwneud yn gofiadwy. Yr eiddoch yn gywir, CRAIG YR 1MB ILL.
I I" Gyda'r Tannau."
Gyda'r Tannau." MR. GOL.Dyniunaf gyflwyno fy niolch- garwch gwresocaf i awdwr yr ysgrif alluog a ymddanghosodd yn y BRYTHON Mai 30, dan y penawd uchod. Gwir fod y gelfyddyd gywrain hon o'r braidd wedi dianc o'n plith fel cened], yr hon dalent ni roddwyd i'r un genedl arall, ac nis gwn am un genedl a all gynghaneddu yn eu hiaith ond y Cymry, megis gweu awdl ar y pedwar mesur ar hugain, a'i chwareu gyda'r tannau, yr hyn both sydd bob amser yn ddyddorol, nid yn unig gan y Cymry, ond gan y Saeson hefyd. Er nad ydynt yn deall y gelfyddyd, maent yn mwynhau y glee. A chan fod y ddwy gelf- yddyd, óHef Cerdd Dafod a Cherdd Dant, wedi eu rhoddi i ni ytt arbennig fel cenedl, oni ddylem ymorchestu vnddynt ? Gan fod yr awgryrn wedi ei roddi pa fodd i'w hadferyd i'r genedl, 'rwyf yn hollol gydolygu ag awdwr yr ysgrif, sef mai Mr. 0. M. Edwards sydd yn y fantais oreu i ddwyn hyn oddi- amgylch. yn yr ysgolion hefyd i bwyllgorau yr Eistoddfodau gydweithredu. Gwyddom fod Eisteddfodau cyn hyn wedi eu cynnal heb yr un delyn na datgeiniad o'u mhewn • y rhan fwyaf o'r pwyhgorau hyn yn estron- genedl, ac ambell Gymro yn ddigon o Ddic- Shon-Daf ydd i gydweithredu a hwy. Pa, fodd y gellir cysoni Oes y byd i'r Iaith Gymraeg," a phopeth or gweithrediadau, hyd y gellir, yn Saesneg ? Dymunwn i bwyllgorau yr Eisteddfodau dyfodol roddi gwobrwyon cyntaf, ail. a thrydydd, am ganu rhannau o awdlau, a hynny wedi eu dos- barthu yn ol y gallu a ddisgwylir yn y gwahanol ddosbeirth, megis englynion a chywydd i'r trydydd dosbarth i'r ail, englynion toddaid, gorchest y beirdd clo- gyrnach; i'r dosbarth cyntaf, gwawdodyn' hir-a-thoddaid, a'r tawddgyrch cadwynog, &c, 'Rwyf yn credu mai dyddorol fyddai cael cyfres o ysgrifau ar y penawd uchod, a hynny gan awdwyr ago sydd yn talu dyddordeb i'r gelfyddyd ,gywrain hon er Codi'r hen wlad yn ei hoi," a bydd yn bleser or mwyaf gennyf gael traethu fy lien 'nawr ac eilwaith a myned i mewn i'w helfennau, er rhoddi symbyliad i'r ieuenctyd ei dysgu ynghyda chydweithredu a phawb a draetha ei len arni, ac hyd y gellir, gadw enwau personau o'r neilltu ac ymddwyn yn addas ac mewn cymdogaeth dda. Disgwylir i bawb a draethai ei len yn y BRYTHON roddi oi enw adnabyddvis wrth ei epistol. Mewn awen a chan, EOS Y BERTH, Befhesda. Fencerdd Cerdd Dant. .{Vw barhau).
John Jones mewn ffi.
John Jones mewn ffi. SYR,—Tra yn eistedd wrth y ffenestr yn y ty yma y dydd o'r blaen, yn gwylied y gwlaw yn ymdywallt ar y ffordd, syrthiais o dipyn i beth i ryw fath o lewyg. Pan yn yr ystad hon, teimlwn rywbeth yn fy nghorddi rywle tua chymdogaeth yr ymen- ydd, a chymerais afael mewn pensil led, a dechreuais ysgrifennu ar ddarn o bapur oedd yn digwydd bod ar y bwrdd. Ar y deehreu ysgrifennwn yn araf a clxydag an- hawster mawr ond yn raddol teimlwn fy hun yn cynhesu at y gwaith, a dylifai y geiriau oddiar bwynt fy mhensil fel gwlaw o grwe. Ymhen ychydig amser teimlwn dipyn yn well, a dadebrais yn o lew, a disgynnodd fy llygaid ar y papur gwyn. Ac yn wir i chwi, yr oedd yna y marciau rhyfedda a welodd neb erioed, yn union fel pe buasai rhyw bry' wedi syrthio i botel inc, ac wedi cerdded dros y papur wedyn. Cefais lot enbyd o drafferth i ddehongli y marciau hyn, ond pan y llwyddais i wneud hynny o'r diwedd, bu agos iawn i mi gael ffit draehefn. Do, yn wir Beth feddyliech chwi oedd ar y papur ? Darn ardderchog o farddoniaeth, ,P I wedi ei gyfansoddi gennyf fi fy hun Ie, syr, coeiiwch chwi fi neu beidio, dyna'r ffaith, ac er inwyn eich argyhoeddi, yr wyf yn anfon i chwi gopi ohono. Dyma fo Gwlaw, gwlaw, A welir yma ar bob llaw, Os pery'n hwy, y dilnw ddaw Mao dyddiau'r haf yn cilio draw, A'r haul uwchben yn ffoi mewn braw, 0, am ryw law i gloi y gwlaw Wel syr, beth feddyliech chwi ohono ? Onid yw yn ddarn ardderchog, yn masterpiece gwirioneddol ? Synnwn i ddim na fydd o byw tra pery'r gwlaw i wlawio Wrth gwrs, mae o yn copyright, a thrwy ffafr I arbennig yr ydach chwi yn cael ei gyhoeddi. Fe ddanghosais y darn i un o'm cyfeillion rnynwesol y dydd o'r blaen, a'r unig sylw a wnaeth efe oedd gofyn i mi sut oedd fy ewythr sydd yn y 'Seilain yn dod ymlaen y dyddiau hyn. Wrth gwrs, atebais i mo'r cwestiwn, aellos pa fusnes oedd ganddo fo i ofyn y fath beth ? Yr ydych chwi, syr, wedi clywed am y dywediad hwnnw fod gorffwylledd yn agos at athrylith, ac felly 'roedd hi gvda'r dyn hwn. Ydwyf, syr, eich ufudd was, JOHN JONES. Y CAE GLAS. Dydd Sadwrn. O.N.Os bydd y ffitiau yma yn fy nhrwblo i eto, syr, cewch lythyr arall yn fuan. -0- Oh- Y mae'r Duke of Lancaster's Own Imperial Yeomanry, yn rhifo 500 o wyr, yn gwersyllu yng Nghaerwys, sir Fflint, o ddvdd Llun cyn y diweddaf byd Mehefin 20fed. Pistylla'r gwlaw arnynt agos bob dydd er pan y maent yno, ac y mae'r cae bellach yn slebog o le. Ddydd Gwener, cafodd 200 o dtodion tlot.y Caernarfon a Bangor eu gwledda a'u croesawu gan Mr. Assheton--Smith ym Mharc y Vavnol. GHveinyddwyd arnynt gan Mrs. Smitli a lliaws o foneddigesau dilynwyd y te gyda cha.n(;uon gan gantorion cyflogedig a chyn ymado rhoed tybaco i'r hen wyr, to i'r gwraged ,1, a melusion i'r plant. 0
Advertising
Telephone 1157 Royal. Established 1856 ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT, 33 Netherfield Road South, Has Property to Let in various parts of the town. Mortgages arranged. Valuations made. THOMAS H. OWEN, ESTATE AGENT & ACCOUNTANT, 2a Foley Street, KirKdale Rd., Liverpool. Property bought and sold, and Estates economically managed. Telephone, No, 1779. HENRY JONES, Estate Agent, Valuer 6 Property Auctioneer, 5 COOK STREET, LIVERPOOL. Rents Collected. Valuations made. Property sold by Public Auction or Contract. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, ESTATE AGENT & VALUER, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rents personally c collected. Purchases and Sales negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. THOMAS 6 JONES, ESTATE AGENTS & VALUERS, INVESTMENT BUILDINGS. 67 Lord Street, Liverpool. Telephone No.5586 Central. Properties Bought and Sold. Mortgages arranged, Valuations made. Rents Collected. TEL. 42Y ANFIELD. ESTABLISHED 1872. STEPHEN ROBERTS & SON, ESTATE AGENTS A VALUERS, 137 Everton Road, Liverpool (Late 2 Stanfield Road). Properties carefully Managed. Rents personally Colleoted. Purchases and Sales Negotiated. Mortgages arranged and Insurances effected. ROBERT ROBERTS, ESTATE AGENT AND VALUER, 30 Hamilton St., Birkenhead. RENTS COLLECTED. VALUATIONS MADE. PROPERTIES BOUGHT & SOLD. Telephone-223. R. E. HUGHES, Estate Agent, Surveyor 6 Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.—56 B'head, Has Houses to Let, and for Sale, in varions parts of the Town and out districts. Also Land to be Sold for Building purposes. Advances made to Builders. Estates laid out. Rents Collected, and Property carefully managed. < Telephone 034 Central. WILLIAM WILLIAMS, LAND AND ESTATE AGENT, VALUER AND PROPERTY SALESMAN, 20 NORTH JOHN ST., Liverpool. GRIFFITH THOMAS, PAINTER, DECORATOR & PAPERHANGER. s 192 Beacon Lane, All orders promptly attended to. Estimates Free Telephone—Bootle 143. R. W. SMALLWOOD& CO., CONTRACTORS FOR REPAIRS AND DECORATIONS TO PROPERTY. 240 Westminster Rd., L'pool. (Office & Works—Back Westminster Rd,) I malie Boots That's my business. You buy Boots That's your business. If you place any value on your feet, Come and let me build you a pair, don' orget. An easy Shoe is equivalent to an easy conscience GUTTERIDGE, -BESPOKE BOOT MAKER,- 291 West Derby Rd. (My Only Address Marwolaeth y Saint: Offrwm cof am y diweddar Feddyg Hugh Williams ac eraill o saint Fitzclarence Street. Gan y Parch. J. Hughes, M.A. Llian 2s HUGH EVANS, 356-8a Stanley Rd., Liverpool. T. WOOSNAM ROBERTS, Bootle Estate Office, 52 STANLEY RD., BOOTLE, (2 DOORS FROM BEDFORD RD.), Has for Sale Breeze hill, Bootle—Detached Residence* aspect, standing on 1970 square land, also a frontage to Oxford Road. W*. hold for 999 years, 3 entertaining ground floor kitchen, scullery pantry, 4 bedrooms, dressing and bath rooms', sep8< w.c. on first floor, 4 bedrooms and b°Xr° above splendid cellars, tennis lawn, 81 house. of Well Lane, Park Street, Bootle—1000 land together with a newly-erected bun 60 ft. long, 40ft. wide, & 20 ft. high 2 Well-lighted from both ends. Manufacturer, Contractor or Team Sell or Let, De rby Lease 999 years.. 0j<) Detached Residence, Hawthorne Road—Leaser 999 years; ground rent £ 17 per 0ll) Ground Floor, 3 entertaining rooms, scullery and pantry first floor 6 hedro J bath, lavatory, and w.c. second bedrooms large garden at rear, 2000 sq yards of land, two stall stables at side. Semi-detached Residence in Balliol Road1 hold for 75 years, 40 unexpired, ^TntA' rent £ 9 per annum; large garden, 0, 0$ house and stable, with entrance back road. d' Semi-detached Residence, HawthornO,roa leasehold for 75 years from 1884; 8rr. 4 rent Y,5 per annum. The house coltain, bedrooms, bath, lavatory and separate on 1st. floor, and 8 bedrooms above, 00 brick built washouse and store at reaaOk level of kitchen; good cellars garden bac and front. <,f0iii Bank-road, Bootle; leasehold for 75 years Jjg 1877 ground rent 14 5s. per annuin; too, square yards of land. The house con drawing and dining-rooms, kitchen scullery, large washouse. 4 bedro bathroom and separate w-c. Queen's-road leasehold for 75 years; s'xty, and dining-rooms, kitchen, scullery, P 6 bedrooms, bath, lavatory and w.c., and coal cellar close to station..jje. Semi-detached Residence, Merton-road, ggS. Derby Leasehold for 75 years Ground rent £ 17 per annum. contains:—Ground floor: three en tort0 rooms; kitchen, pantry, etc. First oJjd 4 bedrooms, bath, lavatory, and w-0-. ligbt) floor: 4 bedrooms and store. Electric* well cellared throughout, larder. stalled stable and coach-house with store and hay loft, Bootle Estate Office, 52 Stanley Road, Bootie. ESTABLISHED 1884. TELEPHONE 205 BOOTLFJ O. JONES WILLIAM5, ESTATE AGENT & VALUER, 24 SIR THOMAS STRE;tl" LIVERPOOL. Personal supervision in every dcta^^ j general management of all kinds of .-j Estate, Confidential Reports and Valua for Purchase, Sale, or Mortgage, glifel Est. 1885. Telephone 1903 Ce Telephone: 279 Bootle. LINACRE BRICK COMPANY. 122 Marsh Lane, BoOtle" Works: Canal Bank. Branch Offices 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, BOOT Telephone—216 Bootle. AND 23 OLDHALL STREET, LIVER?0 Telephone—1554 Central. Houses to Let, ELECTRIC LIGHT THROUGHOUT. RENTS FROM 5/- to 10/- "PER WEE K. PLY WILLIAM JONES, 0 38 HAWTHORNE ROAD, ORRELL, DAVID [VANS, Park Road f North Estate; BIRKENHEAD. I Pellseinyr 391 Birkenhead. ,1 TIR A THAI ar yevtb 4 *> osod yn rhanbarth iacnata cyfleus y dref.. „1 Ardreth o 6/6 yr wythnos i fyny 0 flwyddyn. f y ftØD Yn gwynebu'r Pare, ac yn ymyl Gr°r9 Trams a Threns bob #'f a gellir cyrraedd unrhy* U|ial 0 Tai hynjmewn 15 munud Liverpool. ditØ 011 Contract blwyddyn gyda'r trbn, tua 2$c. y dydd. Ymofyner a Mr. David Ev'&nSi ^lljj ¥>° J Mr. Wm. Edwards, Estate AgOt, iii" North, a ohongl- Duke Street. A