Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

r TREM 0 1 J TRWY V DRYCH.…

News
Cite
Share

r TREM 0 1 J TRWY V DRYCH. j Lloffion Grawnwin." AR y Parch. O. L. Roberts, clan ei faich o Loffion Grawnwin, y trown ein drych y waith hon. Un o'r llenorion mwvaf diwyd a chynhyrchiol yw efe, a gallwn yn onest ddweyd mai dyma un o'r llyfrau mwyaf dyddorol a ddarllenasom er's Ilawer dydd. Syniad hapus dros ben fu cyhoeddi cyfrol o'r cynllun hwn. Yr oedd yn amhosibl cael gwell defnyddiau. ac mae yr awdwr wedi gweithio ei gynllun allan yn rhagorol. Ceir yma gymesuredd dymunol, a'r holl lyfr yn gyfanwaith teg. Gwel y neb a adwaenai y gwyr da a goffheir yma fod y disgrifiad ohonynt yn gywir a byw, fel meddylwyr, a llefarwyr, a chymeriadau-mor gywir ag yw y darlxiniati rhagorol o ymddanghosiad corfforol pob un. Adwaenem y pregeth- wyr a bortreadir yma yn dda, a phrudd- felus yw drwy y cyfrwng newydd hwn cael cymundeb atgof a hwynt-y Parchn. William Roberts, Hugh Jones, Wm. Nicholson, D. M. Jenkins, David John, a H. Parry Thomas. A bydd yma gyfle gwerth dal arno i rai na welsant wedd ac na chlywsant lais yr un ohonynt i gael y peth nesaf posibl i hynny erbyn hyn. Darlun o bob un, disgrifiad o bob un, a phregeth gan bob un—dyna drefn y llyfr. Mae y darluniau eu hunain yn werth y pris am y gyfrol. A chyda golwg ar yr argraffwaith a'r holl grefftwaith allanol, y mae yn gamp us. Ni ryfeddwn ddim pe clywem fod y Lloffion Graivnwin yn mynd wrth y miloedd. G Y Parch. W. Roberts. Parodd darllen y llyfr uchod i ni dremio drwy Ddrych Atgof i flynyddau lied bell yn ol, pan oedd y cyrddau te, a'r areithio ar eu hoi, yn anterth eu bri. Mawr y doniolwch a geid ar achlysuron felly, a byddai gweinidogion y 'gwahanol enwadau yn helpu eu gilydd yn ami. Pwy, a'u clywsant, nad ydynt yn cofio areithiau ffraeth y cyrddau hynny ? Un o'r prif arwyr ar y cyfryw achlysuron fyddai y Parch. Joseph Williams (M.C.), yn ei ffordd bwyllog a sertenol ei hun. Ond nid ym yn meddwl y codai neb yn n weh na'r Parch. William Roberts, Great Mersey Street, yr hwn a gai yno yfle i ollwng yn rhydd y cyflawnder o ffraethineb naturiol oedd ynddo. O'r Apocrypha, yn gyffredin, y cymerai ei detynau, a chofiwn ei bregeth ddigrif a draddododd ar y testyn, Na bydd fel :!ew yn dy dy, yn euro dy weision wrth dy ffansi," eyfran o'r hon a geir yn y Lloffion Grawnwin. Clywsom y diweddar Ddr. Owen Thomas, ddydd angladd Mr. Roberts, yn rhoi canmoliaeth uehel iawn i'w bregethau cyhoeddedig. Ond wrth dremio i'r eyfeiriad hwn, gwelwn mewn atgof gyfarfod ymha un yr oedd nifer liosog o weinidogion gwahanol enwadau y cylch yn trafod pwnc dyddorol ond wrth feddwl nad oes nemor un ohonvnt yn awr yn fyw, mae iasau braw yn vmgripio drosom, ac wrth feddwl am gyfaill neu ddau oedd yn eu plith, mae ein golwg yn niwlio, a rhaid dodi Drycli Atgof o'r neilltu am y tro G Eisteddfod Llangolien. Dyma ni, a'n Drych ar y Maen Llog anferthol sydd i ddal pwysau yr Arch- dderwydd a'i Orseddogion bardclol, un o'r dyddiau nesaf, pryd y bydd fireworks englynol yn cael eu bwrw i'r dorf fawr a ddisgwylir yno i'r cyhoeddiad. Mae y rhaglen allan eisoes, a'r trefniadau yn lied berffaith. Nid oes wir yn y stori fod ym mryd yr athrylithgar Athro o Fangor i gasglu byddin o Feirdd Newydd i wneud rhuthr sydyn ar yr Orsedd; a phe bae wir, ni thyciai ddim, oblegid gellir trefnu i Pedr Hir sefyll ar y Maen Llog, a gall ef yn hawdd weled dros warrau y bryniau, gwylio'r gelyn, a medi byddin ymaith efo Cledd yr Orsedd. Heblaw hynny, gellid anfon y Cofiadur allan fel spy, a phrin y gallai neb weled ei deneued o draw Beth bynnag, da gennym weled oddiwrth y rhaglen y bwriedir rhai cyweirnod Cymreig i gyf- arfod yr hwyr. Gobeithiwn y ceir hwyl yn y Cyhoeddiad, ae y gellir ymhen y flwyddyn, pwy bynnag fydd byw, son yn ddigellwair am Eisteddfod Fawr Llangollen." G Cymraeg ein Plant. Huw Rhosfair a'i lythyr yn y BRYTHON diweddaf ar "Blant Cymry Lerpwl a'r Gymraeg" sydd o'n blaen ar hyn o bryd, a gwelwn ei fod yn teimlo dyddordeb mewn mater pwysig iawn ynddo ei hun, a chredwn fod gan Huw fantais gwybodaeth a phrofiad i drafod y pwnc. Diolch iddo, beth bynnag, am ei gynnyg. Anodd talu gormod o sylw i'r ddyledswydd o ddysgu Cymraeg i'r plant a ddygir i fyny mewn eglwysi Cymreig yn y trefi Seisnig. Mae digon o brofion fod yn bosibl gwneud y peth, ond y mae yn gofyn penderfyniad ac amynedd mawr a diball i'w wneud yn llwyddiannus, yn enwedig dan rai am- gylchiadau. Un fantais fawr i'r Gymraeg a sail hyder am ei pharhad, yw y lie a roddir iddi mewn ysgolion dyddiol a cholegau, nid yn unig yng Nghymru, eithr yn Lloegr hefyd; ac mae hyd yn oed dramorwyr yn talu mwyfwy o sylw iddi. Ein profiad ni yw, mai yn nechreu dygiad teulu i fyny y mae cyfle rhieni i blannu y Gymraeg ar dafodau eu plant, ac wedi esgeuluso hynny, anodd iawn fydd eu meithrin ynddi wedyn. Un o'r prif ddylanwadau gwrthweithiol iddi mewn trefi Seisnig yw yr ysgolion dyddiol, lie nad yw athrawon, fel rheol, yn deall dim ohoni, a'r plant yn gwneud gwawd o'r neb y byddo ei sain ar ei leferydd. Gan hynny, ymddengys i ni y buasai dosbarth Cymraeg, i blant o 12 i 16 oed "—neu is na hynny—dan ofal athro cyfarwydd, o dan nawdd y Cyngor Dinesig," yn gaffaeliad mawr. Gwyddom y gwneir gwaith da yn barod ynglyn a'r Ysgolion Sabothol, ond credwn y byddai yn werth cymeryd mantais hefyd ar gynllun Huw Rhosfair." Mantais fawr athrawon profedig fyddai eu medd- iant hwy o method i wneud gwaith trwy- adl. G A Oes Heddwch! Nid yng Ngorsedd y Beirdd—druain diniwed !—a feddyliwn. Yr ydym yn troi llygad y Drych amgylch ogylch, ac yn cymeryd cipdrem i eithafoedd y ddaear. Gwelwn gynrychiolwyr o agos holl Allu- oedd y byd yn ymbaratoi ar gyfer cwrdd yng Nghynhadledd Hague y Sadwrn nesaf ac am amser wedi hynny. Dywedir mai Morocco ac Abyssinia fydd yr unig bwerau absennol. Dyddorol yw yr aw- grym y bwriada Mr. Roosevelt ei wneud— wedi cyhoeddiad rhyfel, fod 30 dydd i fyned heibio cyn dechreu taro hefyd fod pob Gallu i benodi Gallu arall fel cefnogydd iddo, ac mai dyledswydd y Galluoedd cyfeillgar neu amhartïol hyn fyddai ceisio setlo'r pwnc heb fynd i ryfel, a phob trafodaeth ar y mater i'w adael iddynt hwy. Bydd tua 140 o gynrych- iolwyr yn y Gynhadledd. Gobeithio yr a achos Heddwch rywfaint ymlaen, ac na fydd y Gynhadledd hon eto, fel yr un a gafwyd o'r blaen, yn cael ei gosod ar ffroenau megnyl rhyfel i'w saethu ymaith yn chwilfriw Gwaith cyflawnder fydd heddwch," a'r gwaethaf yw nad boddlon frenhinoedd a llywiawdwyr byd ar gyf- iawnder, eithr mynnant drachwantu am diroedd a golud ac awdurdod, a'u ceisio drwy unrhyw foddion all fod yn eu cyrr- aedd. A'r peth mwyaf gwrthun o'r oil yw, fod llawer o'r anhawster i heddwch mewn rhagfarnau a chamsyniadau cref- yddol. Mae ysbryd y teyrnasoedd o'i le, a rhaid bwrw allan yr ysbryd hwnnw o'r galon cyn y gollyngir y cledd o'r Haw. A'r hyn raid fod yng nghyntaf fydd—i bob dyn feithrin heddwch yn y cylch agosaf ato. Yr unig wahaniaeth sydd rhwng dwy deyrnas a dau ddyn yn ym- ladd yw fod dyrnau y cynt af yn fwy. Yr un ysbryd sydd ymmôn y naill fraieh fel y Hall.

Yn Ynys Mon ac Arfon

Cymanfa Gyffredinol Llanelli.

--Llythyr Gwleidyddol.

Safle'r Amaethwr Cymreig

Mater Addysg,

Cymanfa'r Wesleaid. -I