Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

News
Cite
Share

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XIII.—OFERGOELION. NiD atebai faw- o ddiben i ni ymdroi i wrando ar Rhydderch Gwyn yn melltithio'r sipsiwn, ac yn erehi i Lewis Pennant eu danfon i ffwrdd gynted ag y medrai, y disgwyliai ef weled yr ardal yn glir oddiwrth Sidi a'i theulu cyn ei ddychweliad ef a'i deulu digon yw dwevd, os bu i Rhydderch Gwyn, A.S., fod i fyny a'r barnwyr yn llysoedd y wlad pan yn lladrata hen gomin Maen Essyllt, ei fod yntau wedi taro wrth feistr yn Lewis Pennant. Aeth y Sgweiar i ffwrdd heb fod yn y dymer oreu, gan siarad wrtho ei hun, a chwythu 'bygythion yn erbyn pawb a feiddiai groesi ei lwybrau ef. Aeth Rolant renrig hefyd yn ol tua'r Hendre, heb fod nemawr elwach ar ei ym- weliad a'r Llys. Ceisiodd Margaret Pennant ei ddarbwyllo nad oedd a wnelai Siani Tyncoed, na neb arall y tu allan i'r Hendre, ddim oil a'r llaeth yn y fudda, ond os cafodd ei geiriau rywfaint o effaith ar Rolant Meurig ei hun, ni fynnai y wraig wrando arnynt, a'r canlyn- iad fu iddi roddi'r crochan mawr ar y tan a chalon buwch yn hwnnw dros ei phen mewn dwr, a thua ceiniogwerth o binnau wedi eu pwyo bob yn un ac un ar hyd a lied y galon. Tybiai y wraig mai dyna oedd y dull goreu i ddadreibio'r llaeth, a chymaint oedd yr ofergoeledd yn y wlad fel y disgwyliai'r wraig druan i'r galon yn y sospan ddwvsbigo calon Siani Tyncoed. Hefyd, gorfu i blant Rolant Meurig fyncd i'r fan lie tyfai coeden griafol, ac wedi torri rhai o'r brigau, gwneud modrwyau a hwy. Rhaid oedd rhoddi un o'r modrwyau o dan ystlysbost drws y ty, ac un arall uwchben capan drws y bwtri. Ystyrrid y modrwyau yma yn alluog i gadw pob ysbryd drwg i ffwrdd o'r tai annedd, ac yn yr Hendre y bwtri oedd cyrehfan ueill tuol y gwr hwnnw, dybygid, yr wythnos honno. Disgwyliai Catrin Meurig yn bryd- erus weled Siani yn dod ttiag yno, ac yn gwaeddi am ryddhad oddiwrth y poenau ddylasent fod yn ei blino, oherwydd y pinnau oeddynt yn berwi yn y galon, ond nid oedd hanes am dani am oriau lawer. O'r diwedd gwylltiodd Rolant Meurig, a ffwrdd ag ef tua hen fwthyn Tyncoed i hebrwng Siani trwy deg neu arw tua'r Hendre i dynnu ymaith y felltith oddiar y llaeth. Cafodd yr hen greadures yn ei dan ddwbl o flaen y tan, y crydcymalau yn peri digon o boen iddi, beth bynnag am y pinnau. "Boeth y bo'ch di. Sian. Cod ar dy 'draed, a thyr'd hefo mi adra gynta medri di." 1. ":Yn wir, Rolant Meurig, fedra i ddim symud pe cawn i'r byd gynoch chi. Mae'r gwaew crydeymalau yma bron a fy nychu i trw'r dydd. Ydi'n wir. Chysgas i ddim llygedyn neithiwr, chwaith fel yma bydd o'n amal iawn o flaen gwlaw." Taw a dy lol, y satan ddrwg gin ti. Crydcymalau i ti, wir. Yn tydi meistres acw yn berwi dy galon di er's oria ineithion. Roedd acw bawb yn gwybod yn burion basa rhaid dy fod ti'n dioedde yn o sownd, hefyd, a diodde raid i ti nes y tynni di'r felltith oddiar y llaeth acw." Does nelo i ddim a'ch llaeth chi, Rolant Meurig. Doedd acw run dyferyn,meddft Catrin Meurig, pan fu'm i'n gofyn am fowliad. ddyfia (dydd Tau), a fum i byth ar y cyfyl wedyn." Mi wn i hynny cystal a titha, Roedd y llaeth wedi darfod, ne mi gawset beth. Yn lie hynny, mi est ti adra, a fedrodd neb gorddi yr un corddiad o laeth acw byth a mi clywodd y forwyn di'n deyd dy druth wrth fynd, dyna i ti. Does fawr pan gollson ni chwech o berchyll bach y naill ar ol y llall, a roedd y rheini yn ddigon desant yn 'u cwt nes i ti ddwad i ofyn oedd acw un ar werth, a meistres yn deyd nad oedd yr un sew. i sparin, bod nram 'u magu nhw'n hunan. • A gorfod i ni sparin chwech, cyn pen yr wsnos, a phwy ond y chdi a'r cythral wyr i ble raethon rihw ? Rwan, cod ar dy draed, mi gei wared a dy boenau, y jad ddrwg, pan dyn meistres y galon o'r crochan, a dim cynt. A mi wyddost, titha hynny cystal a neb." Yn wir, yn wir, dawn i'n marw, Rolant Meurig, does nelo i -ddim a'ch llaeth na'ch moch chi, a fedra i ddim symud y nhraed o'r fan yma. Yr ydw i'n ddigon diniwed yn y fan yma cawn i lonydd. Nes i ddim i'r un ohonoch chi, a faswn i byth yn dwad ar y'ch gofyn chi am lymed o laeth onibai bod yr Hendre dipyn nes yma na'r Llys, a fy loda inna mor anystwyth. No mi fydd eroeso i mi yn y Llys, tawn i'n mynd yno bob dydd hefo fy mhisor bach, a gwyneb Margiad Pennant yn eiriol bob amser, dyna i chi." Rhaid i ti ddwad acw heiddiw, beth bynnag, tae raid i mi dy dynnu di bob cam o'r ffordd, wedyn waeth i ti ddwad trwy deg yr un blewyn i ddadneud y gwaith." Edrychodd Rolant Meurig tua'r drws, a gwelodd drol a mul yn pasio. Y foment nesaf yr oedd wedi gwaeddi ar ei gyrrwr, a rhwng y ddau cariwyd Siani druan i'r drol yn hanner marw yr olwg.arni cydrhwng ei phoenau a'i dychryndod, ac ymaith a hwy tua'r Hendre, yr hen greadures yn erfyn am gael myned yn ol i'w thy ei hun i dynnn ei hanadl olaf, a Rolant Meurig yn deehreu rhegu Siani, y llaeth, a'r moch, a'r drafferth syda'r oil ohonynt, un bob yn ail yn eu tro. Ymhen dipyn, pan welodd y mul yn dda- nis gwyddai y truan hwnnw ddim oil am y galon bigog oedd' yn y crochan—wele hwynt wrth yr Hendre, a Chatrin Meurig wrth y drws yn disgwyl, ei llewys wedi eu torchi, a'i dvrylaw ar bennau ei chliniau, a golwg ddigon tebyg i grochan yn hongian wrth fachau ami hi ei hun. Safai Mr. Lloyd y person yn ei hymyl. Newydd ddyfod yr oedd yntau mewn ufudd-dod i gais y gwas a ddanfon- wyd ato gan Catrin Meurig, ac nis deallai ef ddim am yr helynt. Edrychai yn syn ar yr hen wreigan yn y drol, a'r gyrrwr a Rolant Meurig yn ei helpu ohoni. Dowch i mewn, syr, dowch i mewn i'r fy. Rydan ni yma mewn helbul fawr, syr, ar Siani mae'r bai. Rydw i wedi gyrru am danoch chi i roi help Haw i ni i symud y felltith sydd ar y ty yma." Ac i fewn a Chatrin Meurig a Mr. Lloyd, a'i- gweddill ohonynt yn eu dilyn. "Dyma ni, syr mae Rolant yn dyst, W3di colli hanner dwsin o'r perchyll gora feddan ni, a doedd hynny ddim yn ddigon mae'r hen witsh yma wedi edrych yn gam ar hynny o laeth sydd yn dwad i fewn o'r fuches bob dydd mae pedwar ne bum cordd- iad wedi mynd yn dda i ddim ond i roi ym mwyd y moch. A drychwch, syr, mi ferwes i'r galon yma trw'r dydd, a'i llond hi o binna mi wyddwn i cawswri i Siani yma cyn nos, a dyma chdi wedi dwad, Siani." Yn wir, syr," ebe Siani, mewn llais wylofus, "nes i ddim byd ar y ddaear fawr i'r bobol, a ma'r crydcymalau bron a fy lladd i trw'r dydd. Rydw i mewn poena, aniodd efol heb i neb fy nhynnu i ar draws y phvv i ddim." < "Mewnpoenarwyt ti 't" gofynnai Catrin Meurig. Ma'n debyg fod y galon wedi gneud 'i gwaith felly. Wel, gna ditha ddad- neud dy waith, a ffwrdd a chdi o ngolwg i am byth wedyn, ac os doi di at y tv yma byth ond hynny, mi yrrai'r cwn ar dy ol di." Cododd Mr. Lloyd ei ddwylo i fyny, ac ebe Catrin Meurig, Catrin Meurig, ymgroes- weh, ymgroeswch, ofergoeliedd pechadurus yw peth fel hyn. Rolant Meurig, mae'n syn meddwl fod dyn yn ei oed a'i synnwyr fel ydych chwi yn coelio hen straeon gwrach fel hyn. Rhag cywilydd i chwi, gadewch i'r hen wraig fynd adre ar unwaith." 0, syr, bendith Dduw i chi, yn wir, Catrin Meurig, rydw i'n ddigon glan oddiwrth y cwl)wl i gyd. Gadewch i mi fynd yn f'ol," Mae peth fel hyn yn warthus, yn wir," ebe'r person, wyddwn i ddim yn sicr fod yma'r fath anwybodaeth yn y wlad." Bendith Dduw arnoch chi i gyd, gadweh i mi fynd o'r fan yma, mae'r gwaew yma yn y rigneud i'n gripil glan, a dwn i ddim sut y ,n gna'i gropian i'r hen dy acw, yn war, syr." Raid i'r hen wraig gael ei danfon yn ol, Rolant Meurig, a goreu po gyntaf, "hefyd. Dear me, dear me. Rydach yn wir wedi fy synnu i." "Syr," ebe Catrin Meurig, "newch chi fod mor ddifalch a gofyn bendith ar y ty yma ?" Bendith ? Does ddim bendith i neb ddisgwyl yma, ddyliwn i, yn siwr, Catrin Me ii rig. Mistras, mistras," ebe'r gwas oedd wedi treio ei law ar gorddi, mae'r tnenyn yn dechre hel at 'i gilydd yn iawn. Y munud cynta gwaeddodd Siani bendith Duw mi ddoth y llaeth ato'¡ hun." Gwarchod ni," ebe Mr. Lloyd, y fath sefyllfa ofnadwy." Beth sy'n bod ?" gofynnai leuan Meurig, llanc glandeg yr olwg arno. Ceisiodd pawb esbonio iddo ar unwaith, ond ar Mr. Lloyd y gwrandawai leuan. Yna aeth allan heb ddweyd yr un gair, rhoddodd geffyl yn y drol, ac arweiniodd Siani iddi. Lie rwyt ti'n mynd, leuan," gofynnai ei fam. Mae digon i amser i ni gael siarad a'n gilydd eto. Does ryfedd fod fewvrth Hywel yn meddwl fod yma ryw hanner paganiaid, ddyliwn i. Diolch i chi, syr. Berwi calon a'i llond o binna, wir Mi fase'n llawer mwy rhesymol rhoi y cig o flaen y dynion ganol dydd. yn Ile'r cig modi bras wedi melynu o dan y nen fydd ar 'u trensiw» nhw y rhan amla." Ac ymaith ag leuan i ddanfon Siani i Dy'neoed. (I barhau). -0-

Llun Hwfa Mon.

Pregeth y Parch. E. Phillips.

Y Cynganeddion.

I I" Gyda'r Tannau."

John Jones mewn ffi.

Advertising