Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

" Mewn Gweddiau."

Rhoddi fyny'r Gadair.

Anerchiad y Llywydd.

Cwestiynau Cymdeithasol.

News
Cite
Share

Cwestiynau Cymdeithasol. Yn y dyddiau hyn rhoddid pwys mawr ar Gwestiynau Cymdeithasol a mater o ddiolchgarwch i bob dyn crefyddol ydyw fod cydwybod y wlad wedi deffro. Mae y Wasg yn gwneud ei rhan, a'r Weinyddiaeth ar hyn o bryd a'i chydym- deimlad yn ddyfnach lla'r un Weinyddiaeth o'r blaen i ddyrchafu cymdeithas; Plaid Llafur yn blaid pwysig, ac er yn ieuanc, i'w chlywed yn" fwy hyglyw nac erioed ac yr oedd y Parch. R. J. Campbell wedi dweyd yn Liverpool yn ddiweddar mai Plaid Llafur a Sosialaeth ydoedd y Wir Eglwys Gatholig. Sut bynna.g am hynny, bydd raid i gwes- tiynau cymdeithasol gael ystyriaeth neilltuol cyn bo hir ac yr oedd y Methodist Union of Social? Service yn rhagdybio y Christian Social Union. Yma rhoes y llywydd engraifft o Gymro a Llafurwr. oedd bellach yn enwog, ond a gychwynodd ei yrfa flynyddau'n ol yn eglwys Boundary Street, Lerpwl, lie y bu'n wasan- aethgar gyda'r Ysgol Sul a'r Gobeithlu. Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth, ae yn fuan wedi priodi ymfudodd i South Australia a phe byddech yn anfondlythyr iddo heno, dyma fyddai ei gyfeiriad The Right Hon. Tom Price, Preiiiier, South Australia." Credai fod ffaith o'r fath yn eglur ddangos fod cwestiynau cymdeithasol yn rhwym o gael sylw yn y dyfodol, oherwydd eu pwysigrwydd, ac y maent yn wir bwysig oherwydd eu cysylltiad a bywyd moesol ac ysbrydol. Danghosai hanes yr enwad yn y gol-fieniiol fod Wesleaeth wedi gwneud gwasanaeth sylweddol yn nyrchafiad cymdeithasol y wlad ac aeth y llywydd ymlaen i brofi hynny oddiwrth awduron safonol tuallan i'r enwad. Ceid Lecky, yn un o'i lyfrau, yn defnyddio y disgrifiad a roddai Wesley yn uno'i Journals o'r cyfarfod bychan ond hysbys hwnnw yn Aldersgate Street, Llunden, lie yr aeth Wesley i mewn; a phan y clybu frawd o'r cwmni bychan yn darllen Rhagarweiniad Luther i'r Epistol at y Rhufeiniaid, ac yn trafod y cyf- newidiad a geid trwy ffydd yng Nghrist, y dywedai iddo deimlo'i galon yn cynliesu, yr ymddiriedodd i Grist, ac y cafodd sicrwydd fod ei bechodau wedi eu cymeiyd ymaith. 'Doedd gan Lecky ddim cydymdeimlad a chrefydd efengylaidd ond eddyf yn ei lyfr fod yr hyn a deimlodd Wesley yn y cyfarfod bychan hwnnw wedi achlysuro yr hyn na fyddai yn ormodiaeth ei alw yn epoch yn Hanes Lloegr. Darfu i Ddiwygiad y ISfed ganrif ddeffro'r eglwys o'i chysgadrwvdd, a dwyn i mown frwdfrydedd newydd ac yr oedd Wesleaeth, gyda'r enwadau ereill, o'r adeg honno hyd yn awr yn dylanwadu er daioni cymdeithasol. A heddyw yr oedd mwy o aelodau'r Cyfundeb nag erioed yn llanw swyddi cyhoeddus, yn y Cynghorau ac yn y Wlaclwriaeth ond 'doedd yr un Wesle- ad yn Nhy'r Arglwyddi—a gobeithiai na fyddai'r un, a cheid nifer ohonynt yn Nhy'r Cyffredin ac ymysg y Blaid Llafur. Ond er cydnabod hyn, rhaid oedd iddo addef nad oedd gwasanaeth yr enwad yn y gorffeiinol o blaid dyrchaiTad cymdeithasol ddim wedi bod mor" helaeth ag y gallasai fod. Un rheswm am hynny ydoedd eu bod wedi glynu wrth syniad rhy gyfyng am Sancteiddrwydd. Nid oedd dichon cael gwell engraifft o Sanct- eiddrwydd Ysgrythyrol na bywyd John Wesley ei hun yr oedd efe yn ddiwygiwr cymdeithasol am ei fod yng nghyntaf yn ddiwygiwr crefyddol a phe buasai ei blant a'i ddilynwyr wedi dilyn ei esiampl yn helaeth- ach, buasai cyflwr cymdeithasol Prydain yn anrliaethol uwch nag ydoedd heno. Trwy ffyddIondeb i gonhadaeth wreiddiol yr enwad, sef lledaenu sancteiddrwydd ysgrythyrol ac ymarferol, y gallent hwy gyflawni y gwasan- aeth goreu i gymdeithas. Ki fynnai rhai son am sancteiddrwydd ynglyn a'r gwaith o ddyrchafu cymdeithas. Yr oedd Blatchford yn ymgynddiogi wrth y gair. Holi- ness," ebai, in a world given to robbery, vanity!" ac yn y blaen. Addefai'r llywydd fod bywyd ac ymddygiad Ilawer i broffeswr yn rhoddi gormod sail i Blatchford a'i fath i ffromi wrth y gair holiness," ond pe cawsai ymddiddan ag ef, buasai yn dweyd wrtho mai'r unig beth, wedi'r cwbl, a symud- ai yr anhawsterau a'r camwri yr ysgrifennai Blatchford i'w herbyn ydoedd gwasgar sancteiddrwydd trwy y wlad. Y mae'r Sancteiddrwydd Ysgrythyrol a olygid ganddo ef yn edrych ar bob pwnc eymdeithasol- o safle crefydd a dyna Bwnc y Tir--nid oedd ef yn awdurdod o gwbl ar hynny—ni feddai dir na thai nac arall ond yr oedd yn gwbl sior nad oedd y defnydd a wneid o'r tir ym Mhrydain ddim yn gyson a bwriad y Landlord mawr a'i creodd ar y cyntaf, iiac a theyrnas y Brenin Mawr. Cyfeiriodd hefyd at y frwydr rhwng Cyfalaf a Llafur at yr an- fanteision a oddiweddent y rhai a geisient ddilyn bywyd crefyddol ac at y camwri a ddioddefai ami i ferch yn y ddinas tan y sweating sy,tem-yr oedd gweled yr holl bethau hyn yn ddigon i beri i ni gefnogi pawb oedd yn ceisio gwella cyflwr cymdeith- as. A phan elai i'r wlad, yr oedd yn barod i dynnu ei het wrth edrych ar ami i gapel bach Ymneilltuol lie yr oedd bod yn ffyddlon iddo yn golygu aberth a dioddef gormes dvmhorol gormes gudd, feallai, ond gormes effei thiol, serch hynny. Yr oedd ami i ffermwr yn colli eyfle ar fferm am ei ffydd- londeb i'r capel bach liawer o'r plant yn colli cyfle i gael safleoedd fel athrawon ac vsgolfeistri oherwydd dilyn y capel bach. Ni ddisgwylid iddynt hwy ddavpar cynHun- iau o ddiwygiad ond yr oedd yn ddyled- swvdd arbennig amynt i ddeffro cydwybod, a chefnogi pawb oedd yn lledaenu sancteidd- rwydd Ysgrythyrol drwy gymdeithas. Yr oedd Mr. Hughes yn lied gryg ei lais ond cafodd yr anerchiad y gwrandawiad mwyaf astud, a mynnvch y ymdorrid allan mewn curo traed a dwylaw. Talwyd diolchgarwch iddo am dani gan y Parch. R. Lloyd Jones a Dr. Hugh Jones, yr

Advertising

Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr…

Advertising

c , Y Seiat Fawr.

Y jj Yr Athrawiaetb."

jY, Gymdeithas,M

j5rT°rri Bara."

" Sancteiddrwydd Ysgrythyrol,"

Cwestiynau Cymdeithasol.